Michelle Brown: Diolch am yr ateb yna, Prif Weinidog. Pe na byddai Llywodraeth Cymru newydd roi grant o £42.6 miliwn i Faes Awyr Caerdydd, gallai fod wedi recriwtio 1,000 o nyrsys GIG newydd a'u talu nhw am ddwy flynedd. Yn ddiweddar, rhoddodd y Gweinidog trafnidiaeth y bai am yr angen i ddileu £40 miliwn o ddyled sy'n ddyledus i drethdalwyr Cymru gan y maes awyr a dyfarnu'r grant aruthrol o fawr hwn iddyn...
Michelle Brown: 7. Pa gamau y mae Llywodraeth Cymru yn eu cymryd i ddiogelu ei buddsoddiad mewn prosiectau cyfalaf? OQ56426
Michelle Brown: Diolch am eich ateb, Gwnsler Cyffredinol, ond nid wyf yn synnu, mewn gwirionedd, gan eich bod o blaid aros. Ers i gytundeb gyda'r UE gael ei roi ar waith, rydych wedi dweud bod problemau gyda masnach ryngwladol am fod Llywodraeth y DU wedi rhoi sofraniaeth o flaen llesiant. Y ddelwedd o Gymru roeddech am ei rhoi i bobl oedd gwlad a fyddai'n anodd cyflawni busnes ynddi a chyda hi, ac na allai...
Michelle Brown: 3. Pa asesiad y mae Llywodraeth Cymru wedi'i wneud o'r potensial i ddenu busnesau rhyngwladol i Gymru nawr bod y DU wedi gadael yr UE? OQ56357
Michelle Brown: Diolch am eich ateb, Weinidog. Un o'r diwydiannau gwledig sy'n cael eu diogelu ar hyn o bryd drwy gael caniatâd i barhau yw ffermio cŵn bach masnachol, er bod y cyhoedd yn dymuno gwahardd gwerthiannau cŵn bach gan drydydd partïon. Rydych wedi dweud sawl gwaith y byddai deddfwriaeth yn cael ei chyflwyno i wahardd gwerthiannau cŵn bach gan drydydd partïon cyn diwedd tymor y Senedd hon,...
Michelle Brown: 4. Pa gamau y mae Llywodraeth Cymru yn eu cymryd i ddiogelu'r economi wledig yn ystod y pandemig? OQ56234
Michelle Brown: Pa asesiad y mae Llywodraeth Cymru wedi'i wneud o'r ffyrdd mwyaf effeithiol o helpu plant i ddal i fyny ar yr addysg y maent wedi'i methu yn ystod y pandemig?
Michelle Brown: Diolch ichi am yr ateb hwnnw, Weinidog, a blwyddyn newydd dda ichi. Y llynedd, codais y pwynt fod Llywodraeth Cymru, drwy fanc datblygu Cymru, yn benthyca arian i gynghorau lleol brynu a gosod eiddo masnachol i ddatblygwyr eiddo. Y flwyddyn ariannol ddiwethaf, roedd yn fwy na £35 miliwn, ac eleni, gallai fod mor uchel â £97 miliwn. Fy mhrif bryder oedd y newyddion fod y pandemig COVID wedi...
Michelle Brown: 4. Pa gamau y bydd Llywodraeth Cymru yn eu cymryd i leihau'r risgiau i gyllid cyhoeddus yn sgil pandemig COVID-19? OQ56115
Michelle Brown: Diolch am yr ateb hwnnw, Weinidog. Ac ydych, rydych wedi gwneud nifer o newidiadau sylweddol i'r system etholiadau lleol, ac rydych wedi sôn am rai ohonynt heddiw mewn gwirionedd. Ond rydym wedi colli cyfle, a fyddai wedi cynyddu ymgysylltiad yr etholwyr yn ehangach, i sicrhau system etholiadol fwy cyfrannol ar gyfer cynghorau lleol. Nawr, gwn fod eich deddfwriaeth yn caniatáu i awdurdodau...
Michelle Brown: Diolch am eich ateb, Weinidog. Heb os, mae'r pandemig COVID wedi taro’r economi wledig yn galed, a bydd yn parhau i wneud hynny am beth amser i ddod. Un nodwedd gywilyddus o'r economi wledig yng Nghymru yw ffermio cŵn bach. Mae gweinidogion o wledydd eraill wedi bod yn ddigon penderfynol i wahardd gwerthiannau cŵn bach gan drydydd partïon, ac mae eich datganiad diweddaraf ar y mater hwn...
Michelle Brown: 6. Pa asesiad y mae'r Gweinidog wedi'i wneud o effaith COVID-19 ar yr economi wledig hyd yma? OQ56054
Michelle Brown: 4. Pa asesiad y mae'r Gweinidog wedi'i wneud o'r rôl y gall Llywodraeth Cymru ei chwarae o ran gwella ymgysylltiad y cyhoedd â gwleidyddiaeth leol? OQ56053
Michelle Brown: Mae bwlio o unrhyw fath yn ymddygiad ffiaidd. Rhaid inni wneud popeth yn ein gallu i'w ddileu ym mhob un o'i ffurfiau. Efallai nad yw'r hyn y cyhuddwyd Neil ohono yn dderbyniol, ond nid yw o reidrwydd yn effeithio mwy ar y dioddefwr na'r bwlio a wneir yn y Siambr, lle mae ymlid o'r fath yn digwydd yn rheolaidd. Dylem i gyd fod yn gyfarwydd â herio a heclo yn y lle hwn, ond mae'r llinell...
Michelle Brown: Pa asesiad mae Llywodraeth Cymru wedi'i wneud o ba mor gyflym y gellir cyflwyno brechlyn a'i roi i bobl risg uchel ar ôl iddo gael ei gymeradwyo?
Michelle Brown: Sut mae Llywodraeth Cymru yn bwriadu gwella economi Gogledd Cymru unwaith y bydd pandemig COVID-19 wedi dod i ben?
Michelle Brown: Pa asesiad sydd wedi'i wneud o bwysigrwydd gwasanaethau iechyd meddwl yn ystod pandemig COVID-19?
Michelle Brown: Pa asesiad sydd wedi'i wneud o bwysigrwydd gwasanaethau iechyd meddwl yn ystod pandemig COVID-19?
Michelle Brown: Diolch am eich ateb, Weinidog. Un cyfle a gyhoeddwyd â chryn falchder gennych y mis diwethaf yw'r hyb deunydd pecynnu bwyd cynaliadwy rydych wedi buddsoddi £2 filiwn ynddo yn y Ganolfan Ymchwil Gweithgynhyrchu Uwch yn Sir y Fflint. Ar yr olwg gyntaf, mae'n swnio'n drawiadol, gyda'r nod canmoladwy o wneud deunydd pecynnu bwyd yn fwy cynaliadwy. Ond nid aur yw popeth melyn, ac nid yw'r hyb yn...
Michelle Brown: 7. Pa asesiad y mae Llywodraeth Cymru wedi'i wneud o'r cyfleoedd sydd ganddi i adeiladu economi wyrddach? OQ55704