Delyth Jewell: The Tories seek to deny geographic reality with HS2 and Northern Powerhouse Rail and to claim that, for England-only projects, we should somehow see Wales as well. I am dismayed that Keir Starmer hasn't yet assured us that he would correct this injustice and repay Wales the billions we're owed, but, in any case, this messy injustice we have surely arises from the fact that arrangements over...
Delyth Jewell: I'd like to ask for a statement, please, setting out how the Government will urgently increase capacity in community hospitals. A few weeks ago, I raised concerns with the First Minister that ambulances were in effect being used as waiting rooms because of a lack of hospital beds. I've been contacted by a constituent this week whose story, I think, has highlighted another way in which that...
Delyth Jewell: Ie, a rwy'n meddwl mae hynna—. Mewn ffordd, rwy'n meddwl byddai'r ddau ohonoch chi efallai eisiau gweld yr un peth fan hyn, ac mae'r cwmnïau bysiau, yn enwedig y rhai bach, y rhai teuluol, yn gweld taw teithwyr sydd wrth galon y diwydiant hyn i gyd, a dyna pam dwi'n dweud dyw e ddim yn ddadl sydd dim ond am rywbeth oeraidd fel strwythurau; mae e hefyd am gynnal ffyrdd pobl Cymru o fyw. Ac...
Delyth Jewell: Diolch, Huw. O ran—. Wel, dyma pam fod gennym y ddau safbwynt gwahanol hyn, bron—wel, nid dau safbwynt gwahanol, ond dau wahanol—. Y cwestiynau uniongyrchol ac yna'r cwestiynau mwy sylfaenol ar yr un pryd. O ran y cwestiwn uniongyrchol, rydym yn amlwg yn gofyn i'r Llywodraeth edrych eto nid yn unig ar y gyllideb drafnidiaeth sy'n cael ei rhoi i fysiau. Mae’r Dirprwy Weinidog wedi bod...
Delyth Jewell: Yn sicr. O, mawredd—pwy gyntaf? Huw. Huw, ie.
Delyth Jewell: Mae'n debyg taw Gustavo Petro wnaeth ddweud taw'r ffordd o adnabod gwlad ddatblygedig ydy nid trwy ffeindio rhywle lle mae gan y bobl dlawd geir ond dod o hyd i rywle lle mae'r bobl gyfoethog yn defnyddio trafnidiaeth gyhoeddus. A dyna ydy crux ein dadl y prynhawn yma, mewn ffordd. Dyw e ddim yn unig yn ddadl am gwestiynau brys ynglŷn ag ariannu trafnidiaeth gyhoeddus; mae hefyd cwestiynau...
Delyth Jewell: Diolch, Jack, am ofyn y cwestiwn hwn.
Delyth Jewell: Roeddem yn gwybod nad oedd gan Lywodraeth y DU gwmpawd moesol, ond ymddengys bod yr ychydig ddyddiau diwethaf yn awgrymu nad ydynt hyd yn oed yn berchen ar gwmpawd. Nid ydynt yn talu sylw i ffiniau moesegol; mae'r un peth yn wir, ymddengys, am wirioneddau daearyddol hefyd. Ni ellir categoreiddio Northern Powerhouse Rail fel prosiect i Gymru a Lloegr. Byddai'n ychwanegu sarhad ar anaf ariannol...
Delyth Jewell: Diolch, Gweinidog. Mae llawer i'w groesawu yn y datganiad hwn, ac mae hwn yn ddiwrnod pwysig iawn. Fe fyddwn i wir yn croesawu hyn oddi wrth y Llywodraeth. Rwyf i am fynd ymlaen i ddweud ychydig bach mwy am ba mor angenrheidiol yw hyn a hynny ar frys, ond rwyf i'n gyntaf am bwyso ychydig mwy ar y Llywodraeth i gael gwybod pam y mae enw'r Bil wedi newid. Rwy'n gwerthfawrogi'r pwynt a wnaeth y...
Delyth Jewell: Diolch i Sam am bwyntio hynna mas am rywbeth sydd wedi bod ar Twitter hefyd, ond fe wnaf i ddod yn ôl at hynna mewn munud. Mae e'n galonogol fod y plymio dwfn neu'r deep-dive ar fioamrywiaeth yn ymrwymo i ddod â deddfwriaeth sy'n cynnwys targedau cyffredinol i adfer natur, a hefyd darpariaeth ar lywodraethiant amgylcheddol, ac i wneud hynny mor fuan ag sy'n bosibl yn y tymor yma o'r Senedd,...
Delyth Jewell: Mae ein byd naturiol ni'n werthfawr ac er mwyn i ni ddeall pa mor bwysig yw hi ein bod ni'n ei amddiffyn, mae'n rhaid i ni ddeall yn gyntaf pa mor fawr yw'r bygythiad iddo mewn gwirionedd. Mae cryn ofid wedi bod oherwydd yr adroddiadau na fydd y BBC yn darlledu pennod o gyfres newydd Syr David Attenborough ar fywyd gwyllt Prydain, oherwydd perygl o feirniadaeth, meddir. Trwy gyd-ddigwyddiad,...
Delyth Jewell: Hoffwn alw am ddatganiad, os gwelwch yn dda, gan y Llywodraeth yn ailymrwymo safbwynt Cymru ar groesawu ffoaduriaid. Mae'r rhethreg hyll a pheryglus sydd wedi'i defnyddio yn San Steffan am atal y llwybrau y mae pobl sy'n anobeithio yn cael eu gorfodi i'w defnyddio oherwydd mai cychod ar draws y sianel yw'r unig opsiwn sydd ar gael iddyn nhw pan fydd yr holl lwybrau cyfreithiol sydd ar gael...
Delyth Jewell: Diolch am hwnna.
Delyth Jewell: Ar ôl aros am ambiwlans am oriau, pan fo pobl yn cyrraedd yr ysbyty, yn aml does dim gwelyau sbâr, felly maen nhw'n gorfod aros y tu allan am fwy o oriau. Yn ddiweddar, cafodd mam oedrannus un o fy etholwyr ei chadw mewn ambiwlans am 15 awr ar ôl iddi ddioddef cwymp. Rwy'n pryderu bod ambiwlansys yn cael eu defnyddio i bob pwrpas fel ystafelloedd aros. Er hynny, rwyf eisiau gofyn i chi'n...
Delyth Jewell: 5. Beth mae'r Llywodraeth yn ei wneud i gyfyngu ar faint o amser y mae ambiwlansys yn cael eu gorfodi i aros mewn ciwiau y tu allan i ysbytai? OQ59276
Delyth Jewell: Diolch, Llywydd. Mae'n bleser gen i gynnig ein gwelliant. Mae angen inni wneud pethau'n wahanol os ydyn ni am gyrraedd net zero erbyn 2050—yn sicr os ydyn ni am fod yn fwy uchelgeisiol a'i chyrraedd erbyn 2035, fel rŷn ni ym Mhlaid Cymru yn datgan. Mae'n rhaid gwneud penderfyniadau anodd. Cyn imi fanylu ar y pwyslais rŷn ni eisiau ei weld ar wella dewisiadau pobl o ran darpariaeth...
Delyth Jewell: Gwnaf, yn sicr.
Delyth Jewell: Diolch am y cyfraniad hwnnw. Yn amlwg, hoffwn adleisio'r pwynt a wnaeth Buffy yn gynharach, fod yna lawer iawn o berchnogion milgwn sy'n gofalu am eu cŵn. Nid wyf yn ceisio awgrymu mewn unrhyw ffordd fod hyn yn ddisgrifiad o bob perchennog milgwn. Diolch am y cyfraniad hwnnw. Ond rwy'n siŵr y byddech yn cytuno â mi fod unrhyw gi sy'n gorfod mynd drwy'r anafiadau erchyll hyn—mae hynny'n...
Delyth Jewell: Mae rasio milgwn yn greulon. Mae'n niweidio cŵn; mae'n achosi dioddefaint aruthrol iddynt; yn eu hanafu, weithiau'n ddi-droi'n-ôl, y tu hwnt i unrhyw obaith o adferiad; ac mae'n lladd cŵn, weithiau'n syth, weithiau flynyddoedd yn ddiweddarach—cŵn sydd wedi dod yn anifeiliaid anwes teuluol annwyl, sy'n byw bywydau byrrach nag y dylent oherwydd y trawma a'r toriadau a'r poen cronig sy'n...
Delyth Jewell: Trefnydd, fe hoffwn i ofyn am ddau ddatganiad, os gwelwch chi'n dda. Yn gyntaf, fe hoffwn i ofyn am ddatganiad o eglurhad o ran y Bil aer glân. Mae datganiad busnes yr wythnos diwethaf yn cyfeirio at y Gweinidog Newid Hinsawdd yn gwneud datganiad ynglŷn â Bil yr Amgylchedd (Ansawdd Aer a Seinweddau) (Cymru). Nawr, mae'r Prif Weinidog a'r Gweinidog Newid Hinsawdd wedi cyfeirio at hwnnw...