Canlyniadau 181–200 o 5000 ar gyfer speaker:Delyth Jewell OR speaker:Delyth Jewell OR speaker:Delyth Jewell OR speaker:Delyth Jewell OR speaker:Delyth Jewell OR speaker:Delyth Jewell OR speaker:Delyth Jewell

7. Dadl Plaid Cymru: Tomenni risg uchel (30 Maw 2022)

Delyth Jewell: A soniodd Sioned am ddeuoliaeth, unwaith eto, yr hyn a adawyd ar ôl gan y tomenni hyn, etifeddiaeth sydd wedi ysbrydoli ac anafu. Cawsom ein hatgoffa nad tomenni glo yw'r unig domenni y mae angen eu gwneud yn ddiogel wrth gwrs, ac unwaith eto, am y niwed ymarferol a seicolegol y mae'r tomenni hyn yn ei achosi pan fo risg wedi'i nodi ond na ellir ei hunioni eto. Roedd hynny'n bwerus iawn....

7. Dadl Plaid Cymru: Tomenni risg uchel (30 Maw 2022)

Delyth Jewell: Diolch, Llywydd. A gaf i ddechrau trwy ddiolch i bawb sydd wedi cyfrannu i'r ddadl yma? Mae wedi bod yn amserol iawn, wrth gwrs, ac yn ddadl bwerus, dwi'n meddwl. 

7. Dadl Plaid Cymru: Tomenni risg uchel (30 Maw 2022)

Delyth Jewell: Mae Janet, fel y gellid rhagweld mewn gwirionedd, wedi mynd ati, yn anghywir, i gysylltu'r syniadau am ddatganoli pwerau presennol ac offer ar gyfer y dyfodol â cheisio gwadu cyfrifoldeb am gamweddau'r gorffennol. Nid wyf yn credu ei bod yn wastraff amser i'r Senedd geisio unioni hyn, ac yn eich calon, Janet, nid wyf yn credu eich bod chi'n credu hynny ychwaith.  Gwnaeth Heledd y pwynt fod...

7. Dadl Plaid Cymru: Tomenni risg uchel (30 Maw 2022)

Delyth Jewell: Mae Heledd hefyd wedi ein hatgoffa bod union yr un cymunedau wnaeth ddioddef gymaint gyda'r diwydiant glo nawr yn wynebu'r argyfwng hinsawdd fwyaf.   

7. Dadl Plaid Cymru: Tomenni risg uchel (30 Maw 2022)

Delyth Jewell: Nid yw'r ffaith nad oes rhywbeth wedi cael ei wneud yn golygu y dylai barhau. 

7. Dadl Plaid Cymru: Tomenni risg uchel (30 Maw 2022)

Delyth Jewell: Wel, ie'n wir, Heledd. Diolch hefyd i Hefin am bwyntio mas fod San Steffan yn gwadu'r gwirionedd, fel mae nifer o Aelodau fanna wedi dweud.  

7. Dadl Plaid Cymru: Tomenni risg uchel (30 Maw 2022)

Delyth Jewell: Diolch, Ddirprwy Lywydd. Beth oedd cost glo i'r Cymoedd? Pa bris y mynnwyd bod ein pobl yn ei dalu am y cyfoeth a gymerwyd gan eraill? A ydym yn mesur y gost honno mewn cyrff a gladdwyd? A ddylid ei gyfrifo mewn bywoliaeth a gollwyd, coesau a breichau a gollwyd, ysgyfeintiau'n drwch o glefyd a llwch? Neu a ydym yn ei fesur mewn mwd a baw a godwyd o'r ddaear a'i adael i faeddu a chreithio ein...

3. Cwestiynau Amserol: Ysbyty Athrofaol y Faenor (30 Maw 2022)

Delyth Jewell: Weinidog, ers i ysbyty'r Faenor agor, mae wedi’i lethu gan orlenwi ac amseroedd aros hir, ac fel rydym wedi'i glywed eisoes, nid yw hyn yn deg i gleifion nac i staff. Mae'r ffaith bod amseroedd aros 14 awr yn yr adran ddamweiniau ac achosion brys neithiwr yn arwydd o broblem ddifrifol. Fis Hydref diwethaf—rydych wedi bod yn cyfeirio at adroddiadau Coleg Brenhinol y Meddygon am feddygon...

1. Cwestiynau i’r Gweinidog Newid Hinsawdd: Cwestiynau Heb Rybudd gan Lefarwyr y Pleidiau (30 Maw 2022)

Delyth Jewell: Diolch, Weinidog. Yn amlwg, rwy'n gobeithio y bydd amddiffyn yr arfordir yn rhan o’r gwaith hwnnw, ond edrychaf ymlaen at ddarganfod mwy wrth i amser fynd rhagddo. Gan droi, yn ail ac yn olaf, at adroddiad blynyddol y Pwyllgor Newid Hinsawdd, yr Amgylchedd a Seilwaith ar CNC, mae wedi tynnu sylw at bryder eang ymhlith rhanddeiliaid ynghylch gallu CNC i gyflawni ei rolau a’i...

1. Cwestiynau i’r Gweinidog Newid Hinsawdd: Cwestiynau Heb Rybudd gan Lefarwyr y Pleidiau (30 Maw 2022)

Delyth Jewell: Diolch, Lywydd. Weinidog, ledled Cymru, mae gennym lawer o safleoedd ecolegol pwysig mewn ardaloedd arfordirol isel iawn. Mae safleoedd fel RSPB Casnewydd ar wastadeddau Gwent, RSPB Conwy, canolfan gwlyptiroedd Ymddiriedolaeth Adar y Gwlyptir Llanelli a RSPB Ynys-hir ger Machynlleth i gyd yn safleoedd hanfodol bwysig i adar yr arfordir, sydd eisoes mewn perygl, yn anffodus. Byddai hyd yn oed...

7. Datganiad gan y Dirprwy Weinidog Newid Hinsawdd: Diogelwch Tomenni Glo (29 Maw 2022)

Delyth Jewell: Diolch, Ddirprwy Lywydd, a diolch am eich datganiad, Weinidog. Byddwch chi'n gwerthfawrogi bod diogelwch tomenni glo yn fater sydd o ddiddordeb mawr i fi, oherwydd yr ardal rwy'n ei chynrychioli, a hefyd i Blaid Cymru. Rwy'n croesawu adroddiad Comisiwn y Gyfraith, wrth gwrs. Mae'n amserol, o ystyried y bydd Plaid Cymru yn cynnal dadl yfory yn y Senedd ar y mater hwn. Mae adroddiad Comisiwn y...

2. Cwestiynau i'r Prif Weinidog: Datganiad Gwanwyn Llywodraeth y DU (29 Maw 2022)

Delyth Jewell: Diolch, Prif Weinidog. Mae Canolfan Llywodraethiant Cymru wedi canfod y bydd aelwyd gyfartalog yng Nghymru yn dal i fod £315 y flwyddyn yn waeth ei byd, bydd effaith anghymesur ar aelwydydd â'r incwm isaf gan y byddan nhw'n elwa'n llai ar y toriad yn y dreth tanwydd a'r cynnydd i'r trothwy yswiriant gwladol, a bydd pobl ar fudd-daliadau yn gweld gostyngiad mewn termau real o 4.3 y cant...

1. Datganiad a Chyhoeddiad Busnes (29 Maw 2022)

Delyth Jewell: Rhai wythnosau'n ôl gofynnais i am ddatganiad ynghylch sut y mae'n rhaid i drigolion y de-ddwyrain deithio'n bell ar gyfer apwyntiadau ysbyty. Gwnes i dynnu sylw at y mater bod triniaeth ddiagnostig y fron ond yn cael ei chynnal yn Ysbyty Ystrad Fawr. Mae etholwr arall wedi cysylltu â mi, a bu'n rhaid iddi fynychu apwyntiad gynaecoleg yn Ysbyty Nevill Hall. Nawr, mae hi'n byw yng...

2. Cwestiynau i'r Prif Weinidog: Datganiad Gwanwyn Llywodraeth y DU (29 Maw 2022)

Delyth Jewell: 7. Sut y bydd Llywodraeth Cymru yn lliniaru unrhyw effeithiau negyddol y gallai datganiad gwanwyn Llywodraeth y DU eu cael ar aelwydydd yn Nwyrain De Cymru? OQ57904

9. Dadl Fer: Cefnogi cymunedau sy'n wynebu risg parhaus o lifogydd: A yw'n amser sefydlu fforwm llifogydd i Gymru? (23 Maw 2022)

Delyth Jewell: A jest diolch yn fawr iawn i Heledd eto am y ddadl yma. Fe wnes i ffeindio rhai o'r pwyntiau roedd hi wedi'u gwneud a'r pethau roedd hi'n dyfynnu yn dorcalonnus ond mor, mor bwysig inni fod yn dysgu amdanyn nhw.

9. Dadl Fer: Cefnogi cymunedau sy'n wynebu risg parhaus o lifogydd: A yw'n amser sefydlu fforwm llifogydd i Gymru? (23 Maw 2022)

Delyth Jewell: Diolch, Heledd, am gynnal y ddadl hon, sydd mor bwysig.

9. Dadl Fer: Cefnogi cymunedau sy'n wynebu risg parhaus o lifogydd: A yw'n amser sefydlu fforwm llifogydd i Gymru? (23 Maw 2022)

Delyth Jewell: Roeddwn eisiau ychwanegu at y pwyntiau am y creithiau ffisiolegol a achosir gan lifogydd. Ym mis Chwefror 2020, ymwelais â strydoedd yn Ystrad Mynach a oedd wedi cael eu taro gan lifogydd. Roedd cartrefi cyfan yn llawn dŵr a cheir wedi'u difetha. Ond y peth a arhosodd gyda mi yw'r effaith ar blant preswylwyr. Dywedodd nifer ohonynt wrthyf fod eu plant wedi'u trawmateiddio, eu bod wedi colli...

5. Dadl Aelodau o dan Reol Sefydlog 11.21(iv): Adeiladau Crefyddol (23 Maw 2022)

Delyth Jewell: Doeddwn i ddim yn mynd i siarad yn y ddadl hon, ond roedd Mike wedi cysylltu ac roeddwn i'n meddwl am ba mor bwysig mae adeiladau crefyddol wedi bod i fy nheulu i, felly roeddwn i eisiau dweud gair. 

5. Dadl Aelodau o dan Reol Sefydlog 11.21(iv): Adeiladau Crefyddol (23 Maw 2022)

Delyth Jewell: Rwy'n cofio offeiriad yn ysgrifennu darn yng nghylchlythyr y plwyf, a dywedodd, 'Nid amgueddfa i seintiau yw'r eglwys, ond ysbyty i bechaduriaid.' Mae'r frawddeg honno wastad wedi aros yn y cof—fod yr adeiladau crefyddol hyn sydd gennym yng Nghymru wedi'u hadeiladu nid yn unig i ddathlu gogoniant eu Duw, ond fel balm i'r gynulleidfa, lle i gael cysur, i addoli ac i gael heddwch. Mae'r...

2. Cwestiynau i'r Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol: Canserau Prin (23 Maw 2022)

Delyth Jewell: Diolch, Ddirprwy Lywydd. Diolch. Maddeuwch i mi, Weinidog, mae ar bwnc tebyg iawn—wel, yr un pwnc. Fe fyddwch yn gyfarwydd ag achos fy etholwr, Maria Wallpott. Yn gynharach eleni, enillodd ei hachos yn yr Uchel Lys i gael triniaeth canser a allai achub bywyd. Byddai’r driniaeth wedi bod ar gael yn awtomatig i gleifion mewn mannau eraill yn y DU, ond cafodd ei gwrthod gan bwyllgor sydd...


<< < 6 7 8 9 10 11 12 13 14 15 > >>

Creu hysbysiad

Chwilio uwch

Dod o hyd i'r union air neu ymadrodd hwn

Gallwch hefyd wneud hyn o'r prif flwch chwilio drwy roi’r union eiriau mewn dyfyniadau: megis "seiclo" neu "adroddiad Hutton"

Rydyn ni'n dangos geiriau sy'n gysylltiedig â'ch term chwilio, megis “beic” a “beicio” wrth chwilio am seiclo yn ddiofyn. Er mwyn atal hyn, rhowch y gair mewn dyfyniadau, fel "seiclo"

Heb gynnwys y geiriau hyn

Gallwch hefyd wneud hyn o'r prif flwch chwilio trwy roi arwydd minws cyn geiriau nad ydych eisiau: fel hela -llwynog

Rydym hefyd yn cefnogi nifer o addasiadau chwilio Booleaidd, megis AND a NEAR, ar gyfer chwilio manwl.

Ystod o ddyddiadau

i

Gallwch roi dyddiad dechrau, dyddiad gorffen, neu'r ddau er mwyn cyfyngu canlyniadau i ystod o ddyddiadau penodol. Mae dyddiad gorffen coll yn awgrymu'r dyddiad presennol, ac mae dyddiad cychwyn coll yn awgrymu'r dyddiad hynaf sydd gennym yn y system. Gellir nodi'r dyddiadau ar unrhyw fformat y dymunwch, e.e. 3ydd Mawrth 2007 neu 17/10/1989

Person

Rhowch enw fan hyn i gyfyngu canlyniadau i gyfraniadau gan y person hwnnw yn unig.

Adran

Cyfyngu canlyniadau i senedd neu gynulliad penodol yr ydym yn cynnwys (e.e. Senedd yr Alban), neu fath arbennig o ddata o fewn sefydliad, megis Atebion Ysgrifenedig Tŷ'r Cyffredin.

Colofn

Pe baech yn gwybod y rhif colofn Hansard cywir o'r wybodaeth y mae gennych ddiddordeb ynddo (efallai eich bod yn edrych ar gyfeiriad papur), gallwch gyfyngu canlyniadau i hynny ; Gallwch hefyd ddefnyddio column:123 yn y prif flwch chwilio.