Rhun ap Iorwerth: Diolch am yr ateb yna. Efallai y bydd y Prif Weinidog yn ymwybodol, ar ôl eitem ar newyddion ITV Cymru ychydig o ddyddiau yn ôl, am hanes Emma Stenson o’m hetholaeth i sydd wedi troi at ‘crowdfunding’ i drio helpu talu’i ffordd trwy gwrs ôl-radd i fod yn gynorthwyydd meddygol, neu ‘physician associate’, ym Mangor. Mae gan Emma radd dosbarth cyntaf mewn gwyddorau meddygol, ond...
Rhun ap Iorwerth: A gaf innau hefyd gysylltu fy hun â’r cwestiwn a'r sylwadau a wnaed gan yr Aelod dros Ogledd Caerdydd? Gallai fod yn ddefnyddiol i’r Prif Weinidog roi iechyd ar yr agenda o ran trafodaethau â Llywodraeth y DU ar adael yr UE. A fyddai'r Prif Weinidog, yn y cyd-destun hwnnw, yn barod i godi’r mater o’r angen i Gymru allu penderfynu ar lefel y fisâu i gael eu cyflwyno i aelodau staff...
Rhun ap Iorwerth: 7. A wnaiff y Prif Weinidog ddatganiad am gyllid i fyfyrwyr ôl-radd yng Nghymru? OAQ(5)0434(FM)[W]
Rhun ap Iorwerth: Diolch yn fawr iawn, Ddirprwy Lywydd, a diolch i bawb sydd wedi cymryd rhan yn y drafodaeth yma. Rhyw ychydig o funudau sydd gen i ar ôl. A gaf i ddiolch yn gyntaf i Sian Gwenllian am danlinellu mor werthfawrogol y dylem ni fod o weithwyr gofal proffesiynol ar draws Cymru—pwynt, wrth gwrs, sydd wedi cael ei wneud gan nifer o Aelodau? Mae’n bwysig iawn bod y gweithwyr proffesiynol yma yn...
Rhun ap Iorwerth: Rwy’n siwr y maddeuwch i mi am nodi’r eironi fod Aelod Ceidwadol yn sôn am yr angen i fuddsoddi mewn gofal cymdeithasol ar adeg pan ydym wedi gweld cymaint o doriadau. Er, wrth gwrs, rwyf wedi nodi bod y blaid yma yn y Cynulliad o bosibl yn meddu ar agwedd wahanol. Mae yna gyllidebau cyfyngedig, wrth gwrs, ac fe helpaf y Llywodraeth o ran hynny, ond un o’r pethau, gobeithio, y byddwn...
Rhun ap Iorwerth: Diolch yn fawr iawn, Ddirprwy Lywydd. Rwy’n falch o gael agor y ddadl yma ar ofal cymdeithasol, gofalwyr ac ysbytai cymunedol. Yr ydym yn siarad yn aml iawn, fel y dylem, yn y Siambr hon, am y gwasanaeth iechyd—am yr NHS—ond mae’n hynod bwysig ein bod ni bob amser yn cofio bod yna, y tu ôl i’r NHS, ecosystem gefnogol o ofal cymdeithasol, grwpiau trydydd sector, gofalwyr di-dâl—y...
Rhun ap Iorwerth: Nid wyf yn dymuno ailddatgan yr hyn mae Dai Lloyd, Cadeirydd y pwyllgor, wedi’i ddweud yn barod, ond rwyf yn sicr am iddo gael ei gofnodi fy mod i yn sicr yn cyd-fynd â’r sylwadau glywsom ni yn fanna ac yn cytuno efo casgliadau’r adroddiad yma. Wrth gwrs bod yna ofynion gwahanol yn codi yn ystod y gaeaf, yn enwedig, fel y clywsom ni yn ystod ein hymchwiliad ni, o ran y mathau o...
Rhun ap Iorwerth: Diolch i chi am yr ateb hwnnw. Mewn archwiliad diweddar o faterion iechyd a dynnwyd i fy sylw gan etholwyr, roedd offthalmoleg yn agos at frig y rhestr mewn gwirionedd, gan wneud i mi feddwl bod yna broblem benodol yma. Wrth gwrs, gydag offthalmoleg, mae amser aros hir yn fwy nag anghyfleustra’n unig neu amser hwy na’r angen mewn poen, oherwydd gwyddom fod amseroedd aros hir i rai...
Rhun ap Iorwerth: Mi es i ar ymweliad ddydd Llun â Chemlyn, sef eiddo arfordirol hyfryd yr Ymddiriedolaeth Genedlaethol ar arfordir gogledd Môn. Mae o’n safle pwysig iawn o ran bioamrywiaeth, yn cynnwys cyfran sylweddol o boblogaeth byd y môr-wennol bigddu, neu’r ‘sandwich tern’, ac mae’n un o’r gwarchodfeydd natur hynaf ym Mhrydain, yn deillio’n ôl bron i ganrif. Mae unrhyw un sy’n adnabod...
Rhun ap Iorwerth: A wnaiff Ysgrifennydd y Cabinet ddatganiad am ymateb Llywodraeth Cymru i adroddiad Arolygiaeth Gofal Iechyd Cymru ar wasanaethau offthalmoleg yng Nghymru? EAQ(5)0116(HWS)
Rhun ap Iorwerth: Rwyf wedi codi pryderon hefyd yn y Siambr yma efo’r Prif Weinidog ynglŷn â chyfres o gyhoeddiadau yn fy etholaeth i. Mae yna ragor o gyhoeddiadau wedi dod yn ddiweddar ynglŷn â sefydliadau ariannol, nid dim ond banciau, yn cau: HSBC yng Nghaergybi a chymdeithas adeiladu Yorkshire yn Llangefni ydy’r diweddaraf. Canlyniad hyn, wrth gwrs, ydy bod yna ganoli, rydw i’n meddwl, mewn...
Rhun ap Iorwerth: A wnewch chi dderbyn ymyriad? A wnewch chi dderbyn ymyriad?
Rhun ap Iorwerth: A wnewch chi ildio?
Rhun ap Iorwerth: Fe gymeraf ymyriad arall, ar bob cyfrif, neu gallwn ddychwelyd at y pwnc dan sylw.
Rhun ap Iorwerth: Nid oes unrhyw ymyrraeth am fod yr Aelod, a bod yn hollol onest, yn bod yn chwerthinllyd. Yng ngwelliant 5, rydym yn fwy penodol ynglŷn â sut y mae angen i ofal sylfaenol wella. Mae’n galw am gyfuniad o ofal sylfaenol, gofal eilaidd a gofal cymdeithasol yn gweithio gyda’i gilydd lawer mwy, gyda buddsoddiadau’n cael eu gwneud yn y lle mwyaf priodol yn hytrach na gosod canrannau...
Rhun ap Iorwerth: A allwch ddarparu unrhyw dystiolaeth o hynny?
Rhun ap Iorwerth: Thank you very much, Llywydd. Rwy’n cynnig y gwelliant a gyflwynwyd yn fy enw i. Mae’n ddadl amserol a phriodol, ac nid am y rhesymau y mae’r blaid gyferbyn yn ei feddwl efallai. Mae’n amserol oherwydd, unwaith eto, mae arweinydd newydd y blaid wedi cadarnhau mai nod hirdymor ei blaid yw preifateiddio’r GIG—[Torri ar draws]. Mae wedi cofnodi ei farn, unwaith eto, nad yw wedi newid...
Rhun ap Iorwerth: [Yn parhau.]—ni ddylai ymchwiliad cyhoeddus llawn fod yn ffordd i alluogi’r Llywodraeth i ohirio, ymhellach, gwneud setliad cyfiawn i’r bobl a effeithiwyd. Wrth gwrs, rwy’n barod i gymryd yr ymyrraeth.
Rhun ap Iorwerth: Rwy’n ddiolchgar i’r Aelod am yr ymyriad hwnnw, ac mae hi’n hollol gywir, wrth gwrs, mai’r hyn yr ydym ei eisiau yw ymchwiliad llawn a chyflawn. Rydym wedi aros yn ddigon hir i gael yr atebion i’r cwestiynau a ofynnwn. Rwy’n ddiolchgar fod y pwynt hwnnw wedi’i wneud. Mae’r ymchwiliadau a welsom yn yr Alban wedi bod yn ddefnyddiol o ran y strwythur iawndal, ond nid yw’n...
Rhun ap Iorwerth: Diolch yn fawr iawn, Ddirprwy Lywydd. Mi hoffwn i ddiolch i bob un sydd wedi cyfrannu at y ddadl y prynhawn yma. Mi wnaf i ddiolch hefyd i ambell un sydd ddim wedi cael y cyfle yn y ddadl y prynhawn yma i gael ei safbwynt ar y cofnod. Gwnaf i enwi Jenny Rathbone, wrth gwrs, sy’n un a oedd wedi arwyddo’r cynnig hwn ac sydd yma yn y Siambr yn cefnogi 100 y cant y cynnig sydd ger ein bron ni...