Canlyniadau 181–200 o 500 ar gyfer speaker:Jane Dodds

1. Cwestiynau i’r Gweinidog Cyfiawnder Cymdeithasol: Sefydliadau Gofal Preswyl ( 6 Gor 2022)

Jane Dodds: 6. Pa asesiad y mae'r Gweinidog wedi'i wneud o allu plant a phobl ifanc mewn sefydliadau gofal preswyl sy'n cael eu rhedeg yn annibynnol i gael mynediad at eiriolwr annibynnol? OQ58301

4. Cwestiynau Amserol: Plant a Phobl Ifanc sy'n Derbyn Gofal ( 6 Gor 2022)

Jane Dodds: 1. A wnaiff y Gweinidog ddatganiad am nifer y plant a'r bobl ifanc sy'n derbyn gofal sydd wedi'u lleoli mewn llety heb ei reoleiddio a llety dros dro? TQ651

7. Dadl ar ddeiseb P-06-1277, 'Achub yr Adran Damweiniau ac Achosion Brys. Rhaid i Ysbyty Cyffredinol Llwynhelyg gadw gofal brys 24 awr, 7 diwrnod yr wythnos, dan arweiniad meddyg ymgynghorol' (29 Meh 2022)

Jane Dodds: A gaf innau hefyd ddiolch i’r Pwyllgor Deisebau am gyflwyno hyn? Adleisiaf eich pwyntiau, os caf, Gadeirydd, ynghylch y ffaith bod cau unrhyw ysbyty, unrhyw drawsnewid, unrhyw newid neu leoliad newydd yn peri pryder a heriau. Rwy'n rhoi cydbwysedd yma. Fe fyddaf yn onest, a dweud nad wyf wedi clywed galwadau uchel, o ran y bobl sydd wedi cysylltu â mi, o blaid cadw ysbyty Llwynhelyg, ond...

6. Dadl ar Adroddiad y Pwyllgor Iechyd a Gofal Cymdeithasol — 'Aros yn iach? Effaith yr ôl-groniad o ran amseroedd aros ar bobl yng Nghymru' (29 Meh 2022)

Jane Dodds: A gaf fi ddechrau drwy ddiolch, yn gyntaf, i'r pwyllgor, Russell George y cadeirydd, a chyfranogwyr am eu gwaith yn cyflwyno'r adroddiad hwn? Mae'n adroddiad pwysig iawn. Diolch yn fawr iawn. Ac a gaf fi groesawu rhaglen gofal wedi'i gynllunio y Llywodraeth a'r ymateb i'r adroddiad hefyd, a gyhoeddwyd yn gynharach eleni? Yn gyntaf, hoffwn dynnu sylw'n benodol at Fwrdd Iechyd Addysgu Powys, o...

2. Cwestiynau i’r Gweinidog Materion Gwledig a Gogledd Cymru, a’r Trefnydd: Stadiwm Valley Greyhounds (29 Meh 2022)

Jane Dodds: Diolch yn fawr am yr ateb hwnnw, Weinidog. Deallaf fod cyngor Caerffili wedi penderfynu peidio â pharhau â'r nifer presennol o archwiliadau lles anifeiliaid yn stadiwm Valley. O'r 10 archwiliad a drefnwyd, mae chwech wedi'u cwblhau, ond mae'n annhebygol y bydd y pedwar arall yn cael eu cynnal. Mae data gan Hope Rescue yn awgrymu bod llawer o gŵn yn cael eu hanafu ar y trac, a cheir...

1. Cwestiynau i’r Gweinidog Cyllid a Llywodraeth Leol: Blaenoriaethau Gwariant (29 Meh 2022)

Jane Dodds: Diolch, Weinidog. Hoffwn eich holi ynglŷn â'r cynnydd cynnar gyda bargen twf canolbarth Cymru. Deallaf fod rhai awdurdodau lleol, gan gynnwys Powys, yn pryderu am y diffyg cyllid sbarduno refeniw i roi hwb i’r prosiectau cyfalaf a nodwyd fel rhan o’u rhaglen a fyddai’n rhoi hwb gwirioneddol i’r cymunedau hynny ac i lywodraeth leol. Y rhwystredigaeth yw bod prosiectau’n dod i stop...

1. Cwestiynau i’r Gweinidog Cyllid a Llywodraeth Leol: Blaenoriaethau Gwariant (29 Meh 2022)

Jane Dodds: 2. Beth yw blaenoriaethau gwariant y Gweinidog ar gyfer Canolbarth a Gorllewin Cymru am y 12 mis nesaf? OQ58269. Diolch

2. Cwestiynau i’r Gweinidog Materion Gwledig a Gogledd Cymru, a’r Trefnydd: Stadiwm Valley Greyhounds (29 Meh 2022)

Jane Dodds: 4. A wnaiff y Gweinidog ddatganiad am ddyfodol stadiwm Valley Greyhound? OQ58270

4. Datganiad gan y Gweinidog Newid Hinsawdd: Diogelwch Adeiladau (28 Meh 2022)

Jane Dodds: Prynhawn da, Gweinidog. Mae'n ddrwg gennyf i y bydd yn rhaid i chi annerch y cylch hwn o bobl eto. Diolch am y datganiad, Gweinidog, a diolch i chi hefyd am gyfarfod â pherchnogion tai a minnau ychydig wythnosau'n ôl—rwy'n ddiolchgar iawn. Mae ychydig o faterion yr oeddwn i eisiau eu codi. Gwn i o ohebiaeth â chi a'ch swyddogion yn ystod yr wythnosau diwethaf eich bod chi i fod i...

3. Datganiad gan y Gweinidog Cyfiawnder Cymdeithasol: Cynllun Peilot Incwm Sylfaenol i’r Rhai sy’n Gadael Gofal (28 Meh 2022)

Jane Dodds: Diolch yn fawr iawn i chi, Gweinidog, a'r Gweinidog arall hefyd, y Dirprwy Weinidog, a'r bobl yn eich adran chi sydd wedi gweithio mor galed ar hwn. Fe allwn i siarad am oriau ar y pwnc hwn, ac rwy'n sylweddoli mai dim ond un munud sydd gennyf i, felly rwyf i am siarad yn gyflym iawn, iawn. Rwyf i'n llwyr gefnogi'r cynllun treialu hwn, fel y gwyddoch chi. Fe wnes i gyfarfod â grŵp o bobl...

1. Cwestiynau i'r Prif Weinidog: Cefnogi Dioddefwyr Cam-drin Domestig (28 Meh 2022)

Jane Dodds: A gaf i droi'r sylw yn ôl at blant ac amddiffyn plant? Maen nhw, fel yr ydych chi wedi ei ddweud, ac fel y mae Joyce wedi ei ddweud hefyd, yn ddioddefwyr eraill cam-drin domestig y mae angen i ni eu rhoi ar flaen ein meddyliau. Hoffwn dalu teyrnged i bawb sy'n gweithio i amddiffyn plant—ein bydwragedd, ein hymwelwyr iechyd, ein hathrawon ysgol, y rhai sy'n gweithio ym maes addysg, a'n...

1. Cwestiynau i'r Prif Weinidog: Cefnogi Dioddefwyr Cam-drin Domestig (28 Meh 2022)

Jane Dodds: Prynhawn da, Prif Weinidog. Gwych eich clywed chi ar y radio y bore yma hefyd. A gaf i hefyd ddweud 'diolch' wrth Joyce Watson am y gwaith y mae hi wedi ei wneud yn y maes yma?

7. Dadl ar Adroddiad y Pwyllgor Newid Hinsawdd, yr Amgylchedd a Seilwaith: Adroddiad Blynyddol ar Cyfoeth Naturiol Cymru (22 Meh 2022)

Jane Dodds: Diolch yn fawr, Jenny. Pwynt da iawn. Mae unedau dofednod dwys wedi cael caniatâd cynllunio ym Mhowys, ac ers nifer o fisoedd, ymhell cyn i'r weinyddiaeth newydd ym Mhowys gymryd yr awenau, rwyf wedi bod yn gofyn am effaith gronnol unedau dofednod dwys ar ein llygredd afonydd. Fodd bynnag, mae'n bwysig iawn ein bod yn glir. Mae yma dri mater sy'n codi, ac mae CNC a'r holl asiantaethau sy'n...

7. Dadl ar Adroddiad y Pwyllgor Newid Hinsawdd, yr Amgylchedd a Seilwaith: Adroddiad Blynyddol ar Cyfoeth Naturiol Cymru (22 Meh 2022)

Jane Dodds: Gwnaf wrth gwrs. Rwy'n ymddiheuro. Mae'n ddrwg gennyf, ni welais hynny.

7. Dadl ar Adroddiad y Pwyllgor Newid Hinsawdd, yr Amgylchedd a Seilwaith: Adroddiad Blynyddol ar Cyfoeth Naturiol Cymru (22 Meh 2022)

Jane Dodds: Dwi eisiau diolch i Llyr Gruffydd, a hefyd y pwyllgor, a hefyd swyddogion Cyfoeth Naturiol Cymru am eu gwaith. Mae Llyr, Huw a Delyth wedi cyffwrdd ar elfennau yn fy nghyfraniad.

7. Dadl ar Adroddiad y Pwyllgor Newid Hinsawdd, yr Amgylchedd a Seilwaith: Adroddiad Blynyddol ar Cyfoeth Naturiol Cymru (22 Meh 2022)

Jane Dodds: Oherwydd roeddwn eisiau canolbwyntio ar afonydd, ac rydym wedi clywed gan Huw a Delyth a Llyr am afonydd. Hoffwn sôn yn fyr am afon Gwy, sydd yn y rhanbarth rwy'n ei gynrychioli. Mae'n parhau i ddirywio, ynghyd ag Afon Wysg, sydd mewn cyflwr ofnadwy, ac ym mis Gorffennaf 2020, cafodd 45,000 o bysgod eu canfod yn farw yn afon Llynfi. Rwy'n arbennig o bryderus, fel y clywsom gan y cyfranwyr...

1. Cwestiynau i’r Gweinidog Newid Hinsawdd: Materion Cladin (22 Meh 2022)

Jane Dodds: Prynhawn da, Weinidog. Yr wythnos diwethaf, cynhaliais wylnos i nodi pum mlynedd ers i 72 o bobl golli eu bywydau yn nhân Tŵr Grenfell, a chollodd llawer mwy o bobl eu cartrefi hefyd. Roeddwn yn ddiolchgar i’r holl Aelodau o’r Senedd a’r ymgyrchwyr a ymunodd â ni. Tybed a gaf fi ofyn ynglŷn â mater sy’n ymwneud â’r berthynas rhwng Llywodraeth Cymru a’ch cyd-Aelodau yn San...

2. Cwestiynau i'r Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol: Deintyddion yng Nghanolbarth Cymru (15 Meh 2022)

Jane Dodds: Weinidog, dyma ni'n trafod dannedd eto. Fel llawer yn y Siambr hon, fe fyddwch yn gwybod fy mod wedi codi mater mynediad at ddeintyddiaeth dro ar ôl tro yng nghanolbarth a gorllewin Cymru dros y flwyddyn ddiwethaf. Rwy'n ddiolchgar i chi am yr arian i gefnogi deintydd ychwanegol yn Llandrindod, er, yn anffodus, ni chafwyd unrhyw ddatganiadau o ddiddordeb yn y rôl ers mis Chwefror. Weinidog,...

2. Cwestiynau i'r Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol: Gweithwyr Cymorth Gofal (15 Meh 2022)

Jane Dodds: Ddirprwy Weinidog, rwyf wedi clywed gan nifer o ofalwyr yn fy rhanbarth sydd o dan bwysau ariannol sylweddol ac nid ydynt yn siŵr a fyddant yn gallu parhau â'u gwaith yn y sector am nad yw eu cyflogau'n ddigon i dalu eu biliau, yn enwedig eu biliau tanwydd. Clywais yn ddiweddar gan weithiwr gofal cartref sydd wedi gweithio fel gofalwr ers dros 30 mlynedd. Mae'r gofalwr yn gwario £90 yr...

7. Dadl y Ceidwadwyr Cymreig: Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr ( 8 Meh 2022)

Jane Dodds: Rwyf wedi ymatal rhag gwneud sylw am y pryderon a godwyd hyd yma, ac rwyf bob amser yn wyliadwrus ynghylch trafod diwygio byrddau iechyd, yn enwedig o gofio'r tarfu sylweddol y byddai ad-drefnu'n ei gael yn sgil COVID-19. Mae Betsi yn un o dri bwrdd iechyd yn ein rhanbarth, ac er fy mod yn cael gwaith achos gan y byrddau iechyd eraill, rhaid dweud bod y rhai o ardal Betsi yn ddifrifol iawn yn...


<< < 6 7 8 9 10 11 12 13 14 15 > >>

Creu hysbysiad

Chwilio uwch

Dod o hyd i'r union air neu ymadrodd hwn

Gallwch hefyd wneud hyn o'r prif flwch chwilio drwy roi’r union eiriau mewn dyfyniadau: megis "seiclo" neu "adroddiad Hutton"

Rydyn ni'n dangos geiriau sy'n gysylltiedig â'ch term chwilio, megis “beic” a “beicio” wrth chwilio am seiclo yn ddiofyn. Er mwyn atal hyn, rhowch y gair mewn dyfyniadau, fel "seiclo"

Heb gynnwys y geiriau hyn

Gallwch hefyd wneud hyn o'r prif flwch chwilio trwy roi arwydd minws cyn geiriau nad ydych eisiau: fel hela -llwynog

Rydym hefyd yn cefnogi nifer o addasiadau chwilio Booleaidd, megis AND a NEAR, ar gyfer chwilio manwl.

Ystod o ddyddiadau

i

Gallwch roi dyddiad dechrau, dyddiad gorffen, neu'r ddau er mwyn cyfyngu canlyniadau i ystod o ddyddiadau penodol. Mae dyddiad gorffen coll yn awgrymu'r dyddiad presennol, ac mae dyddiad cychwyn coll yn awgrymu'r dyddiad hynaf sydd gennym yn y system. Gellir nodi'r dyddiadau ar unrhyw fformat y dymunwch, e.e. 3ydd Mawrth 2007 neu 17/10/1989

Person

Rhowch enw fan hyn i gyfyngu canlyniadau i gyfraniadau gan y person hwnnw yn unig.

Adran

Cyfyngu canlyniadau i senedd neu gynulliad penodol yr ydym yn cynnwys (e.e. Senedd yr Alban), neu fath arbennig o ddata o fewn sefydliad, megis Atebion Ysgrifenedig Tŷ'r Cyffredin.

Colofn

Pe baech yn gwybod y rhif colofn Hansard cywir o'r wybodaeth y mae gennych ddiddordeb ynddo (efallai eich bod yn edrych ar gyfeiriad papur), gallwch gyfyngu canlyniadau i hynny ; Gallwch hefyd ddefnyddio column:123 yn y prif flwch chwilio.