Ken Skates: Rwy’n credu bod adroddiadau’r PPIW fel arfer yn cael eu cyhoeddi ac ar gael i’w gweld gan Aelodau’r Cynulliad, ac yn sicr gan Weinidogion y Llywodraeth, a bydd y gwaith yn cael ei wneud, rwy’n credu, yn ystod yr hydref, wedi i wersi cynnar o weithrediad y banc datblygu allu cael eu hasesu. Rwy’n meddwl y bydd yn waith pwysig ac amserol, ond fel y dywedais, bydd angen iddo ystyried...
Ken Skates: Ie, iawn.
Ken Skates: Buaswn yn cytuno â’r Aelod y dylai pawb allu cael mynediad at fanc o fewn pellter penodol. Mae hyn yn rhywbeth y galwasom ar Lywodraeth y DU i edrych yn ofalus iawn arno. Dof at adolygiad Griggs yn fuan, ond rwy’n meddwl bod yr hyn y mae’r Aelod yn ei ddweud yn gywir. Mae arloesedd a thueddiadau ariannol yn y gymdeithas wedi arwain yn amlwg at gau llawer o ganghennau. Mae llawer o’r...
Ken Skates: Diolch i chi, Lywydd. Hoffwn ddiolch i Blaid Cymru am gyflwyno’r ddadl bwysig hon heddiw ac am y nifer o gyfraniadau gan Aelodau ar draws y Siambr. Rwy’n ymwybodol iawn o nifer o’r banciau sydd wedi cael eu crybwyll heddiw. Nododd Darren Millar a Llyr Huws Gruffydd ill dau y banc yn Rhuthun—banc y NatWest. Rwy’n cofio cael gwybod, heb fod yn rhy bell yn ôl, pan oedd banc NatWest yn...
Ken Skates: Cynigiwyd yn ffurfiol.
Ken Skates: Diolch, Lywydd. A gaf ddechrau drwy ddiolch i'r Aelodau am eu cyfraniadau adeiladol iawn at y ddadl bwysig hon heddiw? Mae'n beth prin bod gennym gytundeb ar draws y Siambr dros egwyddorion llawer o brosiectau ynni, o ystyried natur ddadleuol ynni gwynt ar y tir ac ynni niwclear, ond rwy’n meddwl bod gennym gytundeb trawsbleidiol cryf ar y mater hwn. Fel y dywedodd fy nghydweithiwr,...
Ken Skates: O safbwynt economaidd, rwy’n gweld y potensial enfawr o'n blaenau. Rwy’n cydnabod sut y gallai prosiectau ynni morol fod yn gatalydd i sicrhau buddion etifeddol hirbarhaol i’r economi, ac rwy’n deall sut y gallent ddarparu’r cyfle am swyddi a buddsoddiad mewn economïau lleol a rhanbarthol ledled Cymru—yr economïau hynny y mae llawer o’r Aelodau wedi sôn amdanynt ac yn eu...
Ken Skates: A gaf i ddiolch i'r Aelod am ei gwestiynau? Bydd angen i mi wirio manylion y cwestiwn olaf a gododd yr Aelod, a byddaf yn ysgrifennu, nid yn unig at yr Aelod, ond at bob Aelod yn y Siambr. O ran Bwrdd Cynghorol Datblygu Diwydiannol Cymru, corff noddedig y bu ganddo statws statudol ers 1975 yw hwnnw, neu, yn hytrach, a fu o dan Ddeddf Awdurdod Datblygu Cymru 1975. Ac, fel y bydd yr Aelod yn...
Ken Skates: A gaf i ddiolch i'r Aelod am ei gwestiynau, a hefyd am gydnabod y peryglon cynhenid wrth ddiwallu methiant yn y farchnad cyn belled ag y mae cymorth busnes yn y cwestiwn? Rwyf o’r farn ein bod, o ganlyniad i weithredu'r 10 newid gweithdrefnol sydd wedi eu cydnabod gan Swyddfa Archwilio Cymru, wedi gwella'r system arolygu a gwerthuso a ddefnyddir ar gyfer ceisiadau am gymorth...
Ken Skates: A gaf i ddiolch i Nick Ramsay am ei gwestiynau, a hefyd am oruchwylio'r ymchwiliad hwn fel Cadeirydd y Pwyllgor Cyfrifon Cyhoeddus. Byddwn, mi fyddwn yn gweithio'n agos gyda'r archwilydd cyffredinol, a chroesawaf yn fawr ei fwriad i gynnal ymchwiliad ehangach o gymorth i fusnes gan Lywodraeth Cymru. Un o'r newidiadau gweithdrefnol ychwanegol sy'n cael eu cyflwyno trwy lefel ehangach o...
Ken Skates: A gaf i ddiolch i'r Aelod am ei gwestiynau ef hefyd? Rwyf yn credu mai cwestiwn i’r Prif Weinidog yw’r un am gyfrifoldebau gweinidogol. Byddwn yn rhybuddio yn erbyn ceisio ymdrin â’r holl ddirnadaeth o wrthdaro buddiannau yn y fath fodd fel y byddai’n achos llesgedd o fewn y Llywodraeth. Gwlad fechan ydym ni gyda—yn enwedig yn y de-ddwyrain—pharth teithio i’r gwaith eang...
Ken Skates: A gaf i ddiolch i'r Aelod am ei gwestiynau? Rydym bob amser yn dysgu ac, yn wir, gwnaeth fy rhagflaenydd newidiadau yn yr adran pan wnaeth hithau ei hetifeddu. Yn wir, cyflwynodd fy rhagflaenydd y weithdrefn panel buddsoddi er mwyn cryfhau goruchwyliaeth ystyriaethau buddsoddi a sicrhau wrth roi ystyriaeth i risg y gellid dod i benderfyniad deallus. Mae'r dirprwy ysgrifennydd parhaol wedi...
Ken Skates: Gwnaf. Mae fy swyddogion a minnau wedi cynorthwyo'r Pwyllgor Cyfrifon Cyhoeddus ar bob cam o'i ystyriaethau ar y pwnc hwn. Rwyf wedi derbyn adroddiad y pwyllgor, ac yn ei groesawu’n fawr, a byddwn yn ymateb yn llawn iddo.
Ken Skates: Rwy’n cymryd, felly, fod yr Aelod yn hyderus fod Llywodraeth y DU wedi gwneud popeth y gallai ei wneud yn ystod y 18 mis diwethaf dros y sector dur yng Nghymru—popeth y gallai fod wedi’i wneud.
Ken Skates: Diolch i chi, Lywydd. A gaf fi ddechrau fy nghyfraniad heddiw drwy ddiolch i’r Ceidwadwyr am gyflwyno’r ddadl hon i’r Siambr mewn wythnos pan gefais y pleser eisoes o gyhoeddi mwy na 500 o swyddi newydd drwy ymyrraeth y Llywodraeth? Mae’r Papur Gwyrdd a ryddhawyd gan Lywodraeth y DU yn sicr yn ddiddorol. Mae’r Prif Weinidog ei hun yn darparu cyflwyniad beiddgar iawn i’r ddogfen...
Ken Skates: Cynigiwyd yn ffurfiol.
Ken Skates: Hoffwn ddiolch i Neil Hamilton am ei gwestiwn, ac am gydnabod bod y fargen sydd ar y bwrdd yn sicr yn well na’r un a gyflwynwyd yn ôl ym mis Gorffennaf. Rwy’n credu bod hynny’n cyfiawnhau’r sefyllfa. Rwy’n cydnabod eu bod wedi wynebu llawer o feirniadaeth yn ôl ym mis Gorffennaf, ond mae’n cyfiawnhau’r safbwynt bryd hynny, pan gyflwynwyd cais i ni am warantau o 83 y cant i...
Ken Skates: A gaf fi ddiolch i’r Aelod am ei gwestiwn, a chroesawu’r ffaith hefyd ei fod wedi cydnabod bod y terfyn amser o bythefnos yn arwyddocaol ac yn bwysig? Penderfynais gyhoeddi’r terfyn amser o bythefnos am nifer o resymau. Un oedd ein bod yn sicr y buasai Cwmni Datblygu Blaenau’r Cymoedd, yn ôl ym mis Gorffennaf, yn gallu dod atom o fewn mater o wythnosau gyda chynnig diwygiedig. Felly,...
Ken Skates: A gaf fi ddiolch i Adam Price am ei gwestiwn a dweud—fe geisiaf osgoi trosiadau moduro heddiw—ei bod hi’n ymddangos, yn ôl fy swyddogion, fod y meini prawf—y ddau bwynt a nododd yr Aelod—wedi’u bodloni, felly dyna pam rydym mewn sefyllfa heddiw i fwrw ymlaen â phroses diwydrwydd dyladwy ac ystyried y cynigion sydd o’n blaenau? Ni ddylai neb ofni diwydrwydd dyladwy a wneir ar...
Ken Skates: Ydy, mae Cwmni Datblygu Blaenau’r Cymoedd wedi cyflwyno cynnig newydd ar gyfer Cylchffordd Cymru. Byddwn yn awr yn ystyried y cyflwyniad yn fanwl ac yn cychwyn proses drwyadl o ddiwydrwydd dyladwy. Dylai’r Aelodau fod wedi derbyn datganiad ysgrifenedig yn y Gymraeg a’r Saesneg bellach.