Baroness Mair Eluned Morgan: Mae cyllid Llywodraeth Cymru wedi galluogi gwasanaeth ambiwlans Cymru i ddarparu ystod o gamau gweithredu i wella perfformiad ambiwlansys, gan gynnwys recriwtio 100 aelod o staff ychwanegol, trefniadau rota wedi'u diwygio, lleihau absenoldeb oherwydd salwch, a buddsoddiad newydd mewn technoleg i gefnogi'r broses o wneud penderfyniadau clinigol.
Baroness Mair Eluned Morgan: Diolch. Wel, rwy'n siŵr y byddwch chi'n deall, mewn gwirionedd, ein bod yn awyddus iawn i gael hyn ar y gweill cyn gynted â phosibl. Rydym yn ymwybodol iawn fod angen inni gynyddu niferoedd y bobl sy'n hyfforddi i fod yn feddygon, ond wrth gwrs, mae'n rhaid inni weithio o fewn y cyfyngderau sy'n cael eu gosod gan y Cyngor Meddygol Cyffredinol. Felly, nid ein lle ni yw dweud 'Iawn, dewch ag...
Baroness Mair Eluned Morgan: Diolch yn fawr. Wel, a gaf i ddweud fy mod i'n hapus iawn fy mod i wedi cwrdd â Proffesor Mike Larvin yn ddiweddar, jest i sicrhau ein bod ni'n symud ymlaen gyda datblygiadau yn y brifysgol? Rŷn ni'n ymwybodol iawn fod angen inni dalu sylw i faint o recriwtio sy'n mynd i fod o ran y niferoedd sy'n siarad Cymaeg, a dwi'n gwybod bod ffocws arbennig wedi cael ei roi ar hynny, ac mae yna waith...
Baroness Mair Eluned Morgan: Mae’r niferoedd a fydd yn cael eu derbyn i ysgol feddygol Bangor wedi cael eu cytuno, ac mae’r cyllid wedi cael ei gymeradwyo ar gyfer 140 o fyfyrwyr bob blwyddyn, pan fydd yr ysgol wedi cyrraedd y capasiti uchaf. Cafodd llythyr o sicrwydd ei anfon at gydweithwyr y Cyngor Meddygol Cyffredinol ym mis Tachwedd er mwyn caniatáu i Brifysgol Bangor barhau i symud ymlaen drwy'r broses...
Baroness Mair Eluned Morgan: Wel, edrychwch, yn gyntaf oll, rwy'n meddwl ei bod hi'n bwysig i mi gofnodi unwaith eto ein bod yn deall cryfder teimladau'r bobl sy'n teimlo fel pe nad oes ganddynt unrhyw opsiwn arall heblaw gweithredu'n ddiwydiannol. Rydym yn credu y dylai ein holl weithwyr sector cyhoeddus gael eu gwobrwyo'n deg, ac rydym yn credu bod yr anhrefn sydd wedi'i greu gan y Llywodraeth Dorïaidd, a'r cynnydd a...
Baroness Mair Eluned Morgan: Wel, mae'n amlwg ein bod ni'n treulio lot o amser yn paratoi ar gyfer y gaeaf—rŷn ni'n gwybod y bydd pwysau dros y gaeaf. Maen nhw eisoes wedi dechrau—rŷn ni wedi gweld faint o bwysau oedd ar y gwasanaethau dros y penwythnos diwethaf. Dyw hi ddim yn helpu pan ŷn ni'n gweld pethau fel scarlet fever yn codi—doeddem ni ddim yn disgwyl gweld hynny. Felly, mae pethau'n codi nag ydym ni'n...
Baroness Mair Eluned Morgan: Wel, 'Nadolig Llawen' i chi hefyd, Russell. [Chwerthin.] Ac rwy'n falch iawn mai dyna oedd eich cwestiwn olaf chi eleni. Edrychwch, rwyf wedi cael blynyddoedd gwell, os ydw i'n onest, ac yn amlwg, mae yna lawer o bethau yr hoffwn pe byddem wedi gweld gwelliannau arnynt a hoffwn pe baem wedi mynd yn gyflymach gyda rhai pethau. Oherwydd i mi, y peth allweddol yw cadw llygad ar beth sydd ei...
Baroness Mair Eluned Morgan: Wel, diolch. Gwrandewch, rydym wedi rhoi targedau ymestynnol i mewn; rwy'n hyderus ein bod ni'n mynd i gyrraedd y targed mewn sawl maes arbenigol ac yn amlwg, rydym yn mynd i fod yn gwthio pawb i geisio'u cyrraedd. Ond rydym bob amser wedi dweud y byddai orthopaedeg, yn enwedig, yn her arbennig. Rwy'n credu bod yn rhaid i chi ddeall, mewn gwirionedd, pan fydd eich cyllideb gyfalaf wedi'i...
Baroness Mair Eluned Morgan: Wel, efallai eich bod wedi sylwi, mewn gwirionedd, lle mae'r poblogaethau wedi'u lleoli yng Nghymru, mae'n wahanol iawn i'r hyn sy'n bodoli yn Lloegr—mae ganddynt hwy ddinasoedd mawr; mae ganddynt lefydd sy'n agos at ei gilydd. Mae'n llawer haws iddynt hwy drefnu hybiau llawfeddygol ar wahân. Rydym ni'n neilltuo llawdriniaethau dewisol, sydd i bob pwrpas yn gwneud yr un peth. Felly,...
Baroness Mair Eluned Morgan: Diolch yn fawr. Rwy'n falch o ddweud fy mod wedi bod ar drywydd y ddadl honno, ac un o'r pethau rwyf wedi'i wneud yw cynnal uwchgynhadledd canser, lle buom yn edrych, yn amlwg, ar ddadansoddiad o lle mae angen inni wneud cynnydd pellach mewn perthynas â chanser gynaecolegol yn arbennig. Rydym yn rhoi pwysau ar fyrddau iechyd i sicrhau eu bod yn deall beth yw'r llwybrau gorau posibl i wneud...
Baroness Mair Eluned Morgan: Diolch yn fawr iawn. Mae'n ddrwg iawn gyda fi i glywed am hanes Emily; mae hi'n un o'r nifer o fenywod sydd yn dioddef o endometriosis. Rydyn ni wedi cydnabod bod angen inni wneud lot mwy yn y maes yma, a dyna pam nawr mae gyda ni nyrsys endometriosis ym mhob bwrdd iechyd ar draws Cymru. Felly, mae pethau'n gwella, ond rŷn ni'n cydnabod hefyd bod angen mwy o feddygon sydd yn gallu gwneud yr...
Baroness Mair Eluned Morgan: Mae cydweithrediad y gwasanaeth iechyd wedi arwain y gwaith o ddatblygu cynllun 10 mlynedd ar iechyd menywod, a hwn fydd ymateb y gwasanaeth i'r gofynion yn y datganiad ansawdd iechyd menywod a merched. Bydd y cynllun yn sicrhau gwelliannau i'r ddarpariaeth iechyd i fenywod ym mhob rhan o Gymru.
Baroness Mair Eluned Morgan: Diolch yn fawr iawn, Natasha, a diolch am y cyfle i dynnu sylw at y ffaith eich bod chi, mewn tywydd oer, mewn tywydd rhewllyd, mewn eira, yn fwy tebygol o ddisgyn. Hoffwn ofyn, yn arbennig, i'r rhai sy'n fwy bregus i dalu sylw arbennig ar yr adeg hon o'r flwyddyn, oherwydd y peth olaf sydd ei angen arnom yw mwy o bwysau ar ein GIG ar hyn o bryd. Felly, diolch am hynny. Rwy'n credu ei bod yn...
Baroness Mair Eluned Morgan: Mae'n ddrwg gennyf, rwy'n achub fy nŵr nawr. Diolch yn fawr iawn. Rwyf wedi amlinellu fy nisgwyliad y dylai pob claf yng Nghymru gael mynediad teg at wasanaethau cyswllt toresgyrn, ac rydym yn gweithio gyda'r byrddau iechyd i gyflawni hyn.
Baroness Mair Eluned Morgan: The 'All-Wales Standards for Accessible Communication and Information for People with Sensory Loss' sets out the standards of service delivery that people with sensory loss should expect when accessing healthcare. These standards apply to all adults, young people and children.
Baroness Mair Eluned Morgan: Mae gan y gwasanaeth iechyd yng Nghymru rwymedigaeth o dan y gyfraith i wneud gwasanaethau yn hygyrch i'r bobl rŷn ni’n eu gwasanaethu, gan ystyried nifer o ffactorau gan gynnwys anabledd. Mae swyddogion Llywodraeth Cymru yn dal i weithio gyda phob sefydliad iechyd yng Nghymru i wneud yn siŵr bod y rhwymedigaethau hyn yn cael eu bodloni.
Baroness Mair Eluned Morgan: Welsh Government are working with NHS employers and trade unions to ensure that staff are supported. This will be provided through a range of initiatives, including promoting and protecting staff health and well-being through providing fundamental principles of physically and psychologically safe working environments, along with effective workforce planning and management.
Baroness Mair Eluned Morgan: A gaf fi fod yn glir fod Llywodraeth yr Alban yn gweithio o fewn fframwaith gwahanol i'r fframwaith sydd gennym ni? Felly, rydym wedi ymrwymo i'r comisiwn cyflogau annibynnol. Fe wnaeth yr holl undebau gytuno i wneud hynny. Fe wnaeth pob un ohonynt roi eu tystiolaeth. Fe wnaethom ni roi ein tystiolaeth. Maent yn cael tystiolaeth annibynnol gan bobl sy'n gwybod am yr economi, chwyddiant a'r...
Baroness Mair Eluned Morgan: Diolch yn fawr. Mae'n ddigon hawdd i chi ddweud, 'Da iawn'. Y ffaith amdani yw bod gennym swm penodol o arian. Dyna fe. Iawn? Felly, mae dewis gennym: rydych naill ai'n torri gwasanaethau neu rydych yn torri nifer y bobl er mwyn rhoi codiad cyflog. Nawr, nid wyf yn credu bod hynny'n rhywbeth y bydd yr undebau llafur eisiau ei wneud, ond yn amlwg mae hwnnw'n opsiwn. Mae hwnnw'n opsiwn. Ond...
Baroness Mair Eluned Morgan: Rwy'n drist fod ein gweithwyr iechyd wedi cyrraedd pwynt lle maent yn teimlo bod angen iddynt weithredu'n ddiwydiannol. Rwy'n deall ac yn cydymdeimlo'n llwyr â'u sefyllfa, ond heb gyllid ychwanegol gan Lywodraeth y DU, nid oes unrhyw arian i gynyddu ein cynnig cyflog heb doriadau sylweddol i staffio a gwasanaethau hanfodol. Rwy'n cyfarfod â chynrychiolwyr yr holl undebau gofal iechyd yr...