Mick Antoniw: Diolch am y cwestiwn. Nid yw'r trafodaethau sy'n digwydd a'r gwaith sy'n mynd rhagddo yn rhywbeth a ddigwyddodd yn ystod y misoedd diwethaf yn unig—mae'n broses hir, barhaus. Un o'r rhesymau ei fod yn rhan o'r broses hir honno yw oherwydd bod yna gamweithredu gwirioneddol yn awdurdodaeth Cymru a Lloegr. Mae'n rhaid imi ddweud mai fy marn i yw bod awdurdodaeth Cymru a Lloegr yn gamweithredol...
Mick Antoniw: Nid fy rôl i yw ateb dros gomisiwn Thomas, na mynd i'r afael â materion penodol sydd o fewn comisiwn Thomas neu beidio. Fy rôl i—rôl Llywodraeth Cymru—yw ystyried cyfanswm yr argymhellion a wnaed gan gomisiwn Thomas, eu gwerthuso ac ystyried sut gellid mynd ar drywydd y rheini. Mae'n amlwg fod mater datganoli plismona yn un sydd wedi ei godi, ac mae'n un sydd wedi arwain at amrywiaeth...
Mick Antoniw: Diolch. Mae'r Bil yn amlwg yn rhywbeth sy'n arwyddocaol iawn; mae'n trosglwyddo pwerau enfawr i Weinidogion Llywodraeth y DU, a fyddai â'r opsiwn o beidio â sefydlu, neu beidio â chadw, deddfwriaeth benodol yn Llywodraeth y DU, yn ôl eu disgresiwn eu hunain bron. Gwn fod yr enghraifft o dâl gwyliau statudol, sy'n deillio o gyfraith yr UE a ddargedwir, wedi cael cyhoeddusrwydd da iawn. Pe...
Mick Antoniw: Diolch am y cwestiwn. Rydym yn monitro cynnydd y Bil drwy'r Senedd gan barhau â'n hymgysylltiad â Llywodraeth y DU ar yr amserlen arfaethedig iddo ddod i rym a gweithrediad darpariaethau a beth fydd hyn yn ei olygu o ran y goblygiadau i Gymru.
Mick Antoniw: Diolch i chi am y cwestiwn atodol hwnnw, ac rwy'n cytuno'n llwyr: mae angen ymgysylltiad rheolaidd, ymgysylltiad cyson, ac ymgysylltiad wedi'i gynllunio'n briodol hefyd, a dylai'r ymgysylltiad hwnnw fod yn digwydd mewn perthynas â phob agwedd ar raglen ddeddfwriaethol Llywodraeth y DU sy'n ymwneud â ni, sy'n sbarduno ein rhwymedigaethau penodol, ond hefyd yr holl feysydd o gyd-ddibyniaeth...
Mick Antoniw: Gallaf bwysleisio pwysigrwydd cysylltiadau rhynglywodraethol cryf ac ymgysylltiad agored rhwng y Llywodraethau ar bob cyfle. Mae ansefydlogrwydd Llywodraeth y DU a newid Gweinidogion yn fynych wedi ei gwneud yn anodd ffurfio cysylltiadau hirhoedlog, cynhyrchiol, sy'n hanfodol ar gyfer creu sylfaen i gysylltiadau rhynglywodraethol cadarn.
Mick Antoniw: A gaf i ddiolch i chi am y sylwadau yna? Rwy'n credu bod hwn yn ymgynghoriad cyffrous iawn, oherwydd mae wedi dangos y gallwn ni, yng Nghymru, wneud rhywbeth gwahanol, y gallwn ni ei wneud yn well ac y gallwn ni ddefnyddio'r pwerau sydd gennym ni. Rwy'n credu mai'r dull sydd wedi bod gennym ni, ac sy'n rhywbeth a gafodd ei ystyried dros nifer o flynyddoedd ers 2017, yw'r ffordd y gallwn ni...
Mick Antoniw: Diolch i chi. Rwy'n credu bod y pwyntiau a wnaethoch chi gyntaf ynghylch cynhwysiant, mewn gwirionedd, am rai sydd ag anableddau, yn alluoedd synhwyraidd efallai ac yn y blaen, yn wirioneddol bwysig. Mae digideiddio ac yn y blaen yn creu llawer o gyfleoedd ar gyfer newid a chynhwysiant wrth eu cymryd. Y rhain yr ydym ni'n awyddus i'w harchwilio, ac fe geir llawer o enghreifftiau mewn...
Mick Antoniw: A gaf i ddiolch i chi am eich sylwadau? Roeddwn i'n cytuno â'r rhan fwyaf o'r sylwadau, ac rwy'n cytuno yn bendant â'r sylwadau a wnaethoch chi o ran profi hunaniaeth pleidleiswyr. Er mae'n debyg y byddwn i'n anghytuno â chi ar hynna, oherwydd fe geir llawer o annibendod yn deillio oherwydd sut ar y ddaear a fyddai hynny'n gweithio a'r heriau posibl o ran egluro i bobl beth sy'n ofynnol...
Mick Antoniw: Rwy'n credu bod y sefyllfa ychydig yn wahanol yng Ngogledd Iwerddon, o ran ei phroses arbennig hi. Rwy'n credu, o ran y farn gyffredin sydd ymysg pob un o'r pleidiau, ein bod ni i gyd yn gytûn o ran yr angen i wleidyddion fod yn ysbrydoli pobl, ac mae honno'n ddyletswydd i ni. Rwy'n credu, ar gyfer ysbrydoli, ei bod hi'n rhaid i ni gynnig cyfleoedd ar gyfer gwir ymgysylltiad hefyd, ac rwyf i...
Mick Antoniw: Diolch am y sylwadau hynny, a diolch, hefyd, am groesawu'r amcan cyffredin o fod ag awydd am system etholiadol sy'n gweithio yn iawn, yn effeithlon a chadarn. Rwy'n credu mai craidd hyn yw bod y byd yn newid: mae'r dechnoleg gennym ni, rydym ni wedi dysgu am gyfleoedd, yn union fel gwnaethom ni yn y Senedd hon gyda chyfarfodydd hybrid—rydym ni wedi dysgu sut i ddefnyddio'r rhain. Ac...
Mick Antoniw: Dirprwy Lywydd, fis Gorffennaf y llynedd fe gyhoeddais i fframwaith eglur ar gyfer diwygio etholiadol gyda chwe egwyddor a oedd yn adlewyrchu gwerthoedd cyfiawnder cymdeithasol a'r gwerth a roddwn ni ar ddemocratiaeth yng Nghymru: tegwch, hygyrchedd, cyfranogiad, gwell profiad i'r dinasyddion, symlrwydd ac uniondeb. Mae'r Papur Gwyn yr ydym ni'n ei gyhoeddi heddiw yn gofyn am farn ar yr...
Mick Antoniw: Diolch, Dirprwy Lywydd. Heddiw, dwi'n cyflwyno ein Papur Gwyn ar weinyddu a diwygio etholiadol. Yn y papur, rydyn ni'n ymgynghori ar ein cynigion ar gyfer diwygio etholiadol a'r camau nesaf i foderneiddio trefniadau gweinyddu etholiadol yng Nghymru. Bydd yr ymgynghoriad yn para tan 10 Ionawr. Mae'r cynigion yn gam arall ar ein taith i greu system etholiadol i'r unfed ganrif ar hugain—system...
Mick Antoniw: Mae o ddifri'n cadarnhau'r hen ddywediad gan Nye Bevan fod y blaid Dorïaidd yn gwybod pris popeth a gwerth dim byd, oherwydd un o swyddogaethau unrhyw ddemocratiaeth seneddol ac unrhyw Lywodraeth yw sicrhau ei bod yn arfer ei chyfrifoldebau mewn perthynas â'i rhwymedigaethau a'i phwerau. Pan ddaw'n angenrheidiol i gael eglurhad drwy system y llysoedd, sef yr unig fecanwaith ar gyfer gwneud...
Mick Antoniw: Diolch am eich cwestiwn. Cymerodd Llywodraeth Cymru y cam pwysig i herio Deddf Marchnad Fewnol y Deyrnas Unedig 2020 oherwydd ei bod yn bygwth tanseilio'r setliad datganoli. Y gost i Lywodraeth Cymru am wneud hynny yw £132,283.67.
Mick Antoniw: Diolch am y cwestiwn. Gwelais rai o'r digwyddiadau hynny; gwelais rai o'r arestiadau a ddigwyddodd yn Llundain gan beri pryder difrifol iawn i mi—pryder oherwydd ar yr un pryd roedd y cyfryngau'n hollol briodol yn condemnio'r modd yr oedd pobl yn cael eu harestio am sefyll yn y Sgwâr Coch, am sefyll ym Moscow, yn nhrefi Rwsia, gyda dalennau gwag o bapur a chael eu harestio. Roedd gweld...
Mick Antoniw: Diolch am y cwestiwn. Mae'n hanfodol fod hawl gan bobl i leisio eu barn a mynegi eu pryderon yn rhydd mewn ffordd ddiogel a heddychlon. Byddaf yn parhau i bwyso ar Lywodraeth y DU i sicrhau bod rhaid clywed safbwyntiau Cymru mewn perthynas â phwysigrwydd yr hawl i brotestio.
Mick Antoniw: Yn gyntaf, diolch am y cwestiwn. Unwaith eto, mae'n bwynt pwysig. Wrth gwrs, cyfarfûm â'r Farwnes Hale yn ddiweddar iawn—yn gynharach yr wythnos hon mewn gwirionedd. Rwy'n croesawu'r camau sy'n cael eu cymryd yn y Goruchaf Lys i ddod â chyfiawnder yn agosach at y cymunedau y mae'n eu gwasanaethu y tu allan i Lundain. Cynhaliwyd y llys yma, fel y dywedwch, ym mis Gorffennaf 2019, ac...
Mick Antoniw: Diolch am y cwestiwn. Rwy’n falch o nodi bod Cymru’n cael ei chynrychioli eto yn y Goruchaf Lys, ar ôl i’r Arglwydd Lloyd-Jones gael ei ailbenodi fis diwethaf. Rwy’n parhau i ddweud wrth yr Arglwydd Ganghellor a Gweinidogion cyfiawnder fod angen cynrychioli barnwriaeth Cymru yn ein llys uchaf mewn ffordd ffurfiol, nid damweiniol.
Mick Antoniw: Diolch am y cwestiwn. Rydych yn codi nifer o faterion y gwn eu bod yn cael ystyriaeth ddifrifol iawn ac rwy'n gwybod bod y Gweinidog Cyfiawnder Cymdeithasol wedi bod yn edrych arnynt ac yn rhoi sylw iddynt ac yn gweithio arnynt ers amser hir. Roedd y peth cyntaf a godwyd gennych yn ymwneud â data. Wel, wrth gwrs, mae data wedi bod yn rhywbeth sydd wedi bod yn bryder enfawr inni—dadgyfuno...