Canlyniadau 1–20 o 400 ar gyfer speaker:James Evans

6. Datganiad gan y Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol: Diwygio Deintyddiaeth (14 Maw 2023)

James Evans: Dydw i ddim yn mynd i fynd dros yr hyn mae pobl eraill wedi'i ddweud, Gweinidog, ond rwyf am ddewis rhywbeth o'ch datganiad sy'n gadarnhaol iawn, yn fy marn i, ac rwy'n meddwl ei fod yn ymwneud â phlant a'r cynllun treialu rydych chi'n ei wneud ym Mlaenau Ffestiniog o ddod â'r uned deintydd symudol i mewn i ysgolion. Yr hyn hoffwn i wybod yw rhai cwestiynau ynghylch hynny. Am faint y mae'r...

4. Cwestiynau i Weinidog y Gymraeg ac Addysg: Ysgolion yr Unfed Ganrif ar Hugain (14 Maw 2023)

James Evans: Gweinidog, rydw i wedi dweud yn y Siambr hon droeon fy mod i eisiau gweld ysgolion cyfrwng Cymraeg newydd sbon ledled Cymru, ac yn arbennig, hoffwn i eu gweld ym Mrycheiniog a Maesyfed. Hoffwn i wybod pa asesiad mae Llywodraeth Cymru wedi'i wneud ar yr argyfwng costau byw a'r cynnydd yng nghost popeth sy'n gysylltiedig ag adeiladu'r ysgolion hyn, a pha effaith mae hynny'n mynd i'w chael ar...

3. Cwestiynau i’r Gweinidog Newid Hinsawdd: Tai Gwag (14 Maw 2023)

James Evans: Fe ddatganolwyd tai, Gweinidog.

3. Cwestiynau i’r Gweinidog Newid Hinsawdd: Tai Gwag (14 Maw 2023)

James Evans: Gweinidog, mae gennym ni galon draw yn y fan hon, ac rydym ni'n clywed yr hyn yr ydych chi'n ei ddweud, ond gwaith Llywodraeth Cymru yw hwn. Mae tai yn fater a ddatganolwyd yn gyfan gwbl, ac fel dywedodd fy nghyd-Aelodau, mae 22,000 o gartrefi ledled Cymru yn wag. Felly, rydyn ni o'r farn ei bod hi'n hen bryd i Lywodraeth Cymru fod â strategaeth newydd, ar ei newydd wedd o ran sut i...

2. Datganiad a Chyhoeddiad Busnes (14 Maw 2023)

James Evans: Gweinidog, a gaf i ofyn am ddatganiad, os gwelwch yn dda, gan Weinidog yr Economi ar ba waith y mae Llywodraeth Cymru yn ei wneud i helpu ein tafarndai yn ystod y cyfnod hynod anodd hwn iddyn nhw? Rwyf wedi gweld nifer o dafarndai yn cau yn fy etholaeth i, sydd yn drueni mawr i'r teuluoedd hynny sy'n ymwneud â hynny. Rwy'n gwybod bod llawer o'r ysgogiadau gan Lywodraeth y DU, ond rwy'n credu...

1. Cwestiynau i'r Prif Weinidog: Cyfleusterau Chwaraeon Modern (14 Maw 2023)

James Evans: Hoffwn ddiolch i chi, Prif Weinidog, am eich ateb. Yn gynharach eleni, cyhoeddodd Llywodraeth y DU fuddsoddiad o £12.6 miliwn mewn cyfleusterau ar lawr gwlad yng Nghymru, gyda phrosiectau unigol o fuddsoddi wedi'u cyfarwyddo gan Gymdeithas Bêl-droed Cymru. Rwyf yma heddiw i gefnogi'r alwad am fwy o fuddsoddiad ym Mrycheiniog a Sir Faesyfed. Mae'r canolbarth ar ei cholled o ran arian parod y...

1. Cwestiynau i'r Prif Weinidog: Cyfleusterau Chwaraeon Modern (14 Maw 2023)

James Evans: 3. Beth mae Llywodraeth Cymru'n ei wneud i ddarparu cyfleusterau chwaraeon modern ym Mrycheiniog a Sir Faesyfed? OQ59252

6. Dadl ar Adroddiad y Pwyllgor Deisebau, 'Y Troad Terfynol? P-06-1253 Gwahardd rasio milgwn yng Nghymru' ( 8 Maw 2023)

James Evans: Hoffwn ddiolch i Hefin David am wneud y pwynt y gall cau'r trac effeithio ar drigolion. Felly, a fyddai'n cytuno â mi, yn lle mynd am yr opsiwn niwclear o wahardd rasio cŵn yng Nghymru, y dylem edrych ar reoleiddio yn gyntaf, oherwydd mae honno'n ffordd o ddiogelu'r bobl yn yr ardal honno hefyd yn ogystal â'r cŵn sy'n rasio ar y trac?

6. Dadl ar Adroddiad y Pwyllgor Deisebau, 'Y Troad Terfynol? P-06-1253 Gwahardd rasio milgwn yng Nghymru' ( 8 Maw 2023)

James Evans: Hoffwn ddiolch i Delyth Jewell am ei chyfraniad, ond hoffwn atgoffa pobl yn y Siambr ynglŷn â gwneud datganiadau cyffredinol am bobl sy'n cadw milgwn. Nid yw pob perchennog milgwn yn berchennog gwael; mae rhai pobl yn poeni go iawn am eu cŵn, ac rwy'n credu nad yw gwneud datganiadau cyffredinol yn helpu'r ddadl hon o gwbl.

1. Cwestiynau i Weinidog yr Economi: Fferm Gilestone ( 8 Maw 2023)

James Evans: Diolch am eich ateb, Weinidog. Rydych chi wedi dweud, ac mae Gweinidogion eraill wedi dweud, ar sawl achlysur fod y Llywodraeth wedi prynu'r safle er mwyn sicrhau dyfodol Gŵyl y Dyn Gwyrdd. Fodd bynnag, mae wedi dod i'r amlwg nad gyda'r Green Man Trust Ltd y mae'r cytundeb y mae eich Llywodraeth wedi ymrwymo iddo, ond cwmni ar wahân o'r enw Cwningar Ltd, yn enw un unigolyn. Mae'r cwmni...

1. Cwestiynau i Weinidog yr Economi: Fferm Gilestone ( 8 Maw 2023)

James Evans: 3. A wnaiff y Gweinidog roi'r wybodaeth ddiweddaraf am sut y caiff Fferm Gilestone ei ddefnyddio gan Lywodraeth Cymru yn y dyfodol? OQ59204

2. Datganiad a Chyhoeddiad Busnes ( 7 Maw 2023)

James Evans: Trefnydd, fe hoffwn i ddatganiad gennych chi, yn rhinwedd eich swydd yn Weinidog materion gwledig, ynglŷn â'r ymosodiadau gan gŵn ar ddefaid a welsom ni yn ein cymunedau. Fe welais i ar Facebook yn fy mro fy hun yr wythnos hon fod dwy ddafad wedi trengi oherwydd bod perchnogion diegwyddor wedi gollwng eu cŵn oddi ar y tennyn mewn caeau lle roedd y defaid yn cario ŵyn. Felly, a gawn ni,...

7. Dadl y Ceidwadwyr Cymreig: Y Gymraeg ( 1 Maw 2023)

James Evans: Rwyf am ddweud, Gadeirydd, mai dyna'r peth mwyaf brawychus i mi ei ddweud yn y Siambr hon erioed, ac fel dysgwr Cymraeg, mae'n anodd iawn weithiau i bobl wneud hyn. Fel y dywedodd Mike Hedges, weithiau, rydym yn teimlo y bydd pobl yn gwneud hwyl am ein pennau, nad ydym yn dweud pethau'n gywir. Yn bersonol, rwy'n teimlo tipyn o falchder am wneud hynny yn fy Senedd genedlaethol fy hun, a siarad...

7. Dadl y Ceidwadwyr Cymreig: Y Gymraeg ( 1 Maw 2023)

James Evans: Heddiw, rwyf am roi cynnig ar siarad Cymraeg yn y Siambr am y tro cyntaf.

7. Dadl y Ceidwadwyr Cymreig: Y Gymraeg ( 1 Maw 2023)

James Evans: Fel ysgrifennodd y bardd Eifion Wyn: 'Cymru fach i mi— / Bro y llus a'r llynnoedd / Corlan y mynyddoedd / Hawdd ei charu hi.' Mae'n wych cymryd rhan yn y ddadl hon a thynnu sylw at bwysigrwydd yr iaith Gymraeg. Fel Aelod Senedd Cymru dros Frycheiniog a Maesyfed, mae gennyf lawer o gymunedau ble mai Cymraeg yw’r iaith gyntaf a dwi'n deall pa mor bwysig yw'r iaith i nhw.

1. Cwestiynau i'r Prif Weinidog: Deintyddiaeth i Blant (28 Chw 2023)

James Evans: Diolch, Prif Weinidog, am eich ateb. Yn fy etholaeth i, mae cael gafael ar ddeintydd yn anodd dros ben, a hyd yn oed os cewch chi ddeintydd, gall yr amseroedd teithio i'r deintyddion hynny fod yn hir iawn. Felly, a wnaiff y Prif Weinidog ystyried mewn gwirionedd dod â deintyddion symudol i ysgolion, fel y gallwn ni eu cael nhw yn yr ysgol, fel y gallan nhw gael yr archwiliadau sydd eu hangen...

1. Cwestiynau i'r Prif Weinidog: Deintyddiaeth i Blant (28 Chw 2023)

James Evans: 5. Beth mae Llywodraeth Cymru'n ei wneud i sicrhau bod gan blant fynediad at ddeintyddiaeth o ansawdd da? OQ59157

7. Dadl y Ceidwadwyr Cymreig: Hyfforddiant sefydlu ar gyfer plant â nam ar eu golwg (15 Chw 2023)

James Evans: Gwnaf, rwy'n hapus iawn i dderbyn ymyriad.

7. Dadl y Ceidwadwyr Cymreig: Hyfforddiant sefydlu ar gyfer plant â nam ar eu golwg (15 Chw 2023)

James Evans: Mae hynny'n wir iawn. Mewn gwirionedd, roedd gan un unigolyn yn y digwyddiad hwnnw y siaradodd fy nghyd-Aelod Sam Kurtz ag ef—rwy'n siŵr fod Aelodau eraill wedi gwneud—nam ar eu golwg. Rhoddais amser i siarad â hwy fy hun, ac fe ddywedodd mewn gwirionedd eu bod wedi cael hyfforddiant sefydlu, ac yn ei ystyried yn ddefnyddiol iawn, ond roedd y ci a oedd gyda hwy'n achubiaeth iddynt...

7. Dadl y Ceidwadwyr Cymreig: Hyfforddiant sefydlu ar gyfer plant â nam ar eu golwg (15 Chw 2023)

James Evans: Diolch, Lywydd, ac mae wedi bod yn ddadl bwysig iawn heddiw, ac rwy'n credu ei bod yn hynod bwysig ein bod wedi clywed cyfraniadau gan bobl ar draws y Siambr, gan Aelodau ym Mhlaid Cymru a chan Aelodau yn fy ngrŵp fy hun, ynglŷn â sut y gallwn godi'r pwnc hynod bwysig hwn yma. Ac mae'n hanfodol bwysig i rai o'r bobl fwyaf bregus yn ein cymdeithas. Agorwyd y ddadl gan Altaf Hussain, a...


1 2 3 4 5 6 7 8 9 10 > >>

Creu hysbysiad

Chwilio uwch

Dod o hyd i'r union air neu ymadrodd hwn

Gallwch hefyd wneud hyn o'r prif flwch chwilio drwy roi’r union eiriau mewn dyfyniadau: megis "seiclo" neu "adroddiad Hutton"

Rydyn ni'n dangos geiriau sy'n gysylltiedig â'ch term chwilio, megis “beic” a “beicio” wrth chwilio am seiclo yn ddiofyn. Er mwyn atal hyn, rhowch y gair mewn dyfyniadau, fel "seiclo"

Heb gynnwys y geiriau hyn

Gallwch hefyd wneud hyn o'r prif flwch chwilio trwy roi arwydd minws cyn geiriau nad ydych eisiau: fel hela -llwynog

Rydym hefyd yn cefnogi nifer o addasiadau chwilio Booleaidd, megis AND a NEAR, ar gyfer chwilio manwl.

Ystod o ddyddiadau

i

Gallwch roi dyddiad dechrau, dyddiad gorffen, neu'r ddau er mwyn cyfyngu canlyniadau i ystod o ddyddiadau penodol. Mae dyddiad gorffen coll yn awgrymu'r dyddiad presennol, ac mae dyddiad cychwyn coll yn awgrymu'r dyddiad hynaf sydd gennym yn y system. Gellir nodi'r dyddiadau ar unrhyw fformat y dymunwch, e.e. 3ydd Mawrth 2007 neu 17/10/1989

Person

Rhowch enw fan hyn i gyfyngu canlyniadau i gyfraniadau gan y person hwnnw yn unig.

Adran

Cyfyngu canlyniadau i senedd neu gynulliad penodol yr ydym yn cynnwys (e.e. Senedd yr Alban), neu fath arbennig o ddata o fewn sefydliad, megis Atebion Ysgrifenedig Tŷ'r Cyffredin.

Colofn

Pe baech yn gwybod y rhif colofn Hansard cywir o'r wybodaeth y mae gennych ddiddordeb ynddo (efallai eich bod yn edrych ar gyfeiriad papur), gallwch gyfyngu canlyniadau i hynny ; Gallwch hefyd ddefnyddio column:123 yn y prif flwch chwilio.