Rhun ap Iorwerth: Diolch, Llywydd. Mae yna siom fawr wedi bod yn fy etholaeth i wrth i ddisgyblion blwyddyn 10 a 12 glywed nad ydyn nhw am gael mynd ar leoliadau profiad gwaith eleni. Rwy’n datgan diddordeb fel tad i un ferch ym mlwyddyn 10 ac un ferch ym mlwyddyn 12. Ond, a wnaiff y Prif Weinidog gytuno efo’r datganiad yma y mae swyddogion cyngor Ynys Môn yn sicr yn dweud sy’n wir, sef mai’r hyn sydd...
Rhun ap Iorwerth: 7. A wnaiff y Prif Weinidog ddatganiad am wasanaethau iechyd meddwl i’r ifanc? OAQ(5)0656(FM)W
Rhun ap Iorwerth: Dyna un newydd.
Rhun ap Iorwerth: A wnewch chi dderbyn ymyriad?
Rhun ap Iorwerth: Diolch yn fawr am dderbyn yr ymyriad. Onid yw’n wir, fodd bynnag, oni bai am y taliadau PAC hynny, y byddai ffermwyr sy’n cael trafferth i ymdopi wedi mynd allan o fusnes yn gyfan gwbl, gyda’r costau ofnadwy y byddai hynny’n eu creu iddynt ac ar gyfer y gymdeithas yng Nghymru?
Rhun ap Iorwerth: A wnewch chi dderbyn ymyriad?
Rhun ap Iorwerth: Fe sonioch am y 65 y cant yn gostwng i 42 y cant. A dderbyniwch fod gadael yr Undeb Ewropeaidd yn golygu y bydd y ffigur hwnnw o’r Undeb Ewropeaidd yn sero yn y dyfodol ac fel y mae, fod yr arian a ddaw gan Lywodraeth y DU, neu’r addewid ohono, hefyd yn sero? Felly, dyna beth rydym yn negodi yn ei gylch i ffermwyr Cymru.
Rhun ap Iorwerth: Diolch yn fawr iawn am ildio. A wnaiff yr Aelod dderbyn nad oedd yna fygythiad, wrth gwrs, i gyllid i amaethwyr yng Nghymru pe baem ni wedi aros yn yr Undeb Ewropeaidd? Mae’r bleidlais wedi digwydd, wrth gwrs, ond hefyd, a wnaiff o dderbyn, p’un ai ydy o’n dair blynedd neu’n bedair blynedd, neu beth bynnag, o addewid ynglŷn â pharhau i gyllido, nid yw hynny’n ddigon i ffermwyr...
Rhun ap Iorwerth: Yn Eglwys Gadeiriol Bangor heddiw, mae teulu, cyfeillion ac edmygwyr yn cofio, yn diolch am, ac yn dathlu bywyd Irfon. Nid oes prin angen defnyddio’i enw llawn o. Mi ddaeth Irfon Williams i’n sylw ni i gyd drwy ei frwydr yn erbyn canser. Mi oedd hi’n frwydr bersonol iddo fo—brwydr am ei iechyd a’i fywyd ei hun. Mi oedd angen dewrder a phenderfynoldeb ar gyfer y frwydr honno, ac mi...
Rhun ap Iorwerth: Diolch. Mae yna ryw ddwy flynedd a hanner bellach ers i’r cyn-Weinidog economi gadarnhau wrthyf i bod gwaith yn digwydd i geisio gwireddu cynlluniau i wella’r cysylltiad rhwng yr A55 a phorthladd Caergybi, lle mae yna dagfeydd mawr ar hyn o bryd, yn enwedig pan fo loriau yn ceisio gadael y porthladd. Mae pobl yn gofyn i mi yn aml pa bryd welwn ni’r ffordd yma yn cael ei chwblhau, ac...
Rhun ap Iorwerth: 3. A wnaiff y Prif Weinidog ddatganiad am gysylltiadau trafnidiaeth yn Ynys Môn? OAQ(5)0637(FM)[W]
Rhun ap Iorwerth: A wnewch chi dderbyn ymyriad?
Rhun ap Iorwerth: Nid wyf yn credu ei fod chwaith.
Rhun ap Iorwerth: Diolch yn fawr iawn, Gadeirydd. Fe gadwaf fy sylwadau yn fyr. Yn gynharach yn y Siambr fe fuom ni’n trafod bwriad Plaid Cymru i hyfforddi a recriwtio 1,000 yn rhagor o feddygon yng Nghymru. Roeddwn i’n hynod o siomedig, mae’n rhaid i mi ddweud, efo ymateb y Gweinidog. This is aspirational, but not achievable’ oedd geiriau’r Ysgrifennydd Cabinet. Rydym ni’n sôn fan hyn am raglen...
Rhun ap Iorwerth: Ond nid yw pobl yn dwp; maent yn gwybod pan fydd pobl yn bod yn ddetholus gyda ffigurau. Mae’n amlwg fod prinder staff ym maes iechyd meddwl, ac rwy’n gobeithio y byddech yn cytuno â hynny. Rhan arall o’r gweithlu iechyd lle mae gennym brinder yw meddygon teulu. Mae’n broblem i Gymru gyfan. Mae’n un o’r rhesymau dros gefnogi addewid Plaid Cymru i hyfforddi a recriwtio 1,000 o...
Rhun ap Iorwerth: Fel rydych yn cadw dweud wrthym. Rhai o’r ffigurau nad oedd y Prif Weinidog yn eu derbyn yr wythnos hon oedd nad oedd amseroedd aros ar gyfer Gwasanaethau Iechyd Meddwl ar gyfer Plant a’r Glasoed (CAMHS) wedi gwella. Honnodd fod pethau wedi datblygu’n sylweddol. Mae pawb ohonom yn gwybod, os ydych am ddangos gwelliant, rydych yn cymryd y mis pan oedd y niferoedd ar eu gwaethaf fel man...
Rhun ap Iorwerth: Diolch, Llywydd. Nawr, yr wythnos ddiwethaf oedd Wythnos Ymwybyddiaeth Iechyd Meddwl, ac er bod honno wedi bod ac wedi mynd, mae’n rhaid i ni gadw’r mater yn amlwg ar ein hagenda wrth gwrs. Yr wythnos diwethaf, codais fater gwasanaethau iechyd meddwl yng ngogledd Cymru gyda’r Prif Weinidog, yn enwedig y nifer o gleifion iechyd meddwl a oedd wedi cael eu hanfon o ogledd Cymru, gannoedd o...
Rhun ap Iorwerth: Mi fyddwn ninnau’n pleidleisio dros y Bil yma heddiw. Peidiwch â’m cael i’n anghywir: nid ydw i’n awgrymu y dylai pob Bil ddilyn taith debyg i Fil iechyd y cyhoedd drwy’r Cynulliad, ond rydw i’n meddwl bod y ffaith i’r Bil yma, i bob pwrpas, fynd drwy’r Cynulliad yma ddwywaith yn dangos ôl gwaith, meddwl a gwelliant, a hynny o feinciau’r Llywodraeth a’r gwrthbleidiau...
Rhun ap Iorwerth: Mae’n braf gallu nodi ei bod hi’n Wythnos Ymwybyddiaeth Dementia. Rwy’n llongyfarch pawb sy’n ymwneud â gweithgareddau’r wythnos yma. Mi oedd hi’n braf gweld ein cyfeillion ni o Gymdeithas Alzheimer Cymru yma yn y Cynulliad heddiw, ac, wrth gwrs, mae yna ddigwyddiadau yn digwydd ar hyd a lled Cymru. Rwyf wedi cael e-bost y prynhawn yma yn tynnu sylw at ddigwyddiad yn neuadd y...
Rhun ap Iorwerth: A gaf i ddiolch am y datganiad a diolch, hefyd, wrth gwrs, am yr holl waith mae staff a gwirfoddolwyr yn y gwasanaeth iechyd a’r trydydd sector yn ei wneud yn darparu gofal diwedd bywyd a gofal lliniarol ar draws Cymru? Nid ydw i’n meddwl bod yna lawer yn newydd, mewn difri, yn y datganiad heddiw, fel y cyfryw—er ei bod hi wastad yn ddefnyddiol cael diweddariad—felly, o bosib, a gaf i...