Heledd Fychan: 2. Pa drafodaethau y mae'r Dirprwy Weinidog wedi'u cynnal gyda rhanddeiliaid lleol a chynrychiolwyr undebau ynglŷn â diogelu hawliau gweithwyr yn dilyn y cyhoeddiad diweddar ynglŷn ag allanoli gwasanaethau yng Nghanolfan Awyr Agored Genedlaethol Plas Menai? TQ660
Heledd Fychan: Diolch, Weinidog, am y datganiad heddiw, mae o'n ddiweddariad pwysig dros ben. Heb os, dyma ddangos gwerth cydweithio rhwng ein pleidiau pan y gallwn gyflawni polisi o'r fath mewn ychydig fisoedd, a gwneud gwahaniaeth yn syth i ddisgyblion sydd yn eu derbyn a'u teuluoedd. Roedd cyflawni hyn yn flaenoriaeth i ni fel grŵp ac fel plaid yn ein maniffesto ar gyfer etholiadau'r Senedd yn 2021. Pan...
Heledd Fychan: Oes modd cael datganiad, os gwelwch yn dda, gan y Dirprwy Weinidog Newid Hinsawdd ynglŷn â chyfathrebu gyda'r cyhoedd am newidiadau i wasanaethau Trafnidiaeth i Gymru, yn arbennig rhai munud olaf? Mae nifer o bobl wedi cysylltu gyda fi y bore yma wedi cael trafferth yn cyrraedd y gwaith, coleg, ysgolion ac apwyntiadau brys oherwydd bod trenau ddim yn rhedeg rhwng Pontypridd a Chaerdydd. Nid...
Heledd Fychan: Diolch, Prif Weinidog. Cafodd y wybodaeth y byddai ymchwiliad mwy a phenodol i gartrefi gofal ei rannu'n eang ar y cyfryngau cymdeithasol gan grŵp ymgyrchu COVID-19 Bereaved Families for Justice Cymru, yn dilyn eu cyfarfod gyda chi ychydig wythnosau yn ôl, a byddai'n ddefnyddiol cael eglurder ynghylch amserlen y dull a pha un a fydd yn ymdrin â rhyddhau'r henoed o'r ysbyty i gartrefi gofal...
Heledd Fychan: 2. A wnaiff y Prif Weinidog roi'r wybodaeth ddiweddaraf am yr ymchwiliad sy'n benodol i Gymru i farwolaethau sy'n gysylltiedig â COVID mewn cartrefi gofal? OQ58416
Heledd Fychan: Diolch yn fawr i Sioned Williams am gyflwyno'r drafodaeth bwysig hon, oherwydd, heb os, er bod yna ddatblygiadau o ran y cwricwlwm newydd, mi ydyn ni angen gwneud cymaint mwy. Dwi'n meddwl bod beth gwnaeth hi bwysleisio o ran y loteri cod post yma'n eithriadol o bwysig. Dydyn ni ddim jest ishio grymuso pobl ifanc i fod yn pleidleisio ond hefyd i ystyried y gallen nhw fod yma, dim ots beth ydy...
Heledd Fychan: Dwi'n falch o allu ategu nifer o'r pwyntiau a godwyd gan Samuel Kurtz. Yn sicr, mae digwyddiadau'r haf yn rhan bwysig o'n calendr fel cenedl, o'r sioeau bach amaethyddol i'r Sioe Frenhinol a'r holl wyliau cerddorol a diwylliannol megis yr Eisteddfod Ryngwladol sydd newydd fod, wrth gwrs, yn Llangollen, a'r Eisteddfod Genedlaethol. Dwi'n meddwl ein bod ni i gyd wedi eu colli nhw'n aruthrol...
Heledd Fychan: Diolch am y cyfle i gymryd rhan. Un o'r pethau roeddwn i'n meddwl oedd yn ddifyr iawn—ac mae hyn eisoes wedi cael ei gyfeirio ato—oedd barn pobl ifanc a Senedd Ieuenctid Cymru. Dwi'n meddwl bod hyn yn cael ei ategu yn y pethau sydd wedi cael eu rhannu gyda mi, yn sicr fel Aelod o'r Senedd dros Ganol De Cymru, o ran cost trafnidiaeth gyhoeddus yn benodol. Mae Ruben Kelman wedi ysgrifennu...
Heledd Fychan: A gaf i ddweud faint ydw i'n croesawu'r cynnig hwn heddiw, nid er fy mwyn i na'r un ohonom ni sydd yma yn Aelodau o'r Senedd rŵan, ond y rhai hynny sydd byth yn ystyried y gallan nhw fod yn Aelod o'r Senedd—pobl sydd â rolau gofalu, er enghraifft, ac nid dim ond â phlant, ond efallai â rhiant oedrannus neu bartner sydd angen eu cefnogaeth nhw; pobl anabl sydd yn meddwl eu bod nhw byth...
Heledd Fychan: Mae Cymru'n cofio Srebrenica.
Heledd Fychan: Diolch, Ddirprwy Lywydd. Ar 11 Gorffennaf bob blwyddyn, rydym yn cofio Srebrenica a hil-laddiad 8,372 o ddynion a bechgyn Mwslimaidd Bosniaidd. Mae'r ymdrechion i gofio yma yng Nghymru yn cael eu gyrru gan Abi Carter a bwrdd Cofio Srebrenica Cymru, sy'n gweithio'n galed i sicrhau nad ydym yn anghofio straeon Srebrenica a'n bod yn dysgu gwersi'r hil-laddiad creulon hwnnw. Y thema eleni ar...
Heledd Fychan: Diolch yn fawr, Ddirprwy Weinidog. Mae hwnnw'n ymateb calonogol iawn, oherwydd yn ddiweddar rhannodd Cymdeithas Bêl-droed Cymru â'r Pwyllgor Diwylliant, Cyfathrebu, y Gymraeg, Chwaraeon a Chysylltiadau Rhyngwladol—nid oes modd dweud hynny'n gyflym, mae'n ddrwg gennyf—eu cyflwyniad i Lywodraeth Cymru ynghylch sut y gallwn dyfu pêl-droed yng Nghymru i wella iechyd y genedl. Roedd eu cais...
Heledd Fychan: Yng ngrŵp trawsbleidiol rhyngwladol Cymru yr wythnos diwethaf, mynegwyd pryderon fod cynnydd wedi bod yn araf o ran cynnull y tîm Cymru mawr ei angen i sicrhau'r cyfleoedd gorau posibl yn sgil y ffaith y bydd Cymru'n chwarae yng nghwpan y byd. Dywedodd llawer o’r rhai a oedd yn bresennol ei bod yn aneglur pwy sy’n arwain a sut y bydd sefydliadau a busnesau’n cael eu cynnwys a’u...
Heledd Fychan: 3. A wnaiff y Gweinidog roi'r wybodaeth ddiweddaraf am waith Llywodraeth Cymru i hyrwyddo masnach a buddsoddiad yng Nghymru yn fyd-eang yn dilyn tîm pêl-droed dynion Cymru'n cymhwyso ar gyfer Cwpan y Byd 2022? OQ58345
Heledd Fychan: 5. Sut y mae'r Gweinidog yn gweithio gyda Gweinidog yr Economi i sicrhau bod Llywodraeth Cymru yn manteisio ar y ffaith bod tîm pêl-droed dynion Cymru wedi cymhwyso ar gyfer cwpan y byd 2022 i wella iechyd y cyhoedd drwy gymryd rhan mewn chwaraeon ar lawr gwlad? OQ58346
Heledd Fychan: Diolch, Weinidog. Dwi'n croesawu'r cyfle i gyfrannu o ran y safonau yma heddiw. Oherwydd, wedi'r cyfan, dyma'r set gyflawn gyntaf o reoliadau safonau i ddod gerbron y Cyfarfod Llawn ers 20 Mawrth 2018, sef dros bedair blynedd yn ôl. Ac mae sawl rheswm dros yr oedi, gan gynnwys penderfyniad y Llywodraeth flaenorol i roi rhaglen safonau ar stop yn ystod y cynigion a dadleuon i gyflwyno Bil y...
Heledd Fychan: Diolch, Weinidog, am y datganiad heddiw.
Heledd Fychan: Hoffwn groesawu'r newid hwn yn fawr iawn. Ydw, rwyf i hefyd wedi cael negeseuon e-bost di-rif ynglŷn â hyn, ac mae'n rhaid i mi ddweud bod y mwyafrif wedi cefnogi'r cynnig hwn. Rwy'n deall y pryderon a godwyd, ac rwy'n falch o weld y bydd deialog rhwng awdurdodau lleol ac yn y blaen lle mae'n gwneud synnwyr i optio allan. Ond y gwir amdani nawr yw bod pobl yn cysylltu â ni sy'n poeni am...
Heledd Fychan: Diolch, Weinidog, am y datganiad heddiw. Dwi'n croesawu dau beth yn benodol, sef eich gonestrwydd yn y datganiad hwn—eich gonestrwydd ynglŷn â'r heriau gwleidyddol dŷch chi'n eu hwynebu o ran sicrhau bod pob awdurdod lleol yn ymrwymo'n llawn i'r cynlluniau hyn, a hefyd eich gonestrwydd o ran yr heriau sydd yn parhau, yr her wirioneddol ein bod ni ddim jest yn trio ateb y galw ond yn creu...
Heledd Fychan: Trefnydd, mae teulu sy'n byw ym Mhontypridd sy'n croesawu teulu sydd newydd gyrraedd o Wcráin i'w cartref wedi cysylltu â mi y bore yma. Er bod popeth yn mynd yn dda, maen nhw wedi clywed y bydd nifer o wythnosau cyn y bydd eu gwesteion yn cael unrhyw faint o'r cymorth ariannol y mae ganddyn nhw hawl iddo y tu hwnt i'r £200 cychwynnol. Er bod y teulu lletyol wedi cynnig prynu'r hyn sydd ei...