Steffan Lewis: Diolch i'r Prif Weinidog am yr ateb yna. Rwy'n gobeithio y bydd yn cael y cyfle i glywed profiadau mamau yng Nghymru sydd wedi bod yn ddigon dewr i siarad am eu profiadau unigol, fel Charlotte Harding o Gaerdydd, y cymerodd ei gŵr ddwy flynedd i ffwrdd o'r gwaith i ofalu amdani hi a’u dau fachgen ar ôl datblygu seicosis ôl-enedigol. Rwyf wedi defnyddio meini prawf Llywodraeth Cymru ei...
Steffan Lewis: 10. A wnaiff y Prif Weinidog ystyried ailagor cyfleusterau iechyd meddwl amenedigol i gleifion mewn ysbytai? OAQ(5)0526(FM)
Steffan Lewis: Roeddwn i’n siomedig mai ymateb y Prif Weinidog i ddatblygiadau yr wythnos diwethaf oedd yr hyn a oedd yn swnio fel galwadau am gonfensiwn cyfansoddiadol mewnol i’r Blaid Lafur. Ond wrth symud ymlaen, rydym ni’n gwybod bod Papur Gwyn Llywodraeth Cymru-Plaid Cymru ar Ewrop wedi ei wrthod yn bendant gan Lywodraeth y DU. Rydym ni’n gwybod bod Llywodraeth y DU wedi torri ei haddewid i...
Steffan Lewis: Mewn cyllidebau blaenorol ar gyfer y DU, mae cryn anghytundeb wedi bod ynglŷn â sut y mae Llywodraeth y DU wedi dosbarthu llinellau gwariant penodol, yn enwedig mewn gwariant cyfalaf—felly, pa un a ydynt yn dynodi prosiect ledled y DU lle nad oes symiau canlyniadol Barnett, neu brosiect yn Lloegr yn unig os yw ar gael. A yw Ysgrifennydd y Cabinet wedi cynnal unrhyw asesiad ar y gyllideb...
Steffan Lewis: A wnaiff y Prif Weinidog ddatganiad am ei gynnig ar gyfer llywodraethu marchnad fewnol y DU yn y dyfodol?
Steffan Lewis: Mae nifer o sefydliadau wedi cyhoeddi dadansoddiad cynhwysfawr, ac academyddion a’r Llywodraeth, ar effaith diwygiadau lles y DU ar Gymru. Hoffwn ofyn i Ysgrifennydd y Cabinet—heb fynd yn erbyn ysbryd yr hyn a ddywedodd yr Aelod dros Ogwr—ond efallai y gallwn fynd y tu hwnt i ddadansoddi’r effaith i chwilio am atebion a wnaed yma yng Nghymru. A wnaiff Ysgrifennydd y Cabinet, felly,...
Steffan Lewis: Diolch i Ysgrifennydd y Cabinet am ei hateb. Mae’n rhaid i mi ddatgan buddiant fel hyrwyddwr rhywogaeth y gardwenynen feinlais, sy’n rhan bwysig o ecosystem Gwent. Rwy’n siŵr fod Ysgrifennydd y Cabinet yn gwerthfawrogi pwysigrwydd parciau cyhoeddus i’n hecosystem a’i chynefinoedd, a bydd yn gwybod, rwy’n siŵr, am adroddiad ‘Cyflwr Parciau Cyhoeddus y DU 2016’ Cronfa...
Steffan Lewis: 6. A wnaiff Ysgrifennydd y Cabinet ddatganiad am barciau cyhoeddus? OAQ(5)0108(ERA)
Steffan Lewis: Ddoe, cyhoeddodd Newsquest ei fod yn cau ei ganolfan yng Nghasnewydd, gan golli 14 o swyddi. Yn anffodus, wrth gwrs, mae hyn yn adlewyrchiad o'r duedd gyffredinol ymhlith y cyfryngau print, ac, yn amlwg, rydym agored iawn i hynny yma yng Nghymru. Sylwaf fod Ysgrifennydd y Cabinet dros yr economi yn y Siambr. Tybed a allem gael datganiad ysgrifenedig o leiaf ganddo, a allai gynnwys...
Steffan Lewis: Nododd adroddiad gan y What Works Centre for Wellbeing a gyhoeddwyd yn ddiweddar bod pedwar awdurdod lleol yn y de-ddwyrain ymhlith yr uchaf o ran anghydraddoldeb llesiant. Roedd y rhain yn cynnwys Torfaen, Blaenau Gwent, Caerffili a Merthyr Tudful. Mae'r adroddiad yn ei gwneud yn eglur bod nifer o ffactorau cyfrannol, wrth gwrs, a nifer o atebion posibl, ond ni ddylem wrthod y dangosyddion...
Steffan Lewis: A wnaiff Llywodraeth Cymru ystyried strategaeth clystyrau twf ar gyfer datblygiad economaidd rhanbarthol?
Steffan Lewis: Beth yw cynigion twf Llywodraeth Cymru ar gyfer diwydiannau sylfaen?
Steffan Lewis: Cyn toriad y Nadolig, gofynnais i'r Ysgrifennydd dros iechyd ailystyried penderfyniad y Llywodraeth i gau unig uned amenedigol Cymru i gleifion mewnol yn 2013. Gwrthododd gan ddweud wrthyf fod y ddarpariaeth gymunedol well yn diwallu anghenion mamau ag anghenion iechyd meddwl amenedigol yn ddigonol. Rwyf wedi cael gwybodaeth sy'n dangos nad oes gan ddau Fwrdd Iechyd Lleol unrhyw ddata i...
Steffan Lewis: Diolch i’r Aelod dros Gaerffili am ofyn y cwestiwn pwysig hwn. Roedd gennyf ddiddordeb yn ymateb Ysgrifennydd y Cabinet pan siaradodd am y ddyletswydd statudol. I ba raddau y bydd y ddyletswydd statudol honno’n gosod darpariaethau ar gyfer ailddosbarthu cyfoeth yn deg ar draws prifddinas-ranbarth Caerdydd? Er enghraifft, a fydd disgwyliad y bydd y brifddinas-ranbarth yn creu clystyrau twf...
Steffan Lewis: Pa gamau y mae Llywodraeth Cymru yn eu cymryd i sicrhau bod unrhyw gydweithredu rhwng awdurdodau lleol yn atebol i bobl leol?
Steffan Lewis: Mae'r gostyngiad cyllid 1.4 y cant yn setliad heddlu 2017-18 ar draws pob heddlu yng Nghymru a Lloegr yn dod ar ôl blwyddyn ar ôl blwyddyn o doriadau ers 2010. Rydym wedi gweld gostyngiadau termau real o 26 y cant mewn cyllid i heddluoedd yng Nghymru. Mae heddluoedd yng Nghymru wedi crebachu. Yn fy ardal i, mae gweithlu Heddlu Gwent wedi lleihau 14 y cant ers 2010. Mae datganoli ffracsiynol...
Steffan Lewis: Hoffwn ofyn am ddatganiad gan Ysgrifennydd y Cabinet dros Gyllid a Llywodraeth Leol. Mae nifer o drigolion Blaenau Gwent yn pryderu am adroddiadau o gynnydd pellach yn y ffioedd a’r taliadau am ddefnyddio meysydd chwaraeon a hamdden yn y fwrdeistref, a hynny ar ben cynnydd blaenorol. Felly, a gawn ni ddatganiad gan Ysgrifennydd y Cabinet dros Gyllid a Llywodraeth Leol ar y mater hwn yn fwy...
Steffan Lewis: Heddiw, mae Canolfan Seiberddiogelwch Genedlaethol y DU yn cael ei hagor yn Llundain, a bydd y Prif Weinidog yn ymwybodol o'r Academi Seiberddiogelwch Genedlaethol ragorol yng Nghasnewydd, sy’n bartneriaeth rhwng Llywodraeth Cymru, y sector preifat ac addysg uwch. Felly, mae'n siomedig iawn bod canolfan y DU yn mynd i gael ei lleoli yn Llundain, fel pe na bai gan Lundain ddigon o...
Steffan Lewis: Buaswn yn cytuno â hynny wrth gwrs. Nid oes dim o’i le ar y cysyniad o dwf economaidd rhanbarthol, na’r modelau dinas-ranbarth yn wir. Dengys adroddiadau gan y Sefydliad ar gyfer Cydweithrediad a Datblygiad Economaidd, lle y mae dinas-ranbarthau’n gweithio, a lle y mae datblygu rhanbarthol yn gweithio—mae’n ymwneud â sut rydych yn mesur yr ardaloedd ymylol yn ôl y canolfannau...
Steffan Lewis: Rwy’n croesawu’r ddadl heddiw, a diolch i’r Ceidwadwyr Cymreig am gyflwyno’r ddadl hon. Rwy’n cymeradwyo gwelliant Plaid Cymru, a chredaf ei fod yn amserol iawn yn wir. Mae Ysgrifennydd y Cabinet dros yr economi wedi datgan ei fod am i’r gogledd fod yn rhan o Bwerdy Gogledd Lloegr. Yr haf diwethaf, dywedodd hefyd ei fod am i ganolbarth Cymru ymuno â phwerdy yng nghanolbarth...