Canlyniadau 181–200 o 1000 ar gyfer speaker:Sam Rowlands OR speaker:Sam Rowlands OR speaker:Sam Rowlands OR speaker:Sam Rowlands

7. Dadl y Ceidwadwyr Cymreig: Economi Cymru ( 4 Mai 2022)

Sam Rowlands: Yn sicr.

7. Dadl y Ceidwadwyr Cymreig: Economi Cymru ( 4 Mai 2022)

Sam Rowlands: Fel y gŵyr yr Aelod, mae angen sicrhau bod ein gwasanaethau cyhoeddus yn cael eu cefnogi'n briodol. Ac o ran busnesau, mae busnesau sy'n cyflogi yn creu swyddi, sy'n rhan sylfaenol o'n heconomi; mae'r ardrethi busnes hyn, y clywn amdanynt gan fusnesau ledled Cymru, yn eu taro hwy galetaf. Ac enghraifft o hyn yw ein bod, yng Nghymru, yn gweld y nifer leiaf o ymwelwyr yn y Deyrnas Unedig â'r...

7. Dadl y Ceidwadwyr Cymreig: Economi Cymru ( 4 Mai 2022)

Sam Rowlands: Fel yr amlinellodd Paul Davies, a agorodd y ddadl heddiw wrth gwrs—dadl wirioneddol bwysig ar stiwardiaeth ar economi Cymru—rydym yn gweld stiwardiaeth wael ar economi gan y Blaid Lafur sydd mewn grym yma yng Nghymru, gyda'r ardrethi busnes uchaf yn y Deyrnas Unedig, y cyflogau wythnosol isaf, a'r swm isaf o incwm gwario aelwydydd yn y DU. Mae'r ystadegau hyn yn wirioneddol frawychus....

6. Dadl y Ceidwadwyr Cymreig: Cymunedau Lleol ( 4 Mai 2022)

Sam Rowlands: Diolch, Mabon. Rydych yn gwneud rhai pwyntiau diddorol iawn, yn enwedig ynglŷn â pherchnogaeth gymunedol a'r diffiniad o gymunedau. Felly, a fyddech yn cytuno â mi ar y pwyntiau a godais yn gynharach mai'r hyn a welwn ar hyn o bryd yw'r diffyg ymddiriedaeth yn y berchnogaeth gymunedol honno, a bod rhai rhwystrau yn y ffordd nad ydynt yn caniatáu i gymuned gael ymdeimlad o berchnogaeth ar...

6. Dadl y Ceidwadwyr Cymreig: Cymunedau Lleol ( 4 Mai 2022)

Sam Rowlands: Diolch, Ddirprwy Lywydd. A gaf fi ddweud fy mod wrth fy modd yn cyflwyno'r cynnig heddiw yn enw Darren Millar? Am y tro olaf y tymor hwn, yn sicr, hoffwn ddatgan buddiant fel aelod etholedig o Gyngor Bwrdeistref Sirol Conwy, gyda fy 14 mlynedd o fod yn gynghorydd tref a bwrdeistref sirol yn dod i ben, yn anffodus. Rwy’n siŵr fod pob un ohonom yn siomedig o glywed hynny. Fel y mae ein...

1. Cwestiynau i’r Gweinidog Cyfiawnder Cymdeithasol: Effaith Chwyddiant ( 4 Mai 2022)

Sam Rowlands: Diolch hefyd i'r Aelod am gyflwyno'r cwestiwn pwysig hwn heddiw. Yr wythnos diwethaf, Weinidog, fe fynychais un o weminarau Prifysgol Caerdydd, ac roedd Aelodau eraill o'r Senedd yno hefyd, lle'r oeddent yn rhannu eu gwerthusiad o'r ymateb polisi i'r her costau byw. Gwnaethant dynnu sylw at y ffaith mai un o'r heriau anghymesur sy'n wynebu'r rheini ar incwm is yw pwysau chwyddiant costau ynni...

5. Dadl y Ceidwadwyr Cymreig: Twristiaeth (27 Ebr 2022)

Sam Rowlands: Yn sicr.

5. Dadl y Ceidwadwyr Cymreig: Twristiaeth (27 Ebr 2022)

Sam Rowlands: Diolch yn fawr, Ddirprwy Lywydd. Hoffwn ddiolch i'r holl Aelodau o bob rhan o'r Siambr y prynhawn yma sydd wedi cyfrannu heddiw. Mae wedi bod yn ddadl bwysig iawn ac ar adegau, yn ddadl angerddol iawn am sector gwirioneddol bwysig yma yng Nghymru. Wrth gloi'r ddadl heddiw, hoffwn ganolbwyntio ar dri mater sydd, yn fy marn i, wedi dod i'r amlwg yn ein plith, a'r cyntaf yw pwysigrwydd...

2. Cwestiynau i’r Gweinidog Materion Gwledig a Gogledd Cymru, a’r Trefnydd: Economi Gogledd Cymru (27 Ebr 2022)

Sam Rowlands: Diolch, Weinidog, ac rwy'n croesawu'r ffaith eich bod yn cael y sgyrsiau hynny gyda Gweinidog yr Economi. Rwy’n siŵr eich bod yn cytuno â mi ei bod yn wirioneddol bwysig fod gogledd Cymru yn cael ei chyfran deg o gymharu â rhannau eraill o Gymru. Ond rydym yn parhau i weld gagendor rhwng gogledd a de Cymru, sy'n drist i'w weld. Enghraifft o hynny yw gwerth ychwanegol gros. Gwelwn, er...

1. Cwestiynau i’r Gweinidog Cyllid a Llywodraeth Leol: Etholiadau Llywodraeth Leol Cymru (27 Ebr 2022)

Sam Rowlands: Diolch am eich ymateb, Weinidog. Rwy'n bryderus iawn wrth weld y nifer hwnnw o seddi diymgeisydd, gyda 28 ohonynt yng Ngwynedd a 19 yn sir Benfro. Mae'n wirioneddol siomedig fod hynny'n digwydd, gan rwystro'r hyn y byddwn yn ei ystyried yn ddemocratiaeth briodol rhag digwydd drwy bleidlais. Rwy’n siŵr, Weinidog, eich bod wedi gweld erthygl newyddion y BBC yn gynharach y mis hwn a nodai, yn...

1. Cwestiynau i’r Gweinidog Cyllid a Llywodraeth Leol: Cwestiynau Heb Rybudd gan Lefarwyr y Pleidiau (27 Ebr 2022)

Sam Rowlands: Diolch, Weinidog, ac mae'n galonogol clywed y bydd y gwaith hwnnw’n cael ei wneud i ddeall effeithiolrwydd yr holl fyrddau a chyrff hynny, a pha mor bwysig yw hi, wrth gwrs, fod ein cynghorwyr a etholwyd yn lleol yn cyflawni ar lawr gwlad ar ran eu trigolion. Ond dros yr 20 mlynedd neu fwy diwethaf, wrth gwrs, rydym hefyd wedi gweld tangyllido hanesyddol mewn perthynas â'r cynghorau, sydd...

1. Cwestiynau i’r Gweinidog Cyllid a Llywodraeth Leol: Cwestiynau Heb Rybudd gan Lefarwyr y Pleidiau (27 Ebr 2022)

Sam Rowlands: Diolch, Weinidog, ac rydych yn sôn am rai o’r cyrff rhanbarthol sydd wedi’u sefydlu, rwy'n credu, o’ch safbwynt chi, i helpu’r cynghorau hynny i gyflawni eu blaenoriaethau. Ond rwy’n clywed gan gynghorau a chynghorwyr am rywfaint o’r rhwystredigaeth ynghylch yr haenau o fiwrocratiaeth a’r haenau o lywodraethu a byrddau a chyrff sy’n cael eu rhoi ar waith, a byrddau...

1. Cwestiynau i’r Gweinidog Cyllid a Llywodraeth Leol: Cwestiynau Heb Rybudd gan Lefarwyr y Pleidiau (27 Ebr 2022)

Sam Rowlands: Diolch, Lywydd, a phrynhawn da, Weinidog. Fel rhywun sy'n frwdfrydig iawn dros gynghorau, rwy'n siŵr fod y Gweinidog yr un mor falch â minnau o weld yr etholiadau llywodraeth leol yr wythnos nesaf. Ac yn gyntaf, Weinidog, gyda'r cylch etholiadol yn dod i ben, rwy'n siŵr yr hoffech ymuno â mi i ddiolch i'r holl gynghorwyr sydd wedi bod yn cyflawni'r rôl honno dros y pum mlynedd diwethaf....

1. Cwestiynau i’r Gweinidog Cyllid a Llywodraeth Leol: Etholiadau Llywodraeth Leol Cymru (27 Ebr 2022)

Sam Rowlands: 3. Pa asesiad y mae'r Gweinidog wedi'i wneud o nifer y seddi lle nad oes ond un ymgeisydd yn etholiadau llywodraeth leol Cymru? OQ57910

2. Cwestiynau i’r Gweinidog Materion Gwledig a Gogledd Cymru, a’r Trefnydd: Economi Gogledd Cymru (27 Ebr 2022)

Sam Rowlands: 6. Sut mae'r Gweinidog yn gweithio gyda Gweinidog yr Economi i sicrhau bod gogledd Cymru yn elwa o ganlyniadau economaidd sy'n gyfartal â gweddill Cymru? OQ57909

1. Cwestiynau i'r Prif Weinidog: Cymorth Ariannol i Awdurdodau Lleol (26 Ebr 2022)

Sam Rowlands: Wrth gwrs, un o'r dyletswyddau a'r rhwymedigaethau allweddol y bydd cynghorau yn ymgymryd ag ef nawr yw'r prydau ysgol am ddim, sy'n rhan o'r cytundeb cydweithredu, wrth gwrs, Prif Weinidog, sydd gennych chi gyda Phlaid Cymru dros y blynyddoedd nesaf. Ond, wrth gwrs, dim am flwyddyn neu ddwy y mae'r cyllid refeniw ar gyfer hynny wedi cael ei ymrwymo gan Lywodraeth Cymru, ac, fel y gwyddoch...

6. Dadl y Ceidwadwyr Cymreig: Cefnogi fferyllwyr (30 Maw 2022)

Sam Rowlands: Roedd yn braf iawn heddiw—mae llawer wedi sôn amdano—y gydnabyddiaeth drawsbleidiol i'r gwaith da hwn, a gallwn i gyd ddiolch am y gwaith anhygoel y mae fferyllwyr wedi'i wneud. Rwy'n siŵr fod pob Aelod hefyd wedi cael y pleser o ymweld â'n fferyllwyr gwych, rhywbeth y soniodd Gareth Davies amdano. Rwyf wedi gweld drosof fy hun y rôl eithriadol y maent yn ei chyflawni mewn ystod eang...

6. Dadl y Ceidwadwyr Cymreig: Cefnogi fferyllwyr (30 Maw 2022)

Sam Rowlands: Diolch yn fawr, Ddirprwy Lywydd. A gaf fi ddechrau yn gyntaf drwy ddiolch i Aelodau o bob rhan o'r Siambr heddiw am wneud cyfraniadau gwych i'n dadl bwysig a chydnabod y rôl eithriadol y mae fferyllfeydd a fferyllwyr yn ei chyflawni, a sut y gallwn wneud ein rhan i'w helpu i wella eu gwaith ymhellach eto, gan wneud bywydau ein trigolion hyd yn oed yn well. Fel y dywed pwynt 1 o'n cynnig, mae...

5. Dadl ar Adroddiad y Pwyllgor Cydraddoldeb a Chyfiawnder Cymdeithasol: 'Gwarchod y dyfodol: Y rhwystr gofal plant sy’n wynebu rhieni sy’n gweithio' (30 Maw 2022)

Sam Rowlands: Diolch i'r Pwyllgor Cydraddoldeb a Chyfiawnder Cymdeithasol am gyflwyno'r adroddiad heddiw. Efallai eich bod yn synnu braidd wrth fy ngweld i'n siarad ar yr eitem hon heddiw, ond rhaid imi ddweud, cefais y pleser o fynychu dau o gyfarfodydd y pwyllgor ar ran fy nghyfaill a fy nghyd-Aelod dros y misoedd diwethaf, a mwynheais waith y pwyllgor a gyflawnwyd ar gyflogaeth rhieni a gofal plant—y...

3. Cwestiynau Amserol: Orthios (30 Maw 2022)

Sam Rowlands: Diolch i’r Aelod o Ynys Môn hefyd am gyflwyno’r cwestiwn hynod bwysig hwn heddiw—nid yn unig yr effaith yng Nghaergybi ac Ynys Môn, ond yn rhanbarth gogledd Cymru, oherwydd arwyddocâd ac arwyddocâd posibl y safle. Mae’r cyhoeddiad fod Orthios wedi’i roi yn nwylo’r gweinyddwyr yn amlwg yn peri cryn bryder, ac rwy’n rhannu'r pryderon a leisiodd yr Aelod dros Ynys Môn, a...


<< < 6 7 8 9 10 11 12 13 14 15 > >>

Creu hysbysiad

Chwilio uwch

Dod o hyd i'r union air neu ymadrodd hwn

Gallwch hefyd wneud hyn o'r prif flwch chwilio drwy roi’r union eiriau mewn dyfyniadau: megis "seiclo" neu "adroddiad Hutton"

Rydyn ni'n dangos geiriau sy'n gysylltiedig â'ch term chwilio, megis “beic” a “beicio” wrth chwilio am seiclo yn ddiofyn. Er mwyn atal hyn, rhowch y gair mewn dyfyniadau, fel "seiclo"

Heb gynnwys y geiriau hyn

Gallwch hefyd wneud hyn o'r prif flwch chwilio trwy roi arwydd minws cyn geiriau nad ydych eisiau: fel hela -llwynog

Rydym hefyd yn cefnogi nifer o addasiadau chwilio Booleaidd, megis AND a NEAR, ar gyfer chwilio manwl.

Ystod o ddyddiadau

i

Gallwch roi dyddiad dechrau, dyddiad gorffen, neu'r ddau er mwyn cyfyngu canlyniadau i ystod o ddyddiadau penodol. Mae dyddiad gorffen coll yn awgrymu'r dyddiad presennol, ac mae dyddiad cychwyn coll yn awgrymu'r dyddiad hynaf sydd gennym yn y system. Gellir nodi'r dyddiadau ar unrhyw fformat y dymunwch, e.e. 3ydd Mawrth 2007 neu 17/10/1989

Person

Rhowch enw fan hyn i gyfyngu canlyniadau i gyfraniadau gan y person hwnnw yn unig.

Adran

Cyfyngu canlyniadau i senedd neu gynulliad penodol yr ydym yn cynnwys (e.e. Senedd yr Alban), neu fath arbennig o ddata o fewn sefydliad, megis Atebion Ysgrifenedig Tŷ'r Cyffredin.

Colofn

Pe baech yn gwybod y rhif colofn Hansard cywir o'r wybodaeth y mae gennych ddiddordeb ynddo (efallai eich bod yn edrych ar gyfeiriad papur), gallwch gyfyngu canlyniadau i hynny ; Gallwch hefyd ddefnyddio column:123 yn y prif flwch chwilio.