Adam Price: 2. A wnaiff y Gweinidog ddatganiad am amseroedd aros mewn adrannau damweiniau ac achosion brys yn Nwyrain Caerfyrddin a Dinefwr? OQ57827
Adam Price: Er bod cysgod ffasgaeth dros Ewrop eto, mae'r comedïwr Jimmy Carr yn dal i wrthod ymddiheuro am awgrymu bod marwolaethau cannoedd o filoedd o Sipsiwn wrth law'r Natsïaid rywsut yn rhywbeth i'w ddathlu. Ddydd Llun nesaf, mae'n perfformio yn ein prifddinas yn Neuadd Dewi Sant. Mae Sipsiwn Cymru yn gofyn i'r lleoliad ganslo'r perfformiad mewn undod â nhw. Cyngor Caerdydd sy'n berchen ar...
Adam Price: Ar yr un penwythnos â'n rali gwrth-hiliaeth, penderfynodd Heddlu De Cymru, gyda chefnogaeth y comisiynydd heddlu a throseddu, ei bod hi'n amser priodol i ailgychwyn y defnydd o dechnoleg adnabod wynebau yng nghanol y ddinas y gorfodwyd iddo ei hatal gan y Llys Apêl oherwydd pryderon ynghylch ei duedd hiliol cynhenid. Yn ôl grŵp moeseg biometreg a fforenseg Llywodraeth y DU ei hun, mae...
Adam Price: Diolch, Llywydd. Prif Weinidog, ddydd Sul, fe wnes i a channoedd o bobl eraill, gan gynnwys y Gweinidog Cyfiawnder Cymdeithasol a'r Cwnsler Cyffredinol, ymgynnull a gorymdeithio yma yng Nghaerdydd fel rhan o ddiwrnod gwrth-hiliaeth y Cenhedloedd Unedig. Clywsom dystiolaeth rymus gan ymgyrchwyr cyfiawnder teuluol, gan undebwyr llafur ac ymgyrchwyr cymunedol, a siaradodd am y profiad cyffredin...
Adam Price: Prif Weinidog, yn eich datganiad ysgrifenedig rydych chi wedi nodi eich parodrwydd i gydweithio â chynllun Cartrefi i Wcráin Llywodraeth y DU. Fodd bynnag, mae elusennau ffoaduriaid wedi mynegi eu pryder na fydd Wcráiniaid sy'n cyrraedd drwy'r cynllun hwn yn cael statws ffoadur, gan gyfyngu ar eu mynediad at fudd-daliadau, er enghraifft. Maen nhw hefyd yn tynnu sylw at y ffaith bod paru...
Adam Price: Prif Weinidog, mae confensiwn ffoaduriaid y Cenhedloedd Unedig o 1951, y mae'r DU wedi'i gadarnhau, yn nodi na ddylai'r rhai sy'n ffoi rhag rhyfel—pob ffoadur o bob rhyfel—orfod ceisio caniatâd yn gyntaf cyn gofyn am ddiogelwch gan wlad groesawu. Mae'r cam presennol gan Lywodraeth y DU o fynnu ar fisâu i ffoaduriaid o Wcráin yn mynd yn groes i'w rhwymedigaethau rhyngwladol. Rydych chi...
Adam Price: Diolch, Llywydd. Mae adroddiadau yn dangos bod Boris Johnson ar fin ymweld â Riyadh mewn ymgais i argyhoeddi llywodraeth Saudi i hybu cynhyrchiad olew. Credir y bydd Llywodraeth Saudi yn ceisio cael sicrwydd na fydd eu polisi yn Yemen dros yr wyth mlynedd diwethaf, o fomio sifiliaid diniwed, yn cael ei rwystro gan y DU. A ydych chi'n cytuno, Prif Weinidog, y byddai'n gwbl anghywir i Brif...
Adam Price: Na, nid oes gennyf amser. Yr hyn y gallwn ei wneud yw blaenlwytho sancsiynau enfawr a pharlysol i gael effaith ar unwaith ar gymdeithas Rwsia. Po gyflymaf y byddwn yn eu gosod, y cyflymaf y gallwn lesteirio gallu Putin i ladd pobl yn Wcráin. Dylem nodi'n glir ein bwriad i roi Putin o flaen ei well yn yr Hague fel neges i'w gylch mewnol mai dyma'r amser i ddewis a ydynt eisiau bod yno gydag...
Adam Price: Diolch, Lywydd. Mae pob rhyfel ym mhobman yr un mor ofnadwy i'r bobl sy'n cael eu dal ynddynt, ond mae rhai rhyfeloedd yn cynnwys hadau dinistr mor bellgyrhaeddol fel bod ganddynt allu i'n llyncu ni i gyd. Rwy'n credu ei bod yn fwyfwy amlwg fod y rhyfel yn Wcráin yn rhyfel o'r fath, eiliad mewn hanes nad ydym wedi'i gweld ei thebyg ers 80 mlynedd. 'Tonnau o ddicter a dychryn / yn torri dros...
Adam Price: Mae fy etholaeth i, a chymunedau yn fy etholaeth i, fel etholaethau fy nghyd-Aelodau, wedi cael ei heffeithio yn gyson yn y blynyddoedd diweddaf, wrth gwrs, gan y ffenomenon o stormydd mwy niferus a mwy difrifol. Mae Cyngor Sir Caerfyrddin, sy'n cael ei arwain gan Blaid Cymru, wrth gwrs, wedi bod yn rhagweithiol o ran cefnogi'r cymunedau yna, o ran cynnig iawndal a help ymarferol. Ond mae yna...
Adam Price: 4. Pa ddyraniadau ychwanegol y bydd y Gweinidog yn eu gwneud i'r portffolio newid hinsawdd i gynorthwyo awdurdodau lleol fel Cyngor Sir Caerfyrddin i gefnogi cymunedau y mae llifogydd wedi effeithio arnynt? OQ57730
Adam Price: Gan droi, Prif Weinidog, at y sefyllfa sy'n wynebu menywod yma yng Nghymru ar Ddiwrnod Rhyngwladol y Menywod, dangosodd adroddiad blynyddol 'Cyflwr y Genedl' Chwarae Teg bod y bwlch cyflog rhwng y rhywiau yng Nghymru, sydd eisoes yn sylweddol, wedi cynyddu ymhellach yn 2021. Mae menywod yn dal i fod bedair gwaith yn fwy tebygol o nodi gofalu am y teulu neu'r cartref fel y rheswm am beidio â...
Adam Price: Prif Weinidog, ym mis Mai 1937, croesawyd cannoedd o blant o Wlad y Basg a oedd yn ffoi rhag ffasgaeth i Gymru yn rhan o ymdrech ar y cyd a drefnwyd yn wirfoddol—eto, yn wyneb diffyg gweithredu gan Lywodraeth Prydain ar y pryd. A yw hyn yn rhywbeth y gallwn ni geisio ei efelychu nawr, nid yn y cannoedd, ond yn y miloedd? Mae Llywodraeth y DU yn sôn am lwybr dyngarol sy'n cynnwys nawdd gan...
Adam Price: Diolch, Llywydd. Ar Ddiwrnod Rhyngwladol y Menywod, mae'n amhosibl peidio â meddwl am y nifer fawr o fenywod hynny o Wcráin, llawer ohonyn nhw â phlant, wedi blino, wedi'u trawmateiddio, yn anobeithiol, ar ôl teithio allan o ardal ryfel ac ar draws cyfandir Ewrop dim ond i gael eu troi i ffwrdd yn Calais gan swyddogion Llywodraeth y DU a chael clywed bod yn rhaid iddyn nhw fynd i Baris...
Adam Price: Cafwyd dau gais arall am weithredoedd o undod rhyngwladol a glywsom gan ein cyfeillion yn Wcráin. Un am gymorth ymarferol ar unwaith, ac un o arwyddocâd symbolaidd enfawr. Y cymorth ymarferol yr oedden nhw'n galw amdano oedd canslo dyled dramor Wcráin ar unwaith. Hyd yn oed wrth i ni siarad, yng nghanol rhyfel, mae Llywodraeth Wcráin yn gorfod trin ei dyled dramor hyd at $0.5 biliwn y...
Adam Price: Yn ystod ymweliad Mick Antoniw a minnau ag Wcráin, cawsom gyfle i gyfarfod ag amrywiaeth eang iawn o bobl—do, Gweinidogion y Llywodraeth, ond, yn bwysicach na hynny, dinasyddion cyffredin Wcráin, undebwyr llafur, trefnwyr hawliau dynol, pobl yn y mudiad menywod a phobl yn y gymuned LGBT. Yr un peth yr oedden nhw i gyd yn unedig yn ei gylch oedd bod y polisi o sancsiynau a gyflwynwyd hyd...
Adam Price: Diolch, Llywydd. Prif Weinidog, ar hyn o bryd, mae llong sy'n cludo olew o Rwsia wedi ei docio yn Aberdaugleddau; cyrhaeddodd yno ddydd Sadwrn ac mae'r olew ar ei ffordd i burfa olew Valero. Mae disgwyl i ail long, sydd hefyd yn cludo olew o Rwsia o borthladd llwytho olew Primorsk yn Rwsia, gyrraedd Aberdaugleddau ddydd Gwener. Mae Llywodraeth y DU wedi rhoi sancsiynau ar waith i atal llongau...
Adam Price: Mae'r golygfeydd yr wythnos diwethaf yn Abertawe sef ciw am gynllun rhannu bwyd, ceginau cawl ein dydd, mewn dinas lle mae'r galw am barseli bwyd brys, yn ôl yr adroddiadau, wedi dyblu mewn wythnos yn unig, yn ddelweddau o dlodi torfol nad ydym wedi'i weld ers y 1930au llwglyd. Un o'r sefydliadau mwyaf blaenllaw fydd yn yr uwchgynhadledd ddydd Iau fydd Sefydliad Bevan. Maen nhw ac eraill...
Adam Price: Er bod croeso i'r arian newydd yr ydych chi fel Llywodraeth Cymru wedi'i gyhoeddi heddiw, yn sicr, a allwch chi ddeall y beirniadaethau a geir gan ymgyrchwyr gwrth-dlodi ynghylch dull ad-dalu'r dreth gyngor, ei fod yn lledaenu'r arian yn rhy denau ac yn methu â thargedu'r bobl sy'n cael eu taro galetaf? Os yw'r sefydliadau yn yr uwchgynhadledd argyfwng costau byw yr ydych wedi'i chynnull...
Adam Price: Bydd llawer o bobl wedi gweld Andy Davies o ffilm sobreiddiol Channel 4 o'i ymweliad â Phenrhys yr wythnos diwethaf—cymuned sydd eisoes yn ei chael hi'n anodd sydd ar fin mynd i dlodi nad ydym yn sicr wedi gweld ei debyg ers y 1980au. Yr wythnos diwethaf, pleidleisiodd Tŷ'r Cyffredin o blaid treth ffawdelw ar gwmnïau ynni. Mae Llywodraeth y DU wedi dweud y bydd yn anwybyddu'r Senedd...