Jeremy Miles: Fel cyn-gyfreithiwr, wrth gwrs, rwy'n ymwybodol o'r ffaith bod gwariant ar gostau cyfreithwyr a chostau llys o anghenraid yn bethau amhoblogaidd, ac rwy'n deall y rheswm am hynny. Pan fydd y Llywodraeth yn ffeindio'i hunan mewn sefyllfa lle mae rhywun yn dwyn achos yn erbyn y Llywodraeth, mae'n rhaid sicrhau, pan fo gan y Llywodraeth achos da, fod hynny'n cael ei amddiffyn, ac mae hynny'n...
Jeremy Miles: Diolch am y cwestiwn. Yn y Cynulliad hwn, mae Llywodraeth Cymru wedi ysgwyddo £20,486.30 mewn costau cyfreithiol allanol, heb gynnwys treth ar werth. Disgwylir costau pellach o’r fath mewn perthynas ag ymddangosiad diweddar Llywodraeth Cymru gerbron yr Uchel Lys, ynghyd â chostau’r hawlwyr, sydd i’w capio yn unol â chonfensiwn Aarhus.
Jeremy Miles: Diolch i'r Aelod am y cwestiwn. Mae'n amlygu'r annhegwch difrifol iawn sy'n wynebu dioddefwyr trais domestig yn arbennig. Fel y mae ei chwestiwn yn cydnabod, mae miloedd o fenywod yn gorfod cynrychioli eu hunain mewn llysoedd teulu yn erbyn eu camdrinwyr eu hunain. Nid yw hynny'n rhywbeth sy'n cael ei ganiatáu yn y llysoedd troseddol mwyach, ond mae'n parhau i fod yn brofiad go iawn i...
Jeremy Miles: Mae Llywodraeth Cymru wedi bachu ar bob cyfle i godi ein pryderon gyda Llywodraeth y DU fod mynediad at wasanaethau cyfreithiol ar hyn o bryd y tu hwnt i fodd y dioddefwyr troseddau hynny sydd ag incwm isel neu gymedrol, ac mae hyn yn creu problemau difrifol, o ran mynediad at gyfiawnder a chyfiawnder cymdeithasol yn fwy cyffredinol.
Jeremy Miles: Mae'r Aelod yn seneddwr profiadol iawn, a bydd yn gwybod yn iawn nad yw hwnnw'n gwestiwn priodol i'r Cwnsler Cyffredinol ei ateb, ac felly rwy'n gwrthod.
Jeremy Miles: Diolch am y cwestiwn pellach. Fel y bydd cyfaill yr Aelod ar y rheng flaen yn gwybod, mae confensiwn y swyddog cyfreithiol yn fy ngwahardd i rhag trafod unrhyw gyngor penodol rwyf i wedi ei roi, neu'r ffaith fy mod i wedi rhoi cyngor o gwbl. Bydd yr Aelod yn gwybod bod barn Llywodraeth Cymru yn glir ar y cwestiwn hwnnw, fod dim trosedd wedi cymryd lle o dan Ddeddf 1998, ac mae hynny wedi bod...
Jeremy Miles: Diolch i'r Aelod am ei gwestiwn. Mae Llywodraeth Cymru wedi ymrwymo i gydymffurfio â’r gyfraith yn ymwneud â data personol.
Jeremy Miles: Rwy'n gwbl hapus i drafod hyn ymhellach. Er mwyn bod yn glir, canfu'r penderfyniad nad yw'r system ei hun yn annheg. Roedd yr achos yn ymwneud â dau fater: un yn ymwneud â phenderfyniadau unigol y llysoedd ynadon mewn perthynas â charcharu, ac un yn ymwneud ag a oedd y system yn gallu bod yn deg. A llwyddodd Gweinidogion Cymru i amddiffyn eu safbwynt o ran tegwch y system mewn gwirionedd....
Jeremy Miles: Diolch i'r Aelod am y cwestiwn. Mater i'r awdurdod lleol yw penderfynu a ddylid erlyn mewn perthynas â methiant i dalu'r dreth gyngor, wrth gwrs, ac nid Llywodraeth Cymru. Felly, bydd awdurdodau lleol ac ynadon lleol yn ceisio cyngor cyfreithiol eu hunain pan fyddant ei angen. Wedi dweud hynny, mae'n amlwg fod gan Lywodraeth Cymru ddiddordeb mewn sicrhau bod ôl-ddyledion y dreth gyngor yn...
Jeremy Miles: Credaf mai'r ateb i'r cwestiwn hwnnw yw y gall fod â photensial i wneud hynny. Ar hyn o bryd, yn amlwg, er bod y cymhwyster newydd yn destun ymgynghoriad, nid yw'r manylion o ran sut y bydd yn gweithredu'n ymarferol a sut y bydd yn berthnasol i'r cyfnod academaidd a'r cyfnod profiad gwaith yn gwbl glir, ac mae hwnnw'n un o'r materion rwyf eisiau ei archwilio pan fyddaf yn cyfarfod â'r...
Jeremy Miles: Gwnaf, yn sicr. Fel gwnes i sôn, mae cyfarfod eisoes wedi cael ei drefnu ac wedi cymryd lle gyda swyddogion yr SRA lle codwyd y pynciau yma’n benodol. Rwy’n cwrdd gyda’r SRA eto ymhen ychydig wythnosau. Rwy’n bwriadu parhau’r drafodaeth gyda nhw. Mae dau bwynt yn codi yma. Y cyntaf yw rôl cyfraith ddatganoledig yn y cymhwyster newydd, ac mae hyn, wrth gwrs—mae’n rhaid inni...
Jeremy Miles: Fel mae’r Aelod yn sôn, mae amryw o’r hawliau a’r mesurau sy’n gwarchod yr amgylchedd yn deillio o ddeddfwriaeth Ewropeaidd. Mae Llywodraeth Cymru wedi bod yn blaen ein bod ni am weld y rheolau hynny yn parhau i fod yn berthnasol yma yng Nghymru, a bod yr hawl i wneud hynny yn dod yma i’r Cynulliad o dan y setliad datganoli, ac nid yn aros yn San Steffan ar y ffordd. Dyna yw bwriad...
Jeremy Miles: Diolch am y cwestiwn. Rydym ni yn ystyried y goblygiadau ar hyn o bryd. Mae swyddogion wedi cyfarfod â'r Awdurdod Rheoleiddio Cyfreithwyr i drafod y cymhwyster newydd arfaethedig a’r goblygiadau i Gymru, yn cynnwys y setliad datganoli a defnydd o'r iaith Gymraeg. Mae cyfarfod pellach yn cael ei drefnu i ehangu’r drafodaeth honno i gynnwys ein hysgolion cyfraith a’r proffesiwn cyfreithiol.
Jeremy Miles: Mae cwestiynau'r Aelod yn cynnwys nifer o bwyntiau polisi, a byddai'n amhriodol i mi roi sylwadau arnynt yn benodol, ond mewn perthynas â sut yr aethpwyd i'r afael â hyn yn yr achos llys, a fydd, efallai, yn ateb rhan o'i chwestiwn, oherwydd y ffaith bod Llywodraeth Cymru wedi derbyn nad oedd cynllun 2017 yn cydymffurfio â'i dyletswyddau, gwnaeth y sylwadau hynny yn y llys, ac felly mae'r...
Jeremy Miles: Diolch i'r Aelod am ei chwestiwn. Rwy'n llwyr gefnogi ymrwymiad Llywodraeth Cymru i wella ansawdd aer ledled Cymru a'i gwahanol fentrau i fynd i'r afael â llygredd aer yn benodol. Bydd yr Aelod yn ymwybodol, fel y mae'n dweud, o'r achos diweddar yn yr Uchel Lys, a glywyd ar 25 Ionawr, ac y disgwylir dyfarniad yn ei gylch. Mae Llywodraeth Cymru wedi derbyn nad oedd ei chynigion yn...
Jeremy Miles: Wel, mae dadansoddiad cyfreithiol yr Aelod yn gywir mai dyna yw'r broses: hynny yw, mae angen cytundeb. Mae'r Ysgrifennydd Cabinet wedi dweud sawl gwaith mai sicrhau bod gennym ni system sy'n gweithio a'n bod ni'n cydweithio â'r system sydd yn bwysig fel rhan o'r broses yma. Buaswn yn ategu sylwadau'r Ysgrifennydd Cabinet ar hynny, ac rwyf yn bwriadu cydweithio ag ef i sicrhau bod y...
Jeremy Miles: Bydd yr Aelodau’n gwybod bod y rhan fwyaf o’r pwerau newydd dan Ddeddf Cymru 2017 yn dod i rym ar 1 Ebrill eleni, gyda rhai pwerau eraill yn dod i rym ychydig yn ddiweddarach. Mae Llywodraeth Cymru yn barod i dderbyn y pwerau newydd hyn.
Jeremy Miles: Ar y cwestiwn cyntaf, mewn perthynas ag amrywiaeth daearyddiaeth ac awdurdodaethau, os mynnwch, o fewn y Goruchaf Lys, mae'r ddeddfwriaeth berthnasol yn darparu, wrth gwrs, y dylai'r Goruchaf Lys gael cyfuniad o ustusiaid sy'n adlewyrchu gwybodaeth a phrofiad o bob rhan o'r DU. Safbwynt cryf Llywodraeth Cymru yw y dylai hynny gynnwys ustus ar gyfer Cymru. Fel y bydd yn gwybod, mae gan...
Jeremy Miles: Wel, diolch i'r Aelod am y cwestiwn hwnnw, ac am ei dadleuon parhaus dros achos amrywiaeth a chydraddoldeb yn gyffredinol. Mae'r diffyg amrywiaeth yn y system cyfiawnder troseddol, a nodwyd yn adolygiad Lammy, yn milwrio yn erbyn mynediad at gyfiawnder, sef un o bileri allweddol ein democratiaeth yng Nghymru, a ledled y DU. Dangosodd Lammy fod diffyg amrywiaeth o'r fath i'w weld yn y rhai...
Jeremy Miles: Mae Llywodraeth Cymru yn credu mai'r unig ffordd i gyflawni system gyfiawnder deg a chynhwysol yw sicrhau bod gweithwyr cyfreithiol proffesiynol yn adlewyrchu amrywiaeth y boblogaeth y maent yn ei gwasanaethu yn llawn.