Hefin David: Fel y gwyddoch, ac fel y dywedais yn y ddadl yr wythnos diwethaf, Weinidog, rwyf wedi cael sgyrsiau gydag Undeb Cenedlaethol yr Amaethwyr, gydag Undeb Amaethwyr Cymru, a chyda ffermwyr yn fy etholaeth, a heb os, ni waeth beth fo rhinweddau'r rheoliadau, mae ganddynt bryderon—pryderon dwys iawn—ynglŷn â’r effaith, ac yn enwedig yn y ffermydd bach hynny. Ac yn fy araith yr wythnos...
Hefin David: 2. Pa gymorth y mae Llywodraeth Cymru yn ei gynnig i ffermwyr y mae Rheoliadau Adnoddau Dŵr (Rheoli Llygredd Amaethyddol) (Cymru) 2021 yn debygol o effeithio arnynt? OQ56386
Hefin David: —ynglŷn â gweithgarwch yn eu cymuned. Felly, gyda hynny mewn golwg, mae wedi bod yn benderfyniad anodd i'w wneud, ond o dan yr amgylchiadau yn fy nghymuned i, amgylchiadau a welais drosof fy hun, mae'n rhaid imi gefnogi'r rheoliadau hyn.
Hefin David: Nid wyf am ymroi i wleidyddiaeth plaid ar hyn, ond yr hyn rwyf am ei wneud yw mynegi rhywfaint o'r meddwl rwyf wedi'i wneud ar y mater hwn, a rhai o'r safbwyntiau a fynegwyd wrthyf gan etholwyr hefyd. Ond yn gyntaf oll, hoffwn ddiolch i Undeb Cenedlaethol yr Amaethwyr ac Undeb Amaethwyr Cymru am gyfarfod â mi yr wythnos diwethaf. Cawsom gyfarfod awr o hyd, ac rydym wedi bod mewn trafodaethau...
Hefin David: O ran gofalwyr di-dâl, mae rhai wedi cysylltu â mi sy'n derbyn lwfans gofalwyr ac yn pryderu nad ydyn nhw'n yn bodloni bob un o'r tri maen prawf ar gyfer cymhwyso i gael brechlyn ym mlaenoriaeth 6 a gyhoeddwyd gan Lywodraeth Cymru ddydd Mercher diwethaf. A all y Prif Weinidog roi sicrwydd felly, os ydych chi'n derbyn lwfans gofalwyr, y byddwch chi'n cael eich galw ym mlaenoriaeth 6?
Hefin David: 6. A wnaiff y Prif Weinidog roi'r wybodaeth ddiweddaraf am ddarparu'r brechlyn COVID-19 yng Nghaerffili i grŵp blaenoriaeth 6 y Cydbwyllgor ar Frechu ac Imiwneiddio? OQ56378
Hefin David: Diolch i David Melding. Un o'r rhesymau y gofynnais am gael cyfrannu heddiw oedd er mwyn talu teyrnged i waith fy etholwr Jo Cozens, sy'n gadeirydd yr elusen, y Gymdeithas Syndrom Gwrthepileptig, neu OACS. Ers sawl blwyddyn, mae Jo wedi ymgyrchu'n ddiflino ar ran teuluoedd ledled y DU sydd wedi'u heffeithio gan syndromau gwrthepileptig y ffetws. Mae Jo yn gwneud hyn yn sgil profiad...
Hefin David: Fel rhiant i blentyn ag anabledd dysgu, rwy'n datgan buddiant ac yn croesawu'r penderfyniad hwnnw. Rydych wedi sôn am y canllawiau rydych chi'n mynd i'w cyhoeddi heddiw, ond y mater allweddol y mae gofalwyr di-dâl yn gofyn i mi yn ei gylch yw: sut y cânt eu galw? Ac rwy'n deall y bydd hynny yn y canllawiau, os gallwch egluro hynny. A allwch roi cyfle inni egluro, yma yn y Senedd hon—? A...
Hefin David: 8. A wnaiff y Gweinidog roi'r wybodaeth ddiweddaraf am ddarparu’r brechlyn COVID-19 i grwpiau blaenoriaeth 6 i 9 yng Nghymru fel y nododd y Cyd-bwyllgor ar Imiwneiddio a Brechu? OQ56312
Hefin David: Rwyf i wedi bod mewn cysylltiad ag etholwyr sydd wedi cael y brechlyn—brechlynnau Pfizer ac AstraZeneca—a dau gwestiwn allweddol a godwyd gyda mi fu, yn gyntaf oll, ynglŷn â'r amseriad ar gyfer yr ail bigiad yn ardal bwrdd iechyd Aneurin Bevan. A ydym ni'n hyderus y byddan nhw ar y trywydd iawn i dderbyn hwnnw yn yr amser sydd wedi'i ddynodi? A wnaiff y Prif Weinidog roi sicrwydd...
Hefin David: Rwy'n cytuno; rwy'n credu bod bwrdd iechyd Aneurin Bevan wedi rhoi pob gewyn ar waith. Mae wedi bod yn gwbl anhygoel gweld rhaglen frechu yn dechrau o ddim i'r hyn y maen nhw'n ei gynhyrchu ar hyn o bryd, sef bod 77 y cant o bobl 80 oed wedi cael eu brechu. Mae'n debyg bod hynny wedi cynyddu ers i'r sesiwn ddechrau heddiw. Pryder rhai trigolion yr wyf i wedi bod mewn cysylltiad â nhw fu...
Hefin David: 6. A wnaiff y Prif Weinidog roi'r wybodaeth ddiweddaraf am ddarparu brechlyn COVID-19 yng Nghaerffili? OQ56227
Hefin David: Hoffwn ddiolch i'r Gweinidog am gyfarfod â chynrychiolwyr busnesau yng Nghaerffili ac am yr ymatebion adeiladol a roddodd. Hoffwn holi ynglŷn ag ychydig o faterion sydd wedi deillio o hynny. Dros yr ychydig wythnosau diwethaf, mae'r busnesau hynny wedi cysylltu â mi unwaith eto, gan fynegi rhai pryderon ynglŷn â’r pecyn ariannol cyfredol. Mae un wedi dweud—stiwdio ddawns yn Ystrad...
Hefin David: 2. A wnaiff y Gweinidog roi'r wybodaeth ddiweddaraf am gefnogaeth i fusnesau yng Nghaerffili y mae pandemig y coronafeirws yn effeithio arnynt? OQ56176
Hefin David: Iawn. Mae'n ddrwg gen i, roedd problem dechnegol yn y fan yna. Ddoe, cadarnhaodd Bwrdd Iechyd Prifysgol Aneurin Bevan y bydd pob meddyg teulu yn fy etholaeth i yn cael y brechlyn heddiw ac yfory. Mae hynny i fyny o 13 yn ardal y bwrdd cyfan yr wythnos diwethaf. Mae'r ganolfan frechu yn Ystrad Mynach ar agor am gyfnod amhenodol i helpu i gyrraedd y pedwar targed blaenoriaeth erbyn canol mis...
Hefin David: Ddoe, fe wnaeth Bwrdd Iechyd Aneurin —. Mae'n ddrwg gen i, ydych chi'n gallu fy nghlywed i?
Hefin David: A wnaiff y Gweinidog roi'r wybodaeth ddiweddaraf am gynlluniau Llywodraeth Cymru ar gyfer cymorth llifogydd yng Nghaerffili?
Hefin David: Gwnaeth Bwrdd Iechyd Prifysgol Aneurin Bevan alwad ddigynsail i ddinasyddion Caerffili a thu hwnt yn eu hardal i beidio â mynd i wasanaethau iechyd pan nad oes angen iddyn nhw wneud hynny, ac i gydnabod bod angen iddyn nhw wneud y dewisiadau cywir. Ac mae'n rhaid i mi ddweud bod pobl Caerffili sydd wedi bod mewn cysylltiad â mi, ar y cyfan—bron yr holl bobl sydd wedi bod mewn cysylltiad...
Hefin David: 8. A wnaiff y Prif Weinidog roi'r wybodaeth ddiweddaraf am y cynnydd a wnaed o ran rheoli achosion COVID-19 yng Nghaerffili? OQ56069
Hefin David: Hoffwn dalu teyrnged eto i bobl Caerffili, y mae llawer ohonyn nhw'n cadw mewn cysylltiad â mi am y problemau y maen nhw'n eu hwynebu o ganlyniad i'r cyfnod anodd iawn hwn. Ac mae gen i barch aruthrol mor aml at y mesurau y mae pobl yng Nghaerffili yn eu cymryd er mwyn rheoli ac atal y feirws. Mae nifer o etholwyr wedi bod mewn cysylltiad â mi ynglŷn â pherthnasau mewn cartrefi gofal,...