Ken Skates: Gwnaf. Mae Sir Benfro yn rhan hanfodol o’r hyn sydd gan Gymru i’w gynnig o ran twristiaeth yn gyffredinol. Mae ein gweithgareddau marchnata yn cynnwys atyniadau a chynnyrch twristiaeth yn Sir Benfro, ochr yn ochr â phob rhan arall o Gymru.
Ken Skates: A gaf fi ddiolch i’r Aelod am ei gwestiwn? Mae hwn yn bwynt pwysig iawn, gan fod defnyddwyr bysiau wedi dweud wrthym dro ar ôl tro fod diffyg cyfleusterau modern addas, yn enwedig safleoedd bysiau, yn eu rhwystro rhag defnyddio trafnidiaeth gyhoeddus. Soniais funud yn ôl fod nifer o ffrydiau gwaith wedi cael eu creu o ganlyniad i’r uwchgynhadledd ar fysiau, ac mae un arall o’r...
Ken Skates: A gaf fi ddiolch i Russell George am ei gwestiynau, a dweud y bydd gwaith gyda’r diwydiant, gyda grwpiau teithwyr, ac yn wir, gydag awdurdodau lleol yn parhau? Mae’n amlwg fod pryder ynghylch y posibilrwydd o gyflwyno rheoliadau newydd a rheoliadau cryfach, ond byddwn yn datgelu ein bwriadau a’n gweledigaeth gyffredinol yn y ddogfen a ddaw’n destun ymgynghoriad cyhoeddus ar Fawrth 8....
Ken Skates: Unwaith eto, hoffwn ddiolch i’r Aelod am ei ddiddordeb brwd yn y maes hwn. Siaradais gyda Chasnewydd a Chaerdydd i gasglu’r arferion gorau ganddynt, gyda’r bwriad o’u rhannu gydag Abertawe ac awdurdodau lleol eraill. Crëwyd nifer o ffrydiau gwaith o ganlyniad i’r uwchgynhadledd ar fysiau yn Wrecsam, ac mae un yn edrych ar sut y gallwn greu rhwydwaith mwy cynaliadwy a sicrhau bod y...
Ken Skates: Gwnaf. Cyfeiriaf yr Aelod at y datganiad llafar a roddais ddoe, ac unwaith eto, hoffwn ddiolch i’r Aelod am ei groeso cynnes iddo.
Ken Skates: Credaf fod angen—[Torri ar draws.] Credaf fod angen i Ford gyfathrebu’n well gyda’u gweithwyr, gyda’u haelodau, mewn perthynas â’r amcanion ar gyfer y ffatri yn y tymor hir. Dyna pam fy mod wedi siarad gyda’r undebau yn ogystal â’r is-lywydd; dyna pam y byddaf yn dod â hwy at ei gilydd. Oherwydd yr hyn a gyflwynwyd heddiw oedd y senario waethaf yn seiliedig ar sefyllfa...
Ken Skates: Gallaf. A gaf fi ddiolch i’r Aelod am ei chwestiynau? Yn gyntaf, gofynnodd yr Aelod a fydd y Prif Weinidog yn hedfan i Detroit i gyfarfod â Ford. Fel y dywedais eisoes, rwyf wedi siarad â’r unigolyn a fydd yn gwneud y penderfyniad. Yn bwysicach, gwyddom beth y bûm yn ei wneud, gwyddom beth yw’n safbwynt ni: ble mae Prif Weinidog y DU wedi bod ar hyn? Mae arnom angen sicrwydd...
Ken Skates: Dylwn ddechrau drwy ddweud wrth yr Aelod fod Aelodau eraill y siaradais â hwy’r bore yma wedi cysylltu’n rhagweithiol â mi, a dyna pam y gallais rannu manylion gyda hwy ynglŷn â’r sgyrsiau a gefais gyda’r unigolyn sy’n gwneud y penderfyniadau allweddol. Mae croeso i’r Aelod gysylltu â mi ar unrhyw adeg os yw’n teimlo’n ddigon cryf ynglŷn â’r materion yn ei rhanbarth....
Ken Skates: A gaf fi ddiolch i’r Aelod am ei gwestiwn, a chydnabod ei bryder gwirioneddol nid yn unig am ei etholwyr ei hun, ond yr etholwyr sy’n byw mewn ardaloedd cyfagos yn ne Cymru hefyd? Gwn hefyd fod ei ymrwymiad i ffatri Ford Pen-y-bont a’i gweithlu yn ddiwyro. Nawr, o ran technoleg newydd, mae newid dynamig yn digwydd yn y sector modurol ar hyn o bryd, a noda’r Aelod y ffaith y bydd...
Ken Skates: A gaf fi ddiolch i’r Aelod am ei chwestiynau ac ailadrodd y pwynt a wnaed i mi—y sicrwydd a roddwyd i mi gan is-lywydd Ford—nad oes unrhyw risg i gyflogaeth heddiw? Ond rydym wedi bod yn ymwybodol erioed fod risgiau mwy hirdymor yn wynebu Ford ym Mhen-y-bont. O 2021, yr her fydd dod o hyd i gynhyrchion newydd y gellir eu gweithgynhyrchu yn y ffatri. Yn ystod y misoedd diwethaf, rydym...
Ken Skates: Efallai y bydd yr Aelod yn ymwybodol o’r sawl math o gymorth y mae Llywodraeth Cymru wedi gallu’i gynnig i Ford dros nifer o flynyddoedd. Yn wir, ers 1978, mae Ford ym Mhen-y-bont wedi elwa ar oddeutu £140 miliwn. Ers dechrau datganoli, rydym wedi gallu cefnogi Ford gyda phecynnau hyfforddi sgiliau, gyda gwariant cyfalaf, gyda chymorth seilwaith, ac rydym yn barod i wneud hynny eto. Yn...
Ken Skates: Hoffwn ddiolch i Adam Price am ei gwestiynau, a dweud mai ein hamcan yw osgoi’r hyn a allai droi’n argyfwng, fel yr amlinellwyd gan yr Aelod. Rwy’n llwyr gydnabod y sgiliau sylweddol sydd i’w gweld yn ffatri Pen-y-bont, teyrngarwch y gweithlu, ac yn amlwg, pryderon y gweithwyr a’u teuluoedd ar hyn o bryd. Mae perygl hefyd nid yn unig i’r sector modurol yn ne Cymru, ond i’r...
Ken Skates: Gwnaf. Siaradais y bore yma gydag is-lywydd Ford, a gadarnhaodd nad oes unrhyw berygl i gyflogaeth yn ffatri Pen-y-bont ar Ogwr yn y tymor byr, ac y bydd niferoedd cyflogaeth yn aros yr un fath, fwy neu lai, hyd at 2021. Fodd bynnag, pwysleisiais eto ein bod yn barod i wneud popeth yn ein gallu i gynorthwyo’r ffatri i ddod yn fwy cynhyrchiol, ac yn hollbwysig, i sicrhau cynhyrchion newydd...
Ken Skates: Our measures for improving our transport infrastructure across all parts of Wales, including the Swansea bay region, are set out in the national transport finance plan.
Ken Skates: We are making significant investments to modernise rail infrastructure across North Wales, including capacity improvements between Wrexham and Chester, and the North East Wales Metro area. I also expect to see significant improvements for passengers in North Wales delivered through the new Wales and Borders franchise.
Ken Skates: Mae Llywodraeth Cymru’n parhau i fuddsoddi yng ngwaith ein hamgueddfeydd cenedlaethol ac yn cefnogi’r gwaith hwnnw. Dyma waith sy’n gwneud cyfraniad pwysig at fywyd cyhoeddus yng Nghymru ac at strategaethau a pholisïau Llywodraeth Cymru.
Ken Skates: We continue to provide a wide range of support to small businesses in Wales through the Business Wales service. We also provide infrastructure investment and actions which improve business conditions.
Ken Skates: In my written statement on 8 February I advised Members that we would commence a rigorous process of due diligence on the proposal. We have asked the company to provide access to the documents and information that this requires, and once this has been made available the external advisers we have engaged will be able to commence their work.
Ken Skates: We will reflect regional challenges and opportunities, alongside place-based interventions in the work we are taking forward on the cross-cutting strategy that will frame our approach to prosperity for all.
Ken Skates: We rescued Cardiff Airport from a downward spiral whilst in private ownership. Cardiff Airport achieved 16 per cent year-on-year growth in 2016, and forecasts continued growth in 2017. The Welsh Government intends to return it to private ownership, but we will only do so when the conditions are right.