Rhianon Passmore: Diolch, Weinidog. Fel y dywedais ddoe yn y Siambr hon, addysg, ar wahân i gariad, yw'r rhodd fwyaf y gallwn ei rhoi i'n plant. Fel cymdeithas, mae'n dweud llawer am bwy ydym ni, beth ydym ni, yr hyn a flaenoriaethwn a phob dim sydd o werth i ni fel cenedl flaengar, fywiog a deinamig. Felly, hoffwn ddiolch i chi, Weinidog, am ein trafodaethau sy'n aml yn gadarn a hoffwn gofnodi fy...
Rhianon Passmore: Diolch, Weinidog. Nododd Llywodraeth Cymru yn ei chyllideb derfynol y bydd yn neilltuo £200 miliwn arall i fusnesau o'i chronfeydd wrth gefn ei hun. Unwaith eto, mae hyn yn ychwanegol at y gwariant ychwanegol blaenorol ar gyfer Cymru'n unig a wnaed o'i chyllideb ei hun, ac mae'n gadarnhad pellach mai Cymru sy'n darparu'r pecyn gorau o gymorth busnes yn y DU gyfan. Pa sylwadau felly y mae...
Rhianon Passmore: 10. A wnaiff y Gweinidog roi'r wybodaeth ddiweddaraf am newidiadau i bolisi trethiant Llywodraeth Cymru i gefnogi busnesau yn sgil pandemig COVID-19? OQ56462
Rhianon Passmore: 5. Beth mae Llywodraeth Cymru wedi'i wneud i fuddsoddi mewn seilwaith ffisegol ysgolion yn Islwyn? OQ56463
Rhianon Passmore: Gweinidog, hoffwn ddiolch i chi am eich datganiad ac am waith y Llywodraeth hon yng Nghymru i sicrhau y gallwn barhau â'r gwaith o ailadeiladu ein seilwaith ysgolion yng Nghymru ar frys. Addysg, ar wahân i gariad, rwy'n credu, yw'r rhodd fwyaf y gallwn ei rhoi i'n plant. Fel cymdeithas, mae'n tystio i bwy a beth ydym ni, i'r hyn yr ydym ni yn ei flaenoriaethu a'n gwerth fel cenedl flaengar...
Rhianon Passmore: Rwyf innau hefyd yn cefnogi'r gyllideb hon, ac unwaith eto cymeradwyaf y Gweinidog a Llywodraeth Lafur Cymru am yr ymrwymiad deuol i fynd i'r afael yn uchelgeisiol â'r ymdrechion llwyddiannus yng Nghymru i drechu'r pandemig ac i ddechrau'r broses o ailgodi ein heconomi'n decach, ar ôl degawd o ddiffyg cyllid a thanfuddsoddi i Gymru. Mae hefyd yn iawn fod Llywodraeth Cymru wedi rhoi ei...
Rhianon Passmore: Rwy'n croesawu'n fawr y drydedd gyllideb atodol gan Lywodraeth Cymru. Mae ein dull clir yng Nghymru o graffu ar gyllid cyhoeddus yn dryloyw ac yn ddibynadwy. Fel aelod o'r Pwyllgor Cyfrifon Cyhoeddus a'r Pwyllgor Cyllid, rwyf yn gwerthfawrogi'n fawr ein bod yn blaenoriaethu ac yn gwario'n ddoeth yr arian cyhoeddus sydd ar gael inni yng Nghymru. Fodd bynnag, yng Nghymru, rhaid inni...
Rhianon Passmore: Mae pobl Islwyn, yr wyf i'n eu cynrychioli, yn eich llongyfarch chi a Llywodraeth Lafur Cymru ar achlysur cyrraedd carreg filltir hanesyddol, sef miliwn o frechiadau. Yn fy etholaeth i, sef Islwyn, mae'r brechu torfol yng nghanolfan hamdden Trecelyn yn effeithiol iawn, ac yn fedrus iawn, yn brechu niferoedd mawr o bobl. Gweinidog, gyda phedwar o bob 10 ymhlith poblogaeth oedolion Cymru wedi...
Rhianon Passmore: Beth mae Llywodraeth Cymru yn ei wneud i hyrwyddo hawliau cymunedau LGBT+ yn Islwyn?
Rhianon Passmore: Diolch ichi am yr ymateb hwnnw. Mae pryder cynyddol ynglŷn ag agwedd Gweinidog Torïaidd Llywodraeth y DU tuag at fater y £4.8 biliwn i sbarduno adfywiad ledled y DU a weinyddir gan Whitehall. Weinidog, a wnaiff Llywodraeth Lafur Cymru barhau i sefyll yn rymus dros ddatganoli yng Nghymru, pwysigrwydd Senedd Cymru fel corff democrataidd, ac mai ni fel gwleidyddion a etholwyd yn uniongyrchol...
Rhianon Passmore: 8. Pa sylwadau y mae Llywodraeth Cymru wedi'u cyflwyno i Lywodraeth y DU ynghylch gweithredu'r gronfa ffyniant gyffredin? OQ56370
Rhianon Passmore: Pa gamau y mae'r Gweinidog yn eu cymryd i hyrwyddo'r Gymraeg yn Islwyn drwy dechnoleg iaith ar-lein?
Rhianon Passmore: Diolch. Prif Weinidog, roedd hi'n Wythnos Iechyd Meddwl Plant yr wythnos diwethaf. Roeddwn i'n falch bod y Llywodraeth wedi ei nodi drwy addo cefnogi wythnos iechyd meddwl pobl ifanc, ac roeddwn i'n falch bod Llywodraeth Lafur Cymru wedi ei nodi drwy addo cefnogi gwasanaethau iechyd meddwl pobl ifanc. Gallai'r cyllid hwn fod yn achubiaeth wirioneddol i gynifer o bobl ifanc sydd wedi bod yn...
Rhianon Passmore: 1. Pa flaenoriaeth y mae Llywodraeth Cymru wedi'i rhoi i iechyd meddwl plant a phobl ifanc yn Islwyn yn ystod COVID-19? OQ56295
Rhianon Passmore: Diolch yn fawr iawn. Rwyf yn croesawu eich datganiad a'r penderfyniad anodd a wnaed gan Lywodraeth Cymru i ganslo arholiadau yn haf 2021 er mwyn caniatáu mwy o le ac amser ar gyfer dysgu ac addysgu. Mae'r penderfyniad hwn yn rhoi'r sicrwydd sydd ei angen ar ddysgwyr, eu teuluoedd a'u hathrawon ar adeg ansicr iawn. Bob dydd, mae plant a'u hathrawon yn parhau â'u haddysg o bell, ac rwy'n...
Rhianon Passmore: Diolch, Dirprwy Lywydd. Gweinidog Iechyd, rwy'n croesawu eich datganiad chi'n fawr heddiw am effeithiolrwydd y rhaglen frechu yn Islwyn, a weinyddir gan Fwrdd Iechyd Prifysgol Aneurin Bevan, ac sy'n arloesi ymhellach. Rwyf am ddiolch ar goedd hefyd yn ddiffuant i bawb sy'n peryglu eu bywydau ar y rheng flaen, a'r rhai sydd mewn swyddi arweinwyr yn y rhyfel hwn ar COVID-19. Mae agor y ganolfan...
Rhianon Passmore: Ar draws Islwyn, mae gwasanaeth iechyd gwladol Cymru yn ei gyfanrwydd yn ymateb i her y pandemig hwn, ond mae llawer o bryder o hyd ynglŷn ag ymgyrch i ledaenu camwybodaeth, sef yn benodol fod y rhaglen frechu ymhell o gyrraedd ei tharged a heb fod ar y trywydd cywir, ac mae unrhyw godi bwganod bwriadol o’r fath yn gwaethygu'r gorbryder a'r ofn sydd eisoes yn bodoli yn ein cymunedau. Y...
Rhianon Passmore: Fel rydych chi'n sylweddoli, mae Casnewydd, sef yr unig ddinas yng Ngwent, yn ganolbwynt gwirioneddol i gymunedau Cymoedd Gwent yr wyf i'n eu cynrychioli yn Islwyn, ac rwy'n croesawu'n fawr iawn ymateb cadarnhaol Llywodraeth Cymru i argymhellion Comisiwn Trafnidiaeth De-ddwyrain Cymru ac mae yna hen ddisgwyl nawr am y rheilffordd y mae croeso mawr iddi yng Nghasnewydd. Felly, mae'n gwbl...
Rhianon Passmore: Mae'n flin gen i, Ann Jones, nid oes cwestiwn gen i.
Rhianon Passmore: Mae deddfwriaeth fewnol y farchnad, fel y mae, yn tanseilio sefydliadau democrataidd y Deyrnas Unedig a mandad y fan hon. Mae'r hyn y mae Boris a'i ffrindiau wedi'i wneud hyd yma wedi peri i hyd yn oed cyn-Weinidogion Torïaidd a Phrif Weinidogion Torïaidd wrthwynebu'n groch oherwydd bydd yn difreinio dinasyddion Cymru ac yn annog chwalu'r DU y maen nhw'n honni ei diogelu. Mae'r ffaith y...