Canlyniadau 181–200 o 10000 ar gyfer speaker:Lesley Griffiths OR speaker:Lesley Griffiths OR speaker:Lesley Griffiths

1. Cwestiynau i'r Prif Weinidog: Costau Byw ( 7 Chw 2023)

Lesley Griffiths: Diolch, rydych chi'n codi pwynt pwysig iawn, a gwn fod y Gweinidog Cyfiawnder Cymdeithasol, yr wythnos nesaf, yn cyfarfod â chwmnïau gorfodi i gyflwyno'r union bwynt hwnnw rydych chi'n ei wneud, ac rwy'n siŵr y bydd y Gweinidog yn hapus iawn i gyhoeddi datganiad ysgrifenedig yn dilyn y cyfarfodydd hynny.

1. Cwestiynau i'r Prif Weinidog: Costau Byw ( 7 Chw 2023)

Lesley Griffiths: Rydyn ni'n parhau i gynorthwyo pobl agored i niwed ledled Cymru, gan gynnwys y rhai yn Nwyrain De Cymru, i helpu i liniaru'r argyfwng costau byw. Mae'r mentrau'n cynnwys ein cyflog cymdeithasol hael, ehangu ein cynnig gofal plant, ein cynnig prydau ysgolion cynradd am ddim cyffredinol, ac adolygu'r cynllun lleihau'r dreth gyngor i'w wneud yn decach.

1. Cwestiynau i'r Prif Weinidog: Iechyd Galwedigaethol ( 7 Chw 2023)

Lesley Griffiths: Diolch. Fe wnes i nodi sylwadau diweddar y Canghellor yn annog pobl hŷn i ddychwelyd i'r farchnad lafur. Nid yw rhai ohonom ni erioed wedi gadael. Ac rwy'n credu bod pryder, pryder gwirioneddol, am nifer y bobl dros 50 oed sydd wedi gadael y farchnad lafur yn gymharol gynnar. Rydych chi'n gwneud pwynt pwysig iawn o ran y ddarpariaeth iechyd galwedigaethol ac, yn sicr, mae Llywodraeth Cymru...

1. Cwestiynau i'r Prif Weinidog: Iechyd Galwedigaethol ( 7 Chw 2023)

Lesley Griffiths: Diolch. Ar y cyd â rhaglen Cymru Iach ar Waith, bydd gwasanaeth cymorth mewn gwaith newydd yn dechrau ym mis Ebrill 2023. Bydd hwn yn darparu cymorth galwedigaethol a therapiwtig i weithwyr aros mewn cyflogaeth neu ddychwelyd i gyflogaeth sy'n absennol o'r gwaith neu mewn perygl o fod yn absennol oherwydd eu salwch corfforol neu feddyliol.

1. Cwestiynau i'r Prif Weinidog: Lles Anifeiliaid ( 7 Chw 2023)

Lesley Griffiths: Jane, mae'n ddrwg iawn gen i glywed am Arthur. Cafodd dair blynedd wych gyda chi. Rwy'n gwybod hynny'n bendant. Ac os gallwn ni wneud rhywbeth er cof am Arthur, byddwn yn sicr yn gwneud hynny. Fel y gwyddoch, mae hyn yn rhywbeth yr wyf i wedi bod yn edrych arno'n fanwl iawn. Rydyn ni wedi cael adroddiad y Pwyllgor Deisebau ar wahardd rasio milgwn, ac, fel y gwyddoch, mae fy swyddogion wedi...

1. Cwestiynau i'r Prif Weinidog: Lles Anifeiliaid ( 7 Chw 2023)

Lesley Griffiths: Diolch. Fel y gwyddoch, rydym ni wedi cael achosion parhaus o ffliw adar ledled y DU dros yr 16 i 17 mis diwethaf bellach. Rydych chi yn llygad eich lle, mae'n rhywbeth y mae swyddogion yn gweithio'n agos iawn arno o ran y canfyddiadau gan APHA oherwydd nid wyf i'n credu ei fod yn rhywbeth yr ydym ni wedi ei weld—yn sicr doeddwn i ddim wedi bod yn ymwybodol ohono mae'n debyg bum mlynedd yn...

1. Cwestiynau i'r Prif Weinidog: Lles Anifeiliaid ( 7 Chw 2023)

Lesley Griffiths: Byddwn, yn sicr, byddwn yn fwy na pharod i gyfarfod â chi. Roedd gen i un yn fy etholaeth fy hun hefyd—bu ymosodiad angheuol gan gi yn fy etholaeth fy hun—a chyn i Julie Morgan ymuno â'r Llywodraeth, rwy'n cofio cael sawl cyfarfod gyda hi a chynghorydd lleol yng Nghaerdydd ynghylch hyn. Mae hyn yn rhywbeth y mae wir angen mynd i'r afael ag ef. Fel rydych chi'n dweud, nid yw'r Ddeddf...

1. Cwestiynau i'r Prif Weinidog: Lles Anifeiliaid ( 7 Chw 2023)

Lesley Griffiths: Diolch. Cyhoeddwyd diwygiadau i'n canllawiau statudol ar gyfer Rheoliadau Lles Anifeiliaid (Bridio Cŵn) (Cymru) 2014. Bydd cyflwyno rheoliadau lles anifeiliaid newydd yn cael ei flaenoriaethu dros ddiwygio rheoliadau presennol yn ystod cyfnod y cynllun. 

1. Cwestiynau i'r Prif Weinidog: Gwelyau Gofal Llai Dwys ( 7 Chw 2023)

Lesley Griffiths: Wel, fe wnaethoch chi ddefnyddio'r gair pwysig iawn, a 'diogel' oedd hwnnw, a dyna'n sicr yw'r flaenoriaeth. Ar 5 Ionawr, cynhaliodd swyddogion y Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol uwchgynhadledd ryddhau genedlaethol gyda'r holl fyrddau partneriaeth rhanbarthol ledled Cymru, i ailadrodd ei disgwyliadau i bob ymdrech gael ei gwneud i gadw pobl gartref a pheidio â'u derbyn i'r ysbyty...

1. Cwestiynau i'r Prif Weinidog: Gwelyau Gofal Llai Dwys ( 7 Chw 2023)

Lesley Griffiths: Diolch. Fel y mae'r Aelod yn gwybod, mae'r pwyslais ar gyfer iechyd a gofal cymdeithasol yng Nghymru ar gryfhau ein gwasanaethau cymunedol. Rydyn ni eisiau i bobl fyw gartref, mor annibynnol â phosibl ac am gyhyd â phosibl. Er ei fod yn anodd dros ben, rwy'n credu bod darlun sy'n dod i'r amlwg o well llif cleifion ac arosiadau o lai o hyd i rai o'n cleifion hynaf a mwyaf eiddil, ac mae...

1. Cwestiynau i'r Prif Weinidog: Gwelyau Gofal Llai Dwys ( 7 Chw 2023)

Lesley Griffiths: Gan weithio gyda Llywodraeth Cymru, mae gan Fwrdd Iechyd Prifysgol Cwm Taf Morgannwg a Chyngor Bwrdeistref Sirol Pen-y-bont ar Ogwr 48 o welyau gofal llai dwys a phecynnau cymunedol ar draws Pen-y-bont ar Ogwr. Mae hyn yn cyfrannu at y cyfanswm Cymru gyfan o 595 o welyau sydd wedi cael eu creu i gynorthwyo'r broses o ryddhau pobl o'r ysbyty y gaeaf hwn.

1. Cwestiynau i'r Prif Weinidog: Datblygiad Adeiladau'r Frenhines yn y Rhyl ( 7 Chw 2023)

Lesley Griffiths: Wel, mae'n drueni bod Llywodraeth y DU wedi methu â chefnogi'r cais am gyllid ffyniant bro i gynorthwyo'r Rhyl. Mae'r prosiectau oferedd hynny yr ydych chi'n cyfeirio atyn nhw wir wedi gweddnewid y Rhyl yn fy marn i. Mae'n dref yr wyf i wedi ei hadnabod yn llawer hwy na chi, ar ôl treulio diwrnodau lawer yno fel plentyn, ac rwy'n credu ei bod wedi elwa, heb amheuaeth, ar y cyllid gan...

1. Cwestiynau i'r Prif Weinidog: Gwasanaethau Iechyd Meddwl ( 7 Chw 2023)

Lesley Griffiths: Diolch. Wel, mae'r Dirprwy Weinidog Iechyd Meddwl a Llesiant wedi bod yn gweithio'n agos gyda'r holl fyrddau iechyd i wneud yn siŵr bod cyllid ychwanegol wedi cael ei dargedu i gefnogi'r gwasanaethau yr ydych chi'n cyfeirio atyn nhw. Rydyn ni hefyd wedi gweithio gyda'r heddlu a gwasanaethau brys eraill i wneud yn siŵr bod y system wyliadwriaeth hunanladdiad amser real yng Nghymru ar gael....

1. Cwestiynau i'r Prif Weinidog: Datblygiad Adeiladau'r Frenhines yn y Rhyl ( 7 Chw 2023)

Lesley Griffiths: Mae ein rhaglen Trawsnewid Trefi yn cefnogi ailddatblygiad Adeiladau'r Frenhines yn y Rhyl, gan ddod â bywiogrwydd newydd i ganol y dref. Disgwylir i'r farchnad agor yr haf hwn, yn dilyn buddsoddiad o £13.2 miliwn, sy'n adeiladu ar raglen ehangach o adfywio a gyflawnwyd yn y dref dros y blynyddoedd diwethaf trwy bartneriaethau lleol cryf.

1. Cwestiynau i'r Prif Weinidog: Gwasanaethau Iechyd Meddwl ( 7 Chw 2023)

Lesley Griffiths: Diolch. Rwy'n cytuno'n llwyr â chi; rwy'n credu bod hon yn fenter ragorol, ac mae pob bwrdd iechyd ledled Cymru ar wahanol gamau o'r gweithredu nawr, ond rydym ni'n bwriadu cael y gwasanaeth 24/7 hwnnw ar draws Cymru gyfan erbyn diwedd y flwyddyn ariannol hon. Gwn fod swyddogion yn gweithio gyda chydweithwyr yn 111 i ddatblygu deunyddiau marchnata i baratoi ar gyfer y lansiad cenedlaethol....

1. Cwestiynau i'r Prif Weinidog: Gwasanaethau Iechyd Meddwl ( 7 Chw 2023)

Lesley Griffiths: Diolch. Rydyn ni'n parhau i ddarparu cyllid sylweddol a pharhaus i gynorthwyo'r ddarpariaeth o wasanaethau iechyd meddwl ledled Cymru gyfan. Yn ogystal â'i ddyraniad wedi'i glustnodi ar gyfer iechyd meddwl, mae Bwrdd Iechyd Prifysgol Cwm Taf Morgannwg wedi cael £3.3 miliwn yn ychwanegol o gyllid iechyd meddwl rheolaidd eleni er mwyn parhau i wella cymorth iechyd meddwl.

1. Cwestiynau i'r Prif Weinidog: Cwestiynau Heb Rybudd gan Arweinwyr y Pleidiau ( 7 Chw 2023)

Lesley Griffiths: Rydym ni yn Llywodraeth sosialaidd, ac rwy'n credu bod yr hyn yr ydym ni wedi ei wneud yn yr wythnos diwethaf hon yn unig yn dangos hynny'n llwyr; mae'n dangos y gwahaniaeth rhyngom ni a Llywodraeth y DU. Ond mae ein safbwynt ar dreth yn eglur iawn; mae unrhyw ddadansoddiad o'r ysgogiadau sydd ar gael i ni fel Llywodraeth drwy gyfraddau treth incwm Cymru yn dangos na allwn ni godi digon, yn...

1. Cwestiynau i'r Prif Weinidog: Cwestiynau Heb Rybudd gan Arweinwyr y Pleidiau ( 7 Chw 2023)

Lesley Griffiths: Wel, rydym ni eisoes wedi defnyddio cronfeydd wrth gefn y ddwy flynedd nesaf, felly rydym ni eisoes wedi gwneud hynny. Yr hyn yr ydym ni wedi ei wneud yn y cynnig ychwanegol hwnnw o 3 y cant yw—mae 1.5 y cant yn gyfnerthedig, fel y gwnaethoch chi ei ddweud, ac nid yw'r 1.5 y cant arall. Mae'n rhaid i mi ddweud ein bod ni'n gwneud hyn gyda risg yn amlwg. Hon fu'r gyllideb anoddaf i mi ymdrin...

1. Cwestiynau i'r Prif Weinidog: Cwestiynau Heb Rybudd gan Arweinwyr y Pleidiau ( 7 Chw 2023)

Lesley Griffiths: Wel, rydym ni'n falch iawn o gyhoeddi y llwyddwyd i wneud cynnig cyflog gwell i'r undebau llafur iechyd yr wythnos diwethaf, ac fe wnaeth hynny olygu bod nifer o'r undebau iechyd wedi gohirio'r streic ddoe a heddiw, ac mae'r trafodaethau hynny yn amlwg yn parhau. Bu'n rhaid i ni flaenoriaethu arian, bu'n rhaid i ni edrych ar gronfeydd wrth gefn, bu'n rhaid i ni edrych ar danwariant, ac, yn...

1. Cwestiynau i'r Prif Weinidog: Cwestiynau Heb Rybudd gan Arweinwyr y Pleidiau ( 7 Chw 2023)

Lesley Griffiths: Rwy'n meddwl ei bod hi'n deg dweud y bu trafodaethau gyda Dyn Gwyrdd am safleoedd posibl ers cryn amser. Nid rhywbeth a ddigwyddodd yn gyflym iawn oedd hyn. Roedd y trafodaethau hynny wedi bod yn digwydd ers tro, ac roedd yr achos busnes amlinellol lefel uchel a ddarparwyd yn ddigon i fwrw ymlaen â'r pryniant. Felly, fel y dywedais, rwy'n meddwl bod llawer o bethau cadarnhaol yn y llythyr...


<< < 6 7 8 9 10 11 12 13 14 15 > >>

Creu hysbysiad

Chwilio uwch

Dod o hyd i'r union air neu ymadrodd hwn

Gallwch hefyd wneud hyn o'r prif flwch chwilio drwy roi’r union eiriau mewn dyfyniadau: megis "seiclo" neu "adroddiad Hutton"

Rydyn ni'n dangos geiriau sy'n gysylltiedig â'ch term chwilio, megis “beic” a “beicio” wrth chwilio am seiclo yn ddiofyn. Er mwyn atal hyn, rhowch y gair mewn dyfyniadau, fel "seiclo"

Heb gynnwys y geiriau hyn

Gallwch hefyd wneud hyn o'r prif flwch chwilio trwy roi arwydd minws cyn geiriau nad ydych eisiau: fel hela -llwynog

Rydym hefyd yn cefnogi nifer o addasiadau chwilio Booleaidd, megis AND a NEAR, ar gyfer chwilio manwl.

Ystod o ddyddiadau

i

Gallwch roi dyddiad dechrau, dyddiad gorffen, neu'r ddau er mwyn cyfyngu canlyniadau i ystod o ddyddiadau penodol. Mae dyddiad gorffen coll yn awgrymu'r dyddiad presennol, ac mae dyddiad cychwyn coll yn awgrymu'r dyddiad hynaf sydd gennym yn y system. Gellir nodi'r dyddiadau ar unrhyw fformat y dymunwch, e.e. 3ydd Mawrth 2007 neu 17/10/1989

Person

Rhowch enw fan hyn i gyfyngu canlyniadau i gyfraniadau gan y person hwnnw yn unig.

Adran

Cyfyngu canlyniadau i senedd neu gynulliad penodol yr ydym yn cynnwys (e.e. Senedd yr Alban), neu fath arbennig o ddata o fewn sefydliad, megis Atebion Ysgrifenedig Tŷ'r Cyffredin.

Colofn

Pe baech yn gwybod y rhif colofn Hansard cywir o'r wybodaeth y mae gennych ddiddordeb ynddo (efallai eich bod yn edrych ar gyfeiriad papur), gallwch gyfyngu canlyniadau i hynny ; Gallwch hefyd ddefnyddio column:123 yn y prif flwch chwilio.