Canlyniadau 181–200 o 4000 ar gyfer speaker:Jack Sargeant OR speaker:Jack Sargeant OR speaker:Jack Sargeant OR speaker:Jack Sargeant OR speaker:Jack Sargeant OR speaker:Jack Sargeant OR speaker:Jack Sargeant OR speaker:Jack Sargeant

6. Dadl y Ceidwadwyr Cymreig: Cefnogi fferyllwyr (30 Maw 2022)

Jack Sargeant: Diolch i'r Gweinidog am dderbyn ymyriad. Roeddech yn sôn am y Llywodraeth yn chwarae rhan, ond rhaid i gyflogwyr chwarae rhan. Soniodd yr Aelod o'r Ceidwadwyr Cymreig am amodau gwaith. A yw'r Gweinidog yn cytuno â mi mai'r ffordd orau o gael gwell amodau gwaith yw drwy ymuno ag undeb llafur?

6. Dadl y Ceidwadwyr Cymreig: Cefnogi fferyllwyr (30 Maw 2022)

Jack Sargeant: Efallai y bydd yn syndod i’r Aelodau ar ôl ddoe, ond byddaf yn cefnogi’r cynnig, ac rwy'n croesawu'r cynnig hwn gan y Ceidwadwyr Cymreig heddiw. Ond mae'n rhaid imi ddweud wrth yr Aelod a agorodd y ddadl heddiw, efallai ei fod yn rhoi'r drol o flaen y ceffyl os yw'n meddwl na fydd unrhyw welliannau i ddadleuon yn y dyfodol yma. Ond ar gefnogaeth drawsbleidiol, gallaf weld bod yr Aelodau...

3. Cwestiynau Amserol: Orthios (30 Maw 2022)

Jack Sargeant: Diolch i’r Aelod, Rhun ap Iorwerth, am gyflwyno’r cwestiwn pwysig hwn heddiw, ac rwy’n cytuno'n fawr iawn â’r hyn y mae wedi’i ddweud eisoes. Weinidog, a gaf fi newid y cwestiwn ychydig? Ac mae'r cyhoeddiad yn amlwg yn peri cryn bryder i lawer o unigolion a llawer o deuluoedd ar draws gogledd Cymru, ac mae'n amlwg fod hwn yn gyfnod anodd, ac mae'n anodd iawn ymdopi ag ergydion fel...

8. Datganiad gan y Dirprwy Weinidog Partneriaeth Gymdeithasol: Gwaith Teg: Diweddariad blynyddol ar gynnydd (29 Maw 2022)

Jack Sargeant: Diolch yn fawr, Dirprwy Lywydd. A gaf i ganmol y Gweinidog am y gwaith y mae hi wedi'i wneud yn y maes hwn, nid yn unig fel Gweinidog neu Aelod o'r Senedd, ond wrth gwrs yn ei swydd flaenorol fel undebwr llafur? A hoffwn i gofnodi fy aelodaeth falch o Unite the Union, undeb cymunedol, sydd yma heddiw. Gwnes i wrando gyda diddordeb pan wnaethoch chi sôn am wythnos waith fyrrach yn eich...

2. Cwestiynau i'r Prif Weinidog: P&O Ferries (29 Maw 2022)

Jack Sargeant: Dirprwy Lywydd, nid yw'n syndod, oherwydd Bil a gyflwynwyd gan Aelod Seneddol y Blaid Lafur ydoedd. Ond mae'r heclo y trodd hyn i mewn iddo o'r meinciau draw yn y fan yna yn atgyfnerthu'r neges, onid yw? Maen nhw'n atgyfnerthu'r neges nad yw Plaid Geidwadol y DU yn poeni am bobl gyffredin sy'n gweithio yng Nghymru a ledled y DU. Prif Weinidog, a wnewch chi ymuno â mi i anfon neges syml iawn,...

2. Cwestiynau i'r Prif Weinidog: P&O Ferries (29 Maw 2022)

Jack Sargeant: Diolch yn fawr iawn, Prif Weinidog. Bydd yr Aelodau'n gwybod mai isafswm cyflog y DU yw £8.91. Y cyflog cyfartalog newydd yn P&O yw £5.50, a chafodd hyn ei gyflwyno ar ôl iddyn nhw ddiswyddo eu gweithlu ffyddlon yn anghyfreithlon heb ymgynghori. Fel y dywed y Prif Weinidog yn gywir, mae hon yn weithred warthus, anghyfreithlon gan benaethiaid P&O, ac mae'n un sy'n annerbyniol i mi. Prif...

2. Cwestiynau i'r Prif Weinidog: P&O Ferries (29 Maw 2022)

Jack Sargeant: 4. Pa drafodaethau y mae'r Prif Weinidog wedi'u cael gyda Llywodraeth y DU am drigolion Cymru sydd wedi cael eu diswyddo'n anghyfreithlon gan P&O? OQ57905

2. Cwestiynau i'r Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol: Mynediad at Ddeintydd GIG (23 Maw 2022)

Jack Sargeant: Diolch yn fawr am eich ateb, Weinidog. Ddoe, eglurodd y Prif Weinidog yr heriau yr ydym yn eu hwynebu ym maes deintyddiaeth ar hyn o bryd yng Nghymru a ledled y Deyrnas Unedig. Ond mae trigolion Alun a Glannau Dyfrdwy yn teimlo effaith yr heriau hynny'n fawr, ac maent yn dod ataf, fel eu Haelod etholedig uniongyrchol o’r Senedd, am eu bod yn cael trafferth gweld deintydd y GIG. A wnewch chi...

2. Cwestiynau i'r Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol: Mynediad at Ddeintydd GIG (23 Maw 2022)

Jack Sargeant: 7. Beth mae Llywodraeth Cymru'n ei wneud i helpu trigolion Alun a Glannau Dyfrdwy i gael mynediad at ddeintydd GIG? OQ57849

1. Cwestiynau i'r Prif Weinidog: Gweithwyr Ifanc (22 Maw 2022)

Jack Sargeant: Diolch yn fawr, Prif Weinidog. Yn ddiweddar, gwnaeth y Resolution Foundation waith ymchwil a ganfu, ar ôl i COVID daro, bod pobl o dan 34 oed yn fwy tebygol o wynebu diweithdra neu waith ansicr. Rwy'n siŵr y bydd ein cyd-Aelod ar draws y Siambr Tom Giffard wedi gweld fy mod i wedi defnyddio fy sianeli cyfryngau cymdeithasol fy hun i estyn allan at bobl ifanc, gan ofyn iddyn nhw am eu...

1. Cwestiynau i'r Prif Weinidog: Gweithwyr Ifanc (22 Maw 2022)

Jack Sargeant: 6. Sut mae Llywodraeth Cymru'n cefnogi gweithwyr ifanc yng Nghymru? OQ57854

7. Dadl y Ceidwadwyr Cymreig: Y Lluoedd Arfog (16 Maw 2022)

Jack Sargeant: Diolch i’r Ceidwadwyr Cymreig am gyflwyno’r cynnig heddiw. Mae pob diwrnod yn ddiwrnod dysgu, gan imi ddysgu bod Alun Davies yn arfer bod yn y Llywodraeth, ac rwy'n cytuno â sylwadau’r cyn-Weinidog yn gynharach yn ei gyfraniad ynghylch craffu gan y Senedd hon a’r gwaith pwyllgor y dylai fod yn ei wneud. Efallai fod pob diwrnod yn ddiwrnod dysgu, ond mae hefyd yn wahanol, gan imi...

3. Cwestiynau i Gomisiwn y Senedd: Cyfranogiad y Cyhoedd ym Mhwyllgorau'r Senedd (16 Maw 2022)

Jack Sargeant: Diolch yn fawr am eich ateb, Gomisiynydd. Rwy’n ddiolchgar am y gwaith y mae’r Comisiwn wedi’i wneud yn ystod y pandemig a’r hyn y mae’n parhau i’w wneud. Os caf, Ddirprwy Lywydd, hoffwn ddatgan buddiant yn y fan hon fel Cadeirydd Pwyllgor Deisebau’r Senedd, ac fel Cadeirydd y Pwyllgor Deisebau, rwyf am i bobl Cymru ei weld fel eu pwyllgor hwy; hwy sy'n llunio ein hagendâu...

2. Cwestiynau i’r Cwnsler Cyffredinol a Gweinidog y Cyfansoddiad: Rhwystrau i Gyfiawnder (16 Maw 2022)

Jack Sargeant: Diolch, Gwnsler Cyffredinol. Ac fe fyddwch yn gwybod—. Mae'r ddau ohonom, fel y gŵyr yr Aelodau, yn teimlo'n angerddol iawn ynglŷn â sicrhau bod gan bobl yng Nghymru fynediad llawn a phriodol at gyfiawnder. Ac fe fyddwch wedi fy nghlywed sawl tro yn y Siambr hon, Gwnsler Cyffredinol, yn codi anghyfiawnderau sgandal Horizon Swyddfa'r Post, a thrychinebau Hillsborough a Grenfell. Rwy'n...

2. Cwestiynau i’r Cwnsler Cyffredinol a Gweinidog y Cyfansoddiad: Rhwystrau i Gyfiawnder (16 Maw 2022)

Jack Sargeant: 3. Pa sgyrsiau y mae'r Cwnsler Cyffredinol wedi'u cael gyda Llywodraeth y DU i sicrhau nad yw trigolion Cymru yn wynebu rhwystrau i gyfiawnder? OQ57789

3. Cwestiynau i Gomisiwn y Senedd: Cyfranogiad y Cyhoedd ym Mhwyllgorau'r Senedd (16 Maw 2022)

Jack Sargeant: 4. A wnaiff y Comisiwn ddatganiad ar sut mae'n annog cyfranogiad y cyhoedd ym mhwyllgorau'r Senedd? OQ57792

4. Datganiad gan y Dirprwy Weinidog Newid Hinsawdd: Diweddariad ar y Strategaeth Ddigidol (15 Maw 2022)

Jack Sargeant: Rwy'n croesawu'r wybodaeth ddiweddaraf heddiw gan y Dirprwy Weinidog. Mae digon y gallwn ni i siarad amdano y prynhawn yma, ond wnaf i ddim profi amynedd y Llywydd, a gobeithio y gall y Gweinidog a minnau gydweithio yn y maes hwn yn adeiladol yn y dyfodol. Ond os caf i, os gallaf i godi un pwynt penodol yn eich datganiad heddiw, ac mae hynny'n ymwneud â seiberddiogelwch, oherwydd mae'n wir...

1. Cwestiynau i'r Prif Weinidog: Ynni Adnewyddadwy (15 Maw 2022)

Jack Sargeant: Rwy'n ddiolchgar i Jayne Bryant am gyflwyno'r cwestiwn hynod bwysig hwn heddiw, ac mae'n iawn, os ydym ni'n mynd i hyrwyddo ynni adnewyddadwy, bod angen i ni edrych ar ble yr ydym ni'n buddsoddi a lle mae eraill yn buddsoddi i ni, ac mae hynny yn rhan allweddol o hyn. Prif Weinidog, byddwch yn ymwybodol o ymgyrch gynyddol i symud cronfeydd pensiwn y sector cyhoeddus oddi wrth danwydd ffosil i...

QNR: Cwestiynau i Prif Weinidog Cymru (15 Maw 2022)

Jack Sargeant: Pa drafodaethau y mae Llywodraeth Cymru wedi'u cael gyda chydweithwyr llywodraeth leol am fuddsoddiadau cynllun pensiwn y sector cyhoeddus awdurdodau lleol?

4. Datganiad gan Weinidog yr Economi: Cymru Gryfach, Decach, Wyrddach: Cynllun ar gyfer Cyflogadwyedd a Sgiliau ( 8 Maw 2022)

Jack Sargeant: Rwy'n croesawu'r datganiad heddiw, Gweinidog. Nid ar y meinciau hyn yn unig y ceir croeso i'r datganiad, rwyf i o'r farn bod y rhan fwyaf o Aelodau'r Siambr yn gwneud felly. Fe wn i fod llefarydd yr wrthblaid yn edrych heddiw fel ei fod yn gwisgo tei a gafodd gan ein plaid ni, ond mae o hyd yn oed yn croesawu'r rhan fwyaf o hyn, fel ein cydweithwyr ni yng Nghyngres yr Undebau Llafur, wrth...


<< < 6 7 8 9 10 11 12 13 14 15 > >>

Creu hysbysiad

Chwilio uwch

Dod o hyd i'r union air neu ymadrodd hwn

Gallwch hefyd wneud hyn o'r prif flwch chwilio drwy roi’r union eiriau mewn dyfyniadau: megis "seiclo" neu "adroddiad Hutton"

Rydyn ni'n dangos geiriau sy'n gysylltiedig â'ch term chwilio, megis “beic” a “beicio” wrth chwilio am seiclo yn ddiofyn. Er mwyn atal hyn, rhowch y gair mewn dyfyniadau, fel "seiclo"

Heb gynnwys y geiriau hyn

Gallwch hefyd wneud hyn o'r prif flwch chwilio trwy roi arwydd minws cyn geiriau nad ydych eisiau: fel hela -llwynog

Rydym hefyd yn cefnogi nifer o addasiadau chwilio Booleaidd, megis AND a NEAR, ar gyfer chwilio manwl.

Ystod o ddyddiadau

i

Gallwch roi dyddiad dechrau, dyddiad gorffen, neu'r ddau er mwyn cyfyngu canlyniadau i ystod o ddyddiadau penodol. Mae dyddiad gorffen coll yn awgrymu'r dyddiad presennol, ac mae dyddiad cychwyn coll yn awgrymu'r dyddiad hynaf sydd gennym yn y system. Gellir nodi'r dyddiadau ar unrhyw fformat y dymunwch, e.e. 3ydd Mawrth 2007 neu 17/10/1989

Person

Rhowch enw fan hyn i gyfyngu canlyniadau i gyfraniadau gan y person hwnnw yn unig.

Adran

Cyfyngu canlyniadau i senedd neu gynulliad penodol yr ydym yn cynnwys (e.e. Senedd yr Alban), neu fath arbennig o ddata o fewn sefydliad, megis Atebion Ysgrifenedig Tŷ'r Cyffredin.

Colofn

Pe baech yn gwybod y rhif colofn Hansard cywir o'r wybodaeth y mae gennych ddiddordeb ynddo (efallai eich bod yn edrych ar gyfeiriad papur), gallwch gyfyngu canlyniadau i hynny ; Gallwch hefyd ddefnyddio column:123 yn y prif flwch chwilio.