John Griffiths: Diolch, Lywydd. Mae'r diwydiant dur yn parhau i fod yn gryfder gwirioneddol i Gymru, ac wrth gwrs, mae'n ddiwydiant strategol, felly mae’n bwysig i weithgynhyrchu ac adeiladu, er enghraifft. Hoffwn gael sicrwydd gan y Gweinidog, ac rwy’n siŵr y bydd yn barod i’w roi, y bydd cefnogi’r diwydiant dur yng Nghymru yn parhau i fod yn flaenoriaeth i Lywodraeth Cymru, yn ogystal â sicrhau...
John Griffiths: Byddwn i'n ddiolchgar am eglurhad o'r rheoliadau, Gweinidog, yn ysgrifenedig o bosibl maes o law. Codwyd materion gyda mi gan Harriers Casnewydd ynglŷn ag athletau ieuenctid ac a ganiateir cyfarfodydd cynghrair datblygu ieuenctid o fewn y rheoliadau, a hefyd a yw rhieni yn gallu bod yn bresennol yn y cyfarfodydd hynny. Mae Harriers Casnewydd yn defnyddio stadiwm awyr agored, a byddwn i'n...
John Griffiths: Prif Weinidog, mae canol ein dinasoedd a'n trefi yn bwysig iawn ar gyfer gweithgarwch economaidd a swyddi, ac yn bwysig iawn mewn ffyrdd eraill, fel lleoedd i bobl gyfarfod, o ran yr ymdeimlad hwnnw o falchder lleol ac, yn wir, ymdeimlad o les. Yng Nghasnewydd, fel mewn lleoedd eraill ledled y DU, rydym yn wynebu llawer o heriau yn sgil newidiadau mewn arferion siopa manwerthu i ddigwydd...
John Griffiths: 2. Beth yw blaenoriaethau economaidd uniongyrchol Llywodraeth Cymru ar gyfer tymor y Senedd hon? OQ56527
John Griffiths: Diolch, Lywydd. Hoffwn longyfarch y Prif Weinidog ar gael ei ailbenodi a'i benodiadau gweinidogol, ac rwy'n croesawu hefyd yr ymdeimlad o frys a bwysleisiodd o ran llywodraethu Cymru a rhoi'r rhaglen lywodraethu ar waith. Credaf fod y ffaith fod gennym bellach Weinidog Cyfiawnder Cymdeithasol yn ogystal ag adran newid hinsawdd gwerth chweil, yn cynnwys trafnidiaeth a thai, yn cyd-fynd yn fawr...
John Griffiths: Weinidog, un mater pwysig yw iechyd meddwl dynion a'u tuedd i beidio â siarad am eu teimladau a'u problemau, fel rydym wedi'i drafod droeon. Felly, mae'n bwysig cyrraedd dynion gyda'r negeseuon cywir drwy amrywiaeth o ddulliau a sefydliadau, a chael modelau rôl da wrth gwrs. O ystyried proffil a chyrhaeddiad pêl-droed proffesiynol, rwy'n credu bod rhan gref gan ein clybiau i'w chwarae, ac...
John Griffiths: Weinidog, mae anghydraddoldebau iechyd yn y DU a Chymru yn peri cryn bryder. Mae dynion yn y cymunedau mwyaf difreintiedig yn byw 10 mlynedd yn llai ar gyfartaledd na'r rheini yn y cymunedau lleiaf difreintiedig, ac i fenywod, mae'r gwahaniaeth bron yn wyth mlynedd. Ac o ran blynyddoedd iach bywyd, mae'r gwahaniaeth bron yn 19 mlynedd, ac mae hynny'n wir am y ddau ryw. Felly, gyda'r math...
John Griffiths: 3. Pa gamau pellach y bydd Llywodraeth Cymru yn eu cymryd i fynd i'r afael ag anghydraddoldebau iechyd yng Nghymru? OQ56499
John Griffiths: 4. Beth yw polisïau Llywodraeth Cymru i adeiladu partneriaethau ar gyfer iechyd meddwl da yng Nghymru? OQ56497
John Griffiths: Rwy'n croesawu'r cynllun gweithredu yn fawr iawn, Gweinidog, ac rwy'n derbyn yn llwyr y pwynt yr ydych wedi ei wneud, ac y mae cynifer o'r rhanddeiliaid wedi ei wneud, yn gyson dros gyfnod o amser, y bu llawer o nodi problemau, ond dim hanner digon o weithredu i fynd i'r afael â nhw, ac rwyf i'n credu mai dyna pam y mae cynllun gweithredu i'w groesawu gymaint. Fel yr ydych wedi ei ddweud,...
John Griffiths: Rydym ni eisoes wedi clywed, Gweinidog, sut mae adroddiad Burns yn cynnig glasbrint ar gyfer y math o system drafnidiaeth integredig y mae angen i ni symud tuag ati, ac rwy'n hoffi'r glasbrint hwnnw yn fawr. Rwy'n awyddus iawn i weld creu'r gorsafoedd rheilffordd newydd a fwriedir yn Nwyrain Casnewydd fel gorsaf rhodfa Magwyr, y gwn eich bod yn gyfarwydd â hi ac sy'n arloesol iawn, a hefyd...
John Griffiths: Nid oeddwn i wedi rhoi fy enw i gerbron ar gyfer yr eitem hon, mewn gwirionedd, Llywydd.
John Griffiths: Pa gamau y mae Llywodraeth Cymru yn eu cymryd i sicrhau bod chwaraeon a gweithgarwch corfforol yn chwarae rhan lawn yn y gwaith o helpu Cymru drwy'r pandemig a thu hwnt?
John Griffiths: Pa gamau pellach y bydd Llywodraeth Cymru yn eu cymryd i gynyddu nifer yr ardaloedd gwyrdd mewn dinasoedd a threfi ledled Cymru?
John Griffiths: Diolch yn fawr, Prif Weinidog. Mae'r diwydiant dur yn parhau i fod yn rhan bwysig iawn o economi Casnewydd, gyda Tata Steel yn Llanwern, er enghraifft, a hefyd, wrth gwrs, Liberty Steel ym Mrynbuga. Rydym ni'n gwybod, Prif Weinidog, os yw'r DU yn ei chyfanrwydd yn mynd i gael y math o ddyfodol diwydiannol y mae'n ei haeddu, bod yn rhaid i ddur chwarae rhan bwysig yn hynny fel sector...
John Griffiths: 3. Pa gamau pellach y bydd Llywodraeth Cymru yn eu cymryd i wireddu potensial economaidd Casnewydd yn llawn? OQ56414
John Griffiths: Mae sefydliadau fel Kaleidoscope, sy'n gweithio fel rhan o brosiect cyffuriau ac alcohol Gwent, yn pryderu am yr anawsterau i sicrhau bod nifer dda o ddefnyddwyr gwasanaethau'n manteisio ar frechiadau. Mae gan eu gweithwyr rheng flaen berthynas gref iawn o ymddiriedaeth â'r defnyddwyr gwasanaeth hynny. Maent mewn cysylltiad rheolaidd â hwy ac yn deall anawsterau ffyrdd o fyw cythryblus....
John Griffiths: 5. Pa waith sy'n cael ei wneud gan Lywodraeth Cymru yn ystod y pandemig mewn partneriaeth â byrddau iechyd lleol, cynghorau ac elusennau i gefnogi'r rhai sy'n camddefnyddio sylweddau? OQ56328
John Griffiths: Gweinidog, gwyddom fod y pandemig wedi cyflymu tueddiadau sy'n bodoli eisoes sy'n ei gwneud hi'n anodd iawn i ganol ein trefi a'n dinasoedd ffynnu. Mae llawer gormod o siopau gwag, gan gynnwys siopau gwag mawr fel siop Debenhams yng Nghasnewydd ar hyn o bryd, a gwyddom fod angen inni barhau â'n hymdrechion i arallgyfeirio ac adfywio'r adeiladau hynny yng nghanol y ddinas, a chreu diben...
John Griffiths: Gweinidog, mae'r broses o gyflwyno'r brechlyn yn mynd rhagddi'n effeithiol ac yn effeithlon iawn, ac rydym ni i gyd yn ddiolchgar iawn am hynny ond, yn amlwg, mae angen i gymaint â phosibl fanteisio ar y brechlyn os ydym ni am ddiogelu Cymru fel y byddem ni'n dymuno ei wneud. Mae pethau'n mynd yn dda, yn gyffredinol, ond mae yna rai bylchau, ac rydych chi wedi cyfeirio eisoes at leiafrifoedd...