Mabon ap Gwynfor: Felly, nôl ym mis Ionawr, fe gyflwynais gynnig ar reoli rhenti yn y Siambr. Yn ôl y disgwyl, pleidleisiodd y Ceidwadwyr yn ei erbyn, tra bod y Blaid Lafur wedi ymatal, yn bennaf oherwydd addewid fod y Llywodraeth wedi comisiynu papur i edrych ar y syniad a fyddai'n bwydo i mewn i'r Papur Gwyn ar dai. Ond mae'r Papur Gwyn yn parhau i fod beth amser i ffwrdd, tra bod y cynnig hwn yn ymgais i...
Mabon ap Gwynfor: Diolch i'r pwyllgor, y Cadeirydd a'r holl staff, fel y dywedodd Sam Kurtz, am eu gwaith trylwyr iawn yn gwneud yr ymchwil yma. Mae'n rhaid dechrau drwy gydnabod ein bod ni yn gweld llawer gormod o achosion o lygredd dŵr yn ein dyfroedd, ac mae’n rhaid i bawb gymryd cyfrifoldeb a chwarae eu rhan—y ffermwyr, ie, ond hefyd y cwmnïau dŵr, cwmnïau adeiladu a phawb arall. Ond, mae’n...
Mabon ap Gwynfor: Diolch i’r Gweinidog am y datganiad. Diolch hefyd am gael golwg arno cyn y cyhoeddiad yma heddiw. Mae’r Gweinidog, wrth gwrs, yn llygad ei le wrth ddweud fod ail dai wedi achosi trafferthion mawr i’n cymunedau gwledig ac arfordirol, yn enwedig yn yr ardaloedd lle mae’r Gymraeg ar ei chryfhaf, a hynny ers degawdau. Mae’r niferoedd mawr o ail gartrefi a llety gwyliau tymor byr wedi...
Mabon ap Gwynfor: Yn ail, ers dod yn ôl o wyliau'r haf, rwyf i wedi sylwi bod dyddiau'r Llywodraeth, ar ddydd Mawrth, yn dueddol o orffen yn gynnar, a'r cyfan a gawn ni yw datganiadau, heb unrhyw bleidleisiau o gwbl. O ystyried bod y Llywodraeth yn honni bod y rhaglen ddeddfwriaethol yn llawn dop, mae hyn yn fy synnu i. A fydd y Trefnydd felly yn ystyried rhaglen y Llywodraeth, a sicrhau bod yr amser sydd...
Mabon ap Gwynfor: Dwi am ofyn am ddatganiad a gweithred, os gwelwch yn dda. Nôl ym mis Mawrth, fe wnes i godi mater diffyg deintyddion efo chi yn Nwyfor Meirionnydd. Bryd hynny, fe ddywedoch chi y buasech chi'n gofyn i'r Gweinidog iechyd ddod â datganiad ymlaen ynghylch deintyddiaeth, ac y byddai hynny'n cael ei wneud o fewn yr hanner tymor yn dilyn mis Mawrth, gan bod y Gweinidog yn gweithio ar y mater....
Mabon ap Gwynfor: Dwi innau’n datgan buddiant, yr hyn sydd ar y record gyhoeddus, hefyd. Gyfeillion, dwi’n falch iawn o gael cyfrannu at y drafodaeth yma. Roedd hi’n bleser cael bod yn rhan o’r ymgynghoriad, a diolch i’r Cadeirydd am ei arweinyddiaeth yn ystod yr ymgynghoriad yma. Mae o’n un amserol iawn, ac mae o’n dangos consensws trawsbleidiol. Mae yna gydnabyddiaeth yma fod ein cymunedau...
Mabon ap Gwynfor: Diolch i Mark Isherwood am y cyflwyniad yna i'r cynnig. Wrth gwrs, chwarae teg iddo fe—yn ddyn gwybodus iawn; rydyn ni wedi clywed nifer fawr o ystadegau am bobl sydd yn dioddef o feigryn. Ond mae yna wyneb tu ôl i bob un o'r ystadegau hynny. Mae yna fywydau yn cael eu heffeithio yn eistedd y tu ôl i bob un o'r ystadegau hynny, ac mae gen i anwyliaid sydd yn byw efo meigryn, ac yn perthyn...
Mabon ap Gwynfor: Diolch yn fawr iawn i'r Cwnsler am yr ymateb. Bydd y Cwnsler yn ymwybodol o'r achos yn y Goruchaf Lys ynghylch cynlluniau datblygu hanesyddol yn Aberdyfi yn Nwyfor Meirionnydd. Rŵan, dwi'n deall mai nifer fach o achosion o Gymru sydd yn cyrraedd y Goruchaf Lys, ac mae rhai o'r achosion yma yn ymwneud â materion sydd wedi'u datganoli, megis cynllunio. Ond, wrth gwrs, gan fod y Goruchaf Lys...
Mabon ap Gwynfor: Diolch yn fawr iawn i'r Cwnsler am yr ymateb yna. Yn ei hymgyrch ar gyfer arweinyddiaeth y Blaid Geidwadol, fe ddywedodd y Prif Weinidog presennol y byddai hi'n dwyn rheolau llym i fewn ar undebau llafur, gan ymestyn y cyfnod notice, er enghraifft, ar gyfer gweithredu diwydiannol i 28 diwrnod a chynyddu'r rhicyn sydd angen ei gyrraedd er mwyn cael gweithredu diwydiannol er mwyn iddo fo gael...
Mabon ap Gwynfor: 5. Pa gyngor cyfreithiol y mae'r Cwnsler Cyffredinol wedi'i roi i Weinidogion Cymru ynghylch eu gallu i warchod hawliau undebau llafur? OQ58497
Mabon ap Gwynfor: 7. A wnaiff y Cwnsler Cyffredinol ddatganiad ar rôl y Goruchaf Lys wrth weinyddu cyfiawnder yng Nghymru? OQ58498
Mabon ap Gwynfor: Diolch i’r Dirprwy Weinidog am y cyhoeddiad yma. Mae hyn yn newyddion arbennig o dda, onid ydy? Mae’n rhoi statws, mae'n cydnabod pwysigrwydd ardal, tirlun, technoleg a phobl yr ardal yna o Gymru, nid yn unig i hanes Cymru, ond i hanes y byd, ac mae’n dangos hanes ardal yn teithio o ardal amaethyddol i fod yn un diwydiannol, ac wrth gwrs, heddiw yn un, yn rhannol yn ôl-ddiwydiannol. A...
Mabon ap Gwynfor: Pa gamau y mae'r Llywodraeth yn eu cymryd i sicrhau nad oes neb yn Nwyfor Meirionnydd yn wynebu digartrefedd y gaeaf hwn?
Mabon ap Gwynfor: Diolch yn fawr iawn i'r Gweinidog am yr ateb. Dwi am droi fy sylw rŵan i'r mater o blannu coed ar ffermydd. Bydd y Gweinidog yn ymwybodol o achos fferm Tyn y Mynydd ar Ynys Môn a'r ffaith i adran goedwigaeth y Llywodraeth brynu tir âr da yno at ddibenion plannu coed. Rŵan, mae tir amaethyddol da yn brin yng Nghymru, ac mae'r Llywodraeth wedi cymryd camau i warchod y tiroedd gorau. Tua 7 y...
Mabon ap Gwynfor: Os cawn ni wirio ei fod yn gweithio.
Mabon ap Gwynfor: Ardderchog. Diolch.
Mabon ap Gwynfor: Eisiau cychwyn efo'r diciâu oeddwn i. Mae'r ystadegau diweddaraf am niferoedd yr haint yng Nghymru i'w croesawu. Mae'r niferoedd absoliwt yn lleihau ac rydyn ni wedi gweld yr haint yn haneru yn ei niferoedd yma dros y 12 mlynedd ddiwethaf. Ond, y newyddion llai calonogol ydy bod yr haint wedi dechrau ymddangos mewn ardaloedd newydd o Gymru, megis yng ngogledd Conwy a sir Ddinbych, a phryder...
Mabon ap Gwynfor: Diolch yn fawr iawn. Dwi am gychwyn efo cwestiwn am y diciâu, Llywydd. Mae'r ystadegau diweddaraf am niferoedd—
Mabon ap Gwynfor: Gwnaf. Dim problem.
Mabon ap Gwynfor: Pa drafodaethau y mae'r Gweinidog wedi'u cael gyda'r Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol ynghylch cyllido cyflogau yn y Gwasanaeth Iechyd Gwladol?