Canlyniadau 181–200 o 2000 ar gyfer speaker:Mr Simon Thomas

Dadl Frys: Ymosodiadau awyr gan y DU yn Syria (18 Ebr 2018)

Mr Simon Thomas: Diolch yn fawr, Lywydd. Hoffwn ddiolch i'r holl Aelodau sydd wedi cymryd rhan yn y ddadl hon. Mae wedi bod yn ddadl ddwys, a chredaf fod naws y ddadl, o ran y rhai a gefnogodd yr ymosodiadau a'r rhai nad ydynt yn cefnogi'r ymosodiadau, wedi adlewyrchu'n dda ar y Cynulliad a'r angen i drafod y materion sydd ger ein bron. A gaf fi ddechrau gyda barn y Llywodraeth, er mwyn cael yr ysgyfarnog...

Dadl Frys: Ymosodiadau awyr gan y DU yn Syria (18 Ebr 2018)

Mr Simon Thomas: Nid wyf yn gwybod a oedd yr Aelod yn mynd i roi sylw i'r pwynt hwn, sef—. Cyfeiriodd yn awr at y bleidlais yn 2013, rwy'n credu mai dyna pryd ydoedd, ac rwy'n cymeradwyo David Cameron am alw'r bleidlais honno, ac am alluogi'r Senedd i benderfynu hyn. A yw'n teimlo bod Prif Weinidog y DU yn iawn i roi'r camau hyn ar waith? Mae'n cytuno gyda'r ymosodiadau—rwy'n derbyn ei bwynt ar...

3. Cwestiynau i Gomisiwn y Cynulliad: Lleihau Allyriadau Carbon (18 Ebr 2018)

Mr Simon Thomas: A gaf i ddiolch i'r Comisiynydd am ateb, ac am ateb yn Gymraeg? Nid y jargon gorau a'r iaith orau mewn unrhyw iaith yw iaith amgylcheddol, rwy'n derbyn hynny, ac rwy'n ddiolchgar iawn i chi am hynny. A gaf i longyfarch y Comisiwn ar ddau beth, yn gyntaf oll am ennill yr ISO ac am y safon amgylcheddol yna ac, yn ail, am y newyddion bod pwyntiau gwefru ceir trydan bellach wedi eu gosod? Rwy'n...

3. Cwestiynau i Gomisiwn y Cynulliad: Dileu Eitemau Plastig Untro (18 Ebr 2018)

Mr Simon Thomas: Rwy'n croesawu'r camau a gymerwyd hyd yn hyn, ac mae yna rywfaint o newyddion calonogol mewn perthynas â'r ymdrechion i leihau'r defnydd o blastig untro yn y Cynulliad. Roeddwn eisiau gofyn pa gamau pellach y gellir eu cymryd fel prynwr mawr yng Nghaerdydd a de Cymru, ac fel arweinydd yn hyn o beth. A yw'r Comisiwn yn siarad â'i gyflenwyr? Oherwydd, yn ogystal â'r plastig untro rydym yn...

Pwynt o Drefn (18 Ebr 2018)

Mr Simon Thomas: Mae hynny'n arferol. Gwnaeth Gweinidogion Plaid Cymru, fel y bydd Simon Thomas yn gallu dweud wrthych chi, yn union yr un fath pan oedden nhw mewn Llywodraeth.

Pwynt o Drefn (18 Ebr 2018)

Mr Simon Thomas: Rwyf eisiau ei wneud yn glir na wnes i, fel ymgynghorydd arbennig, byth gysylltu ag unrhyw gorff cyhoeddus i holi am gynnwys neu natur gohebiaeth gydag Aelodau'r Cynulliad, ac nid oedd hynny yn rhan o ddiwylliant Gweinidogion Llywodraeth Cymru'n Un hyd fy ngwybodaeth i. Felly, nid yw honiad y Prif Weinidog yn gywir.

Pwynt o Drefn (18 Ebr 2018)

Mr Simon Thomas: Diolch, Llywydd. Hoffwn i godi pwynt o drefn o dan Reolau Sefydlog, ac yn benodol Rheol Sefydlog 13.9, ynglŷn ag ymddygiad yn y Siambr. Wrth ymateb i Angela Burns ac wedyn Adam Price ddoe, fe gyfeiriodd y Prif Weinidog ddwywaith ataf fi a'm gwaith fel ymgynghorydd arbennig i Weinidogion Plaid Cymru rhwng 2007 a 2010. Dywedodd e, o ran y gweithredoedd a ddisgrifiwyd gan Angela Burns, ac...

4. Datganiad gan y Cwnsler Cyffredinol: Bil Cyfraith sy'n Deillio o'r Undeb Ewropeaidd (Cymru) (18 Ebr 2018)

Mr Simon Thomas: Rydw i'n croesawu'r ffaith bod datganiad wedi cael ei wneud gan y Cwnsler Cyffredinol heddiw, ond mae'n rhaid imi ddweud hyn: fe wnaed addewid gan Weinidog y Goron ar lawr Tŷ'r Cyffredin cyn Nadolig, ganol mis Rhagfyr, y byddai hwn yn cael ei sortio. A dyma ni, mae'r Lady Boys of Bangkok wedi cyrraedd y bae, fel maen nhw'n ei wneud pob gwanwyn, ac nid ydym wedi cael ateb i'r broblem...

2. Cwestiynau i Arweinydd y Tŷ a'r Prif Chwip (ynghylch ei chyfrifoldebau polisi): Derbyniad Ffôn Symudol (18 Ebr 2018)

Mr Simon Thomas: Diolch i Ysgrifennydd y Cabinet—nid wyf yn siŵr beth yw hi pan fydd hi'n gwneud hyn, arweinydd y tŷ neu Ysgrifennydd y Cabinet, ond mae'n Aelod o'r Cabinet, beth bynnag. Diolch am eich ateb. Rwy'n cael cryn drafferth deall sut y gallwn symud ymlaen mewn sawl rhan o'r Gymru wledig i'r dyfodol awtomataidd, y dyfodol roboteg rydym wedi bod yn sôn amdano ym mywyd cyhoeddus Cymru heddiw...

1. Cwestiynau i Ysgrifennydd y Cabinet dros Gyllid: Trethi Datganoledig Newydd (18 Ebr 2018)

Mr Simon Thomas: Diolch am y diweddariad gan yr Ysgrifennydd Cabinet, ac rwy'n siŵr ein bod ni'n diolch i Awdurdod Cyllid Cymru am ei waith ac am beth sydd yn ymddangos, felly, yn gychwyn llwyddiannus, fel mae e'n ei ddweud, ar gyfnod newydd yn hanes cyfansoddiadol Cymru. Byddwch chi, wrth gwrs, yn gwybod bod y pethau yma yn broses yn hytrach na digwyddiad, ac, fel rhan o'r broses, rydych chi wedi gosod...

1. Cwestiynau i Ysgrifennydd y Cabinet dros Gyllid: Trethi Datganoledig Newydd (18 Ebr 2018)

Mr Simon Thomas: 2. A wnaiff Ysgrifennydd y Cabinet ddatganiad am weithredu'r trethi datganoledig newydd cyntaf ers iddynt ddod i rym ar 1 Ebrill 2018? OAQ51976

2. Cwestiynau i Arweinydd y Tŷ a'r Prif Chwip (ynghylch ei chyfrifoldebau polisi): Derbyniad Ffôn Symudol (18 Ebr 2018)

Mr Simon Thomas: 1. A wnaiff Arweinydd y Tŷ ddatganiad am argaeledd derbyniad ffôn symudol yng Nghanolbarth a Gorllewin Cymru? OAQ51977

3. Cwestiynau i Gomisiwn y Cynulliad: Lleihau Allyriadau Carbon (18 Ebr 2018)

Mr Simon Thomas: 3. Pa waith y mae’r Comisiwn yn ei wneud i leihau allyriadau carbon? OAQ51979

7. Gorchymyn Deddf Sector Amaethyddol (Cymru) 2014 (Parhau i Gael Effaith) 2018 (17 Ebr 2018)

Mr Simon Thomas: A gaf i ddweud yn y cychwyn y bydd Plaid Cymru yn cefnogi'r Gorchymyn heddiw i barhau â'r ddeddfwriaeth? Y rheswm ein bod ni'n trafod hwn heddiw, wrth gwrs, yw bod yna gymal machlud yn y ddeddfwriaeth wreiddiol. Y rheswm bod yna gymal machlud yn y ddeddfwriaeth wreiddiol oedd ei bod hi wedi cael ei phasio fel deddfwriaeth frys. Rŷm ni newydd gael profiad cyn y Pasg o hynny. Bach yn eironig...

5. Datganiad gan Weinidog yr Amgylchedd: Yr Amgylchedd yng Nghymru (17 Ebr 2018)

Mr Simon Thomas: Pwynt olaf yr ymdriniodd y Gweinidog ag ef yw anghenion economi effeithlon o ran adnoddau, ac rwy'n rhannu ei hamcanion, yn sicr. Mae angen inni weld yr adroddiad cyfrifoldeb cynhyrchydd cyn gynted â phosibl. Mae angen inni ddeall, hefyd, sut mae'r Llywodraeth bellach yn mynd i ymateb i'r seilwaith newydd, os dymunwch chi, ar gynllun dychwelyd blaendal. Rydym wedi trafod y posibiliadau neu'r...

5. Datganiad gan Weinidog yr Amgylchedd: Yr Amgylchedd yng Nghymru (17 Ebr 2018)

Mr Simon Thomas: A gaf i groesawu naws y datganiad gan y Gweinidog heddiw? Mae'r egwyddorion sydd yn y datganiad yn rai digon cadarn. Nid oes modd imi, yn sicr, ddadlau yn eu cylch nhw, ond mae'n rhaid i minnau ddweud hefyd roeddwn i'n gobeithio am gynigion penodol yn y datganiad yma ynglŷn â sut mae'r Llywodraeth yn mynd i fynd i'r afael â'r cwestiynau a'r heriau sydd wedi cael eu gosod gan y Gweinidog....

2. Datganiad a Chyhoeddiad Busnes (17 Ebr 2018)

Mr Simon Thomas: Rwy'n credu ein bod ni'n sicr o gael rhai diwrnodau diddorol ym musnes y Cynulliad, ond byddaf yn canolbwyntio ar rai materion sydd wedi codi dros y Pasg, os caf i, a gofyn yn gyntaf a oes modd cael datganiad gan y Llywodraeth ar fater mewnfudwyr o'r Caribî a'r Gymanwlad yma yng Nghymru? Rydym ni wedi gweld dros y Pasg bod straeon yn dod i'r amlwg o'r hyn a ddisgrifiwyd fel y Windrush,...

1. Cwestiynau i'r Prif Weinidog: Ffermwyr a Pherchnogion Anifeiliaid (17 Ebr 2018)

Mr Simon Thomas: Diolch, Llywydd. Mae’r ffaith bod Llywodraeth Iwerddon yn fodlon talu i helpu i gludo a thalu am fwyd anifeiliaid yn cael effaith ar y farchnad dros ynysoedd Prydain, wrth gwrs. Mae’n gwyrdroi’r farchnad o ran prisoedd, ac yn rhoi prisoedd i fyny ar gyfer ffermwyr yng Nghymru. Dyna, rwy’n credu, yw’r ddadl, a’r peth sydd wedi dod yn glir oherwydd y gwanwyn gwlyb. Beth sy’n dod...

11. Dadl: Cyfnod 4 y Bil Cyfraith sy'n Deillio o'r Undeb Ewropeaidd (Cymru) (21 Maw 2018)

Mr Simon Thomas: Rwy'n nodi bod hwn yn fygythiad ymarferol go iawn. Nid rhyw fath o ddadl gyfansoddiadol yw hyn fel y mae rhai wedi awgrymu dros yr ychydig ddyddiau diwethaf. Mae'n ymwneud â bywydau bob dydd pobl: mae sut rydych yn ffermio, sut yr edrychwn ar ôl yr amgylchedd, sut yr edrychwn ar ôl ein diogelwch cymdeithasol, sut rydym yn byw gyda'n gilydd fel cymunedau, yn cysylltu'n agos â sut rydym...

11. Dadl: Cyfnod 4 y Bil Cyfraith sy'n Deillio o'r Undeb Ewropeaidd (Cymru) (21 Maw 2018)

Mr Simon Thomas: Hoffwn innau ddiolch i bawb a fu yn paratoi'r Bil yma. Diolch i'r Llywodraeth a swyddogion y Llywodraeth am nifer o sgyrsiau adeiladol. Mae nifer o'r meysydd rhwng Plaid Cymru a'r Llywodraeth wedi bod yn gytûn, a mater o drafod sut i ddelio gyda nhw ar wyneb y Bil oedd hi. Mae yna un maes, wrth gwrs, lle nad oeddem ni'n cytuno, a dyna beth oedd ffrwyth ein dadl ni heddiw. Ond, bydd Plaid...


<< < 6 7 8 9 10 11 12 13 14 15 > >>

Creu hysbysiad

Chwilio uwch

Dod o hyd i'r union air neu ymadrodd hwn

Gallwch hefyd wneud hyn o'r prif flwch chwilio drwy roi’r union eiriau mewn dyfyniadau: megis "seiclo" neu "adroddiad Hutton"

Rydyn ni'n dangos geiriau sy'n gysylltiedig â'ch term chwilio, megis “beic” a “beicio” wrth chwilio am seiclo yn ddiofyn. Er mwyn atal hyn, rhowch y gair mewn dyfyniadau, fel "seiclo"

Heb gynnwys y geiriau hyn

Gallwch hefyd wneud hyn o'r prif flwch chwilio trwy roi arwydd minws cyn geiriau nad ydych eisiau: fel hela -llwynog

Rydym hefyd yn cefnogi nifer o addasiadau chwilio Booleaidd, megis AND a NEAR, ar gyfer chwilio manwl.

Ystod o ddyddiadau

i

Gallwch roi dyddiad dechrau, dyddiad gorffen, neu'r ddau er mwyn cyfyngu canlyniadau i ystod o ddyddiadau penodol. Mae dyddiad gorffen coll yn awgrymu'r dyddiad presennol, ac mae dyddiad cychwyn coll yn awgrymu'r dyddiad hynaf sydd gennym yn y system. Gellir nodi'r dyddiadau ar unrhyw fformat y dymunwch, e.e. 3ydd Mawrth 2007 neu 17/10/1989

Person

Rhowch enw fan hyn i gyfyngu canlyniadau i gyfraniadau gan y person hwnnw yn unig.

Adran

Cyfyngu canlyniadau i senedd neu gynulliad penodol yr ydym yn cynnwys (e.e. Senedd yr Alban), neu fath arbennig o ddata o fewn sefydliad, megis Atebion Ysgrifenedig Tŷ'r Cyffredin.

Colofn

Pe baech yn gwybod y rhif colofn Hansard cywir o'r wybodaeth y mae gennych ddiddordeb ynddo (efallai eich bod yn edrych ar gyfeiriad papur), gallwch gyfyngu canlyniadau i hynny ; Gallwch hefyd ddefnyddio column:123 yn y prif flwch chwilio.