Lee Waters: Wel, Lywydd, mae dau bwynt ar wahân i'w hateb, a cheisiaf ateb y ddau ohonynt. Ar y cyntaf, roeddwn yn bresennol brynhawn ddoe yn ystod y cwestiynau busnes, a chlywais gan yr Aelod am y profiad dirdynnol a gafodd hi a’i chyd-deithwyr, ac roedd yn ddrwg iawn gennyf glywed am hynny. Cyfarfûm â chadeirydd a phrif weithredwr Trafnidiaeth Cymru yn syth ar ôl hynny i drafod y mater. Yn amlwg,...
Lee Waters: Ni allwn gytuno mwy, Lywydd. Yn wir, mae gormod o Dorïaid, a byddwn yn sicrhau bod llai ohonynt yn yr etholiad nesaf—[Chwerthin.] Ond o ddifrif, i ateb pwynt cwestiwn yr Aelod, ac rwy'n diolch iddo amdano, mae'r modd yr ydym yn mynd i'r afael â chartrefi'r sector preifat yn amlwg yn her i bob un ohonom. Sylwais yng nghyllideb y Canghellor iddo gyhoeddi gostyngiad TAW ar gyfer rhywfaint o...
Lee Waters: Wel, hoffwn groesawu Altaf Hussain i’r meinciau Llafur—[Chwerthin.] Mae llawer o lawenydd yn y nefoedd am bob pechadur sy’n edifarhau.
Lee Waters: Wel, hoffwn adleisio'r hyn a ddywedodd Mike Hedges am Gyngor Abertawe. Credaf ei bod yn enghraifft wych o bartneriaeth rhwng awdurdod lleol sy’n cael ei redeg gan Lafur a Llywodraeth Lafur Cymru. Maent hwy eu hunain wedi buddsoddi oddeutu £60 miliwn yn y flwyddyn ariannol hon mewn cartrefi cynhesach, mwy effeithlon o ran eu defnydd o ynni, gan greu oddeutu 25 o gartrefi carbon isel newydd,...
Lee Waters: Diolch. Rydym wedi cyflwyno safonau adeiladu newydd ar gyfer cartrefi cymdeithasol, sy'n gwahardd y defnydd o danwydd ffosil, gydag uchelgeisiau i ddatblygwyr preifat fabwysiadu'r gofynion hyn erbyn 2025. Rydym hefyd yn parhau i fuddsoddi yn y rhaglen ôl-osod er mwyn optimeiddio, gan archwilio'r ffyrdd mwyaf effeithiol ac effeithlon o ddatgarboneiddio'r stoc o dai cymdeithasol sy'n bodoli'n...
Lee Waters: Wel, cyfanswm y cyllid a ddarparwyd ar ôl y llifogydd oedd oddeutu £9 miliwn, ac mae oddeutu hanner hwnnw wedi mynd tuag at ddiogelwch tomenni glo yn Tylorstown. Rydym wedi gwario oddeutu £20 miliwn ar hynny. Rydym yn wynebu bil o fwy na £500 miliwn. Rydym wedi ymrwymo £44.4 miliwn dros y tair blynedd nesaf. Mae Llywodraeth y DU wedi gwrthod rhoi rhagor o arian, ac mae Ysgrifennydd...
Lee Waters: Diolch, ie, ac rwy’n cytuno’n llwyr fod rôl yma i Lywodraeth y DU. Dyma a adawyd ar ôl o orffennol diwydiannol Prydain. Mae'r tomenni'n dyddio o adeg cyn i bwerau gael eu datganoli i Gymru, ac mae'n rhaid i Lywodraeth y DU chwarae ei rhan a thalu'r bil hwnnw. A chredaf fod consensws yn y Siambr hon, yn sicr ar y meinciau nad ydynt yn rhai Ceidwadol, ynglŷn â hynny. Fel y dywed yr...
Lee Waters: Diolch. Hoffwn gyfeirio'r Aelod at y datganiad llafar a wnaed ddoe, ac yr ydym yn dadlau hyn y prynhawn yma wrth gwrs. Fel y dywedasom yn glir, mae arolygiadau o domenni sydd wedi’u graddio’n uwch wedi'u cwblhau'n ddiweddar, ac rydym wedi ymrwymo £44.4 miliwn ar gyfer gwaith cynnal a chadw dros y tair blynedd nesaf.
Lee Waters: We are working with local authorities to review and strengthen the approach to assessing local housing need through local housing market assessments. A £50.41 million social housing grant has been allocated for north Wales in 2021-22 to provide more homes for rent in the social sector.
Lee Waters: To kick-start decarbonisation of Wales’s 1.4 million homes, I am investing £150 million in the optimised retrofit programme over the next three years to learn how to decarbonise social homes efficiently and effectively. What we learn from social housing will amplify and accelerate efforts to reduce carbon emissions for all homes.
Lee Waters: Bringing our metro programmes to life is ambitious and complex. Significant construction work is already under way on the south Wales metro through the £738 million core Valleys lines transformation, and the Swansea bay & west Wales metro is spearheading pilots on hydrogen powered busses and integrated ticketing.
Lee Waters: Following the Vale of Glamorgan Council’s agreement to the quashing of the previous decision, the council must prepare a new report on the application. I will consider whether to call in the application when we receive the new report from the council.
Lee Waters: Wel, â phob parch i Alun Davies, nid mater o gael amser y Senedd yn unig ydyw. Mae'n ymwneud â bod â'r capasiti o fewn y Llywodraeth i fynd â Bil cyfan drwodd, ac mae'r rheini'n bethau gwahanol. Felly, rwy'n anghytuno'n barchus ag ef ynglŷn â'r dyfarniadau pragmatig yr ydym wedi'u hwynebu. A byddwn yn pwysleisio i'r Aelodau mai deddfwriaeth sylfaenol yw hon. Bydd sylwedd y deddfiad mewn...
Lee Waters: Rwy'n credu fy mod yn deall grym llawn ei ddadl, Llywydd, felly byddai'n well gennyf—. Wel, gadewch iddo fod yn gryno a gadewch i mi glywed ffrwydrad ei ddadl un tro eto. [Chwerthin.]
Lee Waters: Diolch. A diolch am yr holl gyfraniadau. Rhaid i mi ddweud, Llywydd, dyma'r ail dro heddiw i mi gael stŵr gan Janet Finch-Saunders am beidio â rhoi digon o sylw i Twitter, ond dylwn i roi gwybod i'r Aelodau fy mod yn cael ychydig o seibiant o Twitter, sydd, yn amlwg, yn cael ei groesawu gan rhai o fy nghyd-Aelodau, a gallaf eich sicrhau chi bod swyddfa'r wasg y Llywodraeth wrth eu bodd....
Lee Waters: Diolch yn fawr, Llywydd. Bu farw saith deg dau o bobl yn nhân Tŵr Grenfell. Hwn oedd y tân strwythurol mwyaf angheuol yn y Deyrnas Unedig ers 30 mlynedd, ac fe wnaeth amlygu methiannau difrifol yn y systemau rheoleiddio o ran diogelwch adeiladau. Mae adolygiad y Fonesig Judith Hackitt wedi ceisio mynd i'r afael â'r methiannau hyn, ac roedd argymhellion ei hadroddiad yn perthyn i ddau...
Lee Waters: Yn ffurfiol.
Lee Waters: Diolch i Buffy Williams, ac rwy'n cydnabod bod y rôl arwain y mae hi wedi'i chwarae yn ei chymuned ei hun wrth ymateb i'r llifogydd ac i'r pryder am y domen sy'n symud wedi bod yn hynod o ddefnyddiol. Gobeithio bod ei hetholwyr nawr yn dawel eu meddwl bod tomen Tylorstown yn cael archwiliadau wythnosol. Felly, mae llygad barcud yn cael ei gadw ar hyn, ac mae'r arwyddion yn galonogol iawn bod...
Lee Waters: Wel, hoffwn ategu sylwadau Vikki am gyfrifoldebau Llywodraeth y DU, ac nid pwynt pleidiol yw hwn. Mae hon wedi bod yn etifeddiaeth hir dros genedlaethau lle mae'r DU gyfan wedi elwa ar gyfoeth y cymunedau ledled Cymru, ac rydym yn awr yn ymdrin â gwaddol hynny, yn llythrennol y gwaddodion hynny. Siaradodd Vikki am yr agenda codi'r gwastad, ac, wrth gwrs, rydym ni'n dymuno gostwng y gwastad,...
Lee Waters: Wel, diolch yn fawr iawn am hynna.