Julie James: Diolch, Llywydd. I very much want to thank Members who’ve contributed to the debate today, and indeed to reiterate my thanks to the Chairs for their scrutiny of the LCMs over the time. I know that John Griffiths was not able to do this last one, but I’m very grateful for the previous work that the committee has done. I would just like to say that I completely agree about the time limits...
Julie James: Diolch, Llywydd. I do move the motion. This is a UK Bill intended to reform the regulation of social housing providers in England. I have called another debate today, because on 9 March, I laid a final supplementary LCM following additional amendments proposed by the UK Government shortly before our last debate. Today's debate and vote is in relation to giving legislative consent for the...
Julie James: Apologies. Can you not hear me?
Julie James: Apologies, Llywydd. Give me one second. I seem to be having an ICT problem. Give me one second. Apologies.
Julie James: There we go. Sorry. Apologies, Llywydd.
Julie James: Wel, fe ddywedoch chi—
Julie James: Mewn gwirionedd, fe ddywedoch chi ddoe—. Gallwch wirio'r Cofnod, os mynnwch. Efallai nad oeddech chi'n ei olygu, ond nid oedd yr hyn a ddywedoch chi ddoe yn dderbyniol iawn mewn gwirionedd. Ewch i edrych eich hun. Peidiwn ag anghofio mai eiddo sector cymdeithasol oedd Grenfell ei hun. Rwy'n meddwl ei bod hi'n eithaf pwysig inni gofio hynny mewn gwirionedd. Ddoe, fe wneuthum roi'r newyddion...
Julie James: Diolch, Ddirprwy Lywydd, a diolch, Rhys, am y cyfle i drafod mater pwysig diogelwch adeiladau yng Nghymru unwaith eto. Ddoe ddiwethaf, fe wneuthum ddatganiad am gyfres o gamau rydym yn eu cymryd fel rhan o raglen diogelwch adeiladau Cymru, ynghyd â'n partneriaid cydweithio, Plaid Cymru. Roedd chwe edefyn i'r diweddariad hwnnw, gan gynnwys ein gwaith yn gwneud datblygwyr yn gyfrifol am...
Julie James: Diolch yn fawr iawn am hynna. Mae'n amhosibl ateb y cwestiwn olaf yna ar hyn o bryd. Yr hyn sydd ei angen arnom ni yw piblinell, os mynnwch chi, o waith wedi'i gyflwyno'n briodol, fel bod gennym ni'r holl bobl fedrus y gallwn ni gael gafael arnyn nhw yng Nghymru yn gwneud y gwaith ar y lefel iawn, yn unol â'r fanyleb iawn, gyda'r gadwyn gyflenwi iawn. Yn sicr, ni allaf ddweud pa mor hir y...
Julie James: Diolch yn fawr, Jane Dodds, am y set yna o gwestiynau. Yr un olaf yn gyntaf. Ni allwn ni ymyrryd mewn achosion llys presennol; allwn ni ddim. Felly, os oes achos llys presennol yn mynd yn ei flaen, bydd yn rhaid i hynny ddilyn ei lwybr drwy'r llysoedd. Nid oes gennyf i unrhyw fanylion o gwbl o fy mlaen ynglŷn â pha achosion llys, na pha gam maen nhw arni, nac unrhyw un o'r dadleuon...
Julie James: Diolch, Mike. Gwnaf i ysgrifennu yn ôl atoch ar y pwyntiau penodol iawn y gwnaethoch chi. Mae'n werth gwneud hynny oherwydd rwy'n credu ei fod yn fwy o ateb manwl nag yma. Ond dim ond i fod yn glir iawn, adeiladau sydd heb unrhyw un sy'n gyfrifol amdanyn nhw ar ôl—felly, mae'r datblygwr a phawb arall wedi mynd allan o fusnes; mae Carillion yn enghraifft dda iawn o hynny—bydd, cyn belled...
Julie James: Diolch yn fawr am y gyfres honno o gwestiynau. O ran adeiladau eraill, ydych chi'n golygu adeiladau dan 11m? Ai dyna oeddech chi'n ei olygu? Ydych. Nid ydyn ni'n gwneud dim am hynny ar hyn o bryd, oherwydd mae angen i ni sicrhau bod y rhai yn yr adeiladau risg uwch, sef y rhai a fyddai'n cael y drafferth fwyaf i ddianc, er enghraifft, yn cael eu hadfer yn gyntaf. Ar ôl i ni wneud hynny,...
Julie James: Diolch, Janet. Mae'r rhan 'bwriad i lofnodi' ond yn ymwneud â'r cwmnïau dan sylw yn cael y caniatâd i gynnal byrddau cwmnïau. Mae gennym ni lythyrau yn dweud eu bod nhw'n bwriadu llofnodi. Mewn gwirionedd nid yw'n ddiwerth, ac rwy'n disgwyl iddyn nhw lofnodi'n ffurfiol yn fuan iawn. Ond mae'n rhaid iddyn nhw fynd drwy broses bwrdd er mwyn gwneud hynny. Felly, dyna'n union beth ydyw. Ond...
Julie James: Hefyd, yma yng Nghymru, nid yw'n cronfa ni wedi'i chyfyngu i adeiladau sydd â chladin anniogel. Amlygodd trychineb tân Grenfell fater ehangach diogelwch tân mewn adeiladau uchel yn fwy cyffredinol. Gwnaethon ni wahodd datganiadau o ddiddordeb gan bob person cyfrifol ar gyfer pob adeilad preswyl o 11m neu fwy o uchder. Fodd bynnag, ar fater cladin, mae pob adeilad uchel gyda deunydd...
Julie James: Diolch, Dirprwy Lywydd. Rwy'n falch o gael y cyfle hwn i rannu diweddariad arwyddocaol ar gynnydd y gyfres o gamau yr ydym ni’n eu cymryd yn rhan o raglen diogelwch adeiladau Cymru. Ceir chwe ffrwd i'm diweddariad heddiw, yn amrywio o'n gwaith o wneud datblygwyr yn gyfrifol am unioni'r problemau gydag adeiladau y maen nhw wedi eu hadeiladu, i fwrw ymlaen â gwaith i adfer adeiladau amddifad...
Julie James: Ie, diolch yn fawr iawn, Huw. Felly, roedd hi'n bleser dod i'r grŵp trawsbleidiol, a byddwn ni'n sicr yn parhau i ymgysylltu â phawb. Yr hyn sydd ei angen arnom ni yw Bil sy'n gallu sicrhau buddion gwell dros amser. Felly, rwy'n meddwl ei fod yn ddigon uchelgeisiol ar gyfer lle'r ydym ni nawr. Efallai nad yw'n ddigon uchelgeisiol ar gyfer ble'r ydym ni eisiau bod mewn pum mlynedd, a dyna'r...
Julie James: Diolch, Jane. Dim ond i egluro, felly, fel rwy'n dweud o hyd, rydyn ni'n diwygio'r ddeddfwriaeth bresennol yn y Bil hwn yn ogystal â chyflwyno pethau newydd, a'r rhan bwysig yr ydym ni'n ei diwygio yw ei bod hi'n ofynnol i awdurdodau lleol, nawr, adolygu ansawdd aer yn yr ardaloedd o bryd i'w gilydd. Yr hyn y bydd hyn yn ei wneud yw rhoi dyletswydd statudol arnyn nhw i wneud hynny yn...
Julie James: Ie, diolch i chi, Jenny. Felly, fel dywedais i, mae gennym ni strategaeth genedlaethol, ond mae gennym ni gynllun lleol a gaiff ei gyflawni yn lleol, ac mewn rhai achosion, mewn gwirionedd, mae cynllun rhanbarthol, lle bydd angen amlwg i Gaerdydd a'r cyffiniau weithio ar y cyd, fel gyda dinasoedd eraill ledled Cymru. Mae hwn yn ddarn tipyn mwy cymhleth. Nid Deddf sy'n sefyll ar wahân mohoni;...
Julie James: Diolch yn fawr, Delyth, am y gyfres yna o sylwadau a chwestiynau. Yn amlwg, rydyn ni'n sefyll gyda'n gilydd yn fras ynglŷn â'r materion hyn. Rwy'n falch iawn o fod yn cyflwyno hyn. Fe fydd yn gwneud gwahaniaeth sylweddol i bobl Cymru. Fe fydd yn helpu ein hawdurdodau lleol ni hefyd wrth gyfeirio eu hymdrechion nhw, ac mae hynny'n bwysig iawn hefyd, ac mae hynny'n gwbl ganolog i'r pwynt...
Julie James: Diolch i chi, Janet. Rwy'n credu i mi ddod o hyd i dri chwestiwn yng nghwrs y chwe munud a hanner yna, ond efallai y byddwch chi'n rhoi gwybod i mi yn nes ymlaen os ydw i'n camgymryd. Roedd y cwestiwn cyntaf yn ddiystyr. Rwy'n falch iawn o gyflwyno'r Bil nawr. Y syniad ein bod ni'n yn mynd dros y ffaith mai nawr yr ydym ni'n ei gyflwyno—nid oeddwn i'n eich deall chi o gwbl yn hynny o beth....