Janet Finch-Saunders: Diolch. Fel yr wyf wedi dweud yn blaen yn gynharach, mae'r rhanddeiliaid yr ydym ni wedi ymgysylltu â nhw wedi dweud eu hunain bod angen i ddiffiniadau fod yn gyson â deddfwriaethau eraill y DU, ac felly rwy'n hollol argyhoeddedig wrth gynnig y gwelliannau hynny.
Janet Finch-Saunders: Diolch, Llywydd. Am ddiwrnod gwych, mewn gwirionedd, i fod yn gweithio ar ddeddfwriaeth sy'n dod drwy'r lle hwn. Rwy'n credu ein bod ni i gyd wedi dymuno i hon gael ei dwyn ymlaen, ac mewn gwirionedd mae wedi bod yn eithaf da i weithio gyda'r Gweinidog o ran rhai o'r gwelliannau yr wyf yn eu cyflwyno. Hoffwn gymryd y cyfle hwn i ddiolch i Beth Taylor, ymchwilydd sy'n gweithio yma, sydd wedi...
Janet Finch-Saunders: Fe hoffwn i ddechrau drwy longyfarch pobl Cymru, a diolch i chi am y datganiad, Gweinidog. Mae hi wedi cymryd ymdrech ledled y wlad i gyflawni'r gyllideb garbon gyntaf a tharged dros dro lleihau allyriadau 2020, ac, o'r herwydd, fe ddylai pawb sy'n rhan o hyn fod yn falch. 'Ffyniant i Bawb: Cymru Carbon Isel' oedd eich cynllun ar gyfer cyflawni cyllideb garbon y cynllun cyntaf 2016-20 a...
Janet Finch-Saunders: Llafar.
Janet Finch-Saunders: Hoffwn i ofyn i'r Gweinidog Iechyd, gan ailadrodd yr hyn y dywedodd ein cyd-Aelod Ken Skates, am ddatganiad brys ynghylch y nifer uchel o achosion o strep A a'r dwymyn goch yng Nghymru. Fe wnes i gyflwyno cwestiwn brys ynglŷn â hyn ond, yn anffodus, ni chafodd ei dderbyn. Felly, rydw i'n defnyddio'r datganiad busnes yma fel y ffordd gyflymaf o sicrhau bod Llywodraeth Cymru yn ymwybodol o...
Janet Finch-Saunders: Dim eto. Bron iawn.
Janet Finch-Saunders: Bron iawn. A wnewch chi ymrwymo nawr i dalu am y gost ychwanegol hon, ac a wnewch chi hefyd egluro i'r Senedd hon pa gamau rydych chi fel Llywodraeth yn eu cymryd mewn gwirionedd i adeiladu'r cartrefi y mae'r bobl hyn sy'n byw mewn llety dros dro eu hangen? Diolch.
Janet Finch-Saunders: Diolch, ac rwy'n datgan buddiant mewn perthynas â pherchnogaeth ar eiddo. Nawr, mae'r pecyn a baratowyd ar gyfer cyfarfod cabinet sir Conwy a gynhaliwyd yn ddiweddar ar 22 Tachwedd, yn nodi: 'Mae nifer y bobl sy'n cael mynediad at lety dros dro yn cynyddu ar raddfa ddychrynllyd, sy'n cael effaith sylweddol ar y gyllideb ddigartrefedd.' Gan ystyried bod Llywodraeth Cymru yn parhau i anwybyddu...
Janet Finch-Saunders: 4. Pa drafodaethau y mae'r Gweinidog wedi'u cael gyda'r Gweinidog Newid Hinsawdd ynglŷn ag effaith gwariant ar lety dros dro ar gyllidebau awdurdodau lleol? OQ58781
Janet Finch-Saunders: Fel mater o drefn, doeddwn i ddim yn dweud fy mod i'n landlord preifat; datganais fy muddiant mewn cysylltiad â pherchnogaeth eiddo, ac mae gwahaniaeth.
Janet Finch-Saunders: Iawn. Oni bai ei fod wedi'i ddiwygio neu ei oedi, fel mater o frys, credwn y bydd gweithredu'r Ddeddf yn llawn yn gyfrifol am dorri system lochesi trais yn erbyn menywod, cam-drin domestig a thrais rhywiol yng Nghymru. Gweinidog, os gwelwch yn dda, ar ryw adeg, gwrandewch ar yr holl bobl hynny—y teuluoedd—sy'n anobeithio. Diolch.
Janet Finch-Saunders: Felly, dyna chi: prawf cadarn o sir Conwy bod eich deddfwriaeth yn ffactor allweddol yn y cynnydd rydym ni'n ei weld nawr yn y defnydd o lety dros dro. Mae'n rhaid i mi fod yn onest, rwyf wedi dweud hynny o'r blaen, dylai Llafur Cymru a Phlaid Cymru deimlo cywilydd eu bod nhw nawr yn gwneud pobl yn ddigartref. Bydd y rheoliadau hyn heddiw yn gwaethygu'r sefyllfa. Un o oblygiadau'r gwelliant...
Janet Finch-Saunders: Yn amlwg, rwy'n cyfeirio Aelodau at fy natganiad o fuddiannau fy hun o ran perchnogaeth eiddo. Nawr, unwaith eto rydym yn siarad am Reoliadau Rhentu Cartrefi (Cymru) 2016 (Diwygio Atodlen 12 a Diwygio Canlyniadol) 2022. Ac rwyf wedi codi hyn gymaint o weithiau yma nawr, ond rwyf yn anobeithio ynghylch y diffyg sylweddoli beth fydd canlyniadau anfwriadol y Ddeddf rhentu hon. Rydym yn gwybod...
Janet Finch-Saunders: Iawn. Ym maniffesto 2021, fe wnaethoch chi addo deddfu i gryfhau partneriaethau i ddarparu gofal ac iechyd integredig gwell. Felly, yn sgil y dystiolaeth glir bod cyfathrebu rhwng iechyd a gofal cymdeithasol yn y gogledd wedi torri i lawr ac felly yn fygythiad, pa gamau fyddwch chi'n eu cymryd i sicrhau gofal ac iechyd integredig gwell, ac na fydd neb arall yn cael ei adael mewn sefyllfa mor...
Janet Finch-Saunders: Diolch, ac rwy'n edrych ymlaen at hynny. Y rheswm rwy'n gofyn y cwestiwn i chi yw oherwydd fe wnes i ofyn am ddatganiad yr wythnos diwethaf drwy'r Trefnydd, am ddatganiad gan y Gweinidog iechyd a'r Gweinidog gofal cymdeithasol, oherwydd fe wnaf i ddatgan buddiant: fe wnes i brofi sefyllfa wael iawn yn y gogledd yr wythnos diwethaf. Cafodd aelod 98 oed o fy nheulu, oedd â phroblemau symudedd...
Janet Finch-Saunders: 7. Pa gamau y mae Llywodraeth Cymru'n eu cymryd i sicrhau bod gan ysbytai weithdrefnau rhyddhau diogel yn eu lle? OQ58780
Janet Finch-Saunders: Oeddwn. Ar y pwynt y gwnaethoch chi sôn amdano. Yng nghyfarfod y Comisiwn, fe fyddwch yn cofio inni gael gwybod bod ymgynghori wedi digwydd gydag Aelodau gogledd Cymru. Pan godais y mater gyda fy Aelodau yn ddiweddarach, nid oedd ganddynt unrhyw wybodaeth am hynny, ac rwyf wedi codi'r mater gyda'r cyfarwyddwr penodol hwnnw.
Janet Finch-Saunders: Diolch.
Janet Finch-Saunders: Ar bwynt o drefn—
Janet Finch-Saunders: Mae’n rhaid inni sicrhau ein bod yn cynnig gwerth am arian i’r trethdalwr fel sefydliad. Yn benodol, mae’n amhosibl cyfiawnhau llawer o’r costau sy’n gysylltiedig â diwygio’r Senedd, gan gynnwys y pris o £100 miliwn am 36 Aelod arall o'r Senedd, yn yr amgylchedd economaidd presennol. Ni ellir dechrau dychmygu’r ehangu sydd ei angen mewn gofod swyddfa, staff ychwanegol a...