Canlyniadau 181–200 o 9000 ar gyfer speaker:Mike Hedges OR speaker:Mike Hedges OR speaker:Mike Hedges OR speaker:Mike Hedges OR speaker:Mike Hedges OR speaker:Mike Hedges OR speaker:Mike Hedges

6. Dadl Plaid Cymru: Yr argyfwng costau byw a thai (27 Ebr 2022)

Mike Hedges: Dyna rwy’n ei ddweud bob amser, Jack Sargeant. Dylid nodi bod hyn i gyd yn digwydd er bod rhenti preifat ar draws y DU wedi codi lawer llai dros y flwyddyn ddiwethaf na phob mesur o chwyddiant. A gaf fi gytuno â’r Ceidwadwyr ar un peth? Mae gormod o eiddo gwag. Ar ôl treulio’r rhan fwyaf o’r tair wythnos ddiwethaf yn canfasio a dosbarthu taflenni, mae’n drist gweld cymaint o eiddo...

6. Dadl Plaid Cymru: Yr argyfwng costau byw a thai (27 Ebr 2022)

Mike Hedges: A gaf fi ddiolch i Blaid Cymru am gyflwyno’r ddadl hon? Rwyf hefyd yn falch nad fy llais i'n unig sy'n mynegi pryderon ynghylch tai mwyach—rydym yn siarad amdano fwy a mwy. A gaf fi ddweud rhywbeth mewn ymateb i'r hyn a ddywedodd Janet Finch-Saunders? Ac rwy'n fodlon derbyn ymyriad os yw'r hyn rwy’n ei ddweud yn anghywir. Hoffwn ddweud, yn ddiamwys, nad oes neb eisiau i landlordiaid...

2. Cwestiynau i’r Gweinidog Materion Gwledig a Gogledd Cymru, a’r Trefnydd: Lles Anifeiliaid (27 Ebr 2022)

Mike Hedges: Er y gallwn wneud rheoliadau ynghylch prynu a gwerthu cŵn, oni bai bod trywydd papur—neu’n fwy cywir heddiw, trywydd electronig—bydd hynny bob amser yn agored i gamfanteisio. A yw’r Gweinidog yn cytuno â mi mai cam cyntaf da fyddai dod â thrwyddedau cŵn yn ôl a chadw cofnod o gŵn, eu prynwyr a’u gwerthwyr?

1. Cwestiynau i’r Gweinidog Newid Hinsawdd: Datgarboneiddio Tai (30 Maw 2022)

Mike Hedges: Diolch i’r Gweinidog am ei ateb. Yn bersonol, hoffwn ganmol Cyngor Abertawe a’r landlordiaid cymdeithasol cofrestredig lleol am y gwaith y maent wedi’i wneud yn datgarboneiddio eu tai newydd. Rwy’n cynrychioli etholaeth a chanddi nifer fawr o dai sy'n eiddo i berchen-feddianwyr a thai rhentu preifat, a adeiladwyd yn y bedwaredd ganrif ar bymtheg. Pa gynnydd a wnaed i leihau’r gwres...

1. Cwestiynau i’r Gweinidog Newid Hinsawdd: Datgarboneiddio Tai (30 Maw 2022)

Mike Hedges: 2. A wnaiff y Gweinidog roi'r wybodaeth ddiweddaraf am ddatgarboneiddio tai? OQ57878

8. Datganiad gan y Dirprwy Weinidog Partneriaeth Gymdeithasol: Gwaith Teg: Diweddariad blynyddol ar gynnydd (29 Maw 2022)

Mike Hedges: Rwy'n croesawu'r datganiad gan y Gweinidog ynghylch gwasanaethau cyhoeddus datganoledig, ac a gaf i ymuno ag eraill i groesawu'r cyflog byw ym maes gofal cymdeithasol? Ond, a wnaiff y Gweinidog ymrwymo i ddim contractau camfanteisiol a bod cyflog byw gwirioneddol yn cael ei dalu i bawb ym mhob gwasanaeth cyhoeddus datganoledig yng Nghymru? A wnaiff Llywodraeth Cymru ddefnyddio ei phwerau...

6. Datganiad gan y Gweinidog Cyllid a Llywodraeth Leol: Diwygio ardrethi annomestig (29 Maw 2022)

Mike Hedges: Rwy'n croesawu'r datganiad yn fawr, ac rwy'n falch iawn o weld derbyn ardrethi annomestig cenedlaethol yn rhan bwysig o incwm llywodraeth leol. Wrth gwrs, cyn ardrethi annomestig cenedlaethol, cafodd ardrethi eu talu gan fusnesau i'r cyngor lleol. Pam nad yw'r Gweinidog yn dymuno dychwelyd ardrethi busnes i awdurdodau lleol? Rwy'n falch bod Llywodraeth Cymru yn cefnogi ailbrisiadau mwy...

1. Datganiad a Chyhoeddiad Busnes (29 Maw 2022)

Mike Hedges: Hoffwn i ofyn am ddau ddatganiad. Rwyf i wedi cael llawer o gwynion am fwyd ysbyty, nid yn unig yn Ysbyty Treforys, sy'n agos iawn ataf i, ond mewn ysbytai ledled de Cymru. Hoffwn i gael datganiad gan y Llywodraeth ar fwyd mewn ysbytai, i gynnwys ansawdd, maint, sut y mae rheolwyr wardiau'n gweithredu'r polisi sy'n caniatáu i berthnasau a ffrindiau helpu'r rhai y mae angen help arnyn nhw i...

5. Dadl Aelodau o dan Reol Sefydlog 11.21(iv): Adeiladau Crefyddol (23 Maw 2022)

Mike Hedges: Wrth ichi edrych o gwmpas Cymru, mae'n amlwg yn yr oes sydd ohoni fod gan Gymru bellach ormodedd enfawr o gapeli ac eglwysi ar gyfer ei hanghenion crefyddol presennol. Mewn ymateb i'r orddarpariaeth hon, gwelsom gau nifer ohonynt mewn ymgais nid yn unig i arbed arian, ond hefyd i achub rhai o'r adeiladau gwirioneddol wych o'r un enwad. Mae'r gwaith o gynnal a chadw'r adeiladau hynod hyn wedi...

5. Dadl Aelodau o dan Reol Sefydlog 11.21(iv): Adeiladau Crefyddol (23 Maw 2022)

Mike Hedges: Diolch yn fawr, Lywydd dros dro. Hoffwn ddiolch i fy nghyd-gyflwynwyr a'r rhai a gefnogodd y cynnig ar gyfer y ddadl hon. Bydd Jane Dodds yn ymateb i'r ddadl. Nid yw'r ddadl hon yn ymwneud â chrefydd, mae'n ymwneud â'n treftadaeth adeiledig. Mae'n ymwneud â phwysigrwydd adeiladau eglwysi a chapeli yn ein cymuned. Ni all yr Aelodau fod wedi methu sylwi ar nifer yr adeiladau crefyddol sy'n...

2. Cwestiynau i'r Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol: Adrannau Damweiniau ac Achosion Brys (23 Maw 2022)

Mike Hedges: Adran ddamweiniau ac achosion brys Ysbyty Treforys yw prif ganolfan ddamweiniau ac achosion brys dwyrain sir Gaerfyrddin, yn enwedig dyffryn Aman, yn ogystal â Chastell-nedd Port Talbot ac Abertawe. Mae'r adran ddamweiniau ac achosion brys yn Nhreforys yn brysur iawn ac mae sawl ambiwlans yn aros y tu allan yn rheolaidd. A yw'r Gweinidog yn cytuno bod angen inni sicrhau bod y rheini nad...

Cwestiynau Amserol: Parc Ynni Baglan (23 Maw 2022)

Mike Hedges: Fel y soniodd y Gweinidog, gofynnais gwestiwn am hyn i'r Trefnydd ddoe. A gaf fi ddiolch i Lywodraeth Cymru am weithredu'n gyflym? Darllenais ddatganiad y Gweinidog ddoe. Rwy'n croesawu'r penderfyniad i gyflwyno achos drwy adolygiad barnwrol i'r Adran Busnes, Ynni a Strategaeth Ddiwydiannol. Mae perygl i hyn effeithio'n ddifrifol ar gyflogaeth pobl sy'n byw yn Abertawe, Castell-nedd Port...

2. Datganiad a Chyhoeddiad Busnes (22 Maw 2022)

Mike Hedges: Rwy'n gofyn am ddatganiad gan Lywodraeth Cymru yn dilyn penderfyniad yr Uchel Lys ddoe i beidio â derbyn y waharddeb y gwnaeth gais amdani o ran sicrhau y gall y pŵer barhau ym Mharc Ynni Baglan tan fod cysylltiad newydd wedi'i gwblhau. Mae llawer o fy etholwyr i'n cael eu cyflogi yn y busnesau niferus sydd wedi'u lleoli yn y parc ynni, ac mae'r penderfyniad hwn nawr yn peryglu eu dyfodol...

8. Dadl Plaid Cymru: Yr argyfwng costau byw — Yr effaith ar ysgolion a phlant (16 Maw 2022)

Mike Hedges: A wnewch chi ofyn i ysgolion bennu'r lliwiau y maent am i blant eu gwisgo yn unig, yn hytrach na'i wneud yn gymhleth?

8. Dadl Plaid Cymru: Yr argyfwng costau byw — Yr effaith ar ysgolion a phlant (16 Maw 2022)

Mike Hedges: Sut y gallai rhywun feddwl nad oedd bwydo plant yn syniad da?

8. Dadl Plaid Cymru: Yr argyfwng costau byw — Yr effaith ar ysgolion a phlant (16 Maw 2022)

Mike Hedges: Rwy'n amlwg yn cefnogi prydau ysgol am ddim i bob plentyn mewn ysgolion cynradd gwladol, ac yn aros i weld y cynllun yn ymestyn i gynnwys ysgolion uwchradd. Bydd y cynnydd mewn costau ynni a chostau bwyd yn cael effaith ddinistriol ar blant sy'n byw mewn teuluoedd incwm isel. Mae'n anochel y bydd rhai plant yn oer ac yn llwglyd yn ystod y flwyddyn nesaf. Bydd treulio noson mewn ystafell wely...

8. Dadl Plaid Cymru: Yr argyfwng costau byw — Yr effaith ar ysgolion a phlant (16 Maw 2022)

Mike Hedges: Rwyf finnau hefyd yn croesawu'r ddadl hon yn fawr. Yn gyntaf, rwyf eisiau rhoi sylw i'r problemau y mae ysgolion yn eu hwynebu. Mae'r setliad llywodraeth leol yn un da, ond ni all blwyddyn o gynnydd wneud iawn am dros 10 mlynedd o gyni. Er nad yw dyraniadau cyllidebau ysgolion yn y rhan fwyaf o gynghorau wedi'u cwblhau eto, disgwylir y byddant yn codi yn unol â gwariant y cyngor. Mae hyn yn...

1. Cwestiynau i’r Gweinidog Cyfiawnder Cymdeithasol: Tlodi (16 Maw 2022)

Mike Hedges: Prif achos tlodi yw cyflogau isel ac oriau afreolaidd. A yw’r Gweinidog yn cytuno â mi fod angen gwrthdroi’r toriad creulon i'r credyd cynhwysol a rhoi diwedd ar gontractau ecsbloetiol—diswyddo ac ailgyflogi—a bod pawb yn cael y cyflog byw gwirioneddol fan lleiaf?

QNR: Cwestiynau i Y Dirprwy Weinidog Partneriaeth Gymdeithasol (16 Maw 2022)

Mike Hedges: Pa asesiad y mae'r Gweinidog wedi'i wneud o faint o staff cyrff a ariennir gan Lywodraeth Cymru sy'n cael eu cyflogi ar lai na'r cyflog byw go iawn?

6. Dadl: Ail Gyllideb Atodol 2021-22 (15 Maw 2022)

Mike Hedges: Yn gyntaf, a gaf i ddiolch i'r Gweinidog am ei datganiad a chroesawu'r ail gyllideb atodol? Hoffwn i wneud dau bwynt byr iawn, a'r ddau yn dilyn pethau sydd wedi eu dweud yn gynharach. Ar 3 Chwefror, cyhoeddodd Llywodraeth y DU fesurau i helpu gyda chostau byw yng ngoleuni'r cynnydd yn y terfyn uchaf ar brisiau ynni. Roedd hyn yn cynnwys ad-daliad treth gyngor o £150 o fis Ebrill 2022 ymlaen...


<< < 6 7 8 9 10 11 12 13 14 15 > >>

Creu hysbysiad

Chwilio uwch

Dod o hyd i'r union air neu ymadrodd hwn

Gallwch hefyd wneud hyn o'r prif flwch chwilio drwy roi’r union eiriau mewn dyfyniadau: megis "seiclo" neu "adroddiad Hutton"

Rydyn ni'n dangos geiriau sy'n gysylltiedig â'ch term chwilio, megis “beic” a “beicio” wrth chwilio am seiclo yn ddiofyn. Er mwyn atal hyn, rhowch y gair mewn dyfyniadau, fel "seiclo"

Heb gynnwys y geiriau hyn

Gallwch hefyd wneud hyn o'r prif flwch chwilio trwy roi arwydd minws cyn geiriau nad ydych eisiau: fel hela -llwynog

Rydym hefyd yn cefnogi nifer o addasiadau chwilio Booleaidd, megis AND a NEAR, ar gyfer chwilio manwl.

Ystod o ddyddiadau

i

Gallwch roi dyddiad dechrau, dyddiad gorffen, neu'r ddau er mwyn cyfyngu canlyniadau i ystod o ddyddiadau penodol. Mae dyddiad gorffen coll yn awgrymu'r dyddiad presennol, ac mae dyddiad cychwyn coll yn awgrymu'r dyddiad hynaf sydd gennym yn y system. Gellir nodi'r dyddiadau ar unrhyw fformat y dymunwch, e.e. 3ydd Mawrth 2007 neu 17/10/1989

Person

Rhowch enw fan hyn i gyfyngu canlyniadau i gyfraniadau gan y person hwnnw yn unig.

Adran

Cyfyngu canlyniadau i senedd neu gynulliad penodol yr ydym yn cynnwys (e.e. Senedd yr Alban), neu fath arbennig o ddata o fewn sefydliad, megis Atebion Ysgrifenedig Tŷ'r Cyffredin.

Colofn

Pe baech yn gwybod y rhif colofn Hansard cywir o'r wybodaeth y mae gennych ddiddordeb ynddo (efallai eich bod yn edrych ar gyfeiriad papur), gallwch gyfyngu canlyniadau i hynny ; Gallwch hefyd ddefnyddio column:123 yn y prif flwch chwilio.