Llyr Gruffydd: Diolch yn fawr iawn, Lywydd. A gaf fi ddiolch i bawb am eu cyfraniadau—wel, y rhan fwyaf o'r Aelodau am eu cyfraniadau a'u cyfraniadau adeiladol i'r ddadl hon? Rwy'n credu bod Luke Fletcher wedi taro'r nodyn cywir ar y dechrau. Mae codi'r gwastad yn agenda o'r brig i lawr mewn gwirionedd, a byddwn i'n mynd ymhellach. Pa fath o agenda? Wel, rydym yn gweld etholaethau ac awdurdodau'n cael eu...
Llyr Gruffydd: Dwi ddim yn licio'r ffordd rŷch chi wedi rhyw frwsio hwnna i'r naill ochr drwy ddweud mai dim ond 1 y cant a mater i'r awdurdodau lleol yw e. Dwi yn credu bod gennych chi rôl strategol bwysig fel Llywodraeth yn fan hyn, oherwydd rŷn ni'n gwybod bod pwysau ariannol yn mynd i barhau i daflu cysgod dros ddyfodol nifer o'r ffermydd cyngor yma, ac mae nifer y ffermydd wedi disgyn dros y...
Llyr Gruffydd: Wel, diolch i chi am eich ateb. Mae'r ateb yn adlewyrchiad o'r sefyllfa. Ond, wrth gwrs, mae'r sefyllfa yn un siomedig, onid yw hi? Oherwydd, nôl yn 2019, roedd Cymru yn fuddiolwr net o bres o'r Undeb Ewropeaidd, yn derbyn cannoedd o filiynau o bunnau bob blwyddyn, a hynny'n gyrru cynlluniau economaidd ac yn denu hefyd, wrth gwrs, arian cyfatebol o ffynonellau preifat a chyhoeddus. Ond nawr,...
Llyr Gruffydd: Oes yn wir, ond rydych yn iawn i ddweud bod gwahaniaeth enfawr, onid oes, nid yn unig o ran perfformiad ac uchelgais, ond yn sicr o ran eu cwmpas i ddechrau, lle mae gan rai ardaloedd gyngor tref a chymuned, ond nid ardaloedd eraill. Credaf nad oes gan bron i 30 y cant o boblogaeth Cymru gyngor tref a chymuned, hyd yn oed. Mae rhai'n fawr iawn—mae Cyngor Tref y Barri, er enghraifft, yn...
Llyr Gruffydd: Diolch yn fawr, Lywydd. Weinidog, gwn y byddwch yn cofio bod Archwilio Cymru wedi canfod yn 2020 fod traean o gynghorau tref a chymuned Cymru wedi cael barn amodol eu cyfrifon—rhywbeth a gâi ei ystyried yn annerbyniol, wrth gwrs—a bod dros ddwy ran o dair o seddi cynghorwyr tref a chymuned yn seddi un ymgeisydd yn etholiadau lleol 2017; ni chafwyd etholiad mewn 80 y cant o wardiau. Nawr,...
Llyr Gruffydd: 3. A wnaiff y Gweinidog amlinellu sut y mae Llywodraeth Cymru a Llywodraeth y DU yn gweithio ar y cyd i ddarparu cyllid codi'r gwastad? OQ58098
Llyr Gruffydd: 1. Pa gynlluniau sydd gan Lywodraeth Cymru i ddiogelu dyfodol ffermydd y mae cynghorau yn berchen arnynt? OQ58099
Llyr Gruffydd: O ran treillrwydo môr-waelodol, unwaith eto, cododd nifer o'r Aelodau hynny, a chredaf ei fod yn rhywbeth y buom yn ceisio mynd i'r afael ag ef ers amser maith, a byddai'n well gan bob un ohonom pe baem wedi gwneud mwy o gynnydd nag a wnaethom. Rwy'n falch o glywed bod y Gweinidog wedi addo newid gêr mewn perthynas â gêr llusg a threillrwydo môr-waelodol, felly gadewch inni symud mor...
Llyr Gruffydd: Ie. A gadewch i'r eog fod. Da iawn, da iawn. A chredaf fod y pwynt ynglŷn â chynllunio gofodol yn bwysig—cynllunio gofodol daearol, ac yna mae gennym gynllunio gofodol morol. Wel, yn sicr, ni ddylai fod datgysylltiad rhwng y ddau beth hynny ychwaith. Mae arnom angen y cynllunio gofodol di-dor hwnnw ar gyfer cynllunio daearol a morol, yn fy marn i. Yn sicr, credaf fod angen defnyddio'r...
Llyr Gruffydd: Diolch yn fawr, Dirprwy Lywydd. Wnaf i ddim ailadrodd y pwyntiau sydd wedi cael eu gwneud, dim ond diolch i'r Gweinidog ac i bawb arall, wrth gwrs, am eu cyfraniadau. Dwi'n meddwl bod natur y drafodaeth yn adlewyrchu pa mor eang oedd y meysydd wnaeth yr ymchwiliad byr yma geisio mynd i'r afael â nhw ac, yn amlwg, hefyd, pa mor eang yw'r gwaith sydd angen ei gyflawni gennym ni fel pwyllgor,...
Llyr Gruffydd: Mae hynny'n arwain yn ddi-dor at ran nesaf fy nghyfraniad. Rydych yn iawn, nid yw'n ddewis deuaidd rhwng y naill neu'r llall, mae'n ymwneud â sicrhau bod gennym y fframweithiau a'r strategaethau a'r polisïau ar waith i sicrhau bod y datblygiadau hyn, y mae pob un ohonom eisiau iddynt ddigwydd, ac yn wir y mae pob un ohonom angen iddynt ddigwydd o ran yr heriau sy'n ein hwynebu mewn...
Llyr Gruffydd: Ail ffocws y pwyllgor oedd cynnydd y sector ynni adnewyddadwy morol. Dylwn ddweud ein bod yn croesawu ymdrechion Gweinidogion, drwy'r archwiliad dwfn i ynni adnewyddadwy, i ddileu rhai o'r rhwystrau i ddatblygu. Bydd yr Aelodau wedi clywed datganiad Gweinidog yr Economi ddoe am y cynnydd yn y maes hwn, ac mae llawer i'w groesawu, ond ni fyddai sylwadau'r Gweinidog wedi gwneud fawr ddim i...
Llyr Gruffydd: Diolch yn fawr iawn, Dirprwy Lywydd, a diolch yn wir am y cyfle i drafod cynnwys adroddiad y Pwyllgor Newid Hinsawdd, yr Amgylchedd a Seilwaith ar bolisïau morol Llywodraeth Cymru, oherwydd, yn gynnar yn ystod y Senedd yma, fe gytunodd y pwyllgor y dylai polisïau morol fod yn faes blaenoriaeth i ni yn ein gwaith dros y blynyddoedd nesaf yma. Y bwriad oedd i'r ymchwiliad byr yma fod yn...
Llyr Gruffydd: Wel, nid yw'n gweithio. [Anghlywadwy.]—nid yw'n gweithio. [Anghlywadwy.]—deng mlynedd. [Anghlywadwy.]
Llyr Gruffydd: Rydym wedi clywed hyn o'r blaen.
Llyr Gruffydd: Rydych wedi bod yn addo gwelliannau i gleifion yng ngogledd Cymru ers blynyddoedd mawr, ac nid ydynt byth i'w gweld yn cael eu gwireddu. Rydych wedi rhoi cynnig ar fesurau arbennig, ac roedd yn fethiant; rydych wedi rhoi cynnig ar bob math o ymyriadau dwysach ac mae'n amlwg nad ydynt yn gweithio. Ychydig wythnosau'n ôl, roeddem yma yn trafod methiannau difrifol gwasanaethau fasgwlaidd yn y...
Llyr Gruffydd: Wel, faint o weithiau ydw i wedi clywed yr ateb yna o'r blaen, Gweinidog? Sgandal arall, adroddiad damniol arall, cwestiwn brys arall yn y Senedd, ac ateb tila arall, dwi'n ofni, gan y Llywodraeth. Rŷn ni'n mynd rownd mewn cylchoedd fan hyn, onid ydyn ni? Rŷn ni yn mynd rownd mewn cylchoedd fan hyn. Faint o weithiau ydyn ni'n gorfod gwrando arnoch chi yn addo bod pethau'n mynd i wella, tra...
Llyr Gruffydd: 2. A wnaiff y Gweinidog ddatganiad am bederfyniad Arolygiaeth Gofal Iechyd Cymru (AGIC) fod adran achosion brys Ysbyty Glan Clwyd wedi ei nodi fel gwasanaeth sydd angen gwelliant sylweddol? TQ624
Llyr Gruffydd: Pa ddadansoddiad y mae Llywodraeth Cymru wedi'i wneud ynghylch a yw lefelau staffio diogel yn cael eu cynnal yn y gwasanaeth iechyd yng Ngogledd Cymru?
Llyr Gruffydd: Diolch i'r Gweinidog am ei datganiad. Mae canlyniadau wythnos diwethaf yn fy marn i yn tanlinellu unwaith eto fod y gyfundrefn cyntaf i'r felin o safbwynt pleidleisio ddim yn gweithio. Dŷn ni wedi gweld enghraifft yng Nghaerdydd fan hyn o Blaid Cymru'n cael 17 y cant o'r bleidlais ac yn ennill dwy sedd, a'r Democratiaid Rhyddfrydol yn cael 13 y cant o'r bleidlais ac yn ennill 10 sedd. Nawr,...