Rhun ap Iorwerth: Mewn cyfarfod diweddar efo Action on Hearing Loss, mi glywais i stori am ddynes fyddar efo arwydd ar ei drws ffrynt yn dweud ‘Mae’n ddrwg gen i, ond gan na allaf i glywed y gloch rwy’n cadw’r drws ar agor, felly dewch i mewn.’ Nid yw hynny, yn amlwg, yn dderbyniol. Beth oedd ei angen, wrth gwrs, ar y ddynes yna oedd cymorth i gael y dechnoleg angenrheidiol i’w hysbysu hi pan oedd...
Rhun ap Iorwerth: Diolch. Rydw i’n credu bod yna sgôp go iawn i greu delwedd ryngwladol i Gymru fel gwlad sydd yn wirioneddol hybu ceir trydan a cherbydau trydan. Un maes lle rydw i’n meddwl y gall Lywodraeth Cymru annog hyn ydy drwy strategaeth i gyfnewid y fflyd bresennol o gerbydau cyhoeddus i rai sydd yn sero allyriadau—o faniau cyngor, faniau byrddau iechyd i drafnidiaeth cyhoeddus, hyd yn oed. Mae...
Rhun ap Iorwerth: A ydy arweinydd y tŷ yn ymwybodol o adroddiad y Mental Health Foundation, ‘Food for thought’, sy’n edrych ar y cysylltiad rhwng maeth a iechyd meddwl? Rŵan, rwy’n credu y gall y math o strategaeth ar ordewdra rydym ni’n galw amdani drwy’r Bil iechyd y cyhoedd—. A ydw i’n iawn i gario ymlaen? Mi wnaf i ddechrau o’r dechrau.
Rhun ap Iorwerth: Rwy’n credu y gall y math o strategaeth gordewdra rydym ni’n galw amdani drwy’r Bil iechyd y cyhoedd hybu iechyd meddwl, yn ogystal ag iechyd corfforol. Ond, a ydy arweinydd y tŷ yn credu y dylai hynny fod yn ystyriaeth fel rhan o strategaeth fwyd y Llywodraeth, yn ogystal ag yn rhan o strategaethau ym maes iechyd?
Rhun ap Iorwerth: 9. Pa gamau y mae Llywodraeth Cymru yn eu cymryd i leihau allyriadau carbon? OAQ(5)0123(ERA)[W]
Rhun ap Iorwerth: 1. Pa gymorth y mae Llywodraeth Cymru yn gallu ei gynnig i sicrhau bod pobl fyddar yn cael yr addasiadau perthnasol i’w cartrefi? OAQ(5)0130(CC)[W]
Rhun ap Iorwerth: Oes, mae blwyddyn wedi pasio ers i’r Ddeddf ddod i rym, ond, mewn gwirionedd, roedd cyfran helaeth o’r Ddeddf yn ymwneud â rhoi pwerau i’r Llywodraeth wneud rheoliadau dros amser dros amrywiaeth eang o weithgareddau. Felly, mae yna lai na blwyddyn o weithredu wedi bod mewn nifer o feysydd. Er mwyn cadw ffocws, rydw i am ganolbwyntio, os caf i, ar ofalwyr, gan fod y Ddeddf, wrth gwrs,...
Rhun ap Iorwerth: Mae’r Aelod yn sicr yn pwysleisio, unwaith eto, culni'r ffenestr sydd gennym o'n blaenau. The Secretary of State for Wales has made it quite clear that he isn’t interested in expressing the views of Wales in the Cabinet, but he sees his role as communicating to Wales what the Cabinet in Whitehall has decided for Wales, whether that is for our benefit or not. Now take this opportunity,...
Rhun ap Iorwerth: Mi wnaf rai sylwadau perthnasol i Gymru gyfan, ac yn arbennig, felly, fy etholaeth i yn Ynys Môn. Rydym ni i gyd wedi clywed pobl yn sôn am bwysigrwydd cymryd rheolaeth yn ôl. Beth nad ydym yn eglur amdano fo, wrth gwrs, yw beth yn union rydym yn sôn amdano fo: pa fath o reolaeth, nac ychwaith beth fydd y gost o gymryd y rheolaeth yna. Y peryg rydym yn ei wynebu yng Nghymru bellach yw y...
Rhun ap Iorwerth: Mae datganiad Banc Lloyd’s yr wythnos yma eu bod nhw’n bwriadu shrincio nifer fawr o ganghennau banciau yn bryderus mewn sawl ffordd, wrth gwrs, yn arbennig o ran y cwtogiadau mewn swyddi mae hynny’n sicr o’i olygu a’r erydiad yn y gwasanaeth cownteri wyneb yn wyneb. Ond mi allwn ni hefyd gymryd agwedd gadarnhaol tuag at y cyhoeddiad yn rhannol, o ran mai’r hyn rydym ni’n ei...
Rhun ap Iorwerth: A fyddech yn gweld mai’r mater craidd wrth wraidd y ddadl hon yw hyn: os ydym am roi’r dewis i bobl i ddefnyddio’r Gymraeg yn eu bywydau fel oedolion, mae’n rhaid i ni roi’r gallu iddynt siarad yr iaith honno, ac mai addysg yw’r ffordd allweddol o sicrhau bod ganddynt y sgiliau hynny?
Rhun ap Iorwerth: A gaf fi groesawu’r geiriau hynny? A fyddai’r Aelod yn cytuno bod yn rhaid i gefnogaeth fod yn fwy na geiriau bob amser? Rwy’n credu mai’r hyn yr ydych yn ei ddweud hefyd yw bod yn rhaid i weithredoedd ategu geiriau a bod yn rhaid i ni dderbyn y bydd gwrthwynebiad mewn mannau, a lle y ceir gwrthwynebiad, mae’n rhaid i ni weithio gyda’r bobl hynny i egluro iddynt, sef pam y credaf...
Rhun ap Iorwerth: A gaf i ddiolch i Margaret Hutcheson am gyflwyno’r ddeiseb bwysig iawn yma? Mi ddarllenais i’r adroddiad efo diddordeb mawr a hefyd cryn fraw, achos mi oedd y ddeiseb ei hun yn nodi’r effaith syfrdanol y mae canser yr ofari wedi’i gael. Rydym ni wedi clywed rhai o’r ffigyrau yn barod: yn 2014, 345 o ferched yn cael diagnosis, a 238 o ferched yn marw o’r clefyd yma. Mae’n ganran...
Rhun ap Iorwerth: Diolch am y datganiad byr ysgrifenedig heddiw. Rydym ni i gyd, wrth gwrs, yn rhannu dyhead y Gweinidog o sicrhau bod Chwaraeon Cymru yn gweithredu yn y modd mwyaf effeithiol posib, ond mae yna gwestiynau difrifol iawn i’w gofyn, rydw i’n meddwl, ynglŷn â sut y llwyddodd y Llywodraeth i ganiatáu i’r corff yma gyrraedd y fath lefel o aneffeithlonrwydd. A beth mae’r datganiad heddiw...
Rhun ap Iorwerth: Ond mae ble y mae unedau wedi’u lleoli yn bwysig. Mae’n bwysig o ran mynediad, fel y mae Coleg Brenhinol y Seiciatryddion yn ei ddweud. Mae’n eithaf amlwg, rwy’n credu, o’n ffigurau a’n hastudiaethau achos, mai canlyniadau prynu darpariaeth allanol yw mamau’n dewis peidio â chael triniaeth cleifion mewnol yn lle triniaeth sy’n golygu cael eu gwahanu oddi wrth eu teuluoedd....
Rhun ap Iorwerth: Gan gyfeirio at ymateb y Prif Weinidog ddoe, gofynnodd Steffan Lewis yn benodol, fel y gwneuthum innau heddiw, ynglŷn ag atgyfeiriadau at unedau mamau a’u babanod. Nid oes gennym unedau mamau a’u babanod yng Nghymru. Gwasanaethau cymunedol, cawsant eu cyflwyno dair blynedd wedi cau’r unedau, er ein bod, wrth gwrs, yn cydnabod bod eu hangen. Ond mewn achosion o seicosis ôl-enedigol, er...
Rhun ap Iorwerth: Diolch, Llywydd. Ddoe, gofynnodd fy nghyd-Aelod, Steffan Lewis, i’r Prif Weinidog ailagor uned amenedigol arbenigol ar gyfer mamau a’u babanod, wedi i’r uned olaf yng Nghymru gau yn 2013. Dywedodd y Prif Weinidog fod llai na phump o famau newydd wedi cael eu hatgyfeirio yn y blynyddoedd diwethaf at uned cleifion mewnol yng Nghymru. Nid oedd gennyf unrhyw syniad am beth oedd yn...
Rhun ap Iorwerth: A wnaiff Ysgrifennydd y Cabinet ddatganiad am amseroedd aros orthopaedig yng ngogledd-orllewin Cymru?
Rhun ap Iorwerth: Mae effeithiolrwydd yr hyn y gallwch chi ei gyflawni efo cyllidebau gofal cymdeithasol yn dibynnu, wrth gwrs, ar beth sy’n digwydd yn yr NHS a ‘vice versa’. Rydw i’n credu mai methiant y Llywodraeth i osod sylfeini cadarn a chynaliadwy i’r NHS sy’n gyfrifol am y gorwario sydd wedi cael ei gyhoeddi yn y diwrnod neu ddau ddiwethaf. Onid ydy’r Prif Weinidog yn cytuno â fy mhryder...
Rhun ap Iorwerth: A wnewch chi dderbyn ymyriad?