Peter Fox: 9. Pa gamau y mae Llywodraeth Cymru yn eu cymryd i leihau'r perygl o lifogydd yn etholaeth Mynwy? OQ58200
Peter Fox: Diolch, Prif Weinidog, am eich ymateb, ac mae ansawdd dŵr yn fater pwysig i gymunedau ledled y wlad ac i Aelodau yn y Siambr hon. Dim ond yr wythnos diwethaf yr oeddem ni'n trafod canfyddiadau'r Pwyllgor Newid Hinsawdd, yr Amgylchedd a Seilwaith ar y pwnc, a'u hadroddiad yr oedd ei ddarllen yn ddigon i sobri rhywun. Yfory, byddwn yn trafod adroddiad yr un pwyllgor ar Cyfoeth Naturiol Cymru,...
Peter Fox: 3. Pa gamau y mae Llywodraeth Cymru yn eu cymryd i wella ansawdd dŵr yn nalgylch afon Wysg? OQ58199
Peter Fox: Wel, gadewch inni beidio â cholli hanner arall yr Aelodau etholaeth, felly, Jenny. Dyna rwy’n sôn amdano: democratiaeth. Fel y dywedais, mae digon o ddryswch eisoes ynghylch y ffiniau. Pe bai’r cynlluniau hyn yn cael eu rhoi ar waith ar eu gwedd bresennol, credaf y bydd lefel y dryswch a’r pryder a achosir yn enfawr. Mae pobl Cymru, sydd wedi rhoi pob un ohonom yma, mewn rhyw ffordd...
Peter Fox: Mae'n ddrwg gennyf. Gwnaf, Jenny.
Peter Fox: Diolch yn fawr iawn am ganiatáu i bawb gyfrannu, Ddirprwy Lywydd—rwy'n ei werthfawrogi. Ac Alun, byddaf yn sôn am ddemocratiaeth fel Ceidwadwr ar y meinciau cefn hyn, a'r cysylltiad rhwng cynrychiolydd etholedig ac etholwr yw'r cysylltiad sy'n gwneud i ddemocratiaeth dicio, oherwydd mae democratiaeth yn gweithredu drwy fod cynrychiolwyr etholedig yn cael eu dwyn i gyfrif. Mae ein...
Peter Fox: Pa gymorth y mae Llywodraeth Cymru'n ei roi i bobl sy'n byw gyda dyledion a achosir gan ôl-ddyledion y dreth gyngor?
Peter Fox: Diolch i Jayne Bryant am godi'r mater hwn. Llywydd, er ei bod hi'n bwysig ein bod ni'n creu mannau gwyrdd newydd i bobl eu mwynhau, mae hefyd yn bwysig ein bod ni'n diogelu ac yn gwella'r mannau gwyrdd presennol hefyd. Nawr, yn ôl ym mis Mawrth eleni, cyflwynwyd cynlluniau diwygiedig ar gyfer fferm solar fawr ar wastadeddau Gwent. Daeth hyn ar ôl i'r cynlluniau gwreiddiol gael eu gwrthod...
Peter Fox: Diolch am dderbyn yr ymyriad, Jane. Credaf ichi sôn am fy sylwadau ynglŷn ag ymchwil a datblygu. Cytunaf yn llwyr â Sioned ynglŷn ag ymchwil a datblygu, ac nid o reidrwydd oherwydd y gronfa hon, ond yn hytrach oherwydd diffyg rhyngweithio'r Llywodraeth wrth geisio denu ymchwil a datblygu i'r wlad hon. Edrychwch ar yr Alban, y ffordd y mae'r Alban wedi ysgogi cymaint mwy nag a wnaethom ni....
Peter Fox: Diolch ichi am hynny. Rwy'n credu eich bod wedi fy nghamddeall. Rwy'n gofyn am ddadl ehangach ynglŷn â pham ein bod yn dal i fod yma ar ôl 20 mlynedd. Rwy'n ymwybodol fod arian wedi'i gyfeirio at rai meysydd newydd sy'n ymddangos, ond mae'n rhaid inni ofyn i ni'n hunain pam y mae'r wlad yn dal i fod mewn sefyllfa mor enbyd o ran twf economaidd, ac nad ydym yn gweld y symudiad sydd ei angen...
Peter Fox: Rwy'n croesawu'r ddadl heddiw ac rwy'n croesawu penderfyniad Huw i beidio â gwneud pwyntiau gwleidyddol, ac rwyf innau am geisio peidio â gwneud rhai hefyd. Ond rwy'n cytuno gyda fy nghyd-Aelod, Paul Davies, ar ei grynodeb o’r sefyllfa, ac rwyf innau hefyd yn credu'n gryf fod yn rhaid i Lywodraeth y DU anrhydeddu'r ymrwymiad a wnaed ganddi dro ar ôl tro i sicrhau bod Cymru’n cael ei...
Peter Fox: A gaf fi ddiolch i'r Aelod dros Alun a Glannau Dyfrdwy am gyflwyno'r ddadl ddiddorol hon heddiw? Cyn imi ddechrau, hoffwn gadarnhau y bydd y Ceidwadwyr Cymreig yn ymatal ar y cynnig sydd ger ein bron heddiw. Ni wnawn hynny oherwydd nad ydym yn cytuno â rhagosodiad y cynnig. Mae'n bwysig, os ydym am gyflawni ein hymrwymiadau newid hinsawdd, ein bod yn parhau i symud oddi wrth ein dibyniaeth...
Peter Fox: Diolch, Weinidog, a diolch, Lywydd. Hoffwn atgoffa'r Aelodau o fy muddiant fel ffermwr, fel y nodwyd yn fy nghofnod buddiannau, er nad wyf yn defnyddio gwrtaith mewn gwirionedd. Fel y clywsom, Lywydd, mae'r sector amaethyddol—ac rydym wedi'i glywed droeon heddiw—yn wynebu cyfnod ansicr. Er enghraifft, ceir nifer o bryderon ynghylch argaeledd a chost gwrtaith ar hyn o bryd ac yn y dyfodol,...
Peter Fox: Wel, diolch, Weinidog. Hoffwn drafod mater ychydig yn wahanol. Weinidog, mae Cymru bellach ar gam tyngedfennol, a bydd yr hyn a ddaw nesaf yn pennu dyfodol a chyflwr y wlad. Ar hyn o bryd, rydym yn dioddef pwysau triphlyg chwyddiant, y pandemig, a bellach—ac mae'n rhaid imi ddweud hyn—tro gwael Llywodraeth Cymru â'n diwydiant twristiaeth gwych. Roedd eich datganiad ddoe ar eiddo...
Peter Fox: Diolch am eich ateb, Weinidog, ac rwyf innau'n cytuno bod awdurdodau lleol yn gweithio'n galed yn wir i ddarparu'r pethau hyn. Ond yr hyn sydd ei angen ar deuluoedd bellach yw i Lywodraeth Cymru eu blaenoriaethu o’r diwedd drwy sicrhau bod y cymorth hwnnw’n eu cyrraedd yn hynod o gyflym. Fel rwy'n siŵr y bydd Aelodau o bob rhan o’r Siambr yn cytuno, ni ddylai fod yn rhaid i deuluoedd...
Peter Fox: Diolch, Lywydd. Weinidog, mae’r £150 o ad-daliad y dreth gyngor rydym newydd fod yn sôn amdano—y cynllun ad-dalu rydych yn ei roi ar waith—a wnaed yn bosibl, fel y dywedodd Mark Isherwood, diolch i Lywodraeth y DU, i’w groesawu yma yn wir. Fodd bynnag, yr hyn sy’n peri cryn bryder yw’r nifer o adroddiadau am deuluoedd yng Nghymru sydd mewn limbo, heb unrhyw fynediad at y cymorth...
Peter Fox: Diolch am eich ymateb. Weinidog, mae nifer o etholwyr wedi cysylltu â fy swyddfa yn ddiweddar ac wedi gofyn a fyddai Llywodraeth Cymru yn ystyried ymestyn cynllun ad-daliad y dreth gyngor i aelwydydd sy’n byw mewn cartrefi aneffeithlon o ran eu defnydd o ynni. Er enghraifft, mae dau breswylydd oedrannus wedi egluro eu bod yn byw mewn hen eiddo cerrig sy’n oer ac yn ddrafftiog, ond ni...
Peter Fox: 1. A wnaiff y Gweinidog ddatganiad am y meini prawf cymhwyso ar gyfer cynllun ad-dalu'r dreth gyngor? OQ58082
Peter Fox: 9. A wnaiff y Gweinidog ddatganiad am argaeledd gwrtaith amaethyddol yng Nghymru? OQ58083
Peter Fox: Diolch i'r Aelod dros Ganol De Cymru am godi'r mater, ac, fel y mae'r Aelod newydd ei ddweud, mae'n bwysig bod awdurdodau lleol yn gwneud popeth o fewn eu gallu i symud ymlaen gyda mabwysiadu ystadau tai. Ond rwy'n derbyn y pwynt a wnaeth y Prif Weinidog, fod cyfrifoldeb ar y datblygwyr i gwblhau'r gwaith mewn modd priodol. Mae hefyd yn bwysig bod datblygwyr yn chwarae eu rhan hefyd, ac mae...