Rhys ab Owen: 'Rwyf am weld o leiaf 75 y cant o'r addoldai yng Nghymru yn cael eu tynnu i lawr neu eu defnyddio mewn ffordd fwy effeithiol.'
Rhys ab Owen: Wel, dwi'n cytuno, i raddau, gyda Huw T. Edwards. Mae angen eu defnyddio nhw mewn ffordd llawer mwy effeithiol. Ond cytunaf hefyd gyda'r Huw Edwards arall, a pha ddadl ar gapeli allem ni ei chael heb Huw Edwards y BBC? Huw Edwards yn dweud hyn:
Rhys ab Owen: Mae addoldai wedi gwneud cyfraniad anfesuradwy i fywyd Cymru: maent wedi dysgu miloedd o blant i ddarllen ac ysgrifennu; roeddent yn meithrin yr ymdeimlad cryfaf posibl o gymuned; roeddent yn darparu llwyfan hanfodol ar gyfer diwylliant Cymru; roeddent yn aml yn ymgyrchu dros hawliau gweithwyr ac yn darparu gwasanaethau lles pan oedd llywodraeth yn cynnig y nesaf peth i ddim.
Rhys ab Owen: Ddwy flynedd yn ôl, fe gaewyd drysau holl fannau—
Rhys ab Owen: Wrth gwrs.
Rhys ab Owen: Diolch yn fawr i fy nghyfaill Mike Hedges am ddod â'r ddadl yma. Ble arall yn y byd fyddem ni'n cael dadl fel hon? Wel, efallai yng nghynulliad talaith Chubut, o bosib. Mae'n hyfryd, onid yw e? Mae'n quintessentially Welsh i gael dadl fel hyn ar gapeli Cymru. Efallai bod Mike Hedges a fi yn Aelodau o bleidiau gwleidyddol gwahanol, ond mae llawer gyda ni'n gyffredin, ac un o'r pethau hyn yw...
Rhys ab Owen: Diolch yn fawr, Weinidog. Ychydig wythnosau yn ôl, ymwelais â chanolfan newydd Spark ym Mhrifysgol Caerdydd, ac rwy'n annog pob Aelod i ymweld â'r ganolfan ymchwil newydd honno. Fe wnaethant bwysleisio i mi, cyn Brexit, faint o arian a dderbynient gan yr Undeb Ewropeaidd. Derbyniodd Prifysgolion Cymru bron i £570 miliwn ers troad y ganrif. Yng nghyd-destun Prifysgol Caerdydd, cafodd hynny...
Rhys ab Owen: 10. Pa drafodaethau y mae'r Gweinidog wedi'u cael gyda phartneriaid i sicrhau nad yw Cymru ar ei cholled yn economaidd oherwydd cronfa codi'r gwastad? OQ57823
Rhys ab Owen: Pa asesiad y mae Llywodraeth Cymru wedi'i wneud o nifer y marwolaethau ychwanegol ar ddechrau'r pandemig ymhlith pobl sy'n byw gyda dementia?
Rhys ab Owen: Gan ystyried y nifer uchel iawn o ymatebion i'r ymgynghoriad a'r ffaith—prin ei bod yn syndod mae'n debyg—nad oedd y rhan fwyaf o'r ymatebion hynny'n cefnogi'r cynnig i gynyddu disgresiwn y gyfradd ganrannol, nid oeddem yn glir pam y mabwysiadwyd y dull gweithredu yn y rheoliadau. Mewn ymateb, dywedwyd wrthym fod Llywodraeth Cymru wedi rhoi ystyriaeth lawn i'r holl ymatebion i'r...
Rhys ab Owen: Mae ein pwynt rhinwedd olaf, Weinidog—ac fel dywedais i, doedd dim angen ymateb i'r pwynt yma—yn nodi, yn syml, y bydd y cynllun a bennir yn y rheoliadau yn debygol o arwain at gynnydd yn refeniw yr awdurdodau bilio trwy ddarparu gwasanaethau sy’n dod o dan ffi’r dreth gyngor. Mae'r rheoliadau’n rhagnodi drwy welliant y mecanwaith o gynyddu'r ffi honno, yn ôl disgresiwn pob...
Rhys ab Owen: Mae ein hail bwynt rhinwedd yn tynnu sylw at yr ymgynghoriad a gynhaliwyd gan Lywodraeth Cymru mewn perthynas â’r rheoliadau, ac, yn benodol, at y modd y mae’r memorandwm esboniadol yn ymdrin â’r ymgynghoriad hwn.
Rhys ab Owen: Diolch yn fawr i chi, Lywydd. Dwi'n hapus iawn i gyfrannu at y ddadl y prynhawn yma ar ran y Pwyllgor Deddfwriaeth, Cyfiawnder a'r Cyfansoddiad, ac yn dymuno'n dda i'n Cadeirydd, Huw Irranca-Davies, ar yr achlysur hapus o raddio ei fab, wedi cael ei ohirio droeon oherwydd COVID. Buom yn ystyried y rheoliadau yma yn ein cyfarfod ar 14 Mawrth, ac mae ein hadroddiad i’r Senedd yn cynnwys tri...
Rhys ab Owen: Nododd ein pwynt rhinweddau cyntaf fod y cynnydd sylweddol yn nisgresiwn yr awdurdod sy'n codi tâl, o 100 y cant i 300 y cant, yn ymddangos fel pe bai'n ymgysylltu ag erthygl 1 o brotocol cyntaf y confensiwn Ewropeaidd ar hawliau dynol. Er cydnabyddir a derbynnir y gall gwladwriaethau ymyrryd ag eiddo dinesydd, yn yr achos hwn drwy gynyddu'r tâl treth gyngor ar anheddau gwag hirdymor neu...
Rhys ab Owen: Diolch yn fawr, Prif Weinidog. Dwi'n gwybod bod hwn yn rhywbeth sy'n agos iawn i'ch calon chi, a'ch bod chi wedi bod yn gweithio i drio ffeindio mas beth yw'r broblem.
Rhys ab Owen: Dangosodd y gwaith ymchwil diweddar gan y Ganolfan Ymchwil a Datblygu Gofal Cymdeithasol Plant ym Mhrifysgol Caerdydd a gomisiynwyd gan Lywodraeth Cymru gynnydd o 87 y cant i gyfradd y plant mewn gofal rhwng 2004 a 2020. A'r hyn sy'n fy synnu i yw'r amrywiad enfawr o fewn awdurdodau lleol—felly, Torfaen, cynnydd o 251 y cant, ond ni fu unrhyw gynnydd o gwbl yn sir Gaerfyrddin—a'r...
Rhys ab Owen: 3. Pa waith y mae Llywodraeth Cymru yn ei wneud i leihau nifer y plant mewn gofal yng Nghymru? OQ57822
Rhys ab Owen: Diolch yn fawr, Gwnsler. Gwn eich bod yn ymwybodol iawn o natur y proffesiwn yng Nghymru, yn enwedig mewn ardaloedd gwledig ac ôl-ddiwydiannol. Mae gennym weithwyr ac ymarferwyr cyfraith proffesiynol sy'n heneiddio. Mewn ardaloedd fel Canolbarth a Gorllewin Cymru, mae dros 60 y cant o'r cyfreithwyr cyfraith droseddol sy'n weithredol dros 50 oed, a cheir canran uchel o ddeisyfyddion yn yr...
Rhys ab Owen: Diolch yn fawr.
Rhys ab Owen: Diolch yn fawr, Gwnsler Cyffredinol. Edrychaf ymlaen at glywed eich datganiad yr wythnos nesaf am fwrw ymlaen ag argymhellion y Comisiwn ar Gyfiawnder yng Nghymru ac adroddiad Comisiwn y Gyfraith ar dribiwnlysoedd yng Nghymru. Mae mwy o'r system gyfiawnder wedi'i datganoli i Gymru nag y mae'r rhan fwyaf o bobl yn ei feddwl mewn gwirionedd, yn enwedig ar y meinciau gyferbyn â mi. Ond un ddadl...