Suzy Davies: Daeth y symbyliad ar gyfer Metro Bae Abertawe yn sgil galwadau niferus yn y Siambr hon am system drafnidiaeth sy'n sail i'r fargen ddinesig, ac rwy'n falch nawr bod Trafnidiaeth Cymru yn gweithio gyda Llywodraeth Cymru ac awdurdodau lleol i ddatblygu cynlluniau, yn arbennig ar gyfer y gwasanaeth cyflymach hwnnw i'r Gorllewin a'r De. Rwyf wedi cyflwyno'r achos o'r blaen y byddai parcffordd yn...
Suzy Davies: Diolch i chi am yr ateb yna. Rwy'n nodi na wnaethoch chi sôn yn benodol am brentisiaid newydd, oherwydd fe fydd angen y rheini i adfer economi Cymru. Ond, fel y dywedwch, mae angen inni gadw ein prentisiaid presennol mewn cof. Nid wyf i'n gwybod beth yw'r sefyllfa yng Nghymru ar hyn o bryd. A ydym ni'n ystyried ffyrlo i hanner ein prentisiaid adeiladu ni, fel y maen nhw'n gwneud yn Lloegr?...
Suzy Davies: 2. Pa gymorth y mae Llywodraeth Cymru yn ei gynnig i brentisiaid a'r rhai sy'n cymryd rhan mewn dysgu seiliedig ar waith, yn sgil yr effaith y mae COVID-19 wedi'i chael ar eu lleoliadau? OQ55451
Suzy Davies: Diolch. Ie, y pwynt roeddwn yn ei wneud yw bod y Bil fel ag y mae yn cyflwyno adolygiad pum mlynedd, sy'n golygu y bydd yn digwydd yr un pryd â'r etholiad nesaf. Felly, roeddwn eisiau gwybod beth oedd y meddylfryd y tu ôl i wahardd Senedd gyfan rhag asesu llwyddiant y cwricwlwm newydd. Credaf, efallai, oherwydd amseriad yr adolygiad hwnnw, y gallai wneud mwy o synnwyr i ni gael seithfed...
Suzy Davies: [Anghlywadwy.]—yn bendant, gallaf weld pa mor gyffrous rydych chi gyda'r Bil hwn. Diolch i chi am ei gyflwyno. Efallai eich bod yn ei gadael ychydig yn hwyr i sicrhau Cydsyniad Brenhinol erbyn diwedd tymor y Senedd hon, ac mae hynny, rwy'n ofni, yn fy arwain yn syth at fy sylw cyntaf. Mae'r Bil yn darparu ar gyfer adolygiad pum mlynedd, sy'n golygu y bydd hyn yn digwydd—[Torri ar draws.]...
Suzy Davies: Dyna ni. Diolch yn fawr iawn, Lywydd.
Suzy Davies: Rhowch eiliad i mi.
Suzy Davies: Iawn? Diolch yn fawr, ac mae'n ddrwg gennyf. Diolch am fy ngalw ar y cwestiwn amserol hwn. Mae'n ddrwg gennyf ei bod yn ymddangos iddo gael ei wastraffu gan yr unigolyn a ofynnodd y cwestiwn yn wreiddiol, oherwydd mae'n eithaf amlwg fod y cwmni hwn wedi dewis Pen-y-bont ar Ogwr nid yn unig dros dri neu bedwar safle arall yn y DU yn wreiddiol ond nifer o safleoedd Ewropeaidd hefyd. Ac mae'n...
Suzy Davies: Diolch am eich ateb. Credaf y bydd rhai athrawon llanw ar Ynys Môn yn awyddus i siarad â chi hefyd. Ni chredaf fod amheuaeth fod athrawon a staff ysgolion, a rhieni a disgyblion, wedi ymateb i'r her hon dros yr ychydig fisoedd diwethaf, ond mae pawb bellach yn dechrau colli amynedd, fel rydym eisoes wedi clywed. Yr hyn y buaswn yn ei ddweud yw nad wyf yn credu y dylai athrawon, ysgolion a...
Suzy Davies: Iawn, mae hwnnw’n sylw diddorol, yr un olaf hwnnw, oherwydd yn sicr, fy nealltwriaeth i yw nad yw amryw reoliadau sydd wedi dod drwy bwyllgor gwahanol wedi cael yr asesiadau hynny o hawliau o reidrwydd. Tybed a allwch fod o gymorth inni ar fater tebyg, sy'n ymwneud â dysgu cyfunol, gan fod rhywfaint o ddryswch ynglŷn ag a fydd mis Medi yn amgylchedd dysgu cyfunol ai peidio. Fy...
Suzy Davies: Diolch, Llywydd, a diolch, Weinidog, hefyd.
Suzy Davies: A gaf fi ychwanegu fy llais at y rheini sydd wedi llongyfarch ysgolion a'r athrawon, y staff, yn ogystal â rhieni a theuluoedd, ac yn wir, rhai o swyddogion y cynghorau hefyd, sydd wedi cyfrannu at allu agor ysgolion yn ystod yr ychydig wythnosau diwethaf, ac yn enwedig y rheini sy'n benderfynol o fynd am y bedwaredd wythnos honno? Hoffwn ddechrau heddiw, fodd bynnag, gyda'r cwestiynau a...
Suzy Davies: Diolch, Llywydd, ac ydw, rwy'n cynnig y gwelliannau. A gaf i ddiolch i Blaid Cymru am ddod â'r ddadl hon gerbron? Mae'n bwnc mawr ac rwy'n gwerthfawrogi eu bod eisiau canolbwyntio ar un neu ddau o agweddau heddiw. Felly, rhestr gyflym fydd hon o rai o'r materion a godwyd gan y cynnig a'r gwelliannau. Ond rwy'n credu y gallwn ni nodi'r pethau sylfaenol wrth gefnogi pwyntiau 1 a 3, ac rwy'n...
Suzy Davies: Na, dyna oedd fy nghwestiynau i gyd gyda'i gilydd, Dirprwy Lywydd.
Suzy Davies: Wrth gwrs. A sut i wneud hynny heb atal neb rhag dod i mewn i'r proffesiwn.
Suzy Davies: Diolch am yr ymateb yna. Roeddwn i'n falch hefyd i glywed bod rhai pobl yn defnyddio'r broses lockdown fel cyfle i drosi bwriad annelwig yn weithred wirioneddol. Rwy'n gobeithio hynny, ond—wel, mae'n bosib colli arferion yn haws na'u creu nhw, a dyna pam yr hoffwn i wybod beth fydd y cynlluniau nawr ar gyfer creu cyfleoedd mwy dilys i ddysgwyr ddefnyddio'u sgiliau newydd mewn ffordd...
Suzy Davies: Diolch, Dirprwy Lywydd. Os gallwch chi jest roi eiliad i fi—diolch. Prynhawn da, Weinidog. Byddwn ni'n trafod agweddau mwy dadleuol ar y Gymraeg, siŵr o fod, yn y cwricwlwm newydd yn y cwestiynau yn ddiweddarach yn y ddadl y prynhawn yma, ac felly gadawaf hynny am y tro. Ond dwi am ofyn ichi am gyflwr eich gweledigaeth ar gyfer cyrraedd targed 2050, ac effaith y pandemig ar ddysgwyr y...
Suzy Davies: Ddirprwy Weinidog, mae Hwb wedi bod yn elfen sylfaenol o addysg gartref yn ystod y tri mis diwethaf. Rwyf hyd yn oed yn dal i gael gohebiaeth gan rieni sydd ddim yn siarad Cymraeg ac sydd ddim yn teimlo eu bod nhw wedi bod mewn sefyllfa i helpu eu plant sy'n mynd i ysgolion cyfrwng Cymraeg. Fydd e'n bosib i chi siarad â'r Gweinidog Addysg am sut y gallai copïau o bapurau bro gael eu...
Suzy Davies: Wel, diolch yn fawr i chi am yr ateb hwnnw, oherwydd rwy'n credu fy mod i'n iawn i ddweud, a siarad yn gyffredinol, bod cynghorau'n adhawlio eu gwariant sy'n gysylltiedig â COVID oddi wrthych chi'n fisol fel ôl-daliad. A wnewch chi ddweud a ydych chi wedi gwrthod talu am unrhyw wariant a gyflwynwyd ger eich bron, hyd yn oed gyda'r dystiolaeth? Ac a oes gennych unrhyw awgrym eto ynghylch pa...
Suzy Davies: Prif Weinidog, diolch am yr ymateb i John Griffiths yn y fan yna. Yn amlwg, mae'n cynrychioli etholaeth yng Nghasnewydd, lle gallai ffordd liniaru'r M4 fod wedi bod yn ddarn o seilwaith mor fawr. Rwy'n credu y bydd y dewisiadau eraill yn hytrach na ffordd liniaru'r M4 yn cael eu cyflwyno i chi yn fuan, a dychmygaf eich bod chi eisoes wedi cael syniad bras o gost y dewisiadau amgen hynny. Beth...