Rhun ap Iorwerth: A fyddech yn cydnabod bod y diwydiant pysgod cregyn hefyd yn rhan bwysig iawn o’n diwydiant pysgota; fod oddeutu 97 y cant o bysgod cregyn o’r Fenai yn cael eu hallforio i’r Undeb Ewropeaidd a’u bod yn ofnus iawn ynglŷn ag effeithiau posibl tariffau Sefydliad Masnach y Byd o 40 y cant, o bosibl, ar eu hallforion?
Rhun ap Iorwerth: Rwyf innau’n falch o fod yn un o gefnogwyr y cynnig yma. Fel cenedl, mae’r heli yn ein gwaed ni; mae o’n rhan o’n gwead ni, ein hanes, ein diwylliant, ein llenyddiaeth ni hyd yn oed—o Cynan ‘a thonnau gwyllt y môr’ yn ‘Aberdaron’ i Ceiriog yn ein gwahodd ni i gyd i rwyfo gyda’r don i Ynys Môn. Ond gymaint ag y mae’r môr wedi bod yn awen ac yn ysbrydoliaeth i feirdd yn...
Rhun ap Iorwerth: Hoffwn hefyd ychwanegu at y geiriau hynny gan Ysgrifennydd y Cabinet. Rwy’n sicr yn llongyfarch y panel am adolygiad trylwyr iawn, do, wedi’i gwblhau o fewn amserlen dynn, ac adolygiad yr wyf yn meddwl ei fod yn gwneud nifer o argymhellion pwysig iawn a fydd, nid oes gennyf unrhyw amheuaeth, yn gwella bywydau llawer o gleifion. Cafodd yr adolygiad, wrth gwrs, ei sicrhau gan Blaid Cymru yn...
Rhun ap Iorwerth: Rwy'n ddiolchgar i'r Gweinidog a'r swyddogion am wneud yn siŵr bod y gwasanaeth wedi gallu parhau yn ddi-dor. Mae arweinydd y Ceidwadwyr yn dweud ei fod yn byw o fewn tafliad carreg i’r maes awyr yng Nghaerdydd ac mae'n dweud ei fod yn defnyddio’r gwasanaeth o bryd i'w gilydd i fynd i Ynys Môn, ond, fel rhywun sydd wedi’i ynysu braidd o’r teithiau pum awr hynny o’r gogledd i'r...
Rhun ap Iorwerth: Fel mae arweinydd y tŷ newydd gadarnhau, mae swyddogion traffig y gogledd yn patrolio’r A55 hyd at Lanfairpwll. Wrth gwrs, nid ydy’r A55 yn stopio yn Llanfairpwll; mae hi’n parhau'r holl ffordd ar draws Ynys Môn i borthladd Caergybi. Mae hyn, meddai swyddogion heddlu wrthyf i, yn achosi problemau iddyn nhw, gan ei bod yn clymu adnoddau er mwyn delio â damweiniau ffyrdd ac ati, sydd...
Rhun ap Iorwerth: 8. A wnaiff y Prif Weinidog ddatganiad am ddyletswyddau Swyddogion Traffig yng ngogledd Cymru? OAQ(5)0508(FM)[W]
Rhun ap Iorwerth: Darllenwch y Cofnod yn y bore. Rydym yn siarad—[Torri ar draws.]
Rhun ap Iorwerth: Dywedodd Gweinidog y Llywodraeth fod cymorth yn bodoli mewn ffyrdd eraill. Rwy’n cytuno bod cefnogaeth yn bodoli mewn ffyrdd eraill. Rwy’n cytuno ei bod yn syniad da iawn i weithio gyda Cyngor ar Bopeth er mwyn sicrhau bod pobl yn cael y cymorth sydd ei angen arnynt i gael cymaint â phosibl o fudd-daliadau. Rwy’n cytuno â strategaethau ar gynyddu seibiant, er nad oes digon yn cael ei...
Rhun ap Iorwerth: Diolch yn fawr iawn i bawb sydd wedi cymryd rhan yn y ddwy ddadl y prynhawn yma: y ddadl y clywsom y Gweinidog yn siarad amdani yno, am arian cyffredinol, a’r ddadl a gyflwynwyd gennym i’r Cynulliad yn gynharach mewn gwirionedd, am gyllid uniongyrchol drwy Gronfa’r Teulu i rai o’r teuluoedd mwyaf agored i niwed yng Nghymru. Rwy’n meddwl fy mod wedi dweud yn fy sylwadau agoriadol fy...
Rhun ap Iorwerth: Yn sicr.
Rhun ap Iorwerth: Rwy’n ailadrodd y pwynt: nid oes cynllun taliadau uniongyrchol arall ar gael. Dyma yw gwerth Cronfa’r Teulu yn benodol. Oes, mae yna elfennau eraill o gymorth y Llywodraeth, sy’n anuniongyrchol ac wrth gwrs y gall gefnogi teuluoedd, ond nid oes dim i gymryd lle’r cyllid uniongyrchol sy’n mynd i’r teuluoedd tlotaf. [Torri ar draws.] Wel, mae’n wir, ac rydym yn sôn am y teuluoedd...
Rhun ap Iorwerth: Yn sicr.
Rhun ap Iorwerth: Rwy’n credu eich bod yn ddireidus. Rydym yn sôn yma am gronfa na chymerir ei lle gan unrhyw fodel cyllid uniongyrchol arall gan y Llywodraeth. Dyna pam, yn fy marn i, ei bod wedi cael ei chadw gan Lywodraethau mewn rhannau eraill o’r DU. Mae angen i’r Llywodraeth sylweddoli, er gwaethaf cryfderau mesurau eraill a roddodd y Llywodraeth ar waith, o bosibl, i gefnogi’r teuluoedd hyn yn...
Rhun ap Iorwerth: Diolch yn fawr iawn, Ddirprwy Lywydd. Rwy’n falch iawn o gael agor y ddadl yma. Mae hi’n ddadl digon syml mewn difri, ag iddi ffocws clir iawn. Dadl ydy hi am sut rydym ni’n amddiffyn rhai o’r teuluoedd mwyaf tlawd a mwyaf bregus yn ein cymdeithas. Mae hi’n tynnu sylw at sefyllfa pan, mewn difri, gall polisi a allai fod yn un da ar y cyfan fod yn esgeuluso’r grŵp pwysig a bregus...
Rhun ap Iorwerth: Rwy’n mynd i ganolbwyntio, os caf, ar pam rwy’n meddwl bod gwelliant y Llywodraeth i’n cynnig ni yn fethiant i sylweddoli a chydnabod beth sydd yn y fantol yma. Mae dogfen a gafodd ei hanfon at Aelodau Cynulliad ddoe—rwy’n siŵr bod llawer ohonoch chi wedi cael cyfle i’w gweld hi—yn nodi bod Gofalwyr Cymru, Contact a Family Cymru ac Anabledd Dysgu Cymru yn siomedig iawn fod...
Rhun ap Iorwerth: Diolch yn fawr iawn, Ddirprwy Lywydd, ac a gaf i groesawu y cynnig yma gan y Ceidwadwyr? Ac mi wnaf i gynnig gwelliannau rydym ni’n credu sydd yn cryfhau y cynnig hwn ymhellach. Rydym yn ymwybodol, wrth gwrs, o’r effaith mae sicrhau tai o ansawdd da, gofal iechyd, addysg a bod yn ddiogel yn y cartref, ac ati, yn eu cael ar ddatblygiad plentyn. Rwy’n siŵr bod rhai ohonoch chi yn cofio...
Rhun ap Iorwerth: Rydw i’n falch o glywed yr Ysgrifennydd Cabinet yn dweud ei bod hi’n sylweddoli pwysigrwydd gwneud yn fawr o’r hyn sydd gennym ni ar ôl o’r rhaglenni Ewropeaidd sydd yn bodoli ar hyn o bryd. Mi ydw i, yn y gorffennol, wedi trafod gyda hi a’i swyddogion y posibilrwydd o sefydlu parc cynhyrchu bwyd yn Ynys Môn. A fydd yr Ysgrifennydd Cabinet yn barod i ystyried hynny rŵan, fel un...
Rhun ap Iorwerth: Diolch i chi am y datganiad yna. Rwy'n credu bod gen i bedwar cwestiwn y byddwn yn ddiolchgar pe gallai Ysgrifennydd y Cabinet ymateb iddynt. Mae cyfraddau goroesi wedi cynyddu yng Nghymru, fel mewn mannau eraill. Mae technoleg newydd a gwell triniaeth wedi sicrhau hynny ac, wrth gwrs, rydym ni’n croesawu hynny, a bu pwyslais eglur ar gyflwyno’r triniaethau newydd hyn ac ar wella...
Rhun ap Iorwerth: Mi wnaf innau dynnu sylw’r Prif Weinidog at lythyr yr ydw i wedi’i dderbyn gan gangen y WI yn Llangoed, yn fy etholaeth i, yn rhoi’r achos dros fuddsoddi mewn gwasanaethau bydwragedd. Yn benodol, maen nhw’n bryderus am gynaliadwyedd y gweithlu. Ydych, mi ydych chi’n dweud bod yna fuddsoddiad wedi cael ei wneud mewn rhagor o lefydd hyfforddi, ond a ydy’r Prif Weinidog yn cytuno â...
Rhun ap Iorwerth: A wnaiff y Prif Weinidog ddatganiad am signal ffonau symudol ym Môn?