Canlyniadau 1981–2000 o 3000 ar gyfer speaker:Ken Skates

4. 4. Cynnig o dan Reol Sefydlog 26.91 yn Ceisio Cytundeb y Cynulliad i Gyflwyno Bil Aelod ynghylch Diogelu Enwau Lleoedd Hanesyddol Cymru (15 Maw 2017)

Ken Skates: Rydym bob amser yn ymwybodol o’r angen i leihau biwrocratiaeth a gweinyddiaeth, ond i’r un graddau i sicrhau bod unrhyw ddarpariaethau a gyflwynwn yn arwain at well dealltwriaeth a gwerthfawrogiad o enwau lleoedd hanesyddol a’n treftadaeth. Rydym yn hyderus y bydd y trefniadau a ddatblygwyd yn rhan o hynt Bil yr Amgylchedd Hanesyddol (Cymru) yn arwain at gyn lleied â phosibl o gostau...

4. 4. Cynnig o dan Reol Sefydlog 26.91 yn Ceisio Cytundeb y Cynulliad i Gyflwyno Bil Aelod ynghylch Diogelu Enwau Lleoedd Hanesyddol Cymru (15 Maw 2017)

Ken Skates: Mae’r Aelod yn gwneud pwynt cryf iawn. Mae llawer o enwau lleoedd wedi newid sawl gwaith dros y canrifoedd. Ceir trefi a phentrefi yng Nghymru sydd wedi cael cymaint â phum enw. Pwynt allweddol Deddf yr amgylchedd hanesyddol yw ein bod wedi gallu cyflwyno dyletswyddau statudol—a byddaf yn dod at y pwynt hwn—ar awdurdodau cynllunio lleol i roi sylw dyledus i’r rhestr honno ac i...

4. 4. Cynnig o dan Reol Sefydlog 26.91 yn Ceisio Cytundeb y Cynulliad i Gyflwyno Bil Aelod ynghylch Diogelu Enwau Lleoedd Hanesyddol Cymru (15 Maw 2017)

Ken Skates: Diolch i chi, Lywydd, ac a gaf fi ddechrau hefyd drwy ddiolch i Dai Lloyd am gyflwyno’r cynnig hwn, a hefyd am y ddeialog adeiladol a gefais gydag ef yn yr wythnosau diwethaf? Nid oes amheuaeth fod enwau lleoedd hanesyddol yn rhan bwysig o’n treftadaeth ac yn tystio i’r newidiadau ieithyddol, cymdeithasol, a hanesyddol sydd wedi siapio ein cenedl. Mae Dai yn cydnabod hyn ac rwyf innau...

4. Cwestiwn Brys: Y Cyswllt Awyr rhwng y Gogledd a’r De (14 Maw 2017)

Ken Skates: A gaf i ddiolch i'r Aelod am ei gwestiynau? Un o'r heriau mawr sydd gennym o ran Ynys Môn yw'r math o awyren ac awyren sifil sy'n gallu hedfan i mewn ac allan o Ynys Môn heb yr angen am fuddsoddiad ychwanegol yn y seilwaith yno. Felly, byddai angen i ni edrych ar fuddsoddi mewn cyfleusterau a'r seilwaith pe byddem yn cynyddu maint yr awyrennau sy'n mynd i mewn i’r maes awyr ac allan...

4. Cwestiwn Brys: Y Cyswllt Awyr rhwng y Gogledd a’r De (14 Maw 2017)

Ken Skates: A gaf i ddiolch i'r Aelod am ei gwestiynau ac ateb y cwestiwn olaf yn gyntaf? Mae swyddogion eisoes yn siarad â Citywing ynghylch y potensial o adfachu cost y tocynnau. Rydym wedi bod yn glir iawn—ac yr oeddem dros y penwythnos—bod teithwyr yn gallu mynd i naill ai feysydd awyr Ynys Môn neu Gaerdydd a dal awyren Eastern Airways gyda'r archebion a wnaed trwy Citywing. Ond, o ran yr...

4. Cwestiwn Brys: Y Cyswllt Awyr rhwng y Gogledd a’r De (14 Maw 2017)

Ken Skates: A gaf i ddiolch i'r Aelod am ei gwestiynau a'i ddiddordeb brwd yn y maes hwn? Rwy'n falch, yn gyntaf oll, bod y gwasanaeth awyr oddi mewn i Gymru wedi ei achub; hwn oedd yr unig un o wasanaethau awyr Van Air Europe i gael ei achub, ac yr oedd hynny o ganlyniad i waith diflino gan fy nhîm o fewn y Llywodraeth dros y penwythnos, ac yn enwedig ddydd Sadwrn. Cydymdeimlaf â’r nifer o...

4. Cwestiwn Brys: Y Cyswllt Awyr rhwng y Gogledd a’r De (14 Maw 2017)

Ken Skates: Gwnaf. A gaf i ddiolch i'r Aelod a’i gyfeirio at y datganiad ysgrifenedig a gyhoeddwyd ddoe. Mae adolygiad y gwasanaeth awyr oddi mewn i Gymru wedi ei gwblhau ac ar ôl i’r canfyddiadau gael eu dadansoddi byddaf yn gwneud cyhoeddiad pellach. Yn y cyfamser, rwy'n falch ein bod wedi cytuno ar gontract treigl gydag Eastern Airways i weithredu'r gwasanaeth.

9. 9. Dadl Fer: Sefydlu Cyfnewidfa Stoc i Gymru ( 8 Maw 2017)

Ken Skates: Diolch, Ddirprwy Lywydd, ac a gaf fi ddechrau drwy groesawu’r ddadl hon heddiw ar sefydlu cyfnewidfa stoc i Gymru? Rwyf wedi bod yn awyddus iawn i glywed gan Neil McEvoy beth yw ei farn a’i gynigion ar gyfer cyfnewidfa stoc Gymreig. Mae hon yn ddadl werthfawr, er nad yw’n gynnig newydd. Mae’n awgrym a ystyriwyd gan weinyddiaethau blaenorol Llywodraeth Cymru, fel y gŵyr yr Aelod,...

5. 5. Dadl gan Aelodau Unigol o dan Reol Sefydlog 11.21(iv): Yr Economi Sylfaenol ( 8 Maw 2017)

Ken Skates: Diolch, Ddirprwy Lywydd. A gaf fi ddechrau fy araith drwy ddiolch i’r Aelodau am eu cyfraniadau meddylgar heddiw? Mae wedi bod yn bleser pur cael gwrando ar bob Aelod. Daw’r ddadl hon ar yr economi sylfaenol ar adeg bwysig iawn oherwydd, fel y bydd yr Aelodau’n gwybod, ar hyn o bryd rwy’n edrych o’r newydd ar ein blaenoriaethau economaidd ac fel rhan o’r gwaith hwn, rwyf wedi bod...

2. Cwestiwn Brys: Gwaith Vauxhall yn Ellesmere Port ( 7 Maw 2017)

Ken Skates: A gaf i ddiolch i Michelle Brown am ei chwestiynau? Wrth gwrs, aros yn y farchnad sengl yn yr UE fyddai wedi bod y ffordd orau o sicrhau gweithgynhyrchu, nid dim ond yng Nghymru, ond ledled y DU, ond mae pobl Prydain wedi penderfynu gadael yr Undeb Ewropeaidd. Yn y cyd-destun hwn, yr hyn sy’n gwbl hanfodol yw ein bod yn buddsoddi yn nhechnoleg y dyfodol er mwyn diogelu’r sector modurol...

2. Cwestiwn Brys: Gwaith Vauxhall yn Ellesmere Port ( 7 Maw 2017)

Ken Skates: A gaf i ddiolch i'r Aelod am ei gwestiwn? Bydd yr Aelod yn ymwybodol bod penderfyniad ar y Vauxhall Astra wedi ei ohirio ar ôl Brexit yn sgil ansicrwydd, ac mae'n eithaf amlwg mai’r hyn sydd ei angen fwyaf ar Vauxhall, Ford, Nissan—ar y sector modurol cyfan—yw sicrwydd ynghylch y fargen y bydd y DU yn ei tharo â’r Undeb Ewropeaidd yn y dyfodol. Mae Ellesmere Port, mewn gwirionedd,...

2. Cwestiwn Brys: Gwaith Vauxhall yn Ellesmere Port ( 7 Maw 2017)

Ken Skates: A gaf i ddiolch i'r Aelod am ei gwestiwn, a dweud ei fod yn llygad ei le? Mae swyddogaeth i Lywodraeth y DU—swyddogaeth bwysig iawn i Lywodraeth y DU—o ran sicrhau dyfodol, nid yn unig gwaith Vauxhall Ellesmere Port, ond y sector modurol cyfan yn y DU. Yfory, gallai Llywodraeth y DU, a’r Canghellor yn benodol, wneud datganiad cynnes iawn ar y buddsoddiad mewn gwaith ymchwil, datblygu...

2. Cwestiwn Brys: Gwaith Vauxhall yn Ellesmere Port ( 7 Maw 2017)

Ken Skates: A gaf i ddiolch i'r Aelod am ei chwestiwn, a dweud ein bod yn credu bod rhyw 450 o bobl sy’n byw yng Nghymru yn cael eu cyflogi yng ngwaith Vauxhall Ellesmere Port? Hefyd, mae tua dwsin o gwmnïau yng Nghymru yn y gadwyn gyflenwi. Nid oes amheuaeth bod angen dileu’r ansicrwydd yn sgil Brexit er mwyn helpu safle Vauxhall Ellesmere Port, ac yn wir y gwaith yn Luton, i wneud y mwyaf o...

2. Cwestiwn Brys: Gwaith Vauxhall yn Ellesmere Port ( 7 Maw 2017)

Ken Skates: Rwyf wedi ysgrifennu heddiw at gadeirydd Groupe PSA, Carlos Tavares, i amlygu pwysigrwydd safle Ellesmere Port i ogledd Cymru, yn arbennig ansawdd y gweithlu medrus sy'n cymudo yno yn ddyddiol, a'r cwmnïau cadwyn cyflenwi gwerthfawr yn y rhanbarth. Rwyf wedi gofyn hefyd am gyfarfod brys ac wedi siarad â swyddogion Vauxhall heddiw i drafod y cyfleoedd sydd ar gael i safle Ellesmere Port y...

2. 1. Cwestiynau i Ysgrifennydd y Cabinet dros yr Economi a'r Seilwaith: <p>Twf Economaidd</p> ( 1 Maw 2017)

Ken Skates: Rwy’n credu bod hwnnw’n asesiad annheg sydd, mewn gwirionedd, yn dangos diffyg hyder ac os caf ddweud, diffyg balchder yn economi Cymru. Y ffaith amdani yw bod gwerth ychwanegol gros ardal Mersi a’r Ddyfrdwy, gogledd-ddwyrain Cymru, ac ardaloedd awdurdodau lleol Swydd Gaer a’r Wirral, oddeutu 50 y cant o werth ychwanegol gros Cymru gyfan. Rhyngddynt, maent yn rymoedd economaidd...

2. 1. Cwestiynau i Ysgrifennydd y Cabinet dros yr Economi a'r Seilwaith: <p>Twf Economaidd</p> ( 1 Maw 2017)

Ken Skates: A gaf fi ddiolch i’r Aelod am ei chwestiwn? Mae’r Aelod yn hollol gywir i nodi seilwaith fel galluogydd pwysig ar gyfer twf economaidd pellach ar draws gogledd Cymru. Yn wir, mae datblygu coridor newydd a’r posibilrwydd o ledu’r A494 yn rhan o fuddsoddiad o £200 miliwn arfaethedig a rhan o’r pecyn buddsoddi mwyaf mewn seilwaith trafnidiaeth yng ngogledd Cymru ers dechrau...

2. 1. Cwestiynau i Ysgrifennydd y Cabinet dros yr Economi a'r Seilwaith: <p>Twf Economaidd</p> ( 1 Maw 2017)

Ken Skates: Ie, mae’r Aelod yn nodi pwynt pwysig. Rwyf wedi cyfarfod â sefydliadau cynrychiadol—y rhai sy’n cynrychioli’r sector gweithgynhyrchu pren. Yn fy marn i mae’r sector gweithgynhyrchu pren nid yn unig yn dda i’r economi, ond hefyd yn dda i’r economi ymwelwyr yn fwy penodol mewn gwirionedd, oherwydd bydd yr Aelod yn gwybod o fod yn byw’n agos at Fryniau Clwyd fod ardal goediog...

2. 1. Cwestiynau i Ysgrifennydd y Cabinet dros yr Economi a'r Seilwaith: <p>Twf Economaidd</p> ( 1 Maw 2017)

Ken Skates: Ie, yn hollol, Llandegla, fel y nodwch. Mae’n bwysig ein bod yn gallu dod o hyd i gyfleoedd i ailblannu’r hyn sy’n aml wedi’i golli. Am y rheswm hwnnw, rwy’n gweithio gydag Ysgrifennydd y Cabinet dros yr Amgylchedd a Materion Gwledig i nodi mwy o gyfleoedd ar gyfer ailblannu coed a gollwyd, nid yn unig, fel y dywedais, er mwyn cefnogi’r sector gweithgynhyrchu, ond i gefnogi’r...

2. 1. Cwestiynau i Ysgrifennydd y Cabinet dros yr Economi a'r Seilwaith: <p>Twf Economaidd</p> ( 1 Maw 2017)

Ken Skates: Gwnaf. Mae sgiliau, seilwaith cysylltiol ac arloesi yn ffactorau allweddol sy’n sbarduno cynhyrchiant a thwf. Mae’r rhain yn ganolog i’n hymagwedd at ddatblygu economaidd ar draws pob rhan o Gymru.


Creu hysbysiad

Chwilio uwch

Dod o hyd i'r union air neu ymadrodd hwn

Gallwch hefyd wneud hyn o'r prif flwch chwilio drwy roi’r union eiriau mewn dyfyniadau: megis "seiclo" neu "adroddiad Hutton"

Rydyn ni'n dangos geiriau sy'n gysylltiedig â'ch term chwilio, megis “beic” a “beicio” wrth chwilio am seiclo yn ddiofyn. Er mwyn atal hyn, rhowch y gair mewn dyfyniadau, fel "seiclo"

Heb gynnwys y geiriau hyn

Gallwch hefyd wneud hyn o'r prif flwch chwilio trwy roi arwydd minws cyn geiriau nad ydych eisiau: fel hela -llwynog

Rydym hefyd yn cefnogi nifer o addasiadau chwilio Booleaidd, megis AND a NEAR, ar gyfer chwilio manwl.

Ystod o ddyddiadau

i

Gallwch roi dyddiad dechrau, dyddiad gorffen, neu'r ddau er mwyn cyfyngu canlyniadau i ystod o ddyddiadau penodol. Mae dyddiad gorffen coll yn awgrymu'r dyddiad presennol, ac mae dyddiad cychwyn coll yn awgrymu'r dyddiad hynaf sydd gennym yn y system. Gellir nodi'r dyddiadau ar unrhyw fformat y dymunwch, e.e. 3ydd Mawrth 2007 neu 17/10/1989

Person

Rhowch enw fan hyn i gyfyngu canlyniadau i gyfraniadau gan y person hwnnw yn unig.

Adran

Cyfyngu canlyniadau i senedd neu gynulliad penodol yr ydym yn cynnwys (e.e. Senedd yr Alban), neu fath arbennig o ddata o fewn sefydliad, megis Atebion Ysgrifenedig Tŷ'r Cyffredin.

Colofn

Pe baech yn gwybod y rhif colofn Hansard cywir o'r wybodaeth y mae gennych ddiddordeb ynddo (efallai eich bod yn edrych ar gyfeiriad papur), gallwch gyfyngu canlyniadau i hynny ; Gallwch hefyd ddefnyddio column:123 yn y prif flwch chwilio.