Paul Davies: Dwi'n falch o gael y cyfle i gyfrannu at y ddadl hon y prynhawn yma, a dwi'n ddiolchgar i Luke Fletcher am arwain y drafodaeth. Dwi'n falch o ymuno ag Aelodau o bob rhan o'r Siambr i alw ar Lywodraeth Cymru i helpu i gefnogi pobl sy'n byw gyda dementia yn well. Ar hyn o bryd, amcangyfrifir bod tua 1,300 o bobl yn byw gyda dementia ym Mhreseli Sir Benfro, a thra bod y bobl hynny yn byw yn y...
Paul Davies: Weinidog, yr wythnos diwethaf heriais y Prif Weinidog ynglŷn â gwasanaethau ambiwlans yn sir Benfro, ac fe'm cyhuddodd o ledaenu sibrydion di-sail, ac nid yw hynny'n wir o gwbl. Oherwydd daw'r sylwadau a gefais ar y mater hwn gan weithwyr rheng flaen y gwasanaeth brys yn sir Benfro sy'n pryderu'n fawr am argymhellion i leihau'r gwasanaeth ambiwlans lleol a'r effaith y byddai'r argymhellion...
Paul Davies: Wel, oes, mae angen inni weld a chlywed mwy gennych, Weinidog, a gweld beth yw eich strategaeth yn y dyfodol wrth inni ddod allan o'r pandemig. Nawr, Weinidog, mae adroddiad Mynegai Ffyniant y Deyrnas Unedig ar gyfer 2021 yn dweud bod rhai ardaloedd o'r DU 'yn wynebu heriau arbennig o sylweddol o ran cynhyrchiant, cystadleurwydd a deinamigrwydd', ac yn anffodus, mae Cymru'n un o'r ardaloedd...
Paul Davies: Ond Weinidog, wrth inni gefnu ar y pandemig, mae'n rhaid i Lywodraeth Cymru gyhoeddi ei strategaeth yn awr ar gyfer cefnogi busnesau. Mae'r rhaglen lywodraethu'n honni ei bod yn cefnogi busnesau Cymru i greu swyddi newydd, dod o hyd i farchnadoedd allforio newydd a buddsoddi yn niwydiannau gwyrdd cynaliadwy y dyfodol. Ond Weinidog, ychydig iawn o dystiolaeth a gafwyd bod y gweithgarwch hwn yn...
Paul Davies: Diolch, Lywydd. Weinidog, ar ôl blwyddyn a hanner, fel y gwyddoch, mae'r cynllun cadw swyddi drwy gyfnod y coronafeirws bellach yn dod i ben. Nawr, mae'r cynllun ffyrlo wedi bod yn gymorth aruthrol i filoedd o fusnesau a phobl ledled Cymru drwy gydol y pandemig, ac wrth i'r cynllun hwnnw ddirwyn i ben yn awr, bydd rhai busnesau a chyflogwyr yn wynebu heriau difrifol iawn. Wrth gwrs, bydd...
Paul Davies: Diolch am eich ymateb. Fe sonioch am Gyngor Sir Penfro. Yn amlwg, mae eu strategaeth adfywio ar gyfer 2020-2030 yn nodi'n glir iawn fod yr economi leol yn ddibynnol iawn ar rai sectorau, megis twristiaeth. Ond er y nifer fawr o ymwelwyr, nid oes gan y prif drefi gynnig bywiog o ran manwerthu na hamdden ac mewn termau economaidd maent yn dal i ddirywio. Yn wir, mae'r strategaeth hefyd yn nodi,...
Paul Davies: 1. Beth yw blaenoriaethau economaidd Llywodraeth Cymru ar gyfer Preseli Sir Benfro ar gyfer y 12 mis nesaf? OQ56902
Paul Davies: 1. A wnaiff y Gweinidog ddatganiad am ddarparu gwasanaethau iechyd yn ardal Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda? OQ56904
Paul Davies: Diolch, Dirprwy Lywydd. Efallai y byddai'n syndod i'r Gweinidog fy mod yn dechrau ar nodyn o gytundeb ag ef ynghylch y diffyg cyflymder wrth ymateb i geisiadau sydd wedi'u cyflwyno i'r gronfa adnewyddu cymunedol. Mae angen i ni weld llawer mwy o gynnydd. Nawr, mae'r datganiad heddiw yn galw am ragor o wybodaeth a manylion gan Lywodraeth y DU, ac, er tegwch, os yw'r arian i gael ei ddarparu'n...
Paul Davies: Nid wyf i'n eglur o hyd o'ch ateb, Prif Weinidog, a fyddwch chi'n cyflwyno cynllun i ymdrin â phwysau'r gaeaf, felly efallai yr hoffech chi ymateb ar ôl i mi eistedd i lawr. Y gwir amdani yw bod y Llywodraeth, ar ôl 22 mlynedd o reolaeth Llafur Cymru, wedi rhedeg allan o syniadau ar sut i reoli'r GIG, wedi rhedeg allan o syniadau ar sut i ysgogi arloesedd a hybu'r economi, ac wedi rhedeg...
Paul Davies: Wel, yn amlwg, mae AS Cwm Cynon yn anghytuno â chi, Prif Weinidog, ac nid yw'n anodd gweld sut mae eich cydweithiwr wedi dod i'r casgliad nad oes gennych chi unrhyw bolisïau radical na blaengar. Yr wythnos diwethaf, parhaodd pobl yng Nghymru i aros am driniaethau GIG mewn wythnos pan gafodd y perfformiadau aros gwaethaf erioed eu cofnodi gan unedau damweiniau ac achosion brys ysbytai Cymru....
Paul Davies: Diolch, Llywydd. Prif Weinidog, ar raglen Sunday Politics y BBC dros y penwythnos, dywedodd AS Cwm Cynon, Beth Winter, fod diffyg polisïau blaengar radical yn y Blaid Lafur. A ydych chi'n cytuno â hi?
Paul Davies: Prif Weinidog, yn 2014, yn rhinwedd eich swydd fel y Gweinidog iechyd ar y pryd, fe wnaethoch chi gau yr uned gofal arbennig i fabanod yn Ysbyty Cyffredinol Llwynhelyg, ac fe wnaethoch chi wrthod honiadau bryd hynny y gallai effeithio ar gynaliadwyedd gwasanaethau eraill. Ac eto, efallai eich bod chi wedi gweld adroddiadau y bydd asesiadau brys pediatrig yn cael eu tynnu o ysbyty Llwynhelyg...
Paul Davies: 2. A wnaiff y Prif Weinidog ddatganiad am wasanaethau brys yn sir Benfro? OQ56863
Paul Davies: Rhan gyntaf fy nghynnig deddfwriaethol yw i Lywodraeth Cymru, drwy awdurdodau lleol, lunio rhestr genedlaethol gyfoes o gofebion rhyfel Cymru. Gwn fod peth gwaith wedi'i wneud ar hyn gan Cadw drwy raglen Cymru'n Cofio, ond mae mor bwysig fod y data diweddaraf yn cael ei gofnodi a'i fonitro'n rheolaidd i gadarnhau nifer a lleoliad cofebion rhyfel yng Nghymru. Credaf y gellid gwneud hyn orau...
Paul Davies: Diolch, Lywydd, ac rwyf wedi cytuno i roi munud i Peter Fox a James Evans—
Paul Davies: Diolch, Lywydd, ac rwyf wedi cytuno i roi munud o fy amser i Peter Fox a James Evans yn y ddadl hon. Mae'r ddadl heddiw yn arbennig o ingol gan ei bod yn Ddiwrnod Brwydr Prydain ac rydym yn anrhydeddu gwaddol y criwiau awyr dewr a amddiffynnodd Brydain yn erbyn gorthrwm. Nawr, mae'r ymgyrch i ddiogelu cofebion rhyfel ledled Cymru wedi bod yn un rwyf wedi bod yn falch o'i harwain ers sawl...
Paul Davies: Diolch am eich ateb, Weinidog, ac rwy'n falch iawn eich bod wedi mwynhau sioe sir Benfro ychydig wythnosau'n ôl. Nawr, fel y clywsom eisoes ar lawr y Siambr hon heddiw, mae TB mewn gwartheg yn parhau i fod yn fygythiad sylweddol i ffermwyr yng Nghymru, gan gynnwys ffermwyr yn sir Benfro, ac er gwaethaf eu hymdrechion i'w ddileu drwy fesurau'n seiliedig ar wartheg, mae'n parhau i roi straen...
Paul Davies: 8. Beth y mae Llywodraeth Cymru yn ei wneud i gefnogi ffermwyr yn Sir Benfro? OQ56808
Paul Davies: Trefnydd, hoffwn i alw am ddatganiad gan y Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol ar wasanaeth ambiwlans Cymru. Rwy'n deall bod gwasanaeth ambiwlans Cymru yn cynnal adolygiad Cymru gyfan o restrau ar hyn o bryd, ac rwyf i wedi cael sylwadau gan staff pryderus y GIG ynghylch cynlluniau ar gyfer y gwasanaeth yn fy ardal i, yn sir Benfro. Y cynlluniau ar hyn o bryd yw lleihau nifer yr...