Elin Jones: A dyna ni, dyna ddiwedd ar y pleidleisio am heddiw, ond dyw ein gwaith ni heb orffen.
Elin Jones: Fe fyddwn ni'n symud ymlaen nawr at y ddadl fer, ac mae dadl fer heddiw i'w chyflwyno gan Huw Irranca-Davies.
Elin Jones: Yes, we can hear you. I'd just ask you to pause a second whilst the Chamber rearranges itself or some people leave and we get some quiet here. Yes, okay. Go for it.
Elin Jones: Gwelliant 3 fydd nesaf, a gyflwynwyd yn enw Siân Gwenllian. Agor y bleidlais. Cau'r bleidlais. O blaid 36, neb yn ymatal, 12 yn erbyn. Ac felly mae gwelliant 3 wedi ei dderbyn.
Elin Jones: Mae'r bleidlais olaf, felly, ar y cynnig wedi ei ddiwygio.
Elin Jones: Agor y bleidlais. Cau'r bleidlais. O blaid 13, neb yn ymatal, 35 yn erbyn. Ac felly mae'r cynnig wedi ei ddiwygio wedi ei wrthod.
Elin Jones: Sydd yn golygu nawr fod yna bleidlais ar welliant 2, a gyflwynwyd yn enw Siân Gwenllian. Agor y bleidlais. Cau'r bleidlais. O blaid 36, neb yn ymatal, 12 yn erbyn. Ac felly mae gwelliant 2 wedi ei dderbyn.
Elin Jones: Mae'r bleidlais nesaf ar eitem 9; dadl y Ceidwadwyr Cymreig ar ariannu llywodraeth leol yw hon. Felly, dwi'n galw am bleidlais ar y cynnig heb ei ddiwygio, a gyflwynwyd yn enw Darren Millar. Agor y bleidlais. Cau'r bleidlais. O blaid 12, neb yn ymatal, 36 yn erbyn. Felly, mae'r cynnig wedi ei wrthod.
Elin Jones: Gwelliant 1 fydd nesaf, ac, os bydd gwelliant 1 yn cael ei dderbyn, bydd gwelliannau 2 a 3 yn cael eu dad-ddethol. Felly, pleidlais ar welliant 1 yn enw Lesley Griffiths. Agor y bleidlais. Cau'r bleidlais. Mae'r bleidlais yn gyfartal. O blaid 24, neb yn ymatal, 24 yn erbyn. Ac felly dwi yn defnyddio fy mhleidlais fwrw yn erbyn gwelliant 1. Ac felly mae gwelliant 1 wedi ei wrthod.
Elin Jones: Mae'r bleidlais nesaf ar eitem 8; hon yw'r ddadl ar gynnig deddfwriaethol gan Aelod ar Fil twristiaeth Cymru. Dwi'n galw am bleidlais ar y cynnig, a gyflwynwyd yn enw Tom Giffard. Agor y bleidlais. Cau'r bleidlais. O blaid 24, 11 yn ymatal, 13 yn erbyn, ac felly mae'r cynnig wedi ei dderbyn.
Elin Jones: Y cwestiwn yw: a ddylid derbyn y cynnig? A oes unrhyw Aelod yn gwrthwynebu? Nac oes. Felly, mae'r cynnig yna wedi ei gymeradwyo.
Elin Jones: Dyma ni yn cyrraedd, felly, y cyfnod ar gyfer pleidleisio ac oni bai bod tri Aelod yn dymuno i fi wneud hynny, fe wnawn ni symud yn syth i'r bleidlais gyntaf. A'r bleidlais gyntaf yw'r un ar eitem 6, a'r cynnig i ddiwygio'r Rheolau Sefydlog ar bleidleisio drwy ddirprwy yw hwn. Dwi'n galw am bleidlais ar y cynnig, a gyflwynwyd yn enw Elin Jones. Agor y bleidlais. Cau'r bleidlais. O blaid 36,...
Elin Jones: Russell George nawr, i ymateb i'r ddadl. Russell George.
Elin Jones: Y Dirprwy Weinidog Iechyd Meddwl a Llesiant nawr i gyfrannu—Lynne Neagle.
Elin Jones: Eitem 10 sydd nesaf, dadl y Ceidwadwyr, unwaith eto, ar ofal lliniarol, a dwi'n galw ar Mark Isherwood i wneud y cynnig.
Elin Jones: Y cwestiwn yw: a ddylid derbyn y cynnig heb ei ddiwygio? A oes unrhyw Aelod yn gwrthwynebu? [Gwrthwynebiad.] Oes, mae yna wrthwynebiad, felly mi wnawn ni ohirio'r bleidlais tan y cyfnod pleidleisio.
Elin Jones: If I can just remind Members as well, if you have taken part in a debate, it is important for you to stay in the Chamber or on Zoom and listen to the debate being responded to, because you may well be named in that response, and you may well, sometimes, want to respond yourself. I think we all know who we're talking about. If some of you don't, then try and work it out.
Elin Jones: I ymateb i'r ddadl, Peter Fox.
Elin Jones: On the first part of your question, I was there, and I did witness myself the opportunity taken by the protestors outside to take advantage of the fact that our walls are windows, and to make sure that those of us sitting inside could read their placards. That is both an advantage and a disadvantage of our building. In that moment, I don't think anything could or should have been done, other...
Elin Jones: Mae gan y Comisiwn reolau caeth mewn perthynas â defnyddio ystâd y Senedd. Caiff pob digwyddiad ei adolygu i sicrhau eu bod yn bodloni ein gofynion, sy'n cynnwys atal gweithgareddau sy'n cael eu hystyried yn wahaniaethol neu'n dramgwyddus. Mae gan ein tîm cyfathrebu offer i fonitro'r cyfryngau a'r cyfryngau cymdeithasol i adnabod twyllwybodaeth am y Senedd. Mae'r cynnydd mewn...