Rebecca Evans: Ydw, rwy'n ddiolchgar iawn am y pwyntiau hynny, ac mae Carolyn Thomas bob tro yn amddiffyn y llywodraeth leol yn gryf ac yn gwneud achos cryf drosti. Cefais i gyfle i gwrdd ag arweinwyr y llywodraeth leol a phrif weithredwyr bore ddoe, i siarad am oblygiadau'r gyllideb, ac unwaith eto, roedden nhw'n gwneud yr achosion hynod gryf hynny o ran gofal cymdeithasol, addysg a'r holl bwysau ledled y...
Rebecca Evans: Diolch yn fawr iawn am godi'r pwyntiau penodol hynny, ac rwy'n cytuno'n llwyr ei bod yn wir y dylem ni fod yn ystyried defnyddio'r arian yn ddoeth, ac i fod yn meddwl yn arbennig am beth yw'r canlyniadau o ran y penderfyniadau y gallem ni fod yn eu gwneud, a dyna pam mae'n bwysig nawr cymryd faint o amser y mae ei angen arnom ni i ddod i afael a'r ffigyrau a gafodd eu darparu i ni wedi'r...
Rebecca Evans: Rwy'n ddiolchgar iawn am y cwestiynau hynny ac yn sicr, byddwn i'n cysylltu fy hun â'ch sylwadau ar ddechrau'r cyfraniad, a oedd yn nodi ein bod ni'n gweld yr hyn sydd, yn y bôn, yn don newydd o gyni. Prin ein bod ni wedi llwyddo i ddal anadl ers yr un diwethaf, a bydd yn cael effeithiau o ran gwasgu ar safonau byw, ar gynyddu tlodi, ar gynyddu nifer y plant sy'n tyfu i fyny mewn tlodi,...
Rebecca Evans: Diolch yn fawr iawn i lefarydd yr wrthblaid am y cwestiynau y prynhawn yma. Fe wnaf i ddechrau drwy fyfyrio eto ei bod yn ymddangos mai dull y Blaid Geidwadol yw beio'r sefyllfa ariannol yr ydym ynddi ar hyn o bryd yn llwyr ar y pandemig ac ar ryfel Putin yn Wcráin. Ond nid dyna'r darlun llawn, wrth gwrs, oherwydd mae £30 biliwn o'r twll y mae Llywodraeth y DU yn ceisio ei lenwi yn ymwneud...
Rebecca Evans: Yr wythnos diwethaf, roedd y Canghellor yn awyddus i feio digwyddiadau byd-eang am ragolygon ariannol enbyd y DU, gan gynnwys y pandemig ac ymosodiad anghyfreithlon Putin ar Wcráin. Er nad oes modd gwadu bod y rhain wedi cael effaith ddifrifol ar ein heconomi ni, mae'r sefyllfa wedi'i gwaethygu oherwydd camreoli'r economi a chyllid cyhoeddus parhaus gan Lywodraeth y DU. Mae'r DU yn mynd i...
Rebecca Evans: Diolch. Wythnos diwethaf, cyhoeddodd Llywodraeth y DU ddatganiad yr hydref y bu hen ddisgwyl amdano ac fe gyhoeddodd y Swyddfa Cyfrifoldeb Cyllidebol ei rhagolygon yn nodi ein bod ni'n wynebu'r cwymp mwyaf mewn safonau byw ers iddyn nhw gael eu cofnodi. Datganiad digalon iawn oedd hwn gan y Canghellor wedi 12 mlynedd o Lywodraethau Ceidwadol, a gyhoeddwyd yn sgil y gyllideb 'fechan'...
Rebecca Evans: Diolch. Rwy'n ddiolchgar iawn i Peter Fox a Llyr Gruffydd am eu sylwadau y prynhawn yma. Ac o ran y cyfraniad cyntaf, mae'r newidiadau i'r dreth trafodiadau tir yn golygu nawr bod y gyfradd gychwyn wedi cynyddu i £225,000, ac fel y dywedais i, mae hynny'n cyfateb i gynnydd o 25 y cant ar y lefel flaenorol, ac mae hynny'n mwy na gwneud yn iawn am y cynnydd mewn prisiau eiddo rydyn ni wedi'i...
Rebecca Evans: Diolch, Llywydd. Rwy'n ddiolchgar i'r Pwyllgor Deddfwriaeth, Cyfiawnder a'r Cyfansoddiad a'r Pwyllgor Cyllid am eu hadroddiadau. Mae'r rheoliadau y mae'r Senedd yn eu hystyried heddiw yn ddarostyngedig i'r weithdrefn gadarnhaol a wneir. Yn yr achos hwn daethant i rym ar 10 Hydref, ond, i fod ag effaith barhaol, rhaid iddynt dderbyn cymeradwyaeth y Senedd heddiw. Ar 27 Medi fe wnes i nodi'r...
Rebecca Evans: Ydw, rwy'n cytuno â'r pwyntiau hynny, oherwydd yn fy marn i mae effaith Brexit wedi cael ei guddio'n fawr gan y pandemig ac yn awr gan yr argyfwng costau byw. Rwy'n credu bod yr enghraifft a nodoch chi, sy'n cymharu ein sefyllfa gyda'r Almaen, yn dangos y difrod y mae Brexit wedi'i wneud ac y bydd yn parhau i'w wneud oni bai bod Llywodraeth y DU yn mabwysiadu ymagwedd wahanol tuag at...
Rebecca Evans: Mae Llywodraeth y DU wedi anwybyddu Llywodraeth Cymru a'r Senedd hon mewn perthynas ag ariannu ar ôl yr UE. Mae eu cynlluniau diffygiol a thoriad ariannol o £1.1 biliwn yn cael effaith ddifrifol ar ystod o sectorau yn ogystal â swyddi a thwf. Rwyf wedi codi hyn dro ar ôl tro gyda Gweinidogion y DU a byddaf yn parhau i wneud hynny.
Rebecca Evans: Rwy'n cytuno'n llwyr â Jack Sargeant, ac rwy'n cytuno â'i ddadansoddiad hefyd, oherwydd mae gennym weinyddiaeth newydd yn San Steffan, ond nid oes gennym lechen lân o gwbl, oherwydd mae olion bysedd y Prif Weinidog a'r Canghellor ar hyd yr argyfwng economaidd y mae pawb ohonom yn ei wynebu ar hyn o bryd. Ac mae Jack Sargeant yn iawn eto; ei etholwyr sy'n teimlo'r boen. Byddant yn ei...
Rebecca Evans: Er gwaethaf gwrthdroi sawl elfen o'r gyllideb fach, mae'r difrod wedi'i wneud. Mae cartrefi a busnesau yn Alun a Glannau Dyfrdwy a mannau eraill yn wynebu costau benthyca uwch a mwy o ansicrwydd economaidd. Rydym bellach yn wynebu'r posibilrwydd o fwy o gyni yn ein gwasanaethau cyhoeddus sydd eisoes dan bwysau.
Rebecca Evans: Wel, Lywydd, mae gennym ganllaw cyflym i gyfraddau treth incwm Cymru a gyhoeddwyd yn 2021, felly mae hwnnw ar gael i bob cyd-Aelod edrych arno a'i ddefnyddio. Mae ar gael ar wefan Llywodraeth Cymru, ac mae'n dangos effeithiau newidiadau i gyfraddau Cymreig o refeniw treth incwm datganoledig. Felly, rydych yn gallu chwarae o gwmpas ag ef ac edrych ar wahanol bethau. Ond er eglurder, pe baem yn...
Rebecca Evans: Wel, mae'n wir fod gennym system wahanol, ac wrth gwrs, dim ond yn 2016 y cafodd ein system ni ei chytuno. Ers ychydig flynyddoedd yn unig y buom yn casglu cyfraddau treth incwm Cymru, felly ar y cychwyn o leiaf, rwy'n credu ei bod yn bwysig gadael i'r system ymsefydlu, ond hefyd er mwyn deall beth fyddai'r goblygiadau o gael system fandio fwy blaengar, fel y dywedwch. Felly, mae'n drafodaeth...
Rebecca Evans: Mae Llywodraeth Cymru wedi ymrwymo i gefnogi'r rhai mwyaf agored i niwed drwy'r argyfwng costau byw hwn gan ddefnyddio ein hysgogiadau cyllid a pholisi. Fel rhan o broses y gyllideb, byddaf yn ystyried sut y gallwn barhau i gefnogi ein pobl fwyaf agored i niwed drwy'r argyfwng costau byw.
Rebecca Evans: Diolch yn fawr iawn am y cwestiwn, ac rwy'n cydnabod y tebygrwydd rhwng argyfwng y pandemig a'r argyfwng costau byw. Yr hyn sy'n wahanol, wrth gwrs, yw bod y pandemig wedi denu arian ychwanegol sylweddol i'n helpu i'w reoli, ond nid ydym wedi cael cyllid ychwanegol sylweddol i'n helpu i reoli'r argyfwng costau byw. Ac rwyf am ei gwneud yn glir iawn ein bod wedi dyrannu'r holl gyllid sydd ar...
Rebecca Evans: Byddaf yn parhau i flaenoriaethu cyllid ar gyfer pob awdurdod lleol yng Nghymru drwy gynhyrchu fformiwla ddosbarthu dryloyw a theg ar gyfer y setliad llywodraeth leol ar y cyd â'n partneriaid llywodraeth leol.
Rebecca Evans: Do. Deallais 90 y cant—
Rebecca Evans: —felly rwy'n credu ein bod ni'n iawn.
Rebecca Evans: Iawn. Felly, i ateb y cwestiwn ar gronfeydd wrth gefn: rwy'n credu ei fod yn beth cadarnhaol fod gan lywodraeth leol gronfeydd sylweddol wrth gefn wrth inni nesu at argyfwng costau byw. A gadewch i ni gofio, pan oeddem yn trafod y gyllideb y llynedd, roeddem yn siarad am y setliad gwell yn y flwyddyn gyntaf o'r adolygiad o wariant tair blynedd, a ddarparodd gynnydd o dros 9 y cant yn y...