Mohammad Asghar: Weinidog, mae'r cyhoeddiad am golli 280 o swyddi yn Quinn Radiators wedi bod yn ergyd drom i'r gweithlu hynod fedrus, gweithgar a ffyddlon hwn yng Nghasnewydd. Mae hefyd yn destun pryder i glywed bod y cwmni wedi cael £3 miliwn o gymorth benthyciad gan Lywodraeth Cymru mor ddiweddar â 2016. A allwn gael sicrwydd gennych, Weinidog, y byddwch yn rhoi pob cymorth i ddod o hyd i brynwr i'r...
Mohammad Asghar: Weinidog, rwy'n meddwl bod eich cyd-Arglwydd, yr Arglwydd Hall, sy'n gadeirydd y BBC—buaswn yn ddiolchgar pe baech yn rhoi gwybod iddo beth y mae pobl Cymru, yn enwedig y rhai dros 75 oed—. Rwy'n gwybod ei fod yn endid cyfreithiol hollol wahanol, y BBC, ond mae'r bobl yn fy rhanbarth i sydd dros 75 oed—maent yn byw ar eu pen eu hunain, mae gan rai ohonynt gyflyrau meddygol, a heb...
Mohammad Asghar: Weinidog, clywais eich ateb i gwestiwn Alun Davies yn awr, ac mae'n galonogol iawn. Un o'r pryderon mwyaf a fynegwyd gan y bobl sy'n byw yng nghymunedau’r Cymoedd yn fy rhanbarth yw darpariaeth neu amlder gwasanaethau bws yn eu hardaloedd. Gall gwasanaethau cludiant cymunedol hyblyg a hygyrch chwarae rhan bwysig yn helpu pobl i gyrraedd gwasanaethau allweddol, yn enwedig pan na fydd...
Mohammad Asghar: Pa asesiad y mae'r Cwnsler Cyffredinol wedi'i wneud o effaith Brexit ar fewnfudo yng Nghymru?
Mohammad Asghar: Gweinidog, a gaf i ddatganiad gan Lywodraeth Cymru am ganfyddiadau'r adroddiad diweddar gan Brifysgol Caerdydd ac Ysgol Fusnes Nottingham ar dlodi yng Nghymru, os gwelwch yn dda? Dywed yr adroddiad fod rhai o ardaloedd mwyaf difreintiedig Cymru am fod yn dlotach yn y blynyddoedd i ddod, ac mae'n codi cwestiynau difrifol am ein dinas-ranbarthau, y gwyddys eu bod yn llawer llai cystadleuol nag...
Mohammad Asghar: Diolch yn fawr am yr ateb yna, Gweinidog, ond rwy'n credu mai chi yw'r un sy'n gofalu am y gwasanaethau cymdeithasol a'r GIG yng Nghymru. Mae gwaith ymchwil ar gyfer y Rhwydwaith Dileu Tlodi Plant yn dangos bod nifer y plant sy'n byw mewn tlodi yng Nghymru wedi codi gan 1 y cant y llynedd. O gofio bod eich Llywodraeth wedi addo rhoi terfyn ar dlodi plant erbyn 2020, a allwch chi esbonio pam...
Mohammad Asghar: 2. Sut y mae Llywodraeth Cymru yn monitro effeithiolrwydd ei mesurau i fynd i'r afael â thlodi? OAQ53987
Mohammad Asghar: I ymhelaethu ar gwestiwn Mr Alun Davies, Weinidog, mae ffigurau'n dangos bod criwiau ambiwlans ledled Cymru wedi treulio dros 65,000 o oriau'n aros i drosglwyddo cleifion mewn ysbytai y llynedd—a soniasoch eisoes am y 25,000 awr ers 2015, ar ben hynny hefyd. Pa gamau y mae'r Gweinidog yn eu cymryd i fynd i'r afael â'r broblem o oedi estynedig wrth drosglwyddo cleifion i wella gwasanaethau...
Mohammad Asghar: Weinidog, ni allwch wella canlyniadau addysgol heb ddarparu'r nifer angenrheidiol o staff addysgu sydd eu hangen ar yr ysgolion. Mae ffigurau diweddar yn dangos diffyg o 40 y cant rhag gallu cyrraedd eich targed eich hun ar gyfer athrawon dan hyfforddiant newydd mewn ysgolion uwchradd. Rydych hefyd wedi methu cyrraedd eich targed ar gyfer athrawon dan hyfforddiant mewn ysgolion cynradd am y...
Mohammad Asghar: Prif Weinidog, mae'n ddiwrnod trist iawn. Nid fi sy'n dweud hyn; ond Cydffederasiwn Diwydiant Prydain—y mae eich Gweinidog newydd gwrdd â nhw, fel y dywedasoch yn gynharach. Dyma eu dyfyniad ar y BBC. Mae'n ddiwrnod trist i'r rheini sydd eisiau gweld dileu rhwystrau sylweddol i dwf economaidd yng Nghymru; yn ddiwrnod trist i'r busnesau hynny sy'n wynebu costau uwch pan fydd tagfeydd yn...
Mohammad Asghar: Gweinidog, a gaf i ddatganiad gan y Gweinidog Addysg ynghylch recriwtio athrawon yng Nghymru os gwelwch yn dda? Yr wythnos diwethaf, adroddwyd bod Llywodraeth Cymru wedi methu ei tharged ei hun ar gyfer recriwtio athrawon ysgol uwchradd newydd dan hyfforddiant gan 40 y cant. Methwyd y targed ar gyfer hyfforddeion mewn ysgolion cynradd am y drydedd flwyddyn yn olynol. Hefyd, mae'r ffigurau'n...
Mohammad Asghar: Prif Weinidog, y llynedd, gwelwyd y cynnydd mwyaf i werth allforion yng Nghymru—£17.2 biliwn, gyda chynnydd o 4.2 y cant o'i gymharu â 2017. Cynyddodd allforion i wledydd yr UE gan 5.6 y cant—ychydig dros £0.5 biliwn—o'i gymharu â chynnydd o ychydig dros 2 y cant i wledydd nad ydynt yn yr UE. Beth mae Llywodraeth Cymru yn ei wneud i sicrhau bod gan gwmnïau yn Islwyn, ac yng...
Mohammad Asghar: Y neges rwy'n ei chlywed dro ar ôl tro gan adeiladwyr bach yw bod digon o waith yno, ond yn rhy aml nid oes ganddynt ddigon o grefftwyr medrus i ymgymryd â'r gwaith hwnnw. O ganlyniad, maent yn Colli cyfle aur am dwf yn y sector adeiladu a'r economi ehangach. Nid oes gan fwy na hanner y rhai sy'n economaidd anweithgar yng Nghymru unrhyw gymwysterau o gwbl. Mae hyn yn cyfrannu at y bwlch...
Mohammad Asghar: Dysgu oedolion, gwella sgiliau ac ailsgilio yw’r allwedd i feddwl blaengar ac economi amrywiol yn y byd modern. Mae pawb ohonom yn cydnabod pwysigrwydd darparu sgiliau sydd eu hangen ar gyflogwyr i bobl allu bod mewn swyddi da a chynaliadwy. Mae'n hanfodol fod oedolion yn cael eu hannog i gymryd rhan mewn dysgu ar unrhyw adeg yn eu gyrfa. Gall hyn fod drwy ddysgu yn y gwaith, neu drwy...
Mohammad Asghar: —rwystro ymdrechion gwrthderfysgaeth. A yw'r Dirprwy Weinidog yn cydnabod y bydd mabwysiadu’r diffiniad amwys a helaeth hwn heb graffu digonol nac ystyriaeth briodol o’i ganlyniadau negyddol yn tanseilio cydlyniant cymdeithasol ac yn tanio’r union ragfarn yn erbyn Mwslimiaid y’i lluniwyd i’w hatal? Diolch yn fawr.
Mohammad Asghar: Diolch i Leanne, Darren, Jenny a’r Gweinidog hefyd, am o leiaf ddeall mai problem yn ymwneud ag Islamoffobia yw hon. Weinidog, mae ystod amrywiol o 44 ymgyrchydd—academyddion, awduron a phobl gyhoeddus eraill—wedi llofnodi llythyr agored yn beirniadu’r modd, ac rwy'n dyfynnu, 'anfeirniadol ac annymunol' y mabwysiadwyd y diffiniad arfaethedig hwn o Islamoffobia. Aethant yn eu blaen i...
Mohammad Asghar: Mae gofalwyr yn chwarae rhan hanfodol yn ein cymdeithas. Boed yn ariannol neu'n gymdeithasol, ni ellir gorbwysleisio'r cyfraniad a wneir gan ofalwyr. Nid yn unig fod mwy o bobl yn gofalu, maent hefyd yn gofalu am gyfnod hwy o amser, ac mae nifer y bobl sydd angen gofal a'r rhai sydd angen gofal am gyfnodau hwy o amser wedi cynyddu'n sylweddol yng Nghymru. Mae'n hanfodol, felly, ein bod yn...
Mohammad Asghar: Weinidog, mae Merthyr Tudful a Rhymni, fel llawer o gymunedau eraill yng Nghymru, wedi dioddef yn sgil cau banciau yn ystod y blynyddoedd diwethaf, banciau megis cangen Barclays yn Aberfan a banc Lloyds yn Rhymni. Mae hyn wedi ei gwneud yn bwysicach fyth fod peiriannau arian parod ar gael i alluogi pobl i gael eu harian. Fodd bynnag, canfu adroddiad yn y cylchgrawn Which? fod peiriannau arian...
Mohammad Asghar: Diolch am eich ateb, Weinidog. Dywedodd Steve Morgan, sylfaenydd Redrow, yn ddiweddar mai'r ffordd orau o frwydro yn erbyn yr argyfwng tai yw cyflymu caniatâd cynllunio i alluogi mwy o dai i gael eu hadeiladu. Aeth ymlaen i ddweud bod y rheolau a'r cyfarwyddebau wedi tagu'r system, sy'n golygu bod llai o dai yn cael eu hadeiladu, a hynny yn ei dro yn ei gwneud hi'n anodd i brynwyr tro cyntaf...
Mohammad Asghar: Weinidog, y llynedd, adroddodd Pwyllgor Llywodraeth Leol a Chymunedau Senedd yr Alban ar Fil Cynllunio (Yr Alban). Roeddent yn galw am i'r Bil annog ymgysylltu mwy ystyrlon ar geisiadau cynllunio. Croesawyd hyn gan y Royal Town Planning Institute Scotland, a ddywedodd eu bod am greu system gynllunio fwy cydweithredol, lle mae cymunedau a phartneriaid eraill yn cael eu cynnwys ar ddechrau'r...