Natasha Asghar: Gweinidog, diolch yn fawr am eich datganiad. Mae'n rhaid i mi ddweud, fe wnes i werthfawrogi'n fawr bopeth y gwnaethoch ei ddweud. Mae Diwrnod Rhyngwladol y Menywod yn gyfle i gydnabod cyflawniadau'r gorffennol, rwy’n cytuno 100 y cant â chi pan wnaethoch chi ddweud hynny, ac mae edrych ar heriau'r dyfodol hefyd yn hanfodol i bob un ohonom ni. A minnau'n Gymraes falch, rwy'n falch iawn o...
Natasha Asghar: Sut mae Llywodraeth Cymru yn cefnogi pobl sy'n byw gyda chanser yng Nghymru?
Natasha Asghar: Rwy'n llwyr gefnogi'r cynnig y dylai Dydd Gŵyl Dewi fod yn ŵyl banc yma yng Nghymru, a hoffwn ddiolch i fy nghyd-Aelod, Tom Giffard, am arwain y ddadl yma yn y Senedd heddiw. Bydd gŵyl banc ar ein diwrnod cenedlaethol yn dod â'n cenedl ynghyd i ddathlu ein hanes, ein cyflawniadau, ein diwylliant unigryw a'n hamrywiaeth. Fel rhywun a anwyd ac a fagwyd ac sy'n byw yng Nghasnewydd, efallai...
Natasha Asghar: Mae'n ddrwg gennyf.
Natasha Asghar: Diolch, Ddirprwy Weinidog. Ddirprwy Weinidog, os ydych chi o ddifrif ynglŷn â mynd i'r afael â newid hinsawdd a dileu'r oedi mynych ar ein rheilffyrdd, rhaid ichi sicrhau bod gan Gymru wasanaeth rheilffordd modern. Fodd bynnag, mae ffigurau eich Llywodraeth eich hun yn dangos bod 69 y cant o drenau Trafnidiaeth Cymru dros 30 oed, a bod 44 y cant yn 35 oed neu'n hŷn. Dyma gyfle i gael...
Natasha Asghar: Diolch yn fawr iawn. Mae'n ddrwg gennyf, Lywydd. Diolch yn fawr iawn. Ddirprwy Weinidog, os ydych o ddifrif ynghylch mynd i'r afael â newid hinsawdd a dileu'r oedi mynych ar ein rheilffyrdd—
Natasha Asghar: Iawn. Ddirprwy Weinidog, dywedir eich bod wedi dweud yn ddiweddar y dylai bysiau trydan—bydd hyn yn rhywbeth y gwn y byddwch yn ei fwynhau [Chwerthin.]—y dylai bysiau trydan gael eu gwneud yng Nghymru yn hytrach na chael eu mewnforio o Tsieina, gan fynegi dymuniad i agor ffatri fysiau trydan yma i greu swyddi gwyrddach. Mewn ymateb, dywedodd Andy Palmer, prif weithredwr Switch Mobility,...
Natasha Asghar: Iawn. Diolch, Ddirprwy Weinidog. Gallaf eich sicrhau bod pob un ohonom yn pryderu am newid hinsawdd. Nid oes modd ei wadu, a chredaf y bydd fy nghyd-Aelodau ar y fainc hon, a hyd yn oed yn San Steffan, yn cytuno â mi ar hynny. Fodd bynnag, ar ôl gweld y wybodaeth a gyhoeddwyd gan Weinidog yr Economi, roedd yn amlwg fod rhai o’r meysydd dan sylw wedi’u diogelu, felly mae hynny’n peri...
Natasha Asghar: Diolch, Lywydd. Ddirprwy Weinidog, yr wythnos diwethaf, cyhoeddodd Gweinidog yr economi strategaeth ofod genedlaethol Llywodraeth Cymru, gan amlinellu ei huchelgais i sicrhau cyfran o 5 y cant o sector gofod y DU, a fyddai’n cyfateb i £2 biliwn y flwyddyn i economi Cymru. Mae’r strategaeth yn canolbwyntio ar dyfu potensial datblygiadau ar hyn o bryd ac yn y dyfodol yn y sector gofod yma...
Natasha Asghar: 4. Pa gamau y mae Llywodraeth Cymru yn eu cymryd i gefnogi datgarboneiddio trafnidiaeth? OQ57685
Natasha Asghar: Weinidog, elfen hanfodol o unrhyw strategaeth i helpu i fynd i’r afael â chostau byw yw sicrhau bod polisi economaidd Llywodraeth Cymru yn cefnogi busnesau, gan ganiatáu iddynt gadw pobl mewn swyddi. Mae’r arolwg tracio diweddaraf o fentrau bach a chanolig yng Nghymru, a gynhaliwyd gan Gymdeithas y Cyfrifwyr Ardystiedig Siartredig, yn dangos bod dros draean o fusnesau bach a chanolig...
Natasha Asghar: Prif Weinidog, rwy'n croesawu ymrwymiad eich Llywodraeth i ddarparu 125,000 o brentisiaethau pob oed yng Nghymru dros y tair blynedd nesaf. Fodd bynnag, rwy'n siŵr y byddwch chi'n cytuno â mi bod angen i ni sicrhau ansawdd yn ogystal â niferoedd. Mae'n hanfodol bod y prentisiaethau hyn yn hwyluso'r broses o drosglwyddo gweithwyr iau o'r ysgol i'r gwaith ac yn cefnogi'r broses o drosglwyddo...
Natasha Asghar: Diolch. Weinidog, mae cynllun Nyth Llywodraeth Cymru yn cynnig pecyn o welliannau effeithlonrwydd ynni yn y cartref i leihau biliau ynni. Fodd bynnag, nid oes unrhyw grantiau penodol ar gyfer paneli solar yng Nghymru. Yn Lloegr, mae’r warant allforio doeth, a lansiwyd ar 1 Ionawr 2020, yn fenter a gefnogir gan y Llywodraeth sy’n ei gwneud yn ofynnol i rai cyflenwyr trydan dalu cynhyrchwyr...
Natasha Asghar: 3. Pa gamau y mae Llywodraeth Cymru yn eu cymryd i helpu pobl gyda'u biliau tanwydd? OQ57605
Natasha Asghar: Diolch, Lywydd. Mae’n bleser mawr gennyf ychwanegu fy llais heddiw at y teyrngedau i’w Mawrhydi y Frenhines i nodi deng mlynedd a thrigain ers ei hesgyniad i’r orsedd. Mae Jiwbilî Blatinwm yn ddigwyddiad unigryw yn hanes Prydain, a dylem roi amser i fyfyrio ar deyrnasiad hir y Frenhines a sut y mae pethau wedi newid. Nid oedd y rhan fwyaf ohonom yn y Siambr hon wedi ein geni ym 1952;...
Natasha Asghar: Weinidog, yn 2018, lansiodd Bwrdd Milgwn Prydain ei ymrwymiad ar filgwn, sy'n cynnwys ei ddisgwyliadau ynghylch y modd y dylid cynnal y gamp, gyda lles yn ganolog iddo. Mae sicrhau diogelwch pob milgi sy'n rasio, fel y sonioch chi, ar drac sydd wedi'i drwyddedu gan Fwrdd Milgwn Prydain yn hollbwysig—rwy'n credu ynddo 100 y cant. Mae milfeddyg annibynnol yn bresennol wrth bob un o draciau...
Natasha Asghar: Diolch, Weinidog. Ym mis Mehefin y llynedd, cyhoeddodd y Dirprwy Weinidog Newid Hinsawdd y byddai'r holl brosiectau adeiladu ffyrdd newydd yng Nghymru yn cael eu rhewi. O ganlyniad, cafodd prosiect ffordd osgoi Llanbedr ei ganslo ar ôl gwario bron i £1.7 miliwn arno. Cyflwynais gwestiwn ysgrifenedig ym mis Tachwedd yn gofyn faint o arian a wariwyd ar brosiectau ffyrdd a oedd wedi'u hatal yn...
Natasha Asghar: 9. Pa ystyriaeth a roddwyd i wella seilwaith trafnidiaeth wrth bennu cyllideb y portffolio newid hinsawdd? OQ57548
Natasha Asghar: Hoffwn ddiolch i fy nghyd-Aelod, James Evans, am gychwyn y ddadl hon. Mae’n ffaith bod 85 y cant o dir Cymru’n cael ei ddefnyddio ar gyfer amaethyddiaeth, coedwigaeth neu fel tir comin, ac mae'r ffigur hwn yr un fath â Lloegr. Fodd bynnag, tra bo 18 y cant o boblogaeth Lloegr yn byw mewn ardaloedd gwledig, y ffigur yng Nghymru yw 35 y cant. Gwyddom ei bod yn anodd darparu trafnidiaeth...
Natasha Asghar: Ar y diwedd, os gwelwch yn dda, Ddirprwy Lywydd, os yw hynny'n iawn. Nid oes amheuaeth fod pobl sy’n byw yma yng Nghymru yn ddibynnol iawn ar geir, gan fod gwasanaethau bysiau yn annigonol, yn anaml neu heb fod yn bodoli. Mae’n ffaith bod diffyg gwasanaeth trafnidiaeth digonol yn tanseilio economïau ardaloedd gwledig, sy'n ei gwneud yn anoddach felly i bobl gael mynediad at swyddi a...