Ken Skates: Mae ein treftadaeth yn hynod o bwysig yn ein cynnig diwylliannol a thwristiaeth ac mae Abaty Nedd yn elfen bwysig iawn o’r tirlun treftadaeth yn rhanbarth yr Aelod. Rwy’n falch iawn o ddweud bod Cadw yn awr yn cynorthwyo Abaty Nedd drwy gael tîm crefft mewnol pwrpasol sy’n gweithio ar y safle. O ganlyniad, mae rhai rhannau o’r abaty ar gau i’r cyhoedd ar hyn o bryd, ond gyda gwaith...
Ken Skates: A gaf fi ddiolch i’r Aelod am ei chwestiwn a llongyfarch traeth Rhosili? Mae’n gamp wych ac rwy’n credu ei bod yn deg dweud ei fod yn cael ei gydnabod o amgylch Prydain ac ar draws Ewrop fel un o draethau gorau’r cyfandir. Rydym yn awyddus i sicrhau y gall mwy o bobl ymweld â Chymru mewn ffordd gyfleus am y rheswm hwnnw. Rydym yn parhau i gefnogi Maes Awyr Caerdydd, rydym yn parhau i...
Ken Skates: Cafodd Cymru ddwy flynedd well nag erioed o’r blaen yn 2014 a 2015, ac yna eto yn 2016, gyda niferoedd ymwelwyr yn croesi’r 10 miliwn am y tro cyntaf yn ôl yn 2014 ac yn tyfu eto gyda gwariant uwch nag erioed gan ymwelwyr a oedd yn aros dros nos yn 2015. Mae Gorllewin De Cymru wedi cyfrannu’n sylweddol at y twf hwnnw, gyda’i amrediad eang o gynigion treftadaeth a thirweddau hardd ac...
Ken Skates: Gwnaf, mae’r cyllid hwnnw’n dod o fy mhrif grŵp gwariant fy hun ac rwy’n falch o allu cefnogi prosiect sydd â manteision economaidd i’r rhanbarth, ond sydd hefyd fy marn i, ac ym marn fy nghyd-Aelodau, â chyfraniad sylweddol i’w wneud i’r rhanbarth hefyd mewn perthynas â’r iaith Gymraeg ac addysg, ac yn gymdeithasol a diwylliannol.
Ken Skates: Hoffwn ddiolch i’r Aelod am ei gwestiwn ac rwy’n ei gymeradwyo am drefnu’r seminar a gynhaliwyd yn ei etholaeth. Mae cyfleoedd hyfforddiant sgiliau mewn gwaith a ddarperir drwy gynlluniau megis Sgiliau Hanfodol yn y Gweithle a Chronfa Ddysgu Undebau Cymru wedi bod yn gwbl allweddol i weithwyr ar draws Cymru allu meithrin sgiliau gwerthfawr sy’n eu galluogi i godi ar ysgol gyrfa. Ond...
Ken Skates: Byddwn yn cytuno gyda’r Aelod; rydym yn awr yn dechrau ar gyfnod hollbwysig i fargen ddinesig Abertawe, ac yn ystod y misoedd diwethaf, rwy’n gwybod bod cryn dipyn o waith wedi’i wneud ar baratoi ar gyfer y broses herio, a bod ymdrech ar y cyd i ddenu barn y sector preifat. Ond rwy’n credu bod yn rhaid i’r sector preifat fod yn rhan lawn o ystyriaethau’r fargen ddinesig, a bod...
Ken Skates: Rydym yn gweithio gyda phartneriaid lleol i hybu twf busnes, gwella seilwaith, a chreu amgylchedd economaidd mwy deniadol ar draws y rhanbarth.
Ken Skates: A gaf fi ddiolch i’r Aelod am ei gwestiwn, a dweud, er gwaethaf y cyfnod hiraf o galedi difrifol a wynebwyd gan ein gwlad—caledi a gefnogwyd gan yr Aelod a’i blaid—ein bod wedi sicrhau gostyngiad o 2 y cant yn y gyfradd tlodi yng Nghymru ers 1998-99 mewn gwirionedd? O ran y cynllun fyngherdynteithio, roeddwn yn falch o allu ei ymestyn wrth i ni ymgynghori ar yr hyn y bwriadaf iddo fod...
Ken Skates: Hoffwn yn fawr longyfarch y cwmni yn etholaeth fy nghyd-Aelod. Mae Welsh Hills Bakery yn enghraifft o lwyddiant rhyfeddol. Credaf i mi ymweld â’r cwmni yn yr hydref y llynedd, ar gyfer dathlu eu trigeinmlwyddiant. A chredaf y bydd yr economi sylfaenol yn chwarae rhan fwyfwy pwysig yn cynnig mynediad i bawb at waith, yn ogystal â chyfleoedd i gaffael sgiliau a fydd yn eu galluogi i gamu...
Ken Skates: Ydw. Profwyd mai’r ffordd orau o atal pobl rhag tlodi, a’r ffordd orau o gynorthwyo pobl i godi allan o dlodi, yw sicrhau gwaith cynaliadwy o ansawdd ar eu cyfer. Ac oherwydd hynny, credaf ei bod yn bwysig fy mod yn arwain yr agenda ffyniant i bawb. Wedi dweud hynny, mae sawl ffactor a allai effeithio ar unigolion nad ydynt mewn gwaith, neu sydd wedi treulio cyfnodau sylweddol o’u...
Ken Skates: Rydym yn monitro cynnydd ar draws ystod o ddangosyddion, gan gynnwys y mesur incwm cymharol ar gyfer tlodi, a dangosyddion ar gyfer cyflogaeth, addysg, sgiliau ac iechyd. Mae’r rhain yn adlewyrchu natur drawsbynciol ein hymagwedd tuag at sicrhau ffyniant i bawb.
Ken Skates: Ydw, rwy’n cytuno â’r Aelod. Mae hynny’n gwbl hanfodol. Dymunwn weld perthynas gref yn cael ei datblygu rhwng y rhai sy’n gyfrifol am y traciau a’r rhai sy’n gyfrifol am y cerbydau sy’n rhedeg arnynt. Credaf fod yr hyn a gyhoeddodd yr Ysgrifennydd Gwladol dros Drafnidiaeth yn ddiweddar ynglŷn â dod â Network Rail a gweithredwyr rheilffyrdd at ei gilydd mewn rhyw ffordd yn...
Ken Skates: Rydym yn annog pob un o’r ymgeiswyr i ymgysylltu cymaint â phosibl gyda’r rhanddeiliaid presennol a rhanddeiliaid posibl yn y dyfodol i sicrhau’r buddsoddiad mwyaf posibl yn y fasnachfraint newydd ac yn y metro, a bod y buddsoddiad yn cael ei sianelu yn y ffordd iawn er mwyn sicrhau bod y gwasanaethau mor effeithlon ac mor fodern â phosibl.
Ken Skates: O ran arloesi, mae’r Arloesfa a chyrff neu fentrau eraill wedi gallu sbarduno arloesedd a menter yng Nghymru i gyrraedd uchelfannau newydd. Wedi dweud hynny, mae angen inni ddal i fyny â sawl rhan o’r DU: nid oes amheuaeth am hynny. Ond rhwng 1995 a 2015, roedd y cynnydd blynyddol cyfartalog mewn termau real gan fusnesau’n buddsoddi mewn ymchwil a datblygu mentrau, yn 5 y cant y...
Ken Skates: Credaf fod yr Aelod yn gywir, a hoffwn ychwanegu bod addysg y blynyddoedd cynnar yn hynod o bwysig hefyd, a chredaf ei bod yn gwbl hanfodol fod plant yn cael y dechrau gorau posibl mewn bywyd, ac oherwydd hynny credaf ei bod hefyd yn iawn fod gennym addewid gofal plant uchelgeisiol iawn, a’n bod yn parhau i fuddsoddi mewn addysg gynnar. O’r holl ddata sydd ar gael, rydym wedi gallu...
Ken Skates: Credaf fod yr Aelod yn iselhau ei hun gyda’i sylwadau dirmygus am y Prif Weinidog nad ydynt yn gwneud unrhyw beth i roi sicrwydd i’r gweithwyr hynny. Ond mewn gwirionedd, mae’r hyn y mae’r Prif Weinidog wedi’i ddweud yn yr ychydig funudau diwethaf yn cadarnhau fy mod wedi bod yn siarad â’r unigolyn cywir—yr un a fydd yn gwneud y penderfyniad ynglŷn â Ford. O ran prosiectau...
Ken Skates: Byddai gennyf ddiddordeb mawr mewn archwilio unrhyw fath o haelioni neu ostyngiad treth a allai alluogi rhoi i’r sector diwylliant a chwaraeon. Credaf ei bod yn bwysig ein bod yn edrych ar gynyddu argaeledd adnoddau, ac yn annog mwy o bobl—nid unigolion yn unig, ond busnesau yn ogystal â sefydliadau elusennol—i sicrhau bod y sector diwylliant yn ffynnu. Rwy’n fwy na pharod i edrych...
Ken Skates: Rwy’n credu y dylai’r Aelodau fod wedi cael y wybodaeth ddiweddaraf ychydig cyn y Nadolig ynglŷn ag adolygiad y panel o arbenigwyr, yr argymhellion a sut rydym yn bwrw ymlaen â’r gwaith hwn. Derbyniwyd y rhan fwyaf o’r argymhellion gennym. Yr un argymhelliad yr oedd gennyf amheuon yn ei gylch oedd creu cyngor amgueddfeydd newydd a allai gystadlu â sefydliadau presennol neu sathru...
Ken Skates: A gaf fi ddiolch i Suzy Davies am ei chwestiynau? Rwyf wedi derbyn adroddiad Cymru Hanesyddol y grŵp llywio. Mae’n adroddiad ardderchog. Rwy’n ei ystyried ar hyn o bryd a byddaf yn ymateb yn ffurfiol yn ystod yr wythnosau nesaf. Rwyf hefyd yn aros am ymatebion ffurfiol gan y sefydliadau y mae’r papur yn ymwneud â hwy. O ran Cadw, byddaf yn rhoi sylw arbennig i’r argymhelliad hwnnw....
Ken Skates: A gaf fi ddiolch i Paul Davies am ei gwestiwn a dweud wrtho mewn gwirionedd fy mod yn treulio bob gwyliau haf yn Sir Benfro? Credaf ei bod yn un o’r ardaloedd harddaf a mwyaf deniadol, nid yn unig yng Nghymru ond yn Ewrop. Rwy’n falch o ddweud bod partneriaeth cyrchfan Sir Benfro wedi llwyddo i sicrhau adnoddau sylweddol eleni fel rhan o ymgyrch Blwyddyn y Chwedlau de-orllewin Cymru,...