Luke Fletcher: 4. A wnaiff y Gweinidog roi'r wybodaeth ddiweddaraf am y cynnydd tuag at system les i Gymru? OQ57799
Luke Fletcher: Diolch. Ddydd Mercher diwethaf yn Neuadd y Senedd, cyflwynodd End Youth Homelessness Cymru eu map ffordd i roi terfyn ar ddigartrefedd ymhlith pobl ifanc. Hoffwn ddiolch i Jane Hutt am noddi'r digwyddiad hwnnw; roedd yn hynod fewnweledol. Un o'r negeseuon i mi oedd sut y dylem ni wrando ar y bobl ifanc hynny sydd wedi profi digartrefedd ymhlith pobl ifanc wrth i ni geisio datrys y mater....
Luke Fletcher: 5. A wnaiff y Prif Weinidog roi'r wybodaeth ddiweddaraf am bolisïau i fynd i'r afael â digartrefedd ymhlith pobl ifanc? OQ57815
Luke Fletcher: Diolch, Ddirprwy Lywydd. Yn y Senedd hon ac mewn Seneddau blaenorol, mae sawl un ohonom wedi mabwysiadu rhywogaeth sydd dan fygythiad yn ein rhanbarthau neu ein hetholaethau. Cyn y lle hwn, cyn y farf, pan oeddwn yn tyfu i fyny, roeddwn am fod yn fiolegydd morol, felly, pan gefais gyfle i fabwysiadu rhywogaeth dan fygythiad, nid oedd unman yn well i edrych nag yn y dyfroedd o amgylch Cymru. A...
Luke Fletcher: Mae Undeb Amaethwyr Cymru wedi rhybuddio y bydd y cynigion yn y rhaglen adnewyddedig i ddileu TB yn cael effaith andwyol ar iechyd meddwl ffermwyr. Wrth gwrs, rydym eisoes yn gweld 50 o weithwyr amaethyddol yn cyflawni hunanladdiad bob blwyddyn, ac mae milfeddygon dair i bedair gwaith yn fwy tebygol o gyflawni hunanladdiad nag unrhyw broffesiwn arall. Yng ngoleuni hynny, byddai gennyf...
Luke Fletcher: Diolch, Dirprwy Lywydd, a diolch i'r Gweinidog am ei ddatganiad. Mae llawer i'w groesawu yn hyn, ond fe hoffwn i ganolbwyntio ar un neu ddau o bwyntiau. Fe geir cysylltiad cryf rhwng ennill cyflogaeth o ansawdd uchel ac iechyd meddwl: mae 43 y cant o bobl ddi-waith yn dweud eu bod nhw'n cael problemau ag iechyd meddwl, o'i gymharu â 27 y cant o bobl mewn cyflogaeth. Mae'r Sefydliad ar gyfer...
Luke Fletcher: Hoffwn i alw am ddau ddatganiad, a byddaf i'n ceisio cadw o fewn dwy funud.
Luke Fletcher: Un funud, felly. [Chwerthin.]
Luke Fletcher: Yn gyntaf, hoffwn i ofyn am ddatganiad gan y Dirprwy Weinidog Iechyd Meddwl a Llesiant ar gyfleusterau iechyd meddwl preswyl yng Nghymru. Mae etholwr sydd o dan ofal tîm iechyd meddwl yn y de wedi cysylltu â mi'n ddiweddar oherwydd diffyg cyfleusterau lleol cafodd ei hatyfeirio i uned breswyl yn Llundain. Ar ôl i breswylydd yn yr uned honno brofi'n bositif am COVID, cafodd ei hanfon adref...
Luke Fletcher: Diolch i'r Prif Weinidog am yr ateb yna. Cysylltodd Nadim â mi'n ddiweddar, y dyfarnwyd grant iddo o'r gronfa i ailwampio ei fusnes, Zia Nina, yng nghanol tref Pen-y-bont ar Ogwr. Ar ôl dyfarnu'r grant, dechreuodd Nadim y gwaith angenrheidiol, gan gynnwys cynllunio a dylunio pensaernïol, ond mae wedi cael trafferth yn dod o hyd i adeiladwyr i gwblhau'r gwaith yn brydlon oherwydd anawsterau...
Luke Fletcher: 6. A wnaiff y Prif Weinidog roi'r wybodaeth ddiweddaraf am y gronfa gwella eiddo mewn canolfannau trefol yn ardal awdurdod lleol Pen-y-bont ar Ogwr? OQ57768
Luke Fletcher: Diolch i Sarah Murphy am gyflwyno'r cwestiwn.
Luke Fletcher: Hoffwn innau hefyd gysylltu fy hun â rhai o'r geiriau a ddywedodd Sarah am sut y gall iechyd meddwl ddangos ei hun mewn sawl ffordd wahanol. Rwy'n siŵr bod y Prif Weinidog yn ymwybodol o'r digwyddiad a gynhaliwyd cyn y toriad gen i a Huw Irranca-Davies ar gyfer Siediau Dynion Cymru, yn tynnu sylw at y gwaith hanfodol y mae siediau dynion yn ei wneud ledled Cymru ym mhob un o'n cymunedau....
Luke Fletcher: Mewn diweddariad ar y farchnad lafur yn ddiweddar, roedd y ffigurau diweithdra ar gyfer Gorllewin Abertawe tua thair gwaith y cyfartaledd cenedlaethol, sef 10.3 y cant. Mae un o bob 10 o bobl yn ein hail ddinas fwyaf heb waith ar hyn o bryd. Mae'r sefyllfa hon hyd yn oed yn fwy llwm pan ystyriwch fod diweithdra ymysg pobl ifanc fel arfer yn uwch na diweithdra yn gyffredinol. Mae'r gyfradd...
Luke Fletcher: A wnaiff y Gweinidog roi'r wybodaeth ddiweddaraf am gyllid ar gyfer gwasanaethau iechyd meddwl yng Ngorllewin De Cymru?
Luke Fletcher: Mae gennyf i ddau ddatganiad yr hoffwn i alw amdanyn nhw. Yn gyntaf, mae'r argyfwng costau byw yn taro pawb yn galed, ac ar ymweliad diweddar â fferm deuluol Anthony yn Abercynffig dysgais i faint mae'r argyfwng yn taro ffermwyr. Gwnaethon nhw fanylu ar sut mae chwyddiant wedi cynyddu pris gwrtaith, er enghraifft, o £8,000 i £18,000 y flwyddyn, gyda thueddiadau tebyg ar hyd a lled llawer...
Luke Fletcher: Ni waeth beth fo'ch damcaniaethau neu'ch credoau economaidd, credaf ei bod yn anodd dadlau nad oes gan Gymru economi echdynnol. Ceir tueddiadau hanesyddol a chyfoes o echdynnu economaidd ac ecsbloetio adnoddau Cymru gan fuddiannau allanol. Mae'r diwydiant glo yn enghraifft hanesyddol berffaith o echdynnu adnoddau o'r fath. Roedd Cymru'n pweru'r byd, gyda'r siec gyntaf £1 filiwn wedi'i...
Luke Fletcher: Mae gennyf ychydig o bwyntiau i'w gwneud. Yn gyntaf, mae'r cytundeb cydweithredu a'r hyn y mae'n bwriadu ei gyflawni yn rhywbeth yr wyf wir yn eithaf balch ohono, yn enwedig o ran prydau ysgol am ddim. Ac mae'n rhaid dweud, mae dweud nad yw'r gyllideb yn cyflawni o gwbl i bobl yng Nghymru yn gwbl anghywir. A yw'n berffaith? Na. Ond, cymerwch hyn wrth rywun a oedd ar brydau ysgol am ddim, bydd...
Luke Fletcher: Diolch, Weinidog, ac wrth gwrs, fel aelod o Blaid Cymru, mae’n destun balchder i weld nifer o bolisïau y mae Plaid Cymru ac eraill wedi bod yn ymgyrchu drostynt i daclo tlodi yn cael eu gweithredu yn y Llywodraeth yn sgil y cytundeb cydweithio.
Luke Fletcher: Yn dilyn ateb y Prif Weinidog i mi mewn perthynas â threchu tlodi a’r rôl y gall y lwfans cynhaliaeth addysg ei chwarae, ar 14 Rhagfyr, nodais ei fod yn amcangyfrif y byddai cynyddu taliadau'r lwfans cynhaliaeth addysg i £45, yn ogystal â chynyddu’r trothwy i’w wneud yn fwy hygyrch, yn costio £10 miliwn yn fras. Wrth gwrs, rwy’n cydnabod y cyfyngiadau ar gyllid Llywodraeth Cymru,...