Canlyniadau 181–200 o 3000 ar gyfer speaker:Jeremy Miles

11. Dadl Fer: Rhwyd ddiogelwch i blant: Gwarchod hawl plant i fod yn ddiogel ar-lein (30 Tach 2022)

Jeremy Miles: Mae diogelwch ar-lein yn fater cymdeithasol cymhleth. Mae mynd i'r afael ag ef yn galw am ddull amlasiantaethol o weithredu. Mae ein cynllun gweithredu cenedlaethol ar gadernid digidol yn amlinellu'r ymrwymiadau rydym yn eu cyflawni ar draws y Llywodraeth, gyda phartneriaid arbenigol, i wella diogelwch ar-lein i blant a phobl ifanc. Mae dull cydweithredol yn hanfodol er mwyn gwneud cynnydd go...

11. Dadl Fer: Rhwyd ddiogelwch i blant: Gwarchod hawl plant i fod yn ddiogel ar-lein (30 Tach 2022)

Jeremy Miles: Diolch, Dirprwy Lywydd, a hoffwn i ddiolch i'r Aelod am gynnig y ddadl fer bwysig hon. Fel Llywodraeth, rŷn ni'n awyddus i ledaenu buddiannau'r rhyngrwyd ac annog defnydd diogel o dechnoleg.

11. Dadl Fer: Rhwyd ddiogelwch i blant: Gwarchod hawl plant i fod yn ddiogel ar-lein (30 Tach 2022)

Jeremy Miles: Mae plant a phobl ifanc yn ddefnyddwyr rhyngrwyd brwd ar oedrannau cynyddol iau, fel y clywsom yn y ddadl heno. Nid yw'n syndod fod adroddiad diweddaraf Ofcom, 'Plant a rhieni: adroddiad ar ddefnydd o'r cyfryngau ac agweddau atynt 2022', wedi darganfod bod 99 y cant o blant wedi mynd ar-lein y llynedd. Wrth dyfu i fyny yn yr oes ddigidol hon, nid yw plant yn gwahaniaethu rhwng eu bywydau...

2. Cwestiynau i Weinidog y Gymraeg ac Addysg: Hyfforddi Athrawon (23 Tach 2022)

Jeremy Miles: Diolch i’r Aelod am y cwestiwn pwysig hwnnw. Mae’r data ŷn ni’n defnyddio yn sail i’r polisïau o ran cymhellion ariannol y mae’r Aelod eisoes wedi sôn amdanyn nhw. Dyw’r gymhariaeth rhwng beth sydd ar gael yng Nghymru a Lloegr ddim yn un cymwys, ond mae’r gefnogaeth yng Nghymru ar gael mewn pynciau lle mae prinder. Ar ben hynny, wrth gwrs, mae cymhellion penodol ar gyfer...

2. Cwestiynau i Weinidog y Gymraeg ac Addysg: Gweithgareddau Hamdden drwy Gyfrwng y Gymraeg (23 Tach 2022)

Jeremy Miles: Gwnaf, yn sicr. Maent yn chwarae rhan annatod yn sicrhau bod pobl ifanc yn gallu cael mynediad at addysg blynyddoedd cynnar a meithrinfeydd drwy gyfrwng y Gymraeg. Mae hynny'n wych o ran sicrhau bod darpariaeth Gymraeg ar gael, ond mae hefyd yn cefnogi rhieni i wneud y dewis hwnnw i'w plant a weithiau'n annog rhieni eu hunain i ddysgu Cymraeg. Rydym yn gwybod mai dyna un o'r ffyrdd gorau...

2. Cwestiynau i Weinidog y Gymraeg ac Addysg: Hyfforddi Athrawon (23 Tach 2022)

Jeremy Miles: Rŷn ni'n bwrw ymlaen gyda'n cynllun gweithlu Cymraeg mewn addysg 10 mlynedd, sy'n cynnwys datblygu a gweithredu strategaeth farchnata mewn partneriaeth â Chyngor y Gweithlu Addysg a’r Coleg Cymraeg Cenedlaethol i annog mwy o siaradwyr Cymraeg i ddewis addysgu fel gyrfa.

2. Cwestiynau i Weinidog y Gymraeg ac Addysg: Gweithgareddau Hamdden drwy Gyfrwng y Gymraeg (23 Tach 2022)

Jeremy Miles: A gaf i achub ar y cyfle i gywiro'r record mai 230,000 roeddwn i yn bwriadu ei ddweud yn yr ateb blaenorol? Jest i ategu beth mae'r Aelod newydd ddweud, dwi'n siomedig iawn bod y teulu yma—ymysg eraill, siŵr o fod, yn y gymuned, byddwn i'n tybio—yn methu â chael mynediad at wersi nofio yn Gymraeg. Rydyn ni wedi paratoi safonau sy'n gosod dyletswyddau ar awdurdodau lleol i gynnig cyrsiau...

2. Cwestiynau i Weinidog y Gymraeg ac Addysg: Gweithgareddau Hamdden drwy Gyfrwng y Gymraeg (23 Tach 2022)

Jeremy Miles: Rydym yn darparu dros £5 miliwn i bartneriaid fel yr Urdd, y ffermwyr ifanc a'r mentrau ar gyfer gweithgareddau Cymraeg. Yr wythnos diwethaf, ymunodd 230 o blant yn jamborî yr Urdd i ddathlu tîm Cymru yng nghwpan y byd, a byddaf i'n parhau i bwysleisio defnydd o'r Gymraeg yn fy holl waith.

2. Cwestiynau i Weinidog y Gymraeg ac Addysg: Niwed Ar-lein (23 Tach 2022)

Jeremy Miles: Diolch i Peter Fox am godi hyn ac am y ffordd y mae wedi'i godi. Mae'n her ddwys iawn, onid yw, ac mae llawer ohonom sydd wedi hen adael yr ysgol—ers amser hir yn fy achos i, o leiaf—yn ei chael hi'n anodd deall graddfa'r her mewn gwirionedd. Ond mae'n broblem fawr iawn, ac fel roedd Peter Fox yn dweud, mae'r dystiolaeth a roddwyd i'r Pwyllgor Plant, Pobl Ifanc ac Addysg yn glir iawn o...

2. Cwestiynau i Weinidog y Gymraeg ac Addysg: Niwed Ar-lein (23 Tach 2022)

Jeremy Miles: Mae cadw'n ddiogel ar-lein yn hanfodol i iechyd corfforol a meddyliol ein plant. Dyna pam y mae cymhwysedd digidol yn sgìl trawsgwricwlaidd gorfodol a dyna pam fod gan y maes iechyd a llesiant ffocws ar ddatblygu ymddygiad diogel ar-lein. Mae hefyd yn ffocws amlwg i'r cod addysg cydberthynas a rhywioldeb.

2. Cwestiynau i Weinidog y Gymraeg ac Addysg: Hyfforddiant ym Maes Gofal Cymdeithasol (23 Tach 2022)

Jeremy Miles: Rwy'n cael trafodaethau rheolaidd gyda chyd-Weinidogion ynglŷn ag addysg, hyfforddiant a datblygu a'u portffolios.

2. Cwestiynau i Weinidog y Gymraeg ac Addysg: Hyfforddiant ym Maes Gofal Cymdeithasol (23 Tach 2022)

Jeremy Miles: Dyna gwestiwn pwysig iawn—diolch i Altaf Hussain am ei godi. Mae gwaith aruthrol ar y gweill i sicrhau bod gweithwyr gofal cymdeithasol ar draws y sector yng Nghymru yn gallu cael yr hyfforddiant sydd ei angen arnynt i wneud eu gwaith yn dda, a bod hynny'n cael ei hyrwyddo i bobl fel llwybr gyrfa. Mae Gofal Cymdeithasol Cymru, fel y rheoleiddiwr, y corff sydd â chyfrifoldeb dros...

2. Cwestiynau i Weinidog y Gymraeg ac Addysg: Effaith Amddifadedd ar Addysg (23 Tach 2022)

Jeremy Miles: Wel, cyhoeddwyd yr adroddiad y cyfeiria'r Aelod ato yn dilyn y datganiad a wneuthum yn y Senedd, os cofiaf yn iawn—ond gallwch fy nghywiro—yn ôl ym mis Mawrth, a'r araith a wneuthum wedyn i Sefydliad Bevan ym mis Mehefin, rwy'n credu, sy'n nodi rhaglen lawn o ymyriadau o'r blynyddoedd cynnar i ddysgu gydol oes i fynd i'r afael â rhai o'r heriau a gadarnhawyd i ni yn yr adroddiad y...

2. Cwestiynau i Weinidog y Gymraeg ac Addysg: Effaith Amddifadedd ar Addysg (23 Tach 2022)

Jeremy Miles: 'Cynnig gobaith' yw'r union ymadrodd cywir yng nghwestiwn John Griffiths. Rwy'n ymwybodol o'r gwaith y mae Ysgol Gynradd Maendy yn ei wneud. Rwyf wedi cyfarfod â rhai o'r staff, a byddwn yn falch iawn o ymweld â'r ysgol i weld drosof fy hun y gwaith gwych y gwn eu bod yn ei wneud. Y math o waith y mae'r ysgol yn ei wneud yw'r union fath o waith rydym am weld mwy a mwy o ysgolion yng...

2. Cwestiynau i Weinidog y Gymraeg ac Addysg: Effaith Amddifadedd ar Addysg (23 Tach 2022)

Jeremy Miles: Mae'r Cwricwlwm i Gymru yn darparu cwricwlwm cyfoethog ac eang i bob plentyn, gan sicrhau bod pob plentyn yn datblygu'r wybodaeth, y sgiliau a'r profiadau a fydd yn ei alluogi i symud ymlaen i'w lawn botensial, beth bynnag fo'i gefndir. Mae'n trin pob plentyn fel unigolyn, gyda chryfderau ac anghenion gwahanol.

2. Cwestiynau i Weinidog y Gymraeg ac Addysg: Y Lwfans Cynhaliaeth Addysg (23 Tach 2022)

Jeremy Miles: Fel roeddwn i'n dweud wrth Adam Price yn gynharach—mewn ymateb i Adam Price—er nad ydym wedi gallu cynyddu gwerth y peth, rydym wedi gallu sicrhau bod y cynnig presennol cystal ag y gall fod. Felly, rydym wedi ehangu'r garfan gymwys i gynnwys rhai o'r bobl ifanc fwyaf bregus yng Nghymru, gan gynnwys rhai yr effeithiwyd arnynt gan Brexit, aelodau o deuluoedd y rhai sydd â statws mewnfudo...

2. Cwestiynau i Weinidog y Gymraeg ac Addysg: Y Lwfans Cynhaliaeth Addysg (23 Tach 2022)

Jeremy Miles: Wel, fel mae'r Aelod yn gwybod, ac rwy'n gwybod ei fod e'n cydnabod hyn hefyd, rydyn ni'n gwneud popeth gallwn ni i sicrhau bod yr adnoddau sydd ar gael yn cael eu darparu i gefnogi'r rheini sydd eu hangen nhw fwyaf yn ein system addysg ni. O ran yr ymrwymiad i gynnal EMA, mae hynny yn ein rhaglen lywodraethu ni. Rydym ni yn falch ein bod ni wedi parhau â hynny, fel mae'r Alban wedi gwneud...

2. Cwestiynau i Weinidog y Gymraeg ac Addysg: Y Lwfans Cynhaliaeth Addysg (23 Tach 2022)

Jeremy Miles: Mae ystod o fesurau cymorth ychwanegol ar gael i ddysgwyr ôl-16 sy'n derbyn y lwfans cynhaliaeth addysg—mesurau sy'n cael eu darparu gan Lywodraeth Cymru drwy law eu coleg neu eu hysgol. Mae'r rhain yn cynnwys teithio am ddim, neu gyfraniad at y gost, prydau am ddim, nwyddau mislif am ddim, a mynediad at gyllid caledi lle bo ar gael.

2. Cwestiynau i Weinidog y Gymraeg ac Addysg: Cwestiynau Heb Rybudd gan Lefarwyr y Pleidiau (23 Tach 2022)

Jeremy Miles: Wel, diolch i'r Aelod am godi'r pwynt hwnnw. O ran y pwynt ehangach, mae'r pwynt mae hi'n ei wneud yn y cyd-destun hwn, fel yn y cwestiwn blaenorol, yn un teilwng o ran pa mor bwysig yw cludiant ar gyfer cael mynediad at addysg yn gyffredinol. Ond oherwydd y dosbarthiad daearyddol, mae'n aml yn benodol o bwysig yng nghyd-destun addysg cyfrwng Cymraeg, fel mae ei chwestiwn hi yn awgrymu. Mae...

2. Cwestiynau i Weinidog y Gymraeg ac Addysg: Cwestiynau Heb Rybudd gan Lefarwyr y Pleidiau (23 Tach 2022)

Jeremy Miles: Wel, fel mae'r Aelod yn ei wybod, roedd gennym ni gyfle yn natganiad yr hydref yr wythnos diwethaf i weld, ar draws y Deyrnas Gyfunol, fod cyllidebau ar gyfer gwasanaethau cyhoeddus yn ymateb i'r her o ran chwyddiant sydd wedi digwydd i gyllidebau yma yng Nghymru, fel ar draws y Deyrnas Gyfunol yn gyffredinol. Nid hynny welsom ni. Fe welsom ni rhyw gynnydd yn yr hyn sydd i'w ddisgwyl, ond dyw...


<< < 6 7 8 9 10 11 12 13 14 15 > >>

Creu hysbysiad

Chwilio uwch

Dod o hyd i'r union air neu ymadrodd hwn

Gallwch hefyd wneud hyn o'r prif flwch chwilio drwy roi’r union eiriau mewn dyfyniadau: megis "seiclo" neu "adroddiad Hutton"

Rydyn ni'n dangos geiriau sy'n gysylltiedig â'ch term chwilio, megis “beic” a “beicio” wrth chwilio am seiclo yn ddiofyn. Er mwyn atal hyn, rhowch y gair mewn dyfyniadau, fel "seiclo"

Heb gynnwys y geiriau hyn

Gallwch hefyd wneud hyn o'r prif flwch chwilio trwy roi arwydd minws cyn geiriau nad ydych eisiau: fel hela -llwynog

Rydym hefyd yn cefnogi nifer o addasiadau chwilio Booleaidd, megis AND a NEAR, ar gyfer chwilio manwl.

Ystod o ddyddiadau

i

Gallwch roi dyddiad dechrau, dyddiad gorffen, neu'r ddau er mwyn cyfyngu canlyniadau i ystod o ddyddiadau penodol. Mae dyddiad gorffen coll yn awgrymu'r dyddiad presennol, ac mae dyddiad cychwyn coll yn awgrymu'r dyddiad hynaf sydd gennym yn y system. Gellir nodi'r dyddiadau ar unrhyw fformat y dymunwch, e.e. 3ydd Mawrth 2007 neu 17/10/1989

Person

Rhowch enw fan hyn i gyfyngu canlyniadau i gyfraniadau gan y person hwnnw yn unig.

Adran

Cyfyngu canlyniadau i senedd neu gynulliad penodol yr ydym yn cynnwys (e.e. Senedd yr Alban), neu fath arbennig o ddata o fewn sefydliad, megis Atebion Ysgrifenedig Tŷ'r Cyffredin.

Colofn

Pe baech yn gwybod y rhif colofn Hansard cywir o'r wybodaeth y mae gennych ddiddordeb ynddo (efallai eich bod yn edrych ar gyfeiriad papur), gallwch gyfyngu canlyniadau i hynny ; Gallwch hefyd ddefnyddio column:123 yn y prif flwch chwilio.