Neil McEvoy: Prif Weinidog, cafwyd protest enfawr yma y llynedd yn erbyn dympio mwd yn nyfroedd Cymru a oedd wedi cael ei garthu o'r tu allan i adweithydd niwclear Hinkley C heb yr ystod lawn o brofion y gellid ac y dylid bod wedi eu gwneud. Arweiniodd yr ymgyrch at gyhoeddusrwydd rhyngwladol, gyda darllediadau ar Al Jazeera, Russia Today, y BBC, newyddion yr Almaen, newyddion Pacistan, a llawer o...
Neil McEvoy: 4. A wnaiff y Prif Weinidog roi'r wybodaeth ddiweddaraf am bolisi Llywodraeth Cymru ar waredu gwastraff niwclear yng Nghymru? OAQ54582
Neil McEvoy: Cymuned o gymunedau yw Cymru, ac un gymuned yng Nghymru yw cymuned Catalonia. Rwy'n croesawu'r sylwadau a wnaed yn gynharach gan y Prif Weinidog yn mynegi pryder am yr hyn sy'n digwydd yn Barcelona a hefyd yr hyn a ddigwyddodd ym Madrid o ran cloi gwleidyddion a etholwyd yn ddemocrataidd. Rwy'n cefnogi'r alwad am ddadl ar yr hyn sy'n digwydd yng Nghatalonia, a hoffwn i'r Llywodraeth ystyried...
Neil McEvoy: Prif Weinidog, fe'ch etholwyd i arwain eich plaid yn honni eich bod yn sosialydd ar gyfer yr unfed ganrif ar hugain, ond y gwir plaen amdani yw nad oes unrhyw reolau ar lobïo corfforaethol yng Nghymru, sy'n gwneud ein Senedd yr un sydd wedi ei diogelu leiaf yn y DU ac yn Ewrop, a dweud y gwir. Llafur yw'r blaid sy'n gwrthwynebu'r rheolau hyn. Yn yr Unol Daleithiau, mae'r sosialydd...
Neil McEvoy: 4. A wnaiff y Prif Weinidog ddatganiad am reolau lobïo Llywodraeth Cymru? OAQ54503
Neil McEvoy: Weinidog, yn yr wythnos ddiwethaf, rydym wedi gweld llifogydd eithafol mewn ardaloedd o Gaerdydd, a waethygwyd heb os gan y concrit a osodwyd ar gaeau ar gyfer cynllun datblygu lleol trychinebus Llafur, a thorri coed a choetiroedd hefyd. Dros yr haf, caewyd ffyrdd ar gyfer gwaith adeiladu ar gyfer cynllun dinistr lleol Llafur—gan mai dyna'r term cywir mewn gwirionedd—ac mae'r cyntaf o...
Neil McEvoy: 1. A wnaiff y Gweinidog ddatganiad am ddarpariaeth trafnidiaeth gyhoeddus yng Nghaerdydd? OAQ54424
Neil McEvoy: Rwy'n gofyn am ddau ddatganiad—yn gyntaf ar losgi, ac rwy'n gofyn am ddatganiadau gan Lywodraeth Cymru i wahardd llosgi. Ysgrifennodd y Gweinidog iechyd at drigolion Trowbridge, a dywedodd na ellir diystyru effeithiau andwyol ar iechyd o ran llosgi gwastraff. Nawr, mae'r gymuned yn wynebu cynnig sy'n golygu y bydd llosgydd yn cael ei osod yn union yng nghanol ardal drefol. Felly, hoffwn i...
Neil McEvoy: Y tro diwethaf i mi holi'r Prif Weinidog am gynllun ynni cartref Arbed am Byth, rhoddais wybod iddo bod contractwyr yn cael eu hannog i godi £245 am fesurau goleuo ysgafn, lluosog, am newid bylbiau golau yn y bôn, fel y dywedais y tro diwethaf, a £124 am fesurau dŵr, sy'n golygu, yn ei hanfod, sgriwio awyrydd i mewn i dap. Cefais lythyr gan y Prif Weinidog yn honni bod fy ffigurau yn...
Neil McEvoy: 4. Pa asesiad y mae Llywodraeth Cymru wedi'i wneud o werth am arian y cynllun ynni cartref Arbed am Byth? OAQ54425
Neil McEvoy: Diolch. Roedd diwrnod Owain Glyndŵr ar 16 o Fedi yr wythnos hon. Mae'n werth cydnabod Owain Glyndŵr eleni yn arbennig, gan fod Cymru, yn llythrennol, yn gorymdeithio. Mewn tair gorymdaith All Under One Banner yn olynol, yng Nghaerdydd, Caernarfon a Merthyr, mae miloedd o bobl wedi gorymdeithio dros sofraniaeth ac annibyniaeth ein gwlad. Roeddwn yn falch o gymryd rhan mewn dwy o'r...
Neil McEvoy: Nid wyf i'n cefnogi smacio, ond nid wyf i ychwaith yn cefnogi dweud wrth rieni eraill sut i fagu eu plant. Nid Bil llesiant plant yw hwn. Rwy'n gwybod oherwydd fy mod i wedi ceisio ei ddiwygio ond nid oedd yn bosibl. Fy mhrif bryder â'r Bil hwn yw fy mod i o'r farn, os y bydd yn dod yn gyfraith, y gallai ei gwneud yn haws i gam-drin plant. Rwy'n ymgyrchu i sicrhau bod lleisiau plant yn cael...
Neil McEvoy: Rwy'n edrych ar ddatganiad y Llywodraeth ar wneud y frwydr yn erbyn troseddau cyllyll yn un o flaenoriaethau absoliwt y Llywodraeth. Euthum i wylnos a gefnogwyd yn dda iawn yng Nghaerdydd yn ddiweddar gyda llawer o rieni a llawer o bobl ifanc, ac roedd yn addysg i wrando, yn enwedig ar y bobl ifanc a oedd yn sôn am sut y mae troseddau cyllyll yn effeithio arnynt. Tybed a fydd Gweinidogion...
Neil McEvoy: Diolch, Lywydd. Os ydych chi erioed wedi pendroni pam y mae angen Senedd sofran arnom yng Nghymru, nid oes ond angen ichi edrych ar San Steffan. Mae'n ffaith fod y Llywodraeth yn Llundain bellach yn cael ei harwain gan genedlaetholwyr asgell dde yn y DU. Gall Cymru wneud yn well. Ni allwn ddibynnu ar San Steffan, felly rhaid inni ddechrau paratoi ar gyfer sefyll ar ein traed ein hunain, ac...
Neil McEvoy: Datganaf fuddiant fel cynghorydd yng Nghaerdydd. Hoffwn gael datganiad gan y Llywodraeth am gwmnïau preifat sy'n rhedeg cartrefi gofal plant yng Nghymru. Nid ydyn nhw'n caniatáu i gynghorwyr, nac i rieni yn wir, gael mynediad i'r cartrefi hynny i ymweld â nhw. Mae hyn wedi digwydd mewn un achos yn benodol yr wyf yn ymdrin ag ef lle mae plentyn wedi honni ei fod wedi cael ei gam-drin mewn...
Neil McEvoy: Prif Weinidog, ceir hen jôc am faint o bobl y mae'n ei gymryd i newid bwlb golau, ond yr hyn y dylai'r cwestiwn fod yw: beth mae'n ei gostio i'ch Llywodraeth Lafur Cymru chi newid bwlb golau yng Nghymru? Yr ateb yw hyd at £245 o dan gynllun Arbed Llafur, oherwydd dyna'r hyn y mae contractwyr wedi cael eu hannog i'w godi am fesurau goleuo 'ysgafn'—newid bylbiau golau i bob pwrpas. Ac ar...
Neil McEvoy: 7. A wnaiff y Prif Weinidog roi'r wybodaeth ddiweddaraf am ddarparu'r cynllun Arbed yng Nghanol De Cymru? OAQ54213
Neil McEvoy: Rwy'n cefnogi eich polisi yn llwyr a'r cyfeiriad y mae'n mynd iddo, credaf fod y broblem yn ymwneud â lleihau'r ffigur hwnnw, oherwydd, ar lawr gwlad, mae'n ymddangos bod plant yn mynd i mewn i ofal yn llawer rhy hawdd. Felly, fy nghwestiwn yw: sut y gallwn rymuso rhieni? A allem greu gwasanaeth eiriolaeth proffesiynol i rieni? Oherwydd mae'n ymddangos bod yna rywbeth cyffredinol sy'n cael...
Neil McEvoy: Diolch, Dirprwy Lywydd. Gweinidog—Dirprwy Weinidog—rwy'n falch iawn o'ch clywed yn sôn am leihau nifer y plant mewn gofal. Mae'r ffaith bod cynnydd o 34 y cant wedi bod mewn 15 mlynedd yn peri pryder mawr. Hoffwn i wybod mwy am yr amrywiadau yr ydych chi'n sôn amdanynt. Os oes yna ardaloedd o Gymru lle mae cyfradd y plant sy'n derbyn gofal bron dair gwaith yn uwch nag yng Ngogledd...
Neil McEvoy: A wnewch chi ildio?