Canlyniadau 2001–2020 o 3000 ar gyfer speaker:Rhun ap Iorwerth

2. 2. Datganiad a Chyhoeddiad Busnes (16 Mai 2017)

Rhun ap Iorwerth: Roeddwn i’n falch iawn, rai dyddiau nôl, o weld Llywodraeth Cymru yn nodi gorsaf Llangefni fel un a allai gael ei hailagor yn y dyfodol. Mae hyn yn deillio, wrth gwrs, yn uniongyrchol o’r gwaith a wnaeth fy rhagflaenydd i, Ieuan Wyn Jones, fel Gweinidog trafnidiaeth, yn comisiynu astudiaeth ddichonoldeb ar y potensial o ailagor y lein o Gaerwen, drwy Langefni, i Amlwch—rhywbeth rwy’n...

1. 1. Cwestiynau i’r Prif Weinidog:
Chwaraeon Proffesiynol
(16 Mai 2017)

Rhun ap Iorwerth: Ro’n i’n falch iawn bod y Cynulliad yma’n unfrydol yr wythnos diwethaf wedi cefnogi gwelliant Plaid Cymru i Fil Iechyd y Cyhoedd (Cymru), a fydd yn golygu y bydd cael strategaeth gan y Llywodraeth i daclo gordewdra rŵan ar wyneb y Bil hwnnw. Ac rwy’n ddiolchgar i Aelodau pob plaid a’r Llywodraeth am gefnogi hynny. A ydy’r Prif Weinidog yn cytuno bod angen i’n clybiau a’n...

6. 6. Dadl Plaid Cymru: Preifateiddio’r GIG (10 Mai 2017)

Rhun ap Iorwerth: Diolch yn fawr iawn, Dirprwy Lywydd, a diolch i bawb sydd wedi cyfrannu heddiw. Mae pwrpas y ddadl yma, a phwrpas y cynnig, yn glir, rwy’n meddwl, ac yn eithaf syml. Rwy’n credu bod y Ceidwadwyr yn eiddgar i drosglwyddo rhagor o rym a chyllideb dros y gwasanaeth iechyd i’r sector preifat. Mae tystiolaeth yn dangos hynny. Mi oedd y ffigurau—. Roedd yr 8 y cant o’r gyllideb a oedd yn...

6. 6. Dadl Plaid Cymru: Preifateiddio’r GIG (10 Mai 2017)

Rhun ap Iorwerth: Roedd y ffigurau a ddyfynnais yn ymwneud â’r arian sy’n mynd i’r sector preifat, ac rwy’n cyfaddef ei fod yn cynyddu’n araf, ond dyma’n union yw’r farwolaeth araf a phoenus sy’n bygwth dyfodol y GIG. [Torri ar draws.] O’i eistedd, mae llefarydd iechyd y Ceidwadwyr yn gofyn a wyf i’n mynd i siarad am Gymru. Dyma’r cyd-destun y bydd dyfodol y GIG yng Nghymru yn ceisio’i...

6. 6. Dadl Plaid Cymru: Preifateiddio’r GIG (10 Mai 2017)

Rhun ap Iorwerth: Diolch, Llywydd. Mae’n ymddangos yn rhyfeddol, mewn dadl fel hon, fod yn rhaid i ni fynd yn ôl i drafod rhai o’r pethau sylfaenol megis sut y mae Llywodraeth Cymru yn cael ei chyllid a pham fod y penderfyniadau ynglŷn â sut y mae Lloegr yn dewis rhedeg ei gwasanaeth iechyd gwladol yn berthnasol i’r penderfyniadau ariannol a’r penderfyniadau ynglŷn â’r gweithlu sy’n bosibl yng...

6. 6. Dadl Plaid Cymru: Preifateiddio’r GIG (10 Mai 2017)

Rhun ap Iorwerth: Ond nid y preifateiddio honedig a chaledi yw’r unig bethau sy’n destun pryder am fod strwythur gwleidyddol Cymru yn rhy ddibynnol ar benderfyniadau a wneir gan wleidyddion yn Llundain. Creodd trafodaethau’r bartneriaeth masnach a buddsoddiad trawsiwerydd a oedd yn mynd rhagddynt flwyddyn neu ddwy yn ôl bryder mawr oherwydd yr effeithiau y gallai cytundeb o’r fath eu cael ar y GIG. Pe...

6. 6. Dadl ar Gyfnod 3 Bil Iechyd y Cyhoedd (Cymru):
Grŵp 8: Gwella a Gwarchod Iechyd a Llesiant Pobl Ifanc (Gwelliannau 33, 34)
( 9 Mai 2017)

Rhun ap Iorwerth: Mae Plaid Cymru yn falch o gefnogi’r gwelliannau yma. Rydym ni’n aml yn clywed am y trafferthion mae cleifion o bob oed yn eu cael pan fo yna amrywiaeth o gyrff cyhoeddus yn gyfrifol am y gwasanaethau maen nhw’n eu derbyn. Mae hyn yn cynnwys pobl ifanc. Nid ydyn nhw’n wahanol. Yn wir, mi allem ni ddadlau eu bod nhw mewn sefyllfaoedd mwy cymhleth weithiau, os ydych chi’n ychwanegu...

6. 6. Dadl ar Gyfnod 3 Bil Iechyd y Cyhoedd (Cymru):
Grŵp 5: Triniaethau Arbennig — Trwyddedau Triniaethau Arbennig (Gwelliannau 22, 23, 24, 25, 26)
( 9 Mai 2017)

Rhun ap Iorwerth: Mi fyddwn ni'n cefnogi’r grŵp yma o welliannau gan y Llywodraeth. Mae gwelliant 22 yn arbennig yn adlewyrchu’r pryderon godais i, fel clywsom ni gan y Gweinidog, yn y cymal pwyllgor mewn perthynas â’r lefel o allu yr ydym ni yn credu sydd ei angen ar gyfer tatŵio llygaid. Mi gynigiom ni mai dim ond pobl wedi’u cofrestru efo’r Cyngor Meddygol Cyffredinol, o bosib, a ddylai gael...

6. 6. Dadl ar Gyfnod 3 Bil Iechyd y Cyhoedd (Cymru):
Grŵp 1: Mynd i’r Afael â Gordewdra (Gwelliannau 3, 4, 2, 1)
( 9 Mai 2017)

Rhun ap Iorwerth: Diolch yn fawr iawn, Llywydd. Rwy’n gwerthfawrogi bod y consensws sydd wedi cael ei glywed yn ystod taith y Bil yma drwy’r pwyllgor wedi cael ei adlewyrchu yma unwaith eto yn y Siambr heddiw. Roedd pob un ohonom ni, rwy’n meddwl, ar ddechrau’r daith yma, yn ymwybodol ein bod ni’n sôn am broblem ac argyfwng yn fan hyn yr oeddem i gyd yn dymuno dod o hyd i ffordd i’w gynnwys o yn y...

6. 6. Dadl ar Gyfnod 3 Bil Iechyd y Cyhoedd (Cymru):
Grŵp 1: Mynd i’r Afael â Gordewdra (Gwelliannau 3, 4, 2, 1)
( 9 Mai 2017)

Rhun ap Iorwerth: Diolch, Llywydd, ac mae’n bleser mawr gen i gyflwyno’r gwelliannau yma yn ffurfiol heddiw i ddechrau ein trafodion ni ar Gyfnod 3 Bil iechyd y cyhoedd. Rydym ni wedi bod yma o’r blaen, wrth gwrs. Ond, wrth i’r Bil gyrraedd y cyfnod yma y tro diwethaf, ac wrth iddo fo gael ei ailgyflwyno yn y Cynulliad yma, nid oedd yna ddim cyfeiriad ynddo fo at y brif broblem iechyd gyhoeddus, o...

1. 1. Cwestiynau i’r Prif Weinidog:
Gwella Iechyd Meddwl
( 9 Mai 2017)

Rhun ap Iorwerth: A ydy’r Prif Weinidog wir yn sylweddoli faint o argyfwng sydd yn ein hwynebu ni o ran gofal iechyd meddwl yng Nghymru? Yn Ynys Môn rydw i’n deall nad oes yna rŵan yr un ymgynghorodd seiciatryddol ar gyfer cleifion iechyd meddwl rhwng 18 a 65 oed. Mae gweithwyr iechyd meddwl yn gweithio dan bwysau na allan nhw ymdopi â fo ac maen nhw’n ofni eu bod nhw’n gwneud penderfyniadau sydd yn...

1. 1. Cwestiynau i Ysgrifennydd y Cabinet dros Gyllid a Llywodraeth Leol:
Cyngor Ynys Môn
( 3 Mai 2017)

Rhun ap Iorwerth: Eisiau holi am un gwasanaeth penodol ydw i, gwasanaeth pwysig i gyngor Môn, fel i awdurdodau lleol ledled Cymru, sef gofalu am ffyrdd. Mae yna dueddiad, onid oes, o weld gwaith ffyrdd yn cynyddu’n arw ym misoedd cyntaf y flwyddyn, wrth i ddiwedd y flwyddyn ariannol nesáu. Ond, nid hyn yw’r ffordd orau i sicrhau safon gwaith a gwerth am arian, achos nid misoedd y gaeaf ydy’r amser...

1. 1. Cwestiynau i Ysgrifennydd y Cabinet dros Gyllid a Llywodraeth Leol:
Cyngor Ynys Môn
( 3 Mai 2017)

Rhun ap Iorwerth: 4. A wnaiff Ysgrifennydd y Cabinet ddatganiad am y gwasanaethau a ddarperir gan Gyngor Ynys Môn? OAQ(5)0116(FLG)[W]

6. 6. Dadl: Gwasanaethau Diabetes yng Nghymru ( 2 Mai 2017)

Rhun ap Iorwerth: Diolch yn fawr iawn, Dirprwy Lywydd. Ar hyn o bryd, mae 177,000 o bobl yng Nghymru yn byw efo diabetes. Mae’n bosib bod rhyw 70,000 o bobl ychwanegol yn dioddef ohono fo, ond un ai ddim yn ymwybodol neu heb gael diagnosis wedi’i gadarnhau. Erbyn 2030, mae disgwyl y bydd y nifer yna tua 300,000 o bobl. Felly, tra bod bod â diabetes yn rhywbeth mawr i’r person sy’n dioddef ohono fo,...

4. 4. Datganiad: Gêm Derfynol Cynghrair y Pencampwyr ( 2 Mai 2017)

Rhun ap Iorwerth: Rhaid i mi ddweud fy mod i, yn bersonol, yn edrych ymlaen yn ofnadwy i weld gêm derfynol Cynghrair y Pencampwyr yn dod i Gaerdydd. Roeddwn i’n cicio pêl-droed replica Caerdydd 2017 swyddogol o gwmpas yr ardd neithiwr gyda phlentyn 13 oed a oedd yn llawn cyffro. Ac er mor hapus yr oeddwn i gyfrannu £14.99 at y cwmnïau nwyddau ar gyfer y bêl benodol honno, rydym yn dymuno gwneud yn...

6. 6. Datganiad gan Gadeirydd y Pwyllgor Cyllid ar Benodiadau Gweinidogion: Gwrandawiadau cyn penodi gan Bwyllgorau'r Cynulliad ( 5 Ebr 2017)

Rhun ap Iorwerth: Ar ran Steffan Lewis, sy’n aelod o’r pwyllgor, a gaf fi ddiolch i Gadeirydd y Pwyllgor Cyllid am y datganiad heddiw ac am drafod y cyfle pwysig, rwy’n meddwl, sydd o’n blaenau ni i wella nid yn unig tryloywder y penodiadau gweinidogol, ond hefyd gallu’r Cynulliad i ddal y Llywodraeth i gyfrif? Mae’n ddatganiad amserol iawn mewn difrif, o ystyried bod y Cynulliad yn prysur aeddfedu...

Creu hysbysiad

Chwilio uwch

Dod o hyd i'r union air neu ymadrodd hwn

Gallwch hefyd wneud hyn o'r prif flwch chwilio drwy roi’r union eiriau mewn dyfyniadau: megis "seiclo" neu "adroddiad Hutton"

Rydyn ni'n dangos geiriau sy'n gysylltiedig â'ch term chwilio, megis “beic” a “beicio” wrth chwilio am seiclo yn ddiofyn. Er mwyn atal hyn, rhowch y gair mewn dyfyniadau, fel "seiclo"

Heb gynnwys y geiriau hyn

Gallwch hefyd wneud hyn o'r prif flwch chwilio trwy roi arwydd minws cyn geiriau nad ydych eisiau: fel hela -llwynog

Rydym hefyd yn cefnogi nifer o addasiadau chwilio Booleaidd, megis AND a NEAR, ar gyfer chwilio manwl.

Ystod o ddyddiadau

i

Gallwch roi dyddiad dechrau, dyddiad gorffen, neu'r ddau er mwyn cyfyngu canlyniadau i ystod o ddyddiadau penodol. Mae dyddiad gorffen coll yn awgrymu'r dyddiad presennol, ac mae dyddiad cychwyn coll yn awgrymu'r dyddiad hynaf sydd gennym yn y system. Gellir nodi'r dyddiadau ar unrhyw fformat y dymunwch, e.e. 3ydd Mawrth 2007 neu 17/10/1989

Person

Rhowch enw fan hyn i gyfyngu canlyniadau i gyfraniadau gan y person hwnnw yn unig.

Adran

Cyfyngu canlyniadau i senedd neu gynulliad penodol yr ydym yn cynnwys (e.e. Senedd yr Alban), neu fath arbennig o ddata o fewn sefydliad, megis Atebion Ysgrifenedig Tŷ'r Cyffredin.

Colofn

Pe baech yn gwybod y rhif colofn Hansard cywir o'r wybodaeth y mae gennych ddiddordeb ynddo (efallai eich bod yn edrych ar gyfeiriad papur), gallwch gyfyngu canlyniadau i hynny ; Gallwch hefyd ddefnyddio column:123 yn y prif flwch chwilio.