Samuel Kurtz: Prif Weinidog, mae 20 mlynedd wedi mynd heibio bellach ers llofruddiaeth drasig y plentyn wyth oed Victoria Climbié, yn nwylo ei hen fodryb a'i phartner yn Llundain. Amlygodd yr achos fethiannau gwahanol asiantaethau Llywodraeth a fethodd â mynd i'r afael â'r cam-drin parhaus yr oedd yn ei ddioddef gan ei theulu. Er na ddigwyddodd y llofruddiaeth hon yng Nghymru, nododd yr adroddiad a...
Samuel Kurtz: 4. Pa gamau y mae Llywodraeth Cymru wedi'u cymryd i wella gwasanaethau diogelu plant yng Ngorllewin Caerfyrddin a De Sir Benfro? OQ58036
Samuel Kurtz: Rwy'n ddiolchgar i'r Aelod dros Flaenau Gwent am gyflwyno'r ddadl amserol a phwysig hon, gan ei bod yn digwydd mewn wythnos pan fo Rwsia wedi dathlu diwrnod buddugoliaeth ar 9 Mai, y diwrnod y sicrhaodd Undeb y Gweriniaethau Sofiet Sosialaidd fuddugoliaeth dros yr Almaen Natsïaidd a diwedd yr ail ryfel byd gyda'r gwledydd cynghreiriol eraill. Mae'r arddangosiad hwn o rym milwrol drwy...
Samuel Kurtz: Nid wyf i'n petruso rhag dweud mai fy hoff ran o lwybr yr arfordir yw Pwllderi, lle cefais fy magu, lle mae carreg goffa i'r bardd Dewi Emrys, gyda'r llinellau:
Samuel Kurtz: 'A thina'r meddilie sy'n dwad ichi / Pan foch chi'n ishte uwchben Pwllderi.'
Samuel Kurtz: Fy hoff ran. Ond, fel rhywun a fagwyd gyda fferm sy'n gweld llwybr arfordir sir Benfro yn mynd drwy ei thir, rwy'n llwyr werthfawrogi pwysigrwydd datblygu perthynas dda rhwng y tirfeddiannwr a'r cerddwyr. Ac er bod llwybr arfordir Cymru yn dathlu ei ddegfed pen-blwydd, mae parc cenedlaethol arfordir sir Benfro yn dathlu ei ben-blwydd yn saith deg oed, ac mae mewn sefyllfa fel yr unig barc...
Samuel Kurtz: Rwy’n meddwl efallai fod yr Aelod yn drysu rhwng ein cefnogaeth i fusnesau ac economïau lleol a’r effaith y mae hynny’n ei chael ar gymunedau. Mae cymaint o fusnesau twristiaeth yn cefnogi’r union gymunedau sy’n bwysig i chi ac i ninnau i’r un graddau. Yr ail bwynt a godwyd, rwy'n credu, ac a amlinellwyd gan Natasha Asghar yn enwedig oedd yr effaith a gafodd COVID-19 ar ein...
Samuel Kurtz: Diolch, Weinidog. Mae'n fwy nag anecdotaidd yn unig, ceir enghreifftiau clir o'r busnesau hyn, busnesau sydd wedi'u lleoli yn Llundain yn bennaf, yn prynu tir amaethyddol Cymru ar gyfer coedwigaeth wyrddgalchu, sy’n cynyddu'r angen i wella diogeledd bwyd yma. A ddoe, gwnaeth eich cyd-Aelod, y Prif Weinidog, sylwadau diddorol am y Bil amaethyddiaeth (Cymru) sydd ar y gorwel, yn enwedig am ei...
Samuel Kurtz: Diolch i chi, Weinidog, ac rwy’n sylwi nad ydych yn cyfeirio o gwbl at y cyfarfod ym mis Mawrth a byddwn yn gofyn i’r ymgysylltiad â rhanddeiliaid pysgodfeydd a dyframaethu barhau gyda pheth brys. Ond gan symud ymlaen at gynllun creu coetir Glastir, ym mis Tachwedd y llynedd, codais y mater hwn ynglŷn ag arian yn cael ei dalu i dderbynwyr sydd wedi’u lleoli y tu allan i Gymru. Rhwng...
Samuel Kurtz: Diolch, Lywydd. Prynhawn da, Weinidog. Mae cyfanswm nifer y pysgod cregyn yng Nghymru a nifer y cychod pysgota cyffredinol sy'n glanio yng Nghymru wedi gostwng yn barhaus ers 2018, ac yn ystod y cyfnod hwn rydych wedi llywyddu dros y diwydiant ac wedi gweld y dirywiad hwn. Er mwyn gwrthdroi'r duedd drist, ni ddylid tanbrisio arwyddocâd ymgysylltu â rhanddeiliaid, yn enwedig mewn perthynas...
Samuel Kurtz: Diolch, Weinidog, a chyfeiriaf yr Aelodau at fy nghofrestr buddiannau. Yn ddiweddar, rwyf wedi llwyddo i helpu teulu etholwr yn sir Benfro sydd wedi gorfod ymladd er mwyn i'w plentyn allu ymuno â'u chwaer a mynychu uned gynhwysiant Canolfan Elfed yn Ysgol Uwchradd y Frenhines Elizabeth dros y ffin yn sir Gaerfyrddin. Mae'r uned hon yn darparu gwasanaeth a darpariaeth ragorol ar gyfer ystod o...
Samuel Kurtz: Wrth baratoi ar gyfer y cwestiwn atodol hwn, roeddwn i'n meddwl yr awn i dudalen we ynni cymunedol Llywodraeth Cymru i weld beth oedd yr wybodaeth a'r canllawiau diweddaraf ar gyfer pobl Cymru sy'n awyddus i chwarae eu rhan drwy ddatblygu ynni gwyrdd ac adnewyddadwy iddynt hwy eu hunain a'u cymunedau. Ac o gofio bod y Dirprwy Weinidog, yn yr ymateb i'r Aelod dros Ganolbarth a Gorllewin Cymru,...
Samuel Kurtz: 1. Pa gymorth sydd ar gael i fyfyrwyr ag anghenion dysgu ychwanegol yng Ngorllewin Caerfyrddin a De Sir Benfro? OQ57891
Samuel Kurtz: A wnaiff y Prif Weinidog roi'r wybodaeth ddiweddaraf am dargedau plannu coed Llywodraeth Cymru?
Samuel Kurtz: Diolch, Ddirprwy Lywydd. Mae’n bleser gennyf agor y ddadl y prynhawn yma oherwydd ei bod mor bwysig ac mor hynod o amserol. Yn ystod y pythefnos diwethaf yn unig, rydym wedi siarad ar sawl achlysur am ddiogelu'r cyflenwad bwyd ac arwyddocâd hynny yn sgil yr ymosodiad ar Wcráin. Wel, nawr yw'r amser i siarad yn lle gweithredu—neu weithredu yn lle siarad, yn hytrach. Cawn gyfle...
Samuel Kurtz: Hoffwn ddechrau drwy ddiolch i fy nghyd-Aelod a Chadeirydd y pwyllgor, yr Aelod dros Breseli Sir Benfro, am ei gadeiryddiaeth ragorol drwy gydol yr ymchwiliad hwn. Hoffwn ddiolch hefyd i glercod a staff y pwyllgor am eu cymorth. Credaf fod hwn, adroddiad cyntaf y pwyllgor, yn anhygoel o gryf. Yn ystod cyfarfodydd taflu syniadau ein pwyllgor ar y flaenraglen waith, cofiaf fod prinder gyrwyr...
Samuel Kurtz: A wnaiff yr Aelod dderbyn ymyriad?
Samuel Kurtz: Diolch, Rhys, ac rwy'n mwynhau gwrando ar eich araith yma, ond onid yw'n ffaith bod yr ysgol Sul ei hun—rydym yn sôn am addysg pobl ifanc drwy'r capeli, ac roeddwn innau'n mynd i'r ysgol Sul—yn fath arall o addysg, sydd, yn fy marn i, yn eithriadol o bwysig? A ydych chi'n cytuno bod yr ysgol Sul yn rhan bwysig o'r capeli hyn hefyd?
Samuel Kurtz: Weinidog, y prif wasanaeth ysbyty yn etholaeth Adam Price a fy etholaeth i, ar y ffin ddwyreiniol, yw ysbyty Glangwili. Ac rwy'n siŵr y byddwch yn cytuno â mi fod amseroedd aros yr adran ddamweiniau ac achosion brys yn yr ysbyty hwn yn annerbyniol. Mae'r ffigurau diweddaraf sydd ar gael yn dangos bod 46.5 y cant o gleifion yn treulio mwy na phedair awr yn yr adran ddamweiniau ac achosion...
Samuel Kurtz: Yn ddiweddar, cefais gyfle i ymweld â Pobl yn Gyntaf sir Gaerfyrddin—elusen annibynnol wych sydd wedi chwarae rhan flaenllaw yn y gwaith o gefnogi oedolion ag anableddau dysgu drwy ddarparu hyfforddiant, cymorth ac eiriolaeth annibynnol i unigolion sydd eu hangen. Arweinir yr elusen gan dîm gwych o staff ymroddedig ac angerddol, dan arweiniad Sarah Mackintosh, rheolwr yr elusen. Dro ar...