Ken Skates: A gaf i ddiolch i'r Aelod am ei gwestiynau a dweud fy mod, unwaith eto, fel y dywedais yr wythnos diwethaf, yn falch bod SA1 a cham 2 o brosiect Yr Egin wedi sicrhau cefnogaeth bwrdd y ddinas-ranbarth ar gyfer datblygu? O ran darparu cyfleoedd, yn enwedig i bobl ifanc, mae’r sector diwydiannau creadigol wedi dangos ei fod yn fwy llwyddiannus yng Nghymru o ran ei dwf ac o ran ehangu...
Ken Skates: Gall yr Aelod fod yn sicr na fyddaf yn cymryd ymagwedd calon-galed a Thatcheraidd at y prosiect hwn, ac er gwaethaf ei ymdrechion gorau, ni fyddaf yn dangos arwydd o benderfyniad y gellid ei wneud o fewn y 10 diwrnod nesaf. Ond mae'r Aelod yn iawn wrth ddweud bod heriau strwythurol hanesyddol i’w cael y mae angen eu goresgyn, nid dim ond yn y gorllewin ond mewn rhannau eraill o Gymru lle...
Ken Skates: A gaf i ddiolch i'r Aelod am ei chwestiwn? Ac mae'n rhaid i mi bwysleisio fy mod i’n credu bod y cyngor gan banel y sector diwydiannau creadigol wedi ei ddarparu yn ddiffuant ac wedi ein helpu wrth i ni benderfynu ar y prosiect. Rwyf yn credu y bydd y penderfyniad yn cael ei wneud gan ystyried yr hyn sydd orau i Gaerfyrddin fel cymuned a’r diwydiannau creadigol o fewn y gymuned...
Ken Skates: Rwy’n sicrhau'r Aelod ein bod bellach wedi derbyn yr wybodaeth honno a phob gwybodaeth sy'n ymwneud â'r cynnig y gallwn ei ystyried erbyn hyn. Rydym hefyd wedi derbyn gohebiaeth gan TG4, yr ydym, wrth gwrs, wedi gallu ei ystyried, ynghyd â gohebiaeth gan bartneriaid posibl yn y prosiect. Ac o ran—yr oeddwn ar fai yn wir am beidio â chyffwrdd ar y pwynt a godwyd gan Angela...
Ken Skates: A gaf i ddiolch i'r Aelod am ei chwestiwn, a’i chymeradwyo am ei brwdfrydedd wrth iddi ddwyn y mater hwn i'n sylw? Byddwn yn cytuno'n llwyr bod gan Gaerfyrddin ac, yn wir, y gorllewin cyfan, lawer iawn i'w gynnig, nid yn unig i economi Cymru ond i bobl o'r tu allan i Gymru, fel cyrchfan wych i dwristiaid hefyd. Fe wn i hynny oherwydd fy mod i yno yn y gorllewin ddoe, yn agor cyfleusterau...
Ken Skates: Mae'n rhaid rhoi ystyriaeth drylwyr a chytbwys i'r manteision a'r risgiau sy'n gysylltiedig â'r prosiect hwn cyn gwneud unrhyw benderfyniad. Mae ffyrdd y gallem gefnogi'r prosiect drwyddynt wedi eu hymchwilio yn drylwyr erbyn hyn, ac rwyf yn bwriadu galw’r tri Gweinidog sydd â diddordebau portffolio yn y mater hwn at ei gilydd yr wythnos nesaf er mwyn gallu dod i benderfyniad y mis hwn.
Ken Skates: Rwy'n credu ei bod yn werth nodi—a gaf i ddiolch i arweinydd yr wrthblaid am ei gwestiwn. Mae'n werth nodi bod Ford wedi cytuno i ddarparu'r wybodaeth y gofynnwyd amdani a fydd yn tawelu pryder o fewn y gweithlu. Mae trafodaethau heddiw wedi bod yn gynhyrchiol iawn. Yn wir, mae trafodaethau rhwng Llywodraeth Cymru, pennaeth Ford Ewrop, Linda Cash, y gweithlu, yr undebau llafur ac uwch...
Ken Skates: A gaf i ddiolch i Suzy Davies am ei chwestiynau, a dweud bod dyddiadau allweddol ar gael, a bod y cynllun pum mlynedd, wrth gwrs, yn hanfodol? Gofynnodd Len McCluskey yn briodol am ragor o wybodaeth ynghylch y cynllun pum mlynedd er mwyn ei rannu gyda'r gweithlu, sydd yn iawn i fod yn bryderus. Ond, mae 2020 hefyd yn ddyddiad allweddol ac rydym yn ceisio sicrwydd gan Ford ac rydym yn barod...
Ken Skates: Cewch, gallaf sicrhau'r Aelod o hynny a byddwn yn cytuno bod ansicrwydd ledled, nid yn unig y sector modurol, ond gweithgynhyrchu yn ei gyfanrwydd oherwydd yr effaith y gallai Brexit caled ei gael ar economi Cymru. Am y rheswm hwnnw, rydym wedi bod yn gyson ein hymagwedd gan ddweud ei bod yn angenrheidiol i Gymru gael mynediad llawn a dilyffethair i’r farchnad sengl. Mae'n ddiddorol ac...
Ken Skates: A gaf i ddiolch i Russell George am ei gwestiynau a hefyd am y newyddion diweddaraf oedd ganddo, y gallaf innau roi diweddariad pellach arnynt. [Chwerthin.] Byddai'r Senedd yn dymuno cael gwybod bod ysgrifennydd cyffredinol Undeb Unite, Len McCluskey, ynghyd ag ysgrifennydd cyffredinol Undeb Unite Cymru, Andy Richards, wedi ymweld â Ford Pen-y-bont ar Ogwr heddiw. Maen nhw wedi siarad ag...
Ken Skates: Mae’r Prif Weinidog a minnau wedi cyfarfod ag uwch reolwyr o Ford Pen-y-bont ar Ogwr a Ford Ewrop i drafod y mater. Rydym yn parhau i fod mewn cysylltiad â’r rheolwyr, y gweithlu a'r undebau llafur.
Ken Skates: Boed drwy feiri a etholwyd yn uniongyrchol neu ffurfiau eraill ar bolisïau, rwy’n credu ei bod hi’n hanfodol fod gennych brosesau democrataidd sy’n cyfleu ymdeimlad o reolaeth gan y dinesydd, ond sydd hefyd yn syml, yn effeithlon ac yn effeithiol. Mae hynny’n berthnasol nid yn unig i ddinasoedd, ond hefyd i ardaloedd mwy gwledig, rwy’n credu. Ond wrth gwrs, mae’n rhaid i ni...
Ken Skates: Gwnaf, yn sicr.
Ken Skates: Diolch i chi, Lywydd. Hoffwn ddiolch i’r Ceidwadwyr am gyflwyno’r ddadl hon heddiw ac rwy’n croesawu cyfraniad rhagarweiniol David Melding, ynghyd â’r ffaith ei fod yn derbyn gwelliant y Llywodraeth. Rwyf am fynd ar ôl ei bwynt olaf yn gyflym, gan fy mod yn credu bod hynny’n arbennig o bwysig, ac mae’n ymwneud â chyfranogiad y dinesydd, a nodwyd gan nifer o’r Aelodau o...
Ken Skates:
Ken Skates: Rwy’n credu bod yr Aelod yn iawn i dynnu sylw at y ffaith y gallai annog pobl i bleidleisio yn erbyn cynnig—fel y mae Plaid Cymru wedi ei wneud—arwain at fethiant y diwydiant dur. Nid yw hynny o fudd i neb, pa un a ydych yn gyflogedig fel gweithiwr dur, neu’n byw mewn cymuned neu’n perthyn i weithiwr dur, fel yr wyf fi.
Ken Skates: Rydym yn datblygu amrywiaeth o fesurau er mwyn cynyddu cynhyrchiant yng Nghymru, gan gynnwys codi lefelau sgiliau, buddsoddi mewn seilwaith o ansawdd uchel a chefnogi arloesedd hefyd.
Ken Skates: Mae’r Aelod yn hollol iawn, ac rwy’n credu bod hwn yn bwnc y mae’r Athro Dylan Jones-Evans wedi bod yn ei ystyried yn ofalus iawn yn ddiweddar. Trwy wasanaeth Busnes Cymru, gallwn ddarparu gwasanaeth mentora sy’n cynyddu argaeledd cyngor sgiliau ar draws y gymuned fusnes. Mae’r Aelod hefyd yn iawn i ddweud bod sgiliau’n hanfodol ar gyfer hybu gwelliant mewn cynhyrchiant. Fel rhan...
Ken Skates: Gallaf. Mae’r Aelod yn hollol gywir. Bydd data a gasglwyd gan gerbydau o ran darganfod o ble y daethant a’u cyrchfannau yn ein galluogi i ddeall sut y mae pobl yn symud o gwmpas y rhanbarth. Bydd y data a gasglwyd yn rhan o brosiect yr M4 yn cael ei ddefnyddio i lywio datblygiad y metro, a hynny’n briodol, oherwydd mae angen gweledigaeth sy’n seiliedig ar dystiolaeth ar gyfer y...
Ken Skates: Dylwn nodi wrth yr Aelod mai cynllun peilot oedd hwn, ac felly, roedd yn rhywbeth y gallwn ddysgu oddi wrtho. Ac rydym wedi dysgu oddi wrtho. Y ffaith amdani yw nad oedd y nifer a fanteisiodd ar y cynllun mor uchel ag y buasem wedi’i ddymuno, a dyna pam rwy’n awyddus iawn i’r rhaglen olynol gyrraedd mwy o bobl ifanc ar draws Cymru. Rwy’n credu bod oddeutu 10,000 o bobl ifanc wedi...