Peredur Owen Griffiths: Adleisiaf rai o’r cwestiynau gan Jayne Bryant a Natasha Asghar, ac roeddwn innau'n bryderus iawn wrth glywed y newyddion am hyn y bore yma. Hoffwn i'r Gweinidog roi gwybod i'r Senedd faint o ddiwydrwydd dyladwy a wnaed cyn i'r swm sylweddol o £10 miliwn gael ei fuddsoddi. Onid oedd y Llywodraeth yn ymwybodol o’r hyn a ddisgrifiwyd mewn datganiad gan Schroder UK Public Private Trust fel...
Peredur Owen Griffiths: Diolch yn fawr. Rhywbeth arall y sylwais arno ar nifer o ymweliadau ledled y rhanbarth oedd proffil oedran rhai o’r gwirfoddolwyr allweddol sydd eu hangen i gynnal y lleoliadau a’r clybiau hyn. Mae llawer yn hŷn, a phrin fod unrhyw dystiolaeth o gynllunio ar gyfer olyniaeth, sy’n peri pryder ynghylch hyfywedd rhai o’r mentrau allweddol hyn yn ein cymunedau yn y blynyddoedd i ddod. A...
Peredur Owen Griffiths: Diolch yn fawr, Lywydd. Ychydig wythnosau yn ôl, ymwelais â banc bwyd Rhisga gyda fy nghyd-Aelod o Blaid Cymru, Delyth Jewell. Yno, clywsom am y galw cynyddol am eu gwasanaethau, nad yw'n fawr o syndod o ystyried yr argyfwng costau byw sy’n parhau ledled Cymru ac sy'n effeithio ar ein cymunedau. Ofnaf fod y galw ar fin mynd yn llawer uwch yn ein banciau bwyd ledled y wlad. Beth y mae...
Peredur Owen Griffiths: Diolch yn fawr i chi am y wybodaeth ddiweddaraf heddiw, Gweinidog. Rydym ni'n croesawu rhai o'r elfennau sydd yn y drafft, ac yn edrych ymlaen at y cyfle i ddylanwadu ar ei effaith, fel y cyfeiriodd y Gweinidog yn ei datganiad. Ers 2012, mae Plaid Cymru wedi galw yn gyson am fwy o gaffael cyhoeddus. Rydym ni'n awyddus i gynyddu cyfran y cytundebau â chwmnïau Cymru o 52 y cant hyd 75 y cant...
Peredur Owen Griffiths: A wnaiff y Prif Weinidog ddatganiad am arferion gweithio hyblyg yn y sector cyhoeddus yng Nghymru?
Peredur Owen Griffiths: Beth mae'r Llywodraeth yn ei wneud i wella effeithlonrwydd ynni mewn cartrefi yn Nwyrain De Cymru?
Peredur Owen Griffiths: Roedd James yn sôn am fesurau a thargedau gwell, ac mae angen y rheini arnom.
Peredur Owen Griffiths: Roedd Rhun yn siarad am y niferoedd sydd yn mynd ymlaen a'r lefel uchaf mewn 20 mlynedd, ond bod alcohol a iechyd meddwl yn mynd vice versa. Mae'r ddau yn gylch dieflig yn cydweithio â'i gilydd.
Peredur Owen Griffiths: Soniodd Joyce am hysbysebu a phresenoldeb alcohol ym mhob agwedd ar fywyd a hefyd niwed cynyddol alcohol ymhlith menywod yn arbennig; Sioned, yr anghydraddoldebau trasig ac yn aml, yr anghydraddoldebau iechyd sy'n achosi'r problemau. Maent wedi ymwreiddio'n ddwfn yn ein cymdeithas a'r ardaloedd mwyaf difreintiedig yn gymdeithasol yw'r rhai yr effeithir arnynt fwyaf gan y rhain. Ac Altaf yn...
Peredur Owen Griffiths: Diolch, Llywydd a diolch yn fawr iawn i bawb sydd wedi cymryd rhan yn y ddadl y prynhawn yma. Mae wedi bod yn ddadl ddifyr ac efo syniadau diddorol ynglŷn â'r ffordd ymlaen. Clywon gan—.
Peredur Owen Griffiths: Mae'r darlun wedi newid ers llunio'r cynllun hwn. Mae gan y Llywodraeth gyfle i ymateb i’r bygythiad cynyddol y mae camddefnyddio alcohol yn ei achosi i’n cymunedau. Mae arnom angen adnoddau gwell a thargedau mesuradwy i wrthsefyll niwed sy'n gysylltiedig ag alcohol yng nghynllun cyflawni'r Llywodraeth ar gyfer camddefnyddio sylweddau o 2023 ymlaen. Nid yw'r sefyllfa bresennol yn...
Peredur Owen Griffiths: Diolch, Ddirprwy Lywydd. Mae tafarndai wedi bod yn rhan o gyfansoddiad bywyd cymunedol yng Nghymru ers canrifoedd. Arweiniodd y chwyldro diwydiannol at gynnydd mewn safleoedd trwyddedig, gyda llawer o glybiau cymdeithasol yn agor yn y cymunedau newydd a grëwyd i roi llety i'r gweithwyr a oedd yn rhan o'r ymchwydd yn y boblogaeth yng Nghymru. Roedd y lleoliadau hyn yn lleoedd y gallai pobl...
Peredur Owen Griffiths: Diolch, Dirprwy Lywydd, a dwi'n cynnig y gwelliant yn ffurfiol yn enw Siân Gwenllian.
Peredur Owen Griffiths: Bydd llawer o bobl mewn cymunedau rwy'n eu cynrychioli yn credu ei bod braidd yn rhagrithiol i'r Torïaid gyflwyno'r ddadl hon yma heddiw yn y Senedd. Rwy'n cynrychioli llawer o hen bentrefi a threfi glofaol ledled Dwyrain De Cymru. Bydd pobl sy’n byw yn y lleoedd hyn yn cofio’n iawn mai’r Torïaid a wnaeth eu gorau i ddinistrio calon y cymunedau hyn yn y 1980au. Dros y 12 mlynedd...
Peredur Owen Griffiths: Mae pobl yn fy rhanbarth yn aml yn dweud eu bod yn teimlo eu bod yn byw mewn cymuned ranedig, nad oes neb yn gwrando arnynt, ac nad oes neb yn ymgynghori â hwy, ac eithrio llythyr drwy'r drws, cyn y caiff tŷ amlfeddiannaeth ei ganiatáu'n ddifeddwl ar eu stryd. Ceir pryderon difrifol ynghylch straen ar seilwaith, erydu cydlyniant cymunedol a'r landlordiaid diegwyddor manteisgar sy'n teimlo...
Peredur Owen Griffiths: Diolch yn fawr, Dirprwy Lywydd, a dwi wedi wedi cael cais gan Mabon i siarad yn ystod y ddadl hefyd, a dwi'n hapus i wneud hynny.
Peredur Owen Griffiths: Dim ond Mabon.
Peredur Owen Griffiths: Un o nodweddion allweddol marchnad dai Cymru dros y ddau ddegawd diwethaf yw chwyddo graddol y sector rhentu preifat. Mae'r newidiadau ym mhroffil stoc dai Cymru a'i ganlyniadau yn hysbys iawn, ac maent wedi cael eu trafod droeon yn y Siambr hon. Fodd bynnag, is-sector nad yw'n ansylweddol yn y sector rhentu preifat a'r sector rhent cymdeithasol yng Nghymru yw tai amlfeddiannaeth. Ymddengys...
Peredur Owen Griffiths: Mae fy nghyd-Aelodau ym Mhlaid Cymru wedi nodi risgiau a chanlyniadau system cymorth tai sy’n methu. Ffactor arall sydd ar waith gyda chymorth tai a digartrefedd yw'r farchnad dai a'r cyflenwad tai. Gyda'r farchnad dai, mae rhentwyr ar waelod y domen, ac felly mae eu risg o ddigartrefedd yn cynyddu. Mae gofyn i ddarpar rentwyr fynd drwy un felin ar ôl y llall yn ddiddiwedd, sy'n gwbl groes...
Peredur Owen Griffiths: Wrth gloi, hoffwn ddiolch i bawb sydd wedi mynegi barn er mwyn ceisio ein cynorthwyo gyda'r gwaith pwysig hwn. Rwyf hefyd yn hynod o ddiolchgar am y cyngor a'r arweiniad a gawsom gan Charlotte Barbour, ein cynghorydd arbenigol, wrth inni drafod y maes cymhleth hwn. Edrychaf ymlaen at gael ymateb ffurfiol i'n hargymhellion. Diolch yn fawr.