Julie Morgan: Diolch am y sylwadau hynny, Mark, ac yn sicr nid yw'r ymddygiad a ddisgrifiodd ar ddechrau ei gyfraniad, am blant yn cael eu cosbi am ymddygiad sy'n deillio o'u hawtistiaeth, yn dderbyniol o gwbl. A chredaf ein bod i gyd, fel Aelodau etholaethol o'r Senedd, wedi profi'r anawsterau y mae teuluoedd yn eu hwynebu wrth geisio cael y gwasanaethau gorau i'w plant sydd ar y sbectrwm awtistig. Felly,...
Julie Morgan: Diolch am y sylwadau hynny, Laura Anne Jones, ac rwy'n cytuno'n llwyr fod y plant rydym yn sôn amdanynt yn rhai o'r plant mwyaf agored i niwed sydd angen gofal a chymorth, ac na ddylent ddioddef. Mae Llywodraeth Cymru wedi ymrwymo i sicrhau bod y plant agored i niwed hyn yn cael gofal o'r safon uchaf un. Fel y dywedais yn fy natganiad, mae'r honiadau hyn yn destun ymchwiliad, felly nid ydym...
Julie Morgan: Rhoddwyd gwybod i Arolygiaeth Gofal Cymru am bryderon yn ymwneud â'r gwasanaeth a chynhaliodd arolygiad yn sgil hynny. Tynnwyd sylw'r darparwyr at feysydd i'w gwella, ond nid mewn perthynas ag arferion cyfyngol. Mae ymchwiliadau gan wasanaethau cymdeithasol Caerdydd i bryderon yn ymwneud â diogelu yn parhau.
Julie Morgan: Diolch ichi am y cwestiwn pwysig hwnnw, unwaith eto, oherwydd yn bendant, mae anghenion gofalwyr ifanc yn flaenoriaeth uchel yng nghynlluniau'r Llywodraeth, a gwyddom cymaint y maent yn ei wneud wrth ofalu am eu hanwyliaid. Ar y £3 miliwn, mae £1.75 miliwn eisoes wedi'i roi i'r awdurdodau lleol i gefnogi'r cynlluniau seibiant presennol y maent yn eu darparu eisoes. Y £1.25 miliwn arall,...
Julie Morgan: Diolch i Delyth Jewell am y cwestiwn pwysig hwnnw, ac rwy'n ymwybodol iawn o'r straen y mae gofalwyr wedi ei deimlo yn ystod y cyfnod hynod anodd hwn. Ac rwy'n sicr yn ymwybodol o'r bobl sy'n gofalu am bobl ag anabledd dysgu neu bobl â chlefyd Alzheimer, fod straen mawr arnynt hwy. Ac felly rwy'n cydymdeimlo'n llwyr â'r pwynt y mae'n ceisio ei wneud. Rydym wedi bod yn annog awdurdodau lleol...
Julie Morgan: Rydym yn cydnabod pwysigrwydd hanfodol seibiant a hoe i gynnal iechyd meddwl a lles gofalwyr di-dâl. Ddydd Llun, ar ddechrau'r Wythnos Gofalwyr genedlaethol, cyhoeddais £3 miliwn o gyllid newydd yn 2021-22 i gefnogi darpariaeth seibiant brys a datblygu cronfa er mwyn galluogi pobl i gael seibiant byr.
Julie Morgan: Diolch yn fawr iawn i Jenny Rathbone am y cwestiynau yna, ac rwy'n gwybod ei bod wedi codi'r anawsterau y mae ei hetholwyr wedi cael profiad ohonyn nhw gyda mi droeon, yn enwedig rhieni hŷn neu rieni neu briod rhywun sy'n dioddef o ddementia, ac rwy'n ymwybodol iawn o ba mor anodd yw'r sefyllfa hon. Yn amlwg, pan ddechreuodd y pandemig, bu'n rhaid i'r gwasanaethau gau am resymau iechyd a...
Julie Morgan: Diolch. Edrychaf ymlaen hefyd at weithio gyda chi ar y brîff a rennir, a diolch yn fawr i chi am y cwestiynau y gwnaethoch eu cyflwyno. Yn sicr, rwy'n croesawu adroddiad Gofalwyr Cymru a'r materion y mae'n eu codi, a'r ffigurau a roddwyd am nifer y bobl—gofalwyr di-dâl—na chafodd unrhyw seibiant yn ystod y pandemig. Rwy'n credu, yn amlwg, fod hynny'n destun pryder mawr. Fe wnes i, yn...
Julie Morgan: Diolch. Diolch yn fawr am y cwestiynau yna. Croeso i'ch swydd, ac roeddwn i'n falch iawn o'ch clywed chi'n siarad am yr arwyr di-glod sy'n ofalwyr di-dâl. Rwy'n credu ein bod ni'n sicr yn rhannu'r safbwyntiau hynny. Yn sicr, nid yw £3 miliwn yn swm enfawr o arian, ond mae hyn yn ychwanegol at bopeth arall yr ydym yn ei wneud. Nid ydym yn dechrau o'r newydd gyda £3 miliwn. Wrth gwrs, y prif...
Julie Morgan: Yr wythnos hon, rydym yn dathlu'r degau o filoedd lawer o ofalwyr di-dâl sy'n rhy aml yn arwyr di-glod. Maen nhw'n rhan annatod o system iechyd a gofal Cymru ac mae angen i ni eu cefnogi a'u helpu i ofalu am eu hiechyd a'u lles eu hunain. Mae ein harolygon diweddar yn dangos bod traean o oedolion yng Nghymru yn darparu gofal di-dâl am awr neu fwy yr wythnos. Mae Ymddiriedolaeth Gofalwyr...
Julie Morgan: Diolch. Wrth i ni nodi Wythnos y Gofalwyr, hoffwn dalu teyrnged i ofalwyr di-dâl ledled Cymru. Dylai pob un ohonom barchu a gwerthfawrogi eu hymdrechion bob dydd i ofalu am anwyliaid, ffrindiau a pherthnasau, yn enwedig yn ystod y pandemig COVID-19 hwn.
Julie Morgan: Diolch i Darren Millar am y cwestiwn hwnnw. Mae'r rhaglen frechu yn parhau i fynd rhagddi'n dda. Mewn cartrefi gofal, mae bron i 96 y cant o drigolion cartrefi gofal bellach wedi derbyn eu dos cyntaf o'r brechlyn, sy'n gynnydd mawr. Mae'n gwneud pwynt pwysig am bobl yn symud i wahanol leoliadau a sicrhau bod y dos dilynol yn cael ei roi, a byddwn yn sicr yn rhoi camau ar waith i sicrhau ein...
Julie Morgan: Diolch i Neil McEvoy am y cwestiwn. Mae’n amlwg fod yr hyn sydd wedi digwydd mewn cartrefi gofal yn drasiedi lwyr, ac mae’r Llywodraeth yn cydymdeimlo â’r holl breswylwyr a’r teuluoedd yr effeithiwyd arnynt. Nid oes unrhyw amheuaeth ynghylch y drasiedi sydd wedi digwydd. Rwy'n credu y bydd yr Aelod yn cydnabod mai aelodau hŷn a mwy agored i niwed o’r gymdeithas yw’r mwyafrif o'r...
Julie Morgan: Mae'r Swyddfa Ystadegau Gwladol wedi cofnodi 1,643 o farwolaethau cofrestredig yn gysylltiedig â COVID-19 ymhlith preswylwyr cartrefi gofal Cymru hyd at 12 Mawrth. Mae hyn oddeutu 21 y cant o'r holl farwolaethau sy'n gysylltiedig â COVID-19.
Julie Morgan: Diolch yn fawr iawn am eich cwestiwn, Nick. Cytunaf yn llwyr ei bod yn broblem eang. Credaf ein bod yn tueddu i feddwl mai pobl hŷn sy'n dioddef o unigrwydd, ond mae’n cynnwys pobl iau yn benodol, ac fel y dywedais yn gynharach, pobl anabl, pobl o gymunedau du a lleiafrifoedd ethnig a phobl sy'n dioddef problemau iechyd meddwl. Mae hwn wedi bod yn gyfnod anos byth iddynt hwy. Felly, rydym...
Julie Morgan: Diolch yn fawr iawn am eich cwestiwn, Mike. Ac a gaf fi ddiolch i chi am godi materion sy’n ymwneud ag unigrwydd yn gyson yn y Siambr hon, yn ogystal â materion sy’n ymwneud â phobl hŷn? Oherwydd gwn eich bod yn cadeirio'r grŵp trawsbleidiol ar bobl hŷn, a fynychais yn ddiweddar, felly diolch yn fawr iawn am hynny. Ie, credaf ei bod yn gwbl hanfodol ein bod yn gwneud popeth yn ein...
Julie Morgan: Rydym wedi cymryd nifer o gamau i gynorthwyo pobl i gadw mewn cysylltiad â theulu a ffrindiau, gan gynnwys cyllid ychwanegol ar gyfer y trydydd sector a llywodraeth leol, ac ar gyfer gwasanaethau iechyd meddwl a chymorth emosiynol. Mae ein rheoliadau hefyd yn caniatáu i bobl ffurfio aelwyd estynedig os ydynt yn byw ar eu pen eu hunain.
Julie Morgan: We published revised care home visiting guidance on 1 February, which is consistent with the overarching guidance on alert levels for social care services. We are acutely aware of the impact on people’s well-being of prolonged separation from loved ones while visiting restrictions are in place. We will continue to keep the approach under close review.
Julie Morgan: Diolch, Dirprwy Lywydd, a chynigiaf y cynnig. Mae Rheoliadau Trefniadau Partneriaeth (Diwygio) a Gwasanaethau Rheoleiddiedig (Adroddiadau ar Sefydlogrwydd y Farchnad) (Cymru) 2021 yn ymwneud â pharatoi a chyhoeddi adroddiadau ar sefydlogrwydd y farchnad o dan adran 144B o Ddeddf Gwasanaethau Cymdeithasol a Llesiant (Cymru) 2014. Mae'r rheoliadau sydd ger eich bron heddiw wedi eu hategu gan...
Julie Morgan: Diolch, Jenny, am hynna. Yn amlwg, rwy'n credu bod mater y timau nyrsio cymdogaeth yn rhywbeth y gallem ni gael trafodaeth fanylach amdano y tu allan i'r Siambr. Rwy'n credu bod atebolrwydd lleol yn hollbwysig, a gwn fod ffordd bell i fynd o ran integreiddio ag iechyd a gofal cymdeithasol, ond dyna un o'n nodau absoliwt. Dyna pam, wrth gwrs, yr ydym yn adeiladu ar yr hyn a gyflawnwyd hyd yma...