Alun Davies: Diolch am eich ymatebion, Weinidog. Mae'n bwysig ein bod yn cydnabod yr hyn sy'n digwydd yn ysbyty'r Faenor, yn hytrach na gwrando ar sïon. Cafwyd rhai llwyddiannau sylweddol yn sgil canoli gwasanaethau yn ysbyty'r Faenor, ac rwyf wedi siarad ag etholwyr dros yr wythnos ddiwethaf sydd wedi cael triniaethau rhagorol ac sydd wedi cael lefelau gwych o ofal yn ysbyty'r Faenor. Credaf ei bod yn...
Alun Davies: Rwy'n ddiolchgar ichi am hynny, Weinidog. Rydym i gyd eisiau i blant edrych ymlaen at eu gwyliau. Rydym eisiau iddynt edrych ymlaen at dreulio amser gyda'u teuluoedd. Rydym eisiau iddynt edrych ymlaen at allu ymlacio heb ofal yn y byd, a gallu mwynhau eu hunain dros gyfnod y gwyliau. Mae'n drasiedi lwyr—mae'n drasiedi lwyr—fod yna blant yr ydych chi'n eu cynrychioli, rwyf fi'n eu...
Alun Davies: 7. Pa gymorth y mae'r Gweinidog yn ei roi ar waith i gefnogi disgyblion sy'n byw mewn tlodi dros wyliau ysgol y Pasg? OQ57885
Alun Davies: Gallai fod wedi bod fy mhlant, a bod yn deg, Llywydd. [Chwerthin.] Rwyf yn siarad o blaid y Llywodraeth a'r cynnig sy'n cael ei wneud y prynhawn yma. I ddechrau lle daeth Rhys ab Owen i'w gasgliad, wrth gwrs nid yw yn ein pŵer i roi cydsyniad ar gyfer y ddeddfwriaeth hon i gyd. Dyma ddeddfwriaeth San Steffan sydd wedi'i chynllunio'n bennaf ac yn gyffredinol ar gyfer etholiadau'r DU ac...
Alun Davies: Mae'n dipyn o beth i Lee Waters ddweud wrthyf i am fod yn gryno, onid yw? Rydych chi'n dweud bod angen i chi fod â hyn ar y llyfr statud cyn gynted â phosibl, ond mae arnaf i ofn, Gweinidog, nad yw'n wir. Mae gweithdrefnau ar waith yn y Senedd i alluogi'r Llywodraeth i gyflawni ei busnes yn gyflymach pan fo angen hynny, ac mae'r Senedd bob amser wedi mabwysiadu ymagwedd bragmatig iawn at...
Alun Davies: Dyna yr oeddwn yn arwain ato, yn ffodus, Llywydd. Un o'r anawsterau, wrth gwrs, o gyfrannu o leoliad anghysbell yw na allwch chi weld na chlywed beth sy'n digwydd yn y Siambr, ac rwy'n credu bod hynny'n rhywbeth y mae angen i ni ei ystyried. Gweinidog, rydych chi wedi ein rhoi mewn sefyllfa amhosibl y prynhawn yma. Rydych chi wedi dal gwn i'n pennau, ac er y bydd gennych chi ein cefnogaeth,...
Alun Davies: Mae Aelodau'n cael eu rhoi mewn sefyllfa warthus y prynhawn yma gan y Llywodraeth, ac roedd y Dirprwy Weinidog yn cydnabod hynny, rwy'n credu, yn y cywair a ddefnyddiodd a'r geiriau a ddefnyddiodd er mwyn cyflwyno'r ddadl hon, oherwydd pryd bynnag y gofynnir i ni drafod cynigion cydsyniad deddfwriaethol, rydym yn gwneud dau beth, onid ydym? Mae Gweinidogion yn canolbwyntio ar y cynnwys, ar y...
Alun Davies: Mae'n fraint wirioneddol cael ymuno â'r ddadl hon a dilyn cyfraniadau mor gryf a phwerus i'r Senedd hon sydd ynddi'i hun yn rhan o gontinwwm ein hanes. Rydym yn sôn am ein capeli a'n heglwysi, ond gallwn hefyd siarad am ein synagogau, ein mosgiau a'n temlau, rhan o wead yr hyn ydym ni. A phan feddyliaf am ein hanes crefyddol, rwyf innau hefyd, fel eraill yma heddiw, yn meddwl am ein hanes...
Alun Davies: Mae’r haelioni a ddangoswyd gan bobl yng Nghymru, ledled y Deyrnas Unedig a ledled cyfandir Ewrop yn cyferbynnu’n eithaf siomedig â dull crintachlyd Llywodraeth y Deyrnas Unedig o weithredu. Weinidog, pa effaith a gaiff y Bil Cenedligrwydd a Ffiniau ar ein gallu i estyn cymorth i deuluoedd o Wcráin? Fe fyddwch yn ymwybodol fod ASau Torïaidd yn Nhŷ’r Cyffredin wedi pleidleisio ddoe i...
Alun Davies: Rwy'n ddiolchgar, Dirprwy Lywydd. Rwy'n ddiolchgar i'r Gweinidog hefyd am ei ddatganiad ac yr wyf i wedi bod yn mwynhau'r drafodaeth sy'n digwydd yma, ond gwelaf i fod y drafodaeth yn ymwneud â'r hyn y mae'r Llywodraeth yn ei wneud, ac nid oes neb wedi gofyn, 'Pam mae'r Llywodraeth yn gwneud hyn?' Tybed a yw'r Llywodraeth wedi gofyn y cwestiwn hwnnw ei hun, oherwydd yr wyf i wedi edrych drwy...
Alun Davies: A dweud y gwir, credaf fod Llywodraeth Cymru wedi gwneud cryn dipyn dros y blynyddoedd i gyflawni hynny, ac mae’n rhaid imi ddweud, credaf fod gan Lywodraeth Cymru strwythurau cymorth pwysig ar waith ar hyn o bryd sy’n cyflawni ar ran cyn-filwyr a'u teuluoedd yn ogystal â phersonél sy'n gwasanaethu. Credaf fod pethau y gall y Llywodraeth eu gwneud i wella ei darpariaeth a’i...
Alun Davies: Rwy'n ddiolchgar i chi, Lywydd dros dro; rwy'n ddiolchgar i Mark Isherwood hefyd am y ffordd y mae wedi agor y ddadl hon. Byddwn yn cytuno â llawer o'i gyfraniad. Credaf y byddwn i gyd yn rhannu'r un ymdeimlad o wasanaeth i'r wlad hon ac i'n pobl. Felly, credaf ein bod i gyd yn cydnabod aberth y genhedlaeth a ddisgrifiwyd ganddo yn ei sylwadau agoriadol. A chredaf ein bod i gyd yn rhannu'r...
Alun Davies: Diolch yn fawr am yr ymateb hwnnw, Weinidog. Gwn fod Aelodau ar bob ochr i'r Siambr eisoes wedi mynegi eu hundod â phobl Wcráin a byddant yn parhau i estyn allan at bobl yn Wcráin i fynegi'r gefnogaeth a'r undod hwnnw drwy gydol yr wythnosau a'r misoedd nesaf. A gwn y bydd Aelodau hefyd ar bob ochr i'r Siambr hon yn estyn allan atoch chi, Gwnsler Cyffredinol, yn y ffordd yr ydych wedi...
Alun Davies: Diolch, Weinidog. Gofynnais i chi am y costau byw; wrth gwrs, yr hyn y dylwn fod wedi gofyn i chi yn ei gylch oedd yr argyfwng costau byw Torïaidd. Nid damwain yw hyn, nid gweithred gan Dduw, ond canlyniad polisi bwriadol i greu rhagor o dlodi ymhlith y rhai mwyaf agored i niwed yn y wlad hon. Cawsom ddegawd o gyni, a fethodd gyflawni pob amcan a osodwyd ar ei gyfer, ac mae gennym bellach...
Alun Davies: 2. A wnaiff y Gweinidog ddatganiad am fentrau Llywodraeth Cymru i gynorthwyo aelwydydd gyda'r cynnydd parhaus mewn costau byw? OQ57805
Alun Davies: 2. Pa gyngor cyfreithiol y mae'r Cwnsler Cyffredinol wedi'i roi i Lywodraeth Cymru ynghylch unrhyw gymorth y gall ei roi i ymchwiliad y Llys Troseddol Rhyngwladol i droseddau rhyfel y tybir bod lluoedd Rwsia wedi'u cyflawni yn Wcráin? OQ57802
Alun Davies: Rwyf yn ddiolchgar i chi, Dirprwy Lywydd, ac yn ddiolchgar i'r Gweinidog hefyd am y cyflwyniad a roddodd y prynhawn yma ac am ymddangos o flaen ein pwyllgor fis Rhagfyr diwethaf. Yn ogystal â'i ymddangosiad ym mis Rhagfyr, mae wedi ymateb i nifer o ymholiadau ychwanegol drwy ohebiaeth ac rydym hefyd yn ddiolchgar iddo am hynny. Y prynhawn yma, Dirprwy Lywydd, rwy'n cyfrannu at y ddadl hon ar...
Alun Davies: Gweinidog, rwyf i wedi gofyn o'r blaen am ddatganiad ar y gallu i fanteisio ar ddeintyddiaeth. Hoffwn i ailadrodd y cais hwnnw y prynhawn yma, a gofyn hefyd am ddadl ar ddyfodol gwasanaethau deintyddol. Rwy'n falch bod y Gweinidog iechyd yn y Siambr yn ei lle ar gyfer y sesiwn hon. Rwyf i wedi cael gohebiaeth gan ddeintyddion yn fy etholaeth i fy hun sy'n pryderu'n eithriadol am y mater o...
Alun Davies: Rwy'n ddiolchgar i'r Prif Weinidog, ac rwyf innau'n edrych ymlaen hefyd at ei groesawu yn ôl i Flaenau Gwent. Mae'r ymrwymiad i brosiect y Cymoedd Technoleg ym Mlaenau Gwent, yn ein maniffesto, ac yn y rhaglen lywodraethu, yn fwy, Prif Weinidog, na buddsoddiad yn y fwrdeistref yn unig; mae'n ymrwymiad i'r bobl a'r cymunedau ym Mlaenau'r Cymoedd. Wrth i Lywodraeth Cymru barhau i fuddsoddi yn...
Alun Davies: 1. A wnaiff y Prif Weinidog ddatganiad ar ddyfodol rhaglen y Cymoedd Technoleg? OQ57800