Julie James: Diolch yn fawr am hynna. Wrth gwrs, mae fy nghyd-Aelod Lesley Griffiths a minnau wedi bod yn gweithio'n agos iawn, iawn gyda'n gilydd, fel y mae ein holl swyddogion, ar hyn. Allwn ni ddim gwneud hyn heb ein ffermwyr—dyna'r gwir amdani—heb ein tirfeddianwyr, felly wrth gwrs maen nhw'n gwbl ganolog. Rydym ni'n gweithio gyda'r undebau amaeth a gyda grwpiau o ffermwyr eraill. Roedd gennyf i...
Julie James: Diolch, Mike. Fel y dywedais o'r blaen, rydym ni wedi bod yn gweithio gydag Ofwat i wneud yn siŵr, yn yr adolygiad pris nesaf ar gyfer cwmnïau dŵr, bod y gallu a'r angen i fuddsoddi mewn atal all-lif carthion i afonydd, yn enwedig y llifoedd carthion cyfun, yn angenrheidiol iawn a bod modd cyflwyno rhaglen fuddsoddi. Mae'n bwysig iawn i ni fod y mecanwaith prisiau yn cael ei roi ar waith i...
Julie James: O, rydych chi yna. Mae'n ddrwg gennyf i, Mike. Yn union y tu ôl i mi, Mike. Mae gennym ni amddiffynfa llifogydd Tawe, sy'n ateb naturiol yn y fan yna. Mae afon Tawe'n llifo allan i'r hyn a fyddai wedi bod yn rhan o'i gorlifdir naturiol. Mae'n wely cyrs. Mae ganddo'r fioamrywiaeth fwyaf anhygoel sydd wedi dychwelyd i'r rhan honno o Abertawe, ac mae wedi atal afon Tawe rhag gorlifo ar ei hyd...
Julie James: Diolch, Delyth. O ran y glaw cynyddol—. Wel, nid dim ond y glaw cynyddol, mewn gwirionedd. Un o'r problemau mwyaf sydd gennym ni yw hafau poeth a sych ac yna glaw eithafol. Rydym yn dal yn gweld sychder yn y rhan fwyaf o Gymru. Nid yw ein cronfeydd dŵr wedi codi i'r fan ble y dylen nhw fod eto, er gwaethaf y glaw a gawsom yn ddiweddar, oherwydd mae'n ysbeidiol. Mae llawer ohono'n disgyn yn...
Julie James: Wel, diolch, Janet. Wyddoch chi, unwaith eto, mae gen i ofn bod yn rhaid i mi dynnu sylw at y gwrthddywediad yn yr hyn rydych chi'n ei ddweud. Dydych chi ddim eisiau llygredd. Dydych chi ddim eisiau'r rheoliadau llygredd amaethyddol. Mae'r syniad nad yw unrhyw amaethyddiaeth yng Nghymru yn achosi llygredd, ei fod i gyd yn fai'r cwmnïau dŵr ac adeiladwyr tai yn ffwlbri. Wrth gwrs, yr hyn...
Julie James: Dros yr 20 mlynedd nesaf bydd Cymru'n wynebu gaeafau gwlypach, hafau poethach a sychach, lefelau'r môr yn codi, a thywydd eithafol amlach a dwys. Bydd yr angen i gyflawni datgarboneiddio, cydnerthedd o ran yr hinsawdd, gwrthdroi'r dirywiad mewn bioamrywiaeth a gwella ansawdd ein dŵr yn gofyn am atebion arloesol, newid ymddygiad, a buddsoddiad hirdymor yn ein seilwaith dŵr. Mae'r...
Julie James: Diolch, Llywydd. Dŵr yw un o'n hasedau naturiol mwyaf ac mae'n rhan annatod o ddiwylliant, treftadaeth a hunaniaeth genedlaethol Cymru. Fodd bynnag, mae ein sector dŵr yn wynebu heriau brys a digynsail.
Julie James: Efallai y bydd angen ychydig mwy nag ychydig bach mwy. Mae cynigion y cynllun ffermio cynaliadwy yn cynnwys llu o gamau gweithredu sydd wedi'u cynllunio i gynorthwyo ffermwyr i barhau i gynhyrchu bwyd yn gynaliadwy ochr yn ochr â mynd i'r afael â'r argyfyngau hinsawdd a natur. Mae ffermio cynaliadwy yn gwbl allweddol i'n dyfodol. Mae gennym safonau cynaliadwyedd eisoes sy'n arwain y byd yn...
Julie James: Diolch. Rwy'n cytuno'n llwyr. Ni fydd gennyf amser i fynd drwy holl fanylion hynny, ond mae pocedi o arloesedd yn dangos beth sy'n bosibl i gyfanwerthwyr a sefydliadau cymdeithas sifil sy'n gweithio gyda chynhyrchwyr a thyfwyr lleol i helpu i ddatblygu prydau ffres ac iach i ysgolion.
Julie James: Naddo, mae'n ddrwg gennyf. Ewch amdani.
Julie James: Yn sicr, Andrew. Ni fydd gennyf amser i fynd drwy bob polisi unigol y soniwyd amdanynt mewn cynnig eang iawn, ond rwy'n derbyn y pwynt yn llwyr. Un o'r pethau mawr i ni yw gwneud yn siŵr ein bod yn cael yr holl werth o'n cadwyn gyflenwi bwyd, ac wrth wneud hynny, ein bod yn helpu'r proseswyr i ddod i Gymru a defnyddio'r cynnyrch hwnnw. Ond ymddiheuriadau—mae'r Dirprwy Lywydd ar fin dweud...
Julie James: Diolch, Ddirprwy Lywydd. Rwyf am ddiolch i Blaid Cymru am gyflwyno'r ddadl hon heddiw, ac rwy'n ddiolchgar iawn am y cyfle i gyfrannu ati. Bydd y Llywodraeth yn cefnogi'r cynnig. Byddwn yn dadlau, fel cenedl sy'n gyfrifol yn fyd-eang, ein bod ni, mewn gwirionedd, yn mynd dipyn pellach na'r cynnig. Rydym yn amlwg yn cefnogi'r uchelgeisiau a adlewyrchir yn y cynnig, ond yr her go iawn yw...
Julie James: Diolch, Llywydd. Rwy'n cymeradwyo Rheoliadau Rhentu Cartrefi (Cymru) 2016 (Diwygiadau Canlyniadol) 2022 i'r Senedd ac yn gofyn i'r Aelodau eu cefnogi fel y gallwn ni roi Deddf Rhentu Cartrefi (Cymru) 2016 ar waith ym mis Rhagfyr. [Torri ar draws.] Efallai pe byddech chi byth yn gwrando ar unrhyw beth rydw i'n ei ddweud, Janet, byddech chi'n deall—
Julie James: Mae'n ddrwg gen i, Llywydd, esgusodwch fi.
Julie James: Fel yr oeddwn i'n ei ddweud, Janet, efallai pe byddech chi byth yn gwrando ar unrhyw beth rydw i'n ei ddweud, yn hytrach na darllen yr araith yr oeddech chi wedi'i pharatoi ymlaen llaw, byddech chi'n gwybod na fydd pleidleisio yn erbyn y rheoliadau hyn yn atal gweithredu'r Ddeddf—yn syml, bydd yn golygu nad yw'r Ddeddf yn gweithio fel y bwriadwyd. Felly, hurtrwydd yw hynny, a dweud y gwir....
Julie James: Diolch, Dirprwy Lywydd. Mae'r rheoliadau hyn yn rhan o'r set derfynol o offerynnau statudol rydw i'n eu gosod wrth i ni symud tuag at weithredu Deddf Rhentu Cartrefi (Cymru) 2016 ar 1 Rhagfyr. Mae'r offerynnau statudol, gan gynnwys Rheoliadau Rhentu Cartrefi (Cymru) 2016 (Diwygiadau Canlyniadol) 2022 rydyn ni'n pleidleisio arnyn nhw heddiw, yn hanfodol i weithrediad Deddf 2016. Fel y dywedais...
Julie James: Rwy'n cytuno â hynny, Alun, ac felly byddwn yn cyflwyno'r Bil cydsynio seilwaith ym mlwyddyn y Cynulliad hwn—felly, cyn diwedd tymor yr haf—i wneud yn siŵr ein bod yn symleiddio'r cydsyniad ar gyfer prosiectau mawr ac yn gwneud gwahaniaeth penodol iawn rhwng y setiau cynllunio ar gyfer y rheini. Rydym ni wedi bod yn gwneud cyfres o gylchoedd hyfforddi gyda'r holl awdurdodau cynllunio...
Julie James: Ynghylch yr un olaf yna, yn union hynny, Mike. Dyna un o'r rhesymau ein bod yn edrych yn ofalus ar ddatblygu dal, defnyddio a storio carbon. Mae'r dechnoleg yn amlwg yn gweithio ar raddfa fach, ond hyd yn hyn does dim graddfa fawr, a bydd y materion storio sy'n cael eu hystyried ym mhrosiect HyNet yn y gogledd yn bwysig iawn, iawn—felly, bydd yr holl faterion ynghylch cynnwys a gwneud yn...
Julie James: Felly, ydi, mae hynny'n ddiddorol iawn. Rwy'n ymwybodol ohono, ac mae'n ddatblygiad diddorol iawn. Rydym ni'n frwdfrydig iawn. Mae'r cynllun y cyfeiriwyd ato gan ein cyd-Aelod, Mike Hedges, yn gynllun tebyg iawn, felly rydym ni'n awyddus iawn i ddeall sut y gallem ni ddenu cyllid er mwyn cynorthwyo cymunedau i ddod at ei gilydd i wneud hynny'n union, ac yna i rannu'r ynni. Felly, yn y cynllun...
Julie James: Rwy'n hapus iawn i'ch sicrhau chi ein bod ni, wrth gwrs, yn gwneud hynny. Yn ddiweddar iawn, cyfarfu Gweinidog yr Economi a minnau â Valero i drafod hynny'n union. Rydym yn aros am y grŵp rhyngweinidogol nesaf gyda Llywodraeth y DU i drafod y fersiwn nesaf. Rydym ni'n cael ein llyffetheirio braidd gan y sefyllfa yng Ngogledd Iwerddon. Felly fe wnaethom ymgynghori ar y cynllun masnachu, fel...